Penllyn v Dinbych
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Penllyn

Dinbych

Pennill Telyn: 'Clywais ddweud ym marchnad Rhuthun'
Clywais ddweud ym marchnad Rhuthun
Bod 'na sel i werthu'r meuryn;
Criw Llansannan - ofer bidio
Merched Penllyn sy'am i gael o.
Andrea Parry
9 Pwynt
Pennill telyn: 'Clywais ddweud ym marchnad Rhuthun'
Glywais ddweud ym marchnad Rhuthun
Fod archfarchnad well ym Mhenllyn.
Bos o Sais ddwed "Riwl Britania" -
Bobol Bala, cadwch o'na.
Elwyn Wilson Jones
8 1/2 Pwynt
Cwpled caeth i'w osod ar giât
Weldi, mae tragwyddoldeb
Hwnt i hon, waeth iti heb.
W.J. Williams
8 Pwynt
Cwpled caeth i'w osod ar giât
Yr wyf ar agor o hyd,
Ond cofia rhaid cau hefyd
Berwyn Roberts
8 1/2 Pwynt
Englyn cywaith: Echdoe
Wrth weld yr offeiriad ger ysgol Beslan
Addas yw un gair o weddi - heddiw'n
Llonyddwch y meini
I'r annwyl a'u rhieni
Fu'n ei doe a'i hechdoe hi.
W.J. Williams
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Echdoe "Pa wahaniaeth wna poeni - am a ddaw?"
meddai Wil wrth Sali
dridiau'n ôl ar ein stryd ni.
Hanes fydd 'fory inni.
John Glyn Jones
8 1/2 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr ar swyddog
Y Clerc Hyn,
Ty Ciliau'r Co'
Bae y Wermod,
Y Bermo.
Annwyl Syr,
Fy mhleserwaith
A chychod yn dod ar daith
Am y Cei yw clymu cwch
I fwrin fy nifyrrwch;
Uno eto'n regatau
Y cof.
Ond mae'r niwl yn cau
A rhai taer eu hwteri'n
Hawlio lein i'm hymyl i
Yn ofer.
Oes 'cw 'stafell
I forwr bach fu rhy bell?
Iwan Bryn Williams
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr at swyddog
Annwyl Syr,
Ga'i leisio siom
a'r surni sy'n groes arnom
a phoeri'n sir ar fwriad
un nad yw'n sicir o'i dad.
Ga'i eich annog i chwynnu
a rhoi siars i'r bygars sy'
yn dawel, does dim dwywaith
â'r farn mai arf yw yr Iaith
i'w hestyn o fag plastig
bob yn hyn a hyn i ni
gael hogi llafn pob sillaf
yn eiriau rd drwy yr haf.
Yn wylaidd,
Un o'r Bala.
Berwyn Roberts
8 1/2 Pwynt
Pennill Ymson ar fordaith
Mae'r mor heddiw'm Miscay'n fynyddoedd symudol , mawr , llwyd
A bum ers pythefnos yn tyllu mynyddoedd o fwyd,
Os taflaf i fy hun i gyd i fyny, fydd 'na rwyd ?
Iwan Bryn Williams
8 1/2 Pwynt
Pennill Ymson ar Fordaith
"Bargan a hannar" ddeudodd y dyn,
"Ond hannar y gost, dau am bris un".
Ddalltais i ddim wrth ddod ar y fordaith
y gwelwn bob pryd o leiaf ddwywaith.
Berwyn Roberts
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud â pherthyn
Rhoi'r argraff nad oedd gennyf fymryn
O arian yr oeddwn i bobun;
Y llong ddaru lanio
Ac ers yr awr honno
Pob Twm, Dic a Harri sy'n perthyn.
W.J. Williams
8 1/2 Pwynt
Limrig yn ymwneud â pherthyn
Pan fydd yr hen hogyn 'cw'n llwyddo,
fel tad, rydw inna'n cael jiarffio,
ond pan ddaw 'na hanas
amdano'n embaras
dwi'n gada'l y llanast i'w fam o.
