Y Berwyn v Bro Ddyfi
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Y Berwyn

Bro Ddyfi

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Sidan'
Hen wlad heb sidan a les
yw'r un hon heb frenhines.
Delyth Humphries
8 Pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'sidan'
Anwydog yn ei sidan
Yw ein byd fu'n glyd mewn gwlân.
Dafydd Wyn Jones
9 Pwynt
Parodi ar un o Englynion R. Williams Parry
Er cof am lada Hedd Bleddyn
("Y lada overlodiwyd
aeth trwy'r clawdd wrth theatr Clwyd")
Adeiladwyd y lada - nid o ddur
ond o ddarn o ferfa,
gwneud car nad ydyw'n para
gwneud un nad yw'n ddigon da.
("Adeiladwyd o dlodi ...")
Arwel Emlyn
8 1/2 Pwynt
Parodi ar un o englynion R. Williams Parry
Adeiladodd hon dlodi - nid cariad
Ond carreg oedd Magi,
Hen deyrn yw'r stamp roed arni,
Gor-ddyheu a'i gwyrodd hi.
Gwilym Fychan
9 Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwario
Roedd gan Neli groen fel elastig
Cyn gwario ar lawdriniaeth blastig
Pan mae'n oer ma'i fel model
Ond wrth droi'r gwres yn uchel
Mae'n dwb typyr wêr go arbennig.
Bethan Jones
8 Pwynt
Limrig yn ymwneud â gwario
Ffolineb oedd gwario'r holl arian
I brynu pyjamas a choban
Pan aeth Eurwen a Dafydd
Ar fis mêl i Lanefydd
A dychwelyd a'r pecyn yn gyfan.
Hedd Bleddyn
8 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cynnwys cymeriad llythrennol
"E"
Ewyn gwyn yw'r môr i gyd,
euraidd yw traeth y foryd,
ei wely'n dywod melyn
erioed, ers y dechrau un;
enaid wyf ar draeth o daith
enw fyseddaf unwaith,
eiliad gerllaw yr heli,
eco môr, y broc, a mi;
einioes yw cerdded yno
ei ddiflino dywod o,
erbyn hyn mewn llanw wyf
erydu byw yr ydwyf.
Arwel Emlyn
9 Pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cynnwys cymeriad llythrennol
Rhad iawn yw cri'r diniwed,
Rhwygo'r rhain wna'r rhai a gred
Mewn Duw a mynnu dial
Mynwentydd ddoe; mynnant ddal
Blodau rhwng y dyrnau dur.
Bu'r blodau'n llwybr y bladur
Yn dawel, a'r gwyr diwyd
Yn hogi, hogi o hyd;
Drwy'r lliw daw ffrwydradau'r llafn -
Disgyn wna'r blodau ysgafn;
Dan draed mae'r ystod flodau'n
Dew, ond ddim mor dew â'r staen.
Tegwyn Jones
8 1/2 Pwynt
Pennill Ymson ymhlith galarwyr
Fum i rioed yn un da efo enwau
Dwi'n cofio gwynebau reit dda
Pan ddaeth cais i mi gladdu cyn-aelod
Derbyniais, mae'n anodd dweud na.
Y mae'r teulu, yn awr wedi cyrraedd
Mae fy nghamgymeriad yn fawr
Ac mae'r boi o'n i'n feddwl ei gladdu
Yn sefyll o mlaen i yn awr.
Huw Dylan
9 Pwynt
Pennill Ymson ymhlith galarwyr
Lle bu ein plant yn chwarae
A'r haul yn rhannu'i wawl
Daeth cwmwl hyll terfysgaeth
A mynnu chwarae'r diawl.
Elwyn Breese
8 1/2 Pwynt
Englyn Cywaith : Cynildeb
Os wyf un sy'n gwneud CV - a llenwi
pob llinell o'm stori,
a rhyw fawl, y mae'r gwir fi'n
yr hyn sydd rhwng y rheini.
