Llanrug v Y Monwyr

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.

Llanrug

Llanrug

Y Monwyr

Y Monwyr

Cwpled Caeth yn cynnwys yn gair 'gwely'

Hel a hel wna rhai o hyd,
Gwely di- gwsg yw golud.

Richard Lloyd Jones
9 Pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys yn gair "Gwely"

Nid yw'r Byd yn fyd a fu
A deil heb fynd i'w wely.

Isfron
8 Pwynt

Pennill Telyn: Pan fo'r machlud ar y gorwel

Pan fo'r machlud ar y gorwel,
Twrf y dydd yn cysgu'n dawel,
A gwrid yr haul i'r heli'n suddo,
Gwn fod fory'n hwylio'i ddeffro.

Dafydd Whiteside Thomas
8 1/2 Pwynt

Pennill telyn 'pan fo'r machlud ar y gorwel'

Pan fo'r machlud ar y gorwel
A miri'n dydd yn marw'n dawel
Anodd iawn yw peidio credu
Bwriad Duw yng ngwawr yfory.

Eurfon
8 1/2 Pwynt

Pennill Ymson mewn cawod

Hon ydyw'r gawod, ond nid hwn ydyw'r dwr;
Wnaiff hi lein agoriadol i soned? Dwi'm yn siwr;
Tra'n sefyll fan hyn mewn ymson uwch amser
Diflanodd y sebon, y shampw - a 'mhartner.

Dafydd Whiteside Thomas
9 Pwynt

Pennill ymson mewn cawod

Mae popeth yn llai
Mae hyn nôl y drefn,
Ond peidiwch gweld bai
Ar dyn 'seventy seven'
Sy'n cofio gwell amser,
Ac yn ddyn oedd o faint,
Gyda nyrsus gynifer
Oed yn ei chyfri hi'n fraint,
I lygadu pob modfedd
I fyny ac i lawr;
Ond darfu'r oes eurwedd
Ni wnaent hynny yn awr.

Owie Jones
7 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn adrodd stori

Unwaith, mewn gwlad di-fynydd,
Un dasg bwysicaf y dydd
Ydoedd cau'r llifddorau'n dda
I'w heithaf, rhag difetha'r
Tir ffrwythlon gan y tonnau.

Un hwyr, cafwyd llawenhau,
Llifai'r medd, bu cyfeddach,
Yna bu i un dyn bach
Yn ei afiaith anhofio
Y fraint o warchod ei fro;
'Doedd un gwr a'r dwr yn dod,
Wyliai dros Gantre'r Gwaelod.

Hilma Lloyd Edwards
8 1/2 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn adrodd stori

Y tri mochyn bach

Mewn cwt nad oedd ei dwtiach
Yn byw 'roedd tri mochyn bach;
O achos mai cwt bychan
Oedd i foch, cael newydd fan
I fyw ar wahân a fu,
Anodd i'r tri fu hynny;
I'r tŷ gwellt a'r tŷ o goed
Andros o flaidd buandroed
A ddaeth ac fe fwytodd ddau
A hynny i'w cynffonau
Ond di-fudd fu'r trydydd tro
I'r blaidd, a hir yw'r bloeddio.

Machraeth
8 1/2 Pwynt

Limrig i'w gorffen ar y pryd(Llinell olaf)

Mi glywais am wrig o Bwllheli
A'i henw os cofiaf oedd Neli
Beth oedd enw ei gwr
Wel dwi dim yn siwr
Ond asgwrn ei gefn oedd fel jeli!

8 1/2 Pwynt

Limrig i'w gorffen ar y pryd

Mi glywais am wrig o Bwllheli
A'i henw os cofiaf oedd Neli
Beth oedd enw ei gwr
Wel dwi dim yn siwr
Nid oedd ond nymbyr yn 'rarmi'

Isfron
8 Pwynt

Englyn cywaith: Crefft

Mae'r dur ym mêr y dewrion - yn herio
A'u gyrru'i eithafion.
Undarn â haearn yw hon,
Hi ei hun yw'r olwynion.

Richard Lloyd Jones
9 1/2 Pwynt

Englyn cywaith 'crefft'

Sut daeth hon dan y bondo- yna gwau
Mwd a gwair mor gryno,
A thrachefn pa ryw drefn dro
A'i denodd i fynd o 'no?

Richard Jones
8 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Clamp o botsiar oedd Harri
Yn gawr wrth ochr ei gi

0 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Clamp o botsiar oedd Harri
A'r gath yn ffastach na'i gi

1 Pwynt

Can (heb fod dros 20 llinell): Y Cwestiwnp>Oherwydd bygythiad terfysgaeth o'ch drygfyd,
A thynhau holl ddeddfau Diogelwch ac Iechyd,
Mae Is Bwyllgor Mynediad y Di-Gymraeg i'r Nefoedd
Mewn cyfyng-gyngor 'nglyn â'r eisteddleoedd
A fydd ar gael pan ddaw rhyw drychineb
I'ch cario chi o'cw atom ni i dragwyddoldeb.

Mae'r Angylion ar Gomisiwn er Cydraddoldeb Marwol
Yn poeni dragywydd am gyflwr ysbrydol
Yr eneidiau sy'n cynnig eu hunain am loches
Ond yn methu penderfynu ar seiliau eu proffes;
Ac mae'r ddadl oesol am Ddinas Noddfa
Yn llithro 'mhellach i lawr yr Agenda.