Eifion Lloyd Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Briodas Berffaith
Dau deulu'n nabod ei gilydd
Ar hyd y cenedlaethau maith,
A'r rheiny heb fod yn perthyn
Yn rhy agos i'w gilydd chwaith.
Carwriaeth fach fer a ffurfiol
Er mwyn deall y naill a'r llall.
Neb arall am 'run ohonynt,
Ac felly roedd yn gam reit gall.
Roedd yr uniad yn un perffaith,
Mae un yn arweinydd go iawn,
Y llall yn gi rhech bach selog,
A dilyn yw ei unig ddawn.
Ac er bod pawb o'r tu allan
Yn rhefru'n eu herbyn o hyd,
Bydd Bush a Blair gyda'i gilydd,
Gyda'i gilydd hyd ddiwedd y byd.
Beryl Griffiths
9 Pwynt
Cân: Y Briodas Berffaith
Mae o'n labwst tebol, dwy ar bymtheg oed,
Ac yn dipyn o giamstar ar chwarae pêl droed.
Mae'n driblwr heini, a chic fel ceffyl,
Ac yr un mor wyllt wrth godi cweryl.
Llawn afiaith yr ifanc, yn athrylith fawr;
Mae'n sgorio gôls i "INGERLAND" yn awr.
Goodison Park oedd ei gariad cynta,
Ond gwyddai'n iawn nad hi fyddai'r ola'.
Dechreuodd fflyrtio efo genod y nos,
Fe gollodd ei barch yn ogystal â'i glôs.
Saith miliwn ar hugain oedd y gost i Ffergi
Am uno MAN U â'r arwr Wayne Rooney,
A miliwn a chwarter a wariwyd wedyn
I'w asiant drefnu'r gweithgareddau'n sydyn.
"PRIODAS BERFFAITH" oedd pennawd y Mêl,
"Digwyddiad hanesyddol ym myd y bêl".
A dyma'r amser iddynt fwrw eu swildod,
"Bydd priodas fel hon byth, byth yn darfod".
Ond clywsom yr hen stori hon o'r blaen.
Fe godith ei bac a'i heglu hi am Sbaen.
Elwyn Wilson Jones
8 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Rhyw adeg mi briodaf
I gael hwyl i'r gwely af
1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Rhyw adeg mi briodaf
A gwn mai dynes a gaf.
1/2 Pwynt
Telyneg mewn mydr ac odl: Gwacter
Dwy blethen aur, rhubannau gwynion,
Esgidiau sglein du a byclau gloywon;
Wyneb glan glan, llygaid yn pefrio,
Traed bach aflonydd, calon yn gyffro.
Gwlith oer y bore, cusan ar dalcen,
Llaw gynnes mam yn sythu un blethen,
Dwy law yn datod, deigryn yn gwthio,
Braich yn ymestyn - "Cofia fihafio."
Troi a gadael ei phlentyn pumlwydd
Yn gymysg i gyd ar antur newydd,
Troi gan dybio fod dwylo yno,
Dwylo gofalus yn barod i dendio.
Ond heno mae hithau'n chwilio'r mudandod
Rhwng muriau sigledig, ac yna'n canfod
Dwy esgid fach ddu, a byclau gloywon
Ynghanol y llwch a'r gwydrau teilchion.
Haf Llewelyn
10 Pwynt
Telyneg mewn mydr ac odl: Gwacter
Un o gannoedd cyflafan Beslan
Bu'n troi a throsi'n gyffro byw drwy'r nos,
yn gweld ei llun wrth gau amrannau'n dynn:
ffrog newydd sbon am eneth ifanc, dlos,
a honno'n bictiwr yn ei phurdeb gwyn;
prin iddi flasu'i brecwast yn ei blys
am gychwyn tuag antur fwya'i byw,
gan ddawnsio, troelli'n llon a sgipio'i brys
i gyrraedd gyl â'i chroeso o fewn clyw.
Mae'i mam yn methu â chau ei llygaid syn
rhag gweld ei llun yn lludw'r neuadd fawr:
y ffrog yn garpiau llwyd a choch a gwyn
am swp o gnawd mewn sach mewn rhes ar lawr;
a'i thad yn golchi'i ddagrau yn y glaw
wrth gychwyn tua'r comin gyda'i raw.