Bethan Jones
9 Pwynt
Englyn Cywaith: Cynildeb
CYNILDEB
-ein cyndadau
Anodd yw gweld o'n dyddiau gwyn - eu byd
Darbodus un enllyn,
A'u rhaid taer ar amser tynn
I uno'r ddau benllinyn.
Dafydd Wyn Jones
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Eglurhad
Mae Rhod, PW, y Cynulliad
Am gael adeilad o fri
Iddo fo a'i fêts gael swancio
Wedi i'w brynu a'n pres ni
Y nodwedd mwyaf arbennig
fydd nid siambr drafod gron
Na chyntedd wych ac urddasol
Ond toiledau newydd sbon.
Toiledau nad oes mo'u tebyg
Yn unrhyw senedd drwy'r byd
Carped o Bersia'n gorchuddio
Pob modfedd o'r lloriau i gyd.
Seti o aur ar ben marmor
I ddal y penolau blin,
A phapur meddal i'w sychu
Ac arno wyneb y cwîn.
Pam yr holl wario ar doiled
Yw'r hyn mae llawer yn ddweud
Wel am mai dim ond yn fanno
Ma nhw'n dallt be ma nhw'n wneud.
Huw Dylan
9 Pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Eglurhad
Heno mae'n tîm yma
Heb Gwilym a heb Ann,
A cheisiaf nawr egluro
Y rheswm yn y man.
Mae Gwilym wedi myned
Am siwrnai mewn balwn,
Ond daeth y corwynt Ifan
A'i hyrddio i fonswn.
Cychwynnodd dros Drenewydd
O Fro Ddyfi'n hapus glyd,
Daw'n ôl dros dref Machynlleth
'R ôl teithio rownd y byd.
Mae'n dda 'i fod o'n 'Fychan'
I 'sgoi'r Alpau ar ei hynt,
A'r 'Dolig bydd tros Ganan
Fel seren Bethlem gynt.
Bu Ann yn ffonio Churchill,
Y ci insiwrans ffôl,
Rhag ofn i'r balwn fyrstio
Cyn daw'r hen Gwil yn ôl.
Hedd Bleddyn
8 1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Rwy'n byw wrth odrau'r Berwyn
Yn wir, mae fy myd yn wyn
1/2 Pwynt
Ateb llinell ar y pryd
'Rwy'n byw wrth odrau'r Berwyn
yn gaeth dan ei eira gwyn
1/2 Pwynt
Telyneg mewn mydr ac odl: Safiad
Dwi'n aelod o Amnest Rhyngwladol
Yn frwd dros y rhai sy'n cael cam,
Rwy'n barod fy mhrotest bob amser
Ac yn barod i ofyn pam?
Dwi'n gadarn yn erbyn pob gormes
A'r holl anghyfiawnder i gyd,
Dwi'n sgwennu llythyrau yn gyson
At ormeswyr ym mhen draw'r byd.
Ond pan welaf fy ngwlad fy hunan
A'm heniaith yn dioddef dan drais
O esmwythdra fy nghadair freichiau
Ni allaf i godi fy llais.
Delyth Humphries
9 Pwynt
Telyneg mewn mydr ac odl - 'Safiad'
Ni wn beth yw dy achos,
Ni wn am faint dy boen,
Ni wn i am y gorthrwm
Sy'n llosgi dan dy groen;
Ni wn am ing dy ddioddef,
Ni wn am gwyn dy ach -
Ond gwn na ddylet ddifa
Bywydau'r holl blant bach.
Ann Fychan
9 Pwynt
Englyn ar y pryd
William Morgan
Anodd fu'r oriau rheini- yn yr hwyr
Gyda'r holl ymboeni
Ond mae heniaith dy waith di
Yn dal i'n hysbrydoli.
Arwel Emlyn
8 1/2 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 78 1/2
CYNIGION ERAILL Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'Sidan'
Os sidan neis ydyw'n hiaith
edau hon ydyw heniaith.
Os ydwyt werthwr sidan;
Dim ots am y newid mân.
Edward sy'n gwisgo sidan,
y mae ef yn "funny man".
