Beca v Llanbed
Dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn ar eu bryd i gyrraedd y rownd derfynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Beca

Llanbed

Cwpled caeth i'w osod ar fodur
Os mynni, oddiweddyd,
'Styrian hyn, 'da fi mae'r stryd.
Howell Mudd
8 Pwynt
Cwpled caeth i'w osod ar fodur
Os wyt mor agos â hyn
Sadia, rwy'n brecio'n sydyn.
John Rhys Evans
8 1/2 Pwynt
Pennill Telyn gyda'r odlau "awel/tawel/yno/eto" (unrhyw drefn)
Byd di-drais mewn cwmwd tawel
A thangnefedd yn yr awel,
Anodd iawn yw cyrraedd yno,
Nid yw'r byd yn barod eto.
Eifion Daniels
8 1/2 Pwynt
Pennill telyn gyda'r odlau "awel/tawel/yno/eto" (unrhyw drefn)
Cofiaf wely cynnes, tawel
A dwy anal fel un awel.
Cofiaf storom gafwyd yno;
Ni ddaw nghalon nôl fyth eto.
Eirwyn Williams
8 1/2 Pwynt
Triban beddargraff postmon
Triban beddargraff postmon
Mewn fan fach goch, rôl sampler
O gwrw cartre'r ficer,
Y death dy wys mewn amlen frown-
"Unknown, return to sender".
Eifion Daniels
8 1/2 Pwynt
Triban beddargraff postman
Mewn amlen yr wyt yma
Yn brydlon am tro cynta
Heb ddim cyfeiriad na'r un cod
Lle'r wyt ti fod fynd nesa.
Dafydd Wyn Jones
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dychwelyd
'Nôl daw'r wennol I'r Frenni
Er I neb ei harwain hi.
Pa reddf sy'n peri I hon,
Drwy'r nen, I droi yn union
Eto I fondo fy hendir
Heb gwmpawd ar rawd mor hir?
Prinnach yw'r parau hynny
Doy eu taith at fondo'r ty
Erbyn hyn, ac wrth brinhau'n
Y beudy, lle bu heidiau,
Ai dannod mae'n ei nodyn
Nad yw'r fro na'r dref yr un?
Wyn Owens
9 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dychwelyd
Y rhedyn yn marw ydyw;
draen y foel a'r hydre'n fyw,
yn rhuthr lliw tros lethrau llwyd
hen bridd, 'run coch â breuddwyd.
Yno'n awr cyn daw y nos
dros gefnen ar draws cyfnos
mae llef yn y gwyll hefyd,
un llais, un Ebrill o hyd
yn galw; un wifren o gof;
mae'r wennol â'i mêr ynof
yn troi o hyd tua'r haul
i dir y doeau araul.
Eirwyn Williams
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud a barddoni
Bum wrthi'n creu limrig ers blwyddyn,
A beunydd mi gollais fy limpyn,
Yn chwilio am odlau
A chyfri sillafau
A ffaelu dod be nag un wedyn.
John Dennis Jones
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud â barddoni
Es ati nos Sadwrn i lunio
Rhyw damaid o gerdd gyda beiro.
Fe golles i flas
Pan redodd e mas
A 'sgyda fi ddim i chi heno.
Eirwyn Williams
8 1/2 Pwynt
Englyn Cywaith: Trwydded
Bwlis y bom a'r bwled a lwydda
I ladd y diniwed
Fyth a'u grym, pa fath o gred
A roddodd iddynt drwydded?
Wyn Owens
8 1/2 Pwynt
Englyn cywaith: Trwydded
Arddodiad yw'r trwyddedu - o roi gwn
I'r gŵr, yna'i ddysgu
I ladd ac i goleddu
Hyd ei oes fod Duw o'i du.
8 1/2 Pwynt
Can (heb fod dros 20 llinell): Y Perfformiad
Pan gefais fy ngheni, roeddwn yn ifanc iawn
A'r rhyfel yn ei anterth, ynghanol haul prynhawn,
A dyna oedd perfformiad, am fy mod i ddim am ddod
A nhad i yn crochlefain, "gadewch i'r bachgen fod";
Wedi i'r perfformiad orffen, a minnau yn y byd
Yn cicio nghoesau i fynny, a'm breichiau yr un pryd,
'Roedd mam yn eithaf hapus, gan mai hi oedd wrth y llyw
A nhad yn gweddio'n dawel, mewn syndod ar ei Dduw.
