Bro Alaw v Criw'r Ship

Bro Alaw

Bro Alaw

Criw'r Ship

Criw'r Ship

Cwpled caeth ar garreg fedd potsiar

Chydig i hwn oedd ddigon
Un twll yn ei wellington.

Geraint Jones
8 Pwynt

Cwpled caeth ar garreg fedd potsiar

Y cnaf! Daeth yr olaf air
I gannoedd o bry' genwair!

Gari Wyn
8 Pwynt

Pennill Mawl/ Dychan: Yr Adran Gynllunio

Dan bwysau gwaith gormesol,
Rheolau caeth di-ri,
Cyflwynant argymhellion
Yn ôl y polisi;
Ac yn y pwyllgor planing
Fe'u hanwybyddir hwy -
Maen prawf yr holl gynghorwyr
Yw pwy sy'n nabod pwy!

John Wyn Jones
9 Pwynt

Pennill mawl/Dychan: Yr Adran Gynllunio

Mi ges i ambell Gyngor draw ym Meddygfa'r plwy
Oherwydd rwy'n Cynllunio i brynu ty sy'n fwy.
Gobeithiaf roi rhyw gais bach i elwa ar sawl grant -
oherwydd mae hi'n gostus i fagu llwyth o blant.
Ond methu mae yr Adran Gynllunio Teulu'n racs
I'm 'hatal' rhag 'cenhedlu', na thalu unrhyw Dacs.

Menna Medi
9 Pwynt

Limrig: Wel dyna beth od ar y naw

Wel dyna beth od ar y naw
Â'r arch bron a suddo mewn glaw
I Noa anghofio
Cael pwmp allai'i wagio
Pi-pi'r anifeiliaid a'u baw.

Arwyn Roberts
8 1/2 Pwynt

Limrig: Wel dyna beth od ar y naw

Wel dyna beth od ar y naw -
Bro Alaw a fo'n ysgwyd llaw
cyn cychwyn yr ornest
i selio eu concwest -
bu jest i'n tîm ni gadw draw.

Menna Medi
9 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cwlwm

Ym Meslem rhed bachgen bach
Allan o'r ffwrn yn holliach,
Gwaedda "mam!"ar garlam gwyllt,
Aros, a gweiddi'n orwyllt:
Mae hithau'n ei dagrau'n dod
Yn ei gwarth wedi'r gwrthod,
Dod yn hy i'w garu'i gyd
A'i hawlio yn anwylyd,
Ei wasgu a'i dynnu'n dynn,
Oedi, a'i fwytho wedyn;
Yntau'n sur wêl wewyr hon
Ar ôl ei dewis creulon.

Richard Parry Jones
8 Pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cwlwm

(Mae'n debyg fod clymau Celtaidd wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd fel cymorth i fyfyrdod. Y ddamcaniaeth ydi bod y plethwaith ddi-ddiwedd yn arwydd o fywyd tragwyddol)

Un darn aur a darn arian
yn un myrdd o lwybrau mân
ac yn benbleth o blethiad
braidd. Addewid o barhad
a welant, a phob cwlwm
yn grair. Gyda'u cefnau'n grwm
dros y we, eu pader sy'n
eu dwylo. Maen nhw'n dilyn,
modrwyo, yn curo côd
y ddeorfa ddiddarfod
bob yn un ac un, ac heb
ei weld mae tragwyddoldeb
yn eu mysg, yng nghanol mân
batrymau'r aur a'r arian.

Nici Beech
9 Pwynt

Pennill Ymson wrth bostio llythyr

Mae na stamp, un dosbarth cyntaf,
Ble mae hwn yn mynd o fama?
Mae yn mynd i Gaer yn gynta
Wedyn cyrraedd mat drws nesa
- ella!

Sian Owen
9 Pwynt

Pennill Ymson wrth Bostio llythyr

Siec i'r Inland Revenue,
Siec arall i BT,
Presant i'r fam-yng-nghyfraith
A bil pigiadau'r ci.
Mae'r rhain yn costio ffortiwn -
S'nam rhyfadd 'mod i'n flin -
Ac ar ben y tolc i 'nghyfri banc
Rhaid llyfu tîn y Cwîn.

Arwel Roberts
8 1/2 Pwynt

Englyn Cywaith: Cyfalaf

Hen elyn yr hil welaf - yn twrio
drwy'r tir ar ein gwaethaf,
twrio er mwyn rheibio'r haf
a'i elw, o'r rhes olaf.

8 Pwynt

Englyn Cywaith: Cyfalaf

Hwn yw sail ein byw di-sylwedd - ein nawdd
Yn nyddiau gorffwylledd
Ein cannwyll yn nhwyll ein hedd
Ein duw, crewr ein diwedd.