Eifion Lloyd Jones
10 Pwynt
Englyn ar y pryd: Protest
Y mae cyfeillion Sionyn- yn iachach
Yn gochach eu blewyn
O waelod eu harch elyn
Yn hela'u hoff hil eu hun.
8 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 80
CYNIGION ERAILL
Pennill Telyn: 'Clywais ddweud ym marchnad Rhuthun'
Clywais ddweud ym marchnad Rhuthun
Fod arwerthiant mawr 'mhen dipyn:
Gwerthu'r tagiau fyrdd a gollwyd
O'r holl glustiau a ddifrodwyd,
Ac o'r fan mae'r rhain yn dod
Mae 'na dwll a'r un i fod.
wjw
Clywais ddweud ym marchnad Rhuthun
Fod y prisiau'n gwella fymryn,
A bwtseriaid , gwyrth ryfeddach,
Yn bodloni ar bris rhatach.
ibw
Cwpled caeth i'w osod ar giât
Os wyt o'r wlad neu'r City,
Tynn hon wrth adael t ni.
ibw
Mynediad rhad, man di-rent,
Mynnwch eich lle'n ein mynwent !
ibw
Englyn cywaith: Echdoe
Heibio i ddoe y mae bedd hwn; - a'i foeswers,
Dan fwsog ein dwthwn
Yn sen, ar goelbren y gwn
Ein hyfory a fwriwn.
Pennill Ymson ar fordaith
Ar y Daniwb las di-donna'
Gwleddaf 'mysg selogion Saga;
Tybed oes 'na gwch o'r un-steil
Ar y Neil ? - a'r afon ola'?
ibw
Limrig yn ymwneud â pherthyn
Wrth ail-briodi, dw i'n nain i fy ngr-i
Ac yntau sydd nawr yn frawd imi,
Gan bod 'i dad a fy merch
'Di cael merch fach o'u serch
Dwi'n nain, hen hen nain, a chwaer iddi !
ap
Englyn ar y pryd
Pan fydd ar ben i ei dennyn- oherwydd
Oferedd pob gofyn
A'r dod i orfod erlyn
Heno ydyw af olaf dyn.
8 1/2 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79
CYNIGION ERAILL Pennill telyn: 'Clywais ddweud ym marchnad Rhuthun'
Clywais ddweud ym marchnad Rhuthun
fod fy ngwraig a minnau'n perthyn
am fod taid y ddau ohonon
ni'n hen daid i dad ein wyrion
Eifion Lloyd Jones
Clywais ddweud ym marchnad Rhuthun
fod 'na aur ym môn y rhedyn.
Rhedais adre i'w bladuro -
yr unig aur oedd gwair yn crino.
Berwyn Roberts
Cwpled caeth i'w osod ar giât
Parod bob awr yw Pero -
Ei gledd yw ei ddannedd o.
Annwyl yw wrth Gymro glân,I
Sais mae fel Alsêsian.
John Glyn Jones
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llythyr at swyddog
Annwyl Syr,
Rwyn hawlio swm
wedi andros o godwm.
Syrthio gan gleisio dwy glun
ar rhyw ddail ar Ffordd Alun.
Er y pumed o Fedi
rwy' ar 'sic' o'r Cyngor Sir.
Honni'r wyf fod ffyrdd y dre'
yn beryg nos a bore.
R ôl ysgwytiad ofnadwy,
er yn chwil, caf fil neu fwy.
A chofion atoch, hefyd,
Dewi Rhys,
(Glanhawr stryd)
John Glyn Jones
Pennill Ymson ar Fordaith
'Fu dim rhaid archebu tocyn,
'fu dim angen ciwio wedyn,
'fu dim pregeth gan y capten
ar fy nhaith dros yr Iorddonen.
Eifion Lloyd Jones
Limrig yn ymwneud â pherthyn
Mae'r tensiwn mewn Talwrn yn ddychryn!
Mae'n perthyn i'r timau a'r Meuryn,
R ôl pob gornest glos
Bydd y capten a'r bos
Yn sleifio am fygyn bach sydyn.
Elwyn Wilson Jones
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