Ac wedi gadael ysgol death circus lawr i'r dre'
Ymunais i a hwythau gan berfformio o le i le,
Cefais fyned at y mwncis I ddusgu trics diri
'Roedd hi'n anodd gweud gwahaniaeth rhyngyn nhw a fi,
Mi es yn "drapese artist" roedd y tw tw braidd yn deit
Mi syrthiais o'r top yn sydyn, ond mi landes yn ôl reit,
Ces reidio y ceffylau yn gyflym rownd a rownd
A'r dyrfa fawr yn gweiddi, ''mae'n well i ti ddala'n sownd''.
Ces gyfle gan y llewod i roi mhen yn ei ceg yn ffôl
Gan obeithio na fyddai anffawd imi ddod allan drwy'u penôl,
'Rwyf am wneud perfformiad heno, a chael deg gan Gerallt bach
Ac fe all y talwrn ddiolch fy mod i yma dal yn iach.
Howell Mudd
8 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Perfformiad
Deffroais yn gynnar ymhell cyn pryd
A thiwniais y radio i donfedd y byd
I glywed rhyw lais rhwng cwsg ac effro
Yn dweud yn swyddogol nad oeddwn i yno.
Roedd fy mhyls yn curo a finnau'n anadlu
A'r wraig mi dybiwn wrth fy ochr yn cysgu.
Mi wasgais y switsh i gynnau'r gole
I wneud yn siwr fy mod i gartre.
Dacw fy nghrys, fy nhei a'm cap
Ond yn ol y newyddion rown ni ddim ar y map.
Fe ddiflannodd Cymru yn ystod y nos
Heb son am Gaerdydd na hydnod Ffair Rhos.
Fe gollodd Glenys filoedd oi "lolly"
Heb run etholaeth i'w chynrychioli.
Roedd Mor yr Iwerydd wrth droed Clawdd Offa
A'r tonnau yn llifo dros gopa'r Wyddfa,
Dros wyth can mil o Gymry pybyr,
Miliynau o ddefaid heb son am steddfodwyr.
Os oes problem fach all achosi trwbwl
Ateb Brwsel yw dileu'r cwbwl.
Dafydd Lloyd Jones
9 Pwynt
Ateb Llinell ar Y Pryd
Yn mwynhau bonllefau'r byd
Bum innau am bum munud
1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Bun innau am bum munud
Rêl boi yn rheoli byd.
1/2 Pwynt
Telyneg mewn mydr ac odl
Ar alwad clir y pistol
Fe wibiaist ar dy hynt
A dilyn yr hen drywydd
'Ganfyddaist droeon gynt.
Y dorf yn cymell ar bob llaw
I'th hebrwng at y terfyn draw.
Mae'r gyrrwr am gyflymu,
Tynhau pob cyhyr llac,
I gadw'r gwys heb wyro
Wrth iti gylchu'r trac,
A thithau'n mynd, yn llyncu'r tir,
Cawn weld dy dynged cyn bo hir.
Daeth llwyddiant wedi'r ymdrech,
Ar chwâl pob amau ffôl,
Hedfanaist dros y llinell
Gan adael saith ar ôl,
Ac am ei chraffter wrth y llyw
Rhoed medal aur i'r arian byw.
John Dennis Jones
8 Pwynt
Telyneg mewn mydr ac odl: Cadair
Llifiwyd ei hestyll hi
O gadernid y deri,
Ei naddu mewn dyddiau main
Pan oedd Lloyd George yn arwain,
A'i llunio gan un o'i llinach
Yn ei serch at y ferch fach.
Goroesodd ryfeloedd byd
Ein haf a gaeafau'n gofid
Yn ein pryder a'n galar
Rhannodd ein haelwyd wâr
Rhannodd lawenydd hefyd
Am fod mam yma o hyd.
John Rhys Evans
8 1/2 Pwynt
Englyn ar y pryd
Mur glân a môr goleuni a'i heddwch
A ddatguddiodd inni
Deil ffynnon ei ddaioni
I'n puri am herio ni.