Mileniwmeidiau aeth heibio - a'r blydi seraffiaid
Sy'n cwyno am eu statws o'i gymharu a'r ceriwbiaid;
Yn mynnu cael newid Y Cyfansoddiad
Mewn Cyfarfod Blynyddol Anghyffredin Di-Enwad;
Ond yn methu cael cworwm am fod cyn-Annibynwyr
Yn gwrthod cyd-weithio â'r fyddin heddychwyr.

Be hoffwn i wybod, cyn rhoi sêl fy mendith
Ar y newidiada, ydi : pwy Ddiawl benderfynith?

Dafydd Whiteside Thomas
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Cwestiwn

Dod adre'n gyrff wna'r bechgyn fesul un
I'r Bala deg, a hefyd Arkansas,
Yn ddu a gwyn gan adael dim ond llun
Ym mynwes tad a mam mewn llawer bro,
Wrth wrando swn y gynnau uwch ei heirch
Yn diffodd fflamau cân ehedydd bach,
A'r wyn diniwed o dan draed y meirch,
A'r teulu'n gwrando ar ffiloreg gwrach
O enau swyddog wyddai'r geiriau i gyd,
A'i res medalau brwydro ar ei fron,
Y rhai enillodd y trydydd byd
Fu'n rhan o ymerodraeth y wlad hon.
Ac 'roedd un yno gyda chalon drom
A gofiai am hen eiriau'i daid a'i dad,
A'r brwydro caled yn Mametz a'r Somme
Lle'r oedd eu marw yn anrhydedd gwlad.
A dyma ni 'rôl chwalu llawer nyth
Yn brwydro eto mewn estronol fro,
A'r cwestiwn heb ei ateb inni byth
Ble mae'r holl arfau niwcliar ganddo fo?

Eurfon
8 Pwynt

Telyneg mewn mydr ac odl

Telyneg mewn mydr ac odl: Gofal

Gorweddai'n ddiymadferth ar y stryd
Yng nghanol berw'r traffig, ar ei hyd;
A'r ceir 'gyfrifwyd gan y camerâu
'N arafu, swerfio, pasio'n un deg dau....

Nes stopiodd gyrrwr bws ac estyn llaw
Drugarog i'r ferch ifanc yn y baw.
Tu hwnt i'r camerâu, be' wnaethwn i
Ai cynnig help, 'ta "gofal piau hi"?

John Roberts
8 1/2 Pwynt

Telyneg mewn mydr ac odl: 'Gofal'

Wrth fynd o ael i ael ar bnawn Dydd Llun
Arhosaf weithiau gydag ambell fam,
Gan ddotio ar ei baban tlws ei lun
A'r troli'n llawn o fwydydd iddo'n bram;
Ac wedi holi enw yr un bach
Af innau 'mlaen yn llawn atgofion ddoe,
O silff i silff gan ddewis bwydydd iach,
Ac aros wedyn am ychydig hoe
Cyn dod at un o'r aeliau olaf draw,
A gweld mewn cadair un r'un oed a mi,
Ac yna'i chyfarch, ond mi deimlais fraw
Pan winciodd 'r un a'i rhowliai arnaf fi.
A gwelais yno bennaf golud serch
A'r ferch 'di troi yn fam. A'r fam yn ferch.

Machraeth
8 1/2 Pwynt

Englyn ar y pryd

Englyn ar y pryd: Cyfeiriad

Rheidrwydd ar ddechrau blwyddyn- yw gosod
I'n gwysi i'w dilyn
I'w darfod ger rhyw derfyn
Llywio gwydd pob dydd wna dyn

8 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78

Englyn ar y pryd: Cyfeiriad

Mae'r creadur a'i fwriad- inni fyw
Yn ei fyd mewn cariad
Ni fyn Duw ein haddfwyn Dad
In farw'n ddigyfeiriad

8 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 73 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth yn cynnwys yn gair "Gwely"

'Rwan taid, rhag drewi'n ty
Gwyliwch â phiso'n gwely

Daeth angel at ei gwely
Gan fyrhau ein dyddiau du.

Â'i dad heb ddod 'n ôl i'w dy
Wylodd cyn mynd i'r gwely.

Sawl degau o sgiliau sy'
Williams i'th gael i'th wely?

Pennill telyn 'pan fo'r machlud ar y gorwel'

Pan fo'r machlud ar y gorwel
Yn cusanu'r don yn dawel,
Na fachluded ar ddigofaint
'R un ohonom wyr ddioddefaint.

Englyn cywaith 'crefft'

Rhoi rhin mewn pedair llinell- ni all dysg
Ond gall dawn ein cymell,
Ac mae'n fraint sydd gymaint gwell
O ffyniannus ffynhonnell.

Llunio cyswllt, llawn, cyson- dyna gred
Un â graen i'w safon,
A thrwy i'n oll feithrin hon
Adwaenir gorau dynion.

Telyneg mewn mydr ac odl: Gofal

Torrodd gysylltiad a'r capel
"Swyddogion di- asgwrn cefn"
a thyngai wrth ei gymdogion-
nad el ai byth yno drachefn.

Pan gollodd ei anwylyd
Ac yntau mewn chwithdod syn
Teimlodd yn gryman diogel
Ei fraich amdano'n dynn.

Isfron

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.