Gari Wyn
9 1/2 Pwynt

Can (heb fod dros 20 llinell): Diwrnod Difyr

Enillais wobr yn fy henaint, roedd o'n rhywfaint gwell na siec
Gwadd i droedio diwrnod difyr ar gyfandir pedwar ec.

Bws Traws Cambria, mynd fel berfa, cychwyn o'cw tua saith
Fe aeth hers a chombein heibio, pawb yn diawlio ar y daith.

Cyrraedd Kerdiff am y stiwdio heb gael cinio na thy bach
Cefais frechdan ddoe a letys, honno'n flasus fel hen sach.

Eu Cymraeg ni allwn ddeall, fel iaith arall dweud y gwir
Nid oedd rhain fel ni'r Monwysion wrthi'n sgwrsio'n berffaith glir.

Rownd-abowt, un newydd lenni sy'n Nghwm Deri nôl y sôn
Symud Reg fu'n creu anghaffael - haws ei adael ar y lôn.

Mynd i mewn i set Y Deri, te nid wisgi wrth y bar
Fe'm ceryddwyd i am chwerthin, llusgais wedyn draw i'r ar.

Yno gweld Geranium Pendant, tyfai lafant ar ei ên,
Gyda'i fêt Ap-olo'r Goedwig dyn athletig, coesa' hen.

Comedïwr efo'i ddymi a jôcs ciami o'r iaith fain;
Er mor hen jôcs Hwal Gwynfryn yr oedd rheiny'n iau na'r rhain.

Gweld Cefn Gwlad ar sgrîn deledu, ieir yn dodwy wyau sgwâr
'Runig swn a ddaeth o'r nythod, swn cywennod a'u Ww Aghh.

Diwrnod difyr, well mi adra neu'n Albania hyd yn oed
Dydd difyrrach fydd yfory pan gaf dynnu gewin troed!

Geraint Jones
8 1/2 Pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Diwrnod Difyr

Mae'r wraig 'di cychwyn ers ben bora',
Mynd i Cheshire Oaks i siopa.
Fydd hi'm nôl tan amsar swpar -
'Ngadael inna'n gwarchod pedwar.

Un rhy fychan i fyhafio,
Un rhy fawr i'w wneud i wrando
A dwy sydd weithia'n ffrindia' penna'
A weithia fatha'r ddwy Gorea.

"Faint o weithia raid i fi ddeud?"
"Mae mam yn gadael i ni 'neud!"
"Dwi 'di cwmpo Coke ar y stôl!"
"Dad! Dwi isio sychu pen-ôl!"

"Paid!" "Ti ddechreuodd." "Fi bia hwnna!"
Ac yn y cefndir, swn yr hyna'
A'i gitâr, rhyw sgrech aflafar
Fatha cath mewn Kenwood micsar.

Be ddigwyddodd i Sadyrna'
Tawel, tawel yr Wythdega'?
Mae'r wraig yn ôl. Dwi'n mynd i 'ngwely.
Falla ga'i ddiwrnod difyr fory...

Arwel Roberts
8 1/2 Pwynt

Ateb Llinell Ar y Pryd

Heno nid oes 'na linell
A Ger ag un llawer gwell.

1 Pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Heno nid oes 'ma linell
Yw hyn er gwaeth neu er gwell?

0 Pwynt

Telyneg mewn mydr ac odl: Crwydro

'Awn ni'i fyny o Gefn-iwrch i Faenaddwyn,
Drwy'r Parc am Rhos-goch, Garrag Lefn,
Cyn troi am Lanbabo a Llantrisant -
Ma' hi'n braf mynd dow-dow 'rhyd lôn gefn.

Bliwmarus? Wir, sgin i ddim syniad,
Cargybi? Na, sgin i ddim co';
Llangefni? Wel, aros di rwan -
Ella mod i di bod 'na, ryw dro.

John Wyn Jones
9 Pwynt

Telyneg: Crwydro

Mae'i ffroenau'n fyw â'r ffordd yn glir,
A'i goesau tenau'n ennill tir;
Y prae yn ofni profi'r gwir
Â'r nos yn araf nesu.

Bu'n destun trafod a sarhad
Fod hela hwn yn rhoi mwynhad
Wrth wibio ar hyd caeau'r wlad
Â'r cwn a'r cyrn yn canu.

Gorymdaith aeth i leisio barn
I'r ddinas fawr cyn dydd y Farn,
Gan gael eu sathru ar y sarn
 miloedd wedi'u maglu.

Menna Medi
8 1/2 Pwynt

Englyn Ar y Pryd: Tanni Grey Thompson

Er gorthrwm ei chefn crwmach- a llesgedd
Ei holl esgyrn llegach
Tyfa hon mewn moment fach
Yn gawr na bu'i rhagorach

8 1/2 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 77 1/2

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar garreg fedd potsiar

Yn ei arch y mae fan hyn
O'i ymlid gan lyfr Emlyn.

