Preseli v Merched Y Wawr
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Preseli

Merched Y Wawr

Cwpled caeth ar yr odl "wg"
Yn syml - mae hi'n wers amlwg-
Dylai gwen ddisodli gwg.
Terwyn Tomos
9 Pwynt
Cwpled caeth ar yr odl "wg"
Pa les yw teli heb blwg
Neu eira i rwyfo corwg?
Gwen Jones
8 Pwynt
Pennill mawl/ dychan: Cystadleuwyr
Mae'r plantos yn derbyn yn rhadlon
Eu methiant I gipio'r llawryfon
Ond bum ar fy llw
Mewn sawl Waterlw
Wrth fethu 'sgoi nhw eu hathrawon
J.R.Jones
8 1/2 Pwynt
Pennill Mawl/ Dychan: Cystadleuwyr
Ni chollodd ein côr ers cychwyn y daith
Ond mi gafodd gam, do wir, lawer gwaith
Eirlys Davies
9 Pwynt
Limrig yn cynnwys yr enw Abednego
Gwneud Limrig i Abed Nego?
Gwybyddus i abwb y stori honno
Pwy fod ar fy ennill
I greu limrig a phennill
Os na enillaf ddeg marc amdano
Reggie Smart
8 Pwynt
Limrig yn cynnwys yr enw Abednego
Un diwrnod fe aeth Abednego
I gerdded ar hyd traeth y Bermo
Ond boi, roedd hi'n dwym,
A chwythodd ei drwyn
A'r gwres aeth i gyd i Tobago.
Gwen Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Sgrin
O fyd y lantarn hudol - y daethom
Hyd deithi gwyddonol
I dir 'nawr sy'n ddi-droi'n ôl,
Degawdau o'r digidol.
J.Gwynn Jones
8 Pwynt
Englyn Cywaith: Sgrin
Chwilio am hedd a gweld beddau, teimlo
Y temlau yn ddarnau
A heddiw yn celwyddau
Ydyw gwir y duwiau gau
Gwen Jones
8 Pwynt
Pennill ymson wrth werthu ty
Cyd rhwng y Foel a godre'r Moelwyn Bach
Mae'n swatio'n bictiwr o dan gantel bryn,
Yma y gwelwyd mabinogi'r ach
Yn gwrlid, oddi fewn i'r muriau hyn
Bu yma fynd a dod drwy haul a glaw
I seiad brofiad ac I foddion gras
A chodi llygaid I'r mynyddoedd draw
Lle dori eu cymorth o'r clogwyni glas
Pan ddaw yr awr I minnau werthu'r ty
Y gwelais ynddo gyntaf dau ddydd
Gwn y bydd gafael hen atgofion lu
Fel gefail nad oes dod o'u safn yn rhydd
Gweddiaf y caf ras I dderbyn cais
Y Cymro petai'n is nag un y Sais
J.R Jones
9 Pwynt
Pennill Ymson wrth werthu ty
Mae Topsi'r gath ddu dan y rhosod
A Mot a'r ddau fyji 'da'r claw',
Yn wir bydd hi'n anodd i fael-
O, ie, mae llwch Wil draw fan draw
Bethan Evans
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dilledyn
Y Sgert Mini
O droedio ar hyd strydoedd
A gweld - yn trotian ar goedd,
Y merched - griw amharchus
Tra croen rhwng y sgert a'r crys.
Y tô iau'n goesau i gyd
Y gaeaf a'r haf hefyd
Oes embaras anrasol
Oes y pin-yp, oes pen ôl.
Mi wn, os daw Mini-mini
Hwyrach mai'n fynach 'r af i,
A byw oes ar Ynys Byr (bur)!
Fy nghaseg fydd fy nghysur
Heb othrwm gweld botwm bol
Na ffasiwn mor affwysol.
J.Gwynn Jones
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 linell): Dilledyn
Yn ddoeth wedi diwedd haf
Y daw â'i siaced aeaf,
A honno'n siôl a olud
Fel gemau dros barciau'r byd,
Yn goch, porffor ac oren
Yn daw'n hael cyn mynd yn hen;
O ddeilen i ddeilen fe ddaw
I'n sylw megis alaw
Rhyw neges fod rhew'n nesu
Ac oriau y dyddiau du.
Botyma'th got bob botwm
Cyn oerni y llwydni llwm.
