
CD a taith gan fand newydd Rhys Ifans a Dafydd Ieuan o'r Super Furry Animals.
The Peth
Mae bron i ddwy flynedd ers i ni chwarae (am y tro cyntaf ar C2) y gân 'Let's go f****** Mental gan The Peth, a mae criw C2 yn edrych ymlaen yn arw i glywed albym cyntaf y band sef 'The Golden Mile'.
Mi fydd