Daeth Wil o Ruthun unwaith
Ni chwyd o'r gist yma chwaith.

Ni ddaw 'nôl run Nadolig
A'i dwelf-bôr i wagio'r wig.

Hunodd yn diawlio'i anhap
O roi'i droed ar dir ei drap.

Limrig: Wel dyna beth od ar y naw

Wel dyna beth od ar y naw
Gweld cath ar fy lawnt yn gneud baw,
Trefn natur 'di hynny
Ond yr hyn wnaeth fy synnu
Oedd ei gweld hi'n ei gladdu 'fo rhaw.

Wel! Dyna beth od ar y naw,
Gweld Batman ar shilff yn y glaw
Ger balconi'r palas
Lle bydd y Frenhinas
Yn dod allan i godi ei llaw.

Pennill Ymson wrth bostio llythyr

"Mi dderbyniais bwt o lythyr

Oddi wrth Mr Jones o'r Brithdir
Ac yn hwn roedd o'n gofyn
Awn i efo Deio i Dywyn".

Roedd o'n deud bod rhaid ymorol
Am bapur y Biwrô troseddol
I ddeud y cawn i fynd i gerddad
Efo Deio bach ddiniwad.

Mae tystysgrif cymorth cynta'
Yn hanfodol i rodianna
A chael caniatâd yr heddlu
Er mwyn troedio priffyrdd Cymru.

Bydd rhaid cadw'n glir o Bennal
Rhag i Deio droi yn rebal
A chael cwrs ar iaith y Brymi
Er mwyn mynd drwy Aberdyfi.

Erbyn hyn mae biwrocratiaith
Wedi llwyr ddinistrio'r afiaith
Dyna pam dwi ddim am gychwyn
Efo Deio draw i Dywyn.

Englyn Cywaith: Cyfalaf

Ein harian yw ein cariad - at yr iaith
Pan y try'n fuddsoddiad
A'i roi yn warant parhad
I oes arall drwy'i siarad.

Telyneg mewn mydr ac odl: Crwydro

Rwy'n mynd fy Nhad, d'wi eisiau gweld y byd'
Y geiriau yn fy nharo i fel gordd,
A minnau'n mynnu gwên a'm dagrau'n fflyd
Pwy oeddwn i i sefyll yn ei ffordd?

Nid gwynt y bore wnaeth ei gruddiau'n llaith
A hithau yn ei du'n mynd eto i'w gwrdd,
'Mae Twm yn hwyrach heno'n dod o'i waith
A'i swper sydd yn oeri ar y bwrdd' .

Fe ddaeth y cyfle droeon i mi fynd
Carcharor oeddwn i ym maglau ngwraidd
Yn gaethwas bodlon gyda'm gwaed a'm ffrind :
Er teimlo fod y chwyn yn mygu'r haidd.

Englyn ar y pryd: Tanni Grey Thompson

Er oered oedd yr erwau gwywedig
Er llithrig y llethrau
Gwnaeth dir âr o'r braenau brau
A mydylu'r medalau.

Arwel Roberts
8 Pwynt

CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78

CYNIGION ERAILL

Cwpled caeth ar garreg fedd potsiar

'Sgytwad ga'th hen bysgotwr -
"Blydi hel! Y beili dwr!"

Arwel Roberts

Ni chwyd rôl cael ei rwydo
Â'i Fos wedi'i ddala fo

Menna Medi

Cyn ei bryd, fe'i daliwyd o:
Ei Gipar sy di'i gopio.

Llion Derbyshire

Pennill mawl/Dychan: Yr Adran Gynllunio

Fe ddymunais dy i'm teulu
Yn y fro lle ces fy magu.
Ond rwy'n Gymro di ymgeledd,
Ni ches gymorth Cyngor Gwynedd.

Gari Wyn

Limrig: Wel dyna beth od ar y naw

Wel dyna beth od ar y naw
Ces sioc,gwelais Dafydd Tai Draw
Mewn make-up,mascara
A ffrog gyda sodla
A'i wraig yn y cae hefo rhaw!

Gari Wyn

Wel dyna beth od ar y naw -
Hen hwch efo ffobia am faw
Yn cerdded yn ara'
Drwy dwyni'r Sahara,
A hitha' yn arllwys y glaw.

Arwel Roberts

Wel dyna beth od ar y naw
Clywais fuwch yn brefu miaw
A'r tarw 'n y beudy
Yn gwneud dim ond brefu
"Shut up you sill old cow"

Llion Derbyshire

Wel dyna beth od ar y naw
Ydy'r fuwch sy'n barticlar am faw;
Yn y beudy bob bore
Mae'n trio ei gore
I garthu ar ei hol efo rhaw.

Llion Derbyshire

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.