Gwen Jones
9 Pwynt
Can (heb fod dros 20 llinell): Yr Arbenigwr
A minnau ers tro yn teimlo'n bur gwla
Ar orchymyn y wraig dyma fynd i'r feddygfa
A'r cyngor a gefais 'rhaid mynd ar dy union
I weld arbennigwr y sgyfaint a'r galon'
Ond cofia fod na restr ers llawer llynedd
Yn aros, a bydd yn rhaid wrth amynedd
Ond y mae yna lwybr I oddiweddyd y rhain
Os wyt ti yn barod I chwifio'r llyfr main
A dyan wnaethur hynny a mynd ar fy hynt
Y fi a'm protest am siec with deg punt
Rwy'n synhwyro y meddai eich body n smociwr go fawr
Ac fe ddaeth I benderfyniad cyn I mi eistedd I lawr
Dyna yw achos eich holl boenau chwi frawd
Pob cur yn y pen pob corn ar y bawd
Roeddwn innau'n synhwyro ei fod o yr hen walch
O weld smociwr fel fi yn hynod o falch
Ar wahan i hynny fe ddywedai efe
Mai rhyw feirws neu lecheden oedd ar hyd y lle
Ystyriwch meddai'r i chi'n chwythu i'r gwynt
Gwnawn fe chwythwn sawl paced am bedwar ugain punt.
J.R.Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Arbenigwr
Rôl gwylio rhaglen hen bethe, meddyliais, wel, beth sy' da fi?
A dyma fi lan i'r atig, i blith trugareddau Mamgu ar y seld.
A sampler o waith Anti Mari, a hwnnw, yn wir, werth ei weld.
Dau lun hen ffasiwn o'r Wyddfa, fu unwaith yn hongian ar wal.
A fâs ar gyfer dal blode, lliw cochlyd, yn lluniaidd a thal.
A bwndel a lwyau pwdin, fe'u gwnaed nhw o arian 'rwy'n siwr,
Daeth rhain i'r ty flynyddoedd yn ôl, pan farw perthynas i'r gwr.
Fe'u rhois nhw mewn bocs yn ofalus, - es i'r siop antîcs yn y dre
I'r dyn gael eu prisio, a falle wedyn eu prynu ynte.
Daliodd y cwpan i fyny a dweud fod "hair line crack" yn hwn
We'n i'n wedi sylwi fod crac, ond fe oedd yn gwbod mi wn.
'Samplers fel hyn- wna'n nhw'm gwerthu' mynte fe, 'nawr dewch weld y rest'
mae'n rhaid dweud mod i yn synnu, ond meddwn i "Well you know best"
We'n i'm yn disgwyl i'r llunie fod yn werth lot,- a we'n i yn iawn
Y fâs yn llawer rhy fodern. Wel, dyna ffordd i hala prynhawn.
Roedd rhaid fod llwyau'n werthfawr ne wir i chi fyten i'n hat;
Pan wedodd macnabs nad arian oedd rhain es i deimlo' reit fflat.
Cynigiodd ddeg punt am y lot, wedes i "Drych 'ma gwd boe
Falle mai ti sy'n fod i wbod, ond ches inne mo 'ngeni ddoe.
Bethan Evans
8 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y mae gorwel nas gwelir
Yn y tawel tu hwnt i'r tir
0 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Y mae gorwel nas gwelir
Yn ei gof yn cuddio'r gwir
1 Pwynt
Telyneg mewn mydr ac odl: Ias
(Wrth sefyll ar glogwyni Ceibwr, ar arfordir Sir Benfro)
Pan na fydd min awelon haf
Yn lleddfu haul Mehefin
Bydd awch ar flas yr oedi braf
A llonydd aur yr eithin
Pan ddaw y storom nôl i rym
A'r haul ar drywydd estron,
Fe blyg y drain i'r chwipiwr llym
A yrr y byd i'r cyrion.
Boed chwyrn yr eigion yn y bae,
Boed ddisatw fel y merddwr,
Mae ystod byw - mwynhad a gwae-
Ar gris clogwyni Ceibwr.
Terwyn Tomos
9 Pwynt
Telyneg mewn mydr ac odl: Ias
Ym mhictiwrs ein hieuenctid, oes yn ôl
Cael Draciwla i'n dychryn oedd y nôd
A sbecian rhwng ein bysedd yno'n ffôl
Gan wybod yn y bôn nad oedd yn dod
O'r byd go iawn. Er hynny fe gaem sbri
Wrth gerdded adref ambell noson oer
Pan glywem gwdihw a'r hoeraidd gri,
A gweled drychiolaethau 'ngolau'r lloer.
Oes bell yn ôl oedd hon a nawr mae'r ffin
Sydd rhwng y rhith a'r gwir yn denau iawn,
Mewn oes gyflyrwyd a addoli'r sgrin,
Mor real heddiw yw pob arswyd gawn.
Beth fydd dyfodol ein dynoliaeth dlawd
Pan welir sbort mewn dyn yn lladd ei frawd?
Bethan Evans
8 1/2 Pwynt
Englyn ar y pryd
Cwynaf. Mae'r miloedd conau a welaf
Yn ddiawled ar deithiau
A hwy o hyd sy'n lleihau'n
Ddi-wên f'amynedd innau.
8 1/2 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 77 1/2 CYNIGION ERAILL Pennill mawl/dychan: Cystadleuwyr
Mae angen rhesymoli'r eisteddfod,
Cael gwell gwerth am arian yw'r nod,
Mi garwn rannu fy meddyliau â chi
-Mae'r dyfodol yn prysur ddod.