Onid grwp pop oedd Sidan
oedd yn methu canu cân?
Parodi ar un o Englynion R. Williams Parry
Wedi ei fyw mae dy fywyd - wr hoff
O Irac, ac hefyd,
daeth amser bomio'th weryd;
do, daeth Bwsh i deithio byd.
Y Pwll Cau
O bwll trwm i bwll tramor - i'r olew
sy'n rheoli rhagor,
erys mwy ar draws y môr,
lle hogiau, na all agor.
("Y bardd trwm dan bridd tramor" ...)
Limrig yn ymwneud â gwario
I wario i Lundain daeth Roman
Dan faner y morthwyl a'r cryman
"O Rom gad y Glas,
Tyrd draw i'r Cae Ras",
I'w hachub rhag ffwl sy'n ddiamcan.
Roedd Doris am wario ar lypo
At y we yr aeth hi i deipio
Fe dalodd rhyw gwac
A haeddai y sac
Mae Doris dal cymaint a hipo.
Pennill Ymson ymhlith galarwyr
Gwelaf alaru o'r bar i'r sgrîn,
a cholli gêm fel angladd fawr,
ond nid ydwyf i yn teimlo'n flîn,
mae fflagiau Lloegr yn dod i lawr.
'Da ni'n rhannu eich galar am eiliad
Ac yna i ffwrdd yr awn ni
Da ni'n medru anghofio y golled,
Da chi'n gorfod byw efo hi.
Rwy'n canmol yr ymadawedig
Rwy'n hael yn canu ei glod;
Rwy'n ei gladdu, nid fel yr ydoedd
Ond fel sa di hoffi bod.
Dwi ddim yn un am or-ganmol
Ond ma'r scons ma'n haeddu deg
Tydi'r gacen gri ddim cystal
Yn sticio yn nhop eich ceg.
Cefais well cacen ddydd Gwener
A phaned boethach o de
Sgwn i be gai, wsnos nesaf
Rhaid stydio'r 'deaths' i gael lle.
Englyn Cywaith : Cynildeb
Os ydyw'r dafod sydyn - yn arwain
at herio rhyw elyn,
yntau'n cyfiawnhau ei hun,
ni ddyliai heddwch ddilyn.
Yn ei gystudd, hen gwestiwn - yn ein tref
ymbil tramp a glywn,
ond er ein bodd ni roddwn
ein pres ni i'r person hwn.
Rhyw garwyr prinder geiriau - yw yr oes,
mor frysiog ei sgyrsiau,
gall dorri'r holl storiau
yn eu blas, heb eu cwbwlhau.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Eglurhad
Wrth gerdded ar hyd strydoedd Llundain
Fe welais i drempyn o ddyn
Gofynnodd am bres i gael cinio
Nid oedd ganddo geiniog ei hun
Gofynnais iddo'n geryddgar
'Os roddaf y pres ma i chdi
Wyt ti'n mynd i'w wario ar gwrw
Neu ai chwarae golff a wnei di'?
'Gwneud be'? meddai'r trempyn mewn syndod
Dwi ddim wedi yfed ers tro
A dwi ddim wedi bod yn agos
At yr un Clwb Golff ers cyn co
'Reit tyd' medda fi wrtho wedyn
Fe ai a chdi adra am bryd'.
'Ond beth am dy wraig'? meddai'r trempyn
'Dwi'n drewi ac yn faw i gyd'.
'Paid poeni' medda finna'n dawel
Dwi jyst isio iddi gael llun
Sut ma stopio yfed a golffio
Yn cael ffasiwn effaith ar ddyn.
Englyn ar y pryd
William Morgan
Mae'r Gymraeg ym mro ei waith- heno'n fyw
Am i'w Feibl roi gobaith
I'w werin wâr yn eu hiaith
A rhoi ynni i'r heniaith
9 Pwynt
CYFANSWM Y PWYNTIAU: 79
CYNIGION ERAILL
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'sidan'
Lliw'r heulwen ar gefnen gwyd
Y sidan a osodwyd.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