9 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 77
Englyn ar y pryd: Waldo
O ddifri 'roedd yn ddigrifwr- yn ddyn
Tros Dduw a heddychwr
Y gorau fel gwladgarwr
Chwarae rhwng dau fu'r gwr
8 Pwynt CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78 1/2 CYNIGION ERAILL Cwpled caeth i'w osod ar fodur
Yn ddiffael rwy'n trafaelu
Mewn un gêr; menyw'n gyrru.
Eirwyn Williams
Yn hwn y ces fy ngeni
A'm claddu'n hwn am wn i.
Elwyn Davies
Yn ddiffael rwy'n trafaelu
Mewn un gêr; menyw'n gyrru.
Eirwyn Williams
Yn hwn y ces fy ngeni
A'm claddu'n hwn am wn i.
Elwyn Davies
Pennill telyn gyda'r odlau "awel/tawel/yno/eto" (unrhyw drefn)
Roedd gweddïau yn yr awel,
Rhai yn groch a rhai yn dawel,
Gan nad oeddem ninnau yno,
Cofio wnawn y bechgyn eto
Islwyn Walters
O am wyrth cael mynd ar awel
'Nôl i hedd hen aelwyd dawel
Gweld y ddôr yn agor eto
I wres y tân fu'n llosgi yno.
Aeron Davies
Triban beddargraff postman
Bob tro wrth i'm roi croeso
Fe'm ciciaist i a'm brifo,
Ond wrth dy faen ni chaf un loes
Wrth godi 'nghoes i bisio.
Elwyn Davies
Er cof am Twm y Postmon
Y gwas a chyfaill ffyddlon
Mae'n dawel yma heb ddim sŵn
Na dirmyg cŵn na dynion.
Aeron Davies
Er mwyn i bawb gael dala
Gêm Cymru Sadwrn d'wetha
Ar ras fe bostiwyd hwn i'r gro
Mewn amdo dosbarth cynta.
Eirwyn Williams
Heb wybod ble i'w hala
Fe chwythwyd y post ola
Cyn ei barselu bore ddo'
A'i bostio nôl i'r swyddfa.
Eirwyn Williams
Fe ddoi â'r post fel arfer
Nes iddi ddod yn amser
I dorri gair ar ddiwedd tyrn
Yn dweud 'Return to Sender'.
John Rhys Evans
Hen bostmon oet, a phoenyn,
Fe gariest glecs am bobun.
Yr hyn mae arall nawr yn wneud
Ni elli ddweud wrth undyn.
Ken Lewis
Limrig yn ymwneud â barddoni
Aeth Tomos i geisio barddoni
Mewn steddfod ym mro Capel Nonni
Ond methodd am air
Yn gyswllt â Mair
Drwy hynny aeth Joseff yn Ronni.
Aeron Davies
Rhyw gorryn bach tew o Dregaron
A nyddodd yr holl gynganeddion
Fe fydd, mynte fe
Yn dal bois y de
A degau o feirdd Ceredigion.
John Rhys Evans
Englyn cywaith: Trwydded
Un nos a dau yn nesu - yr oeddwn
Heb drwydded bryd hynny
Yno hwyl oedd bod yn hy
Telais wrth fagu teulu.
Telyneg mewn mydr ac odl: Cadair
Cynnal seiat rhyngof fi fy hun, a mi fy hun
Corff clymhercyn yn swatio'n dynn,
Rhwng canllawiau sy'n hen gynefin.
Breuddwyd yw breuder hydref
Ger Llyn y Gadair bellach.
Gaeafu byw a wnaf mewn cegin gefn o fyd,
A derbyn tendans gan gydnabod iaith fain.
Anal megis megin bapur
A charthen lluch i dafl
O gylch ysgwyddau talsyth pren praff.
Llopannau am draed cysetlyd
Ar dafod ebol o fat rhacs
Ystyllen frwyn sydd yma yn dy gôl,
Yn disgwyl gwyrth o'r moddion ar y mamplis.
Bellach, magu baban hen a wneir ar
arffed dy gadernid.
Ann Rhys
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