Yn gyntaf, rhaid symud y ffocws,
Mae angen targedu yn well,
Nid yw'r llwyfan a'I ganu a'I adrodd
Yn denu y punters o bell.
I'r diben, rwy'n awgrymu tri newid,
Ac, i ddechrau pethau bant,
Rhaid rhoi'r camerâu ar y mamau i gyd
Sy'n gwneud wynebau ar eu palnt.
Yn ail, llai o amser i'r corau
I ganu nerth esgyrn eu pen,
Awgrymaf ddeg eiliad i'r beirniad gael gweld
Pwy sydd gorau am ganu 'Amen'.
Yn olaf, rhoi croeso i'r Orsedd
I noddwr amlycaf y Maes,
Cael seremoni urddo 'Prif Noddwr yr Wyl'
A'i wisgo mewn dillad llaes.
Dyna gasgliadau fy ymchwil
Fy nghynllun gwethredu i chi;
Bydd y punters a'r arian yn llifo i mewn
Bydd hi'n steddfod wych, coeliwch fi.
J.R Jones
Limrig yn cynnwys y gair 'Abednego'
Addewais I Mami y basen i
Yn rhoi fflam yn y grât gyda 'matsien i
Ond wrth blygu mlân
Fe gwympes i'r tân
Aednego yr ail wyf, myn asen i!
Reggie Smart
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Arbenigwr
Rwy'n arbennigwr ar dori gwynt
Rhai yn araf, rhai erail yng nghynt,
Rhai yn fiwsig wedi bwyta ffa
Rheini'n haeddu'r anrhydedd M.A
Rhai mor stwrllyd nes terfysgu'r cwn
Eraill mor dawel a mynd yn ddiswn
Nid wy'n bwyta mwyach Heinz Bec Bins
Rhai'n whislan fel gwrw Mehefin
A rheini yn wir bron yn ddiderfyn,
Rwy'n cofio un a'I swn fel taran
A honno'n drewi'n wir fel hen garan
Mae'n well i mi dewi nawr chi sbo
Wel fiw ar fy ened i, na un arall to!
W.R.Smart
Englyn ar y pryd: Conau
Wy'n hapus pan yn lapo hufen iâ
Y mae fy nef ynddo
Waeth fe af bob haf o 'ngho
'Rwy'n nyter am gorneto.
8 1/2 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth ar yr odl 'wg'
Aiatola atolwg
Ame wyf ai da yw mwg
Uffernol a di-olwg
I blant yw teili heb blwg
Y plant â theli heb blwg
Sy'n ymladd, hyn sy'n amlwg
Â'i drais yn lot mwy na drwg
Yw bwli'n cario bilwg.
Mae epil Gwîl o'r golwg
Yn y 'jel' am dorri jwg.
Gwen Jones
Limrig yn cynnwys yr enw Abednego
Arbedwyd Abednego
A Shadrach a Mesach rhag cwympo
Er poethed oedd ias
Y fflamau chwyrn glas
Trwy ras y pedwerydd oedd yno.
Eirlys Davies
Fe anwys efeilliaid ym Mermo
Y Mair a'i gwr Abednego
Fe alwyd un Shadrach
A'i frawd e yn MEsach
Roedd yn tri yn go dwyn gyda'u dwylo.
Gwen Jones
Englyn Cywaith: Sgrin
Yn eger hi a rwygwyd, ac wele
Y golau ddiffoddwyd
Yna'n llu bechodau llwyd
Yn ddiau a faddeuwyd.
Gwen Jones
Pennill Ymson wrth werthu ty
Mae'r asiant tai ma'n gythrel
Am chwilio beiau mân
Ond dyw'r truan ddim yn gwbod
Am y craciau yn lle tân.
Gwen Jones
Bu'r asiant yma heddiw
Yn ei B.M.W hardd
Bu'n chwilio am bob smotyn
O'r llofft i ben draw'r ardd
Ond trwy rhyw lwc a bendith
Roedd cwn "Next door" yn fud
Sy 'di mhoeni i cyhyd.
Gwen Jones
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dilledyn
(wedi clywed stori am Waldo a'i gês brown)
roedd hynt yr hen bortmano
yn frith ar hyd llwybrau'r fro
er hynny roedd cyfrinach
heb os yn yr hen gês bach.
O'r llys doi gwys yn gyson
A chyngor i'r llenor llon
I fynd heb barch i garchar
Lle unig heb gwmni gwar.
Dyna pam daeth pyjamas
Yn reddfol o gôl ei gâs
Ai taer oedd y weithred hon
A'i naïf, neu rhag ofon
Gwen Jones
Telyneg mewn mydr ac odl: Ias
Yr oeddwn innau yno
Yn syfrdan ar y sgwâr
Wrth weld y wawr yn torri
Ar Gymru o Sir Gâr
Ac os aeth deugain mlynedd
I'w hynt ar orffwyll ras
Rwy'n feddw'r funud yma
Ar win y wefr ar ias.
Eirlys Davies
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

