Mae C24 yn cynnwys sesiynau a recordiwyd ar gyfer amrywiol rhaglenni C2 ers 2003.
Yn barod mae cyfanswm y traciau'n ddigon i'ch galluogi i'w chwarae'n ddi-dor am 24 awr. Yn ogystal, mae sesiynau hen a newydd yn cael eu hychwanegu'n gyson.
Er mwyn gweld cynnwys C24 rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur.
Mae manylion yr artist, y trac a'r dyddiad darlledu ar gael o fewn y chwaraeydd.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am yr artist, cliciwch ar y linc 'Mwy gan...' sy'n gysylltiedig â phroffil yr artist unigol ar wefan BBC Cerddoriaeth. Mae'r proffil yma'n cynnwys sesiynau eraill, newyddion, adolygiadau a rhestr gigs.
Mae pum cân yn ymddangos ar restr chwarae C24 ar y tro. Mae'n bosib symud y caneuon i fyny ac i lawr o fewn y rhestr trwy glicio a llusgo'r gân i'r safle derbyniol.
Cliciwch ar gân benodol o fewn y rhestr er mwyn chwarae'r trac.
Gallwch ddisodli cân trwy glicio ar y groes nesaf at enw'r gân.
Lansio'r chwaraeydd o dudalennau Sesiynau C2.
Mae chwaraeydd C24 hefyd wedi'i osod ar dudalennau Sesiynau C2 lle mae'n arddangos casgliad o draciau gan artist neu fand penodol.
Er mwyn lansio'r chwaraeydd o'r tudalennau yma a dod o hyd i draciau ar hap gan gymysgedd o artistiaid, cliciwch ar yr opsiwn 'Agor mewn ffenest newydd'. Yna, cliciwch ar 'C24 - sesiynau a sgyrsiau ar hap'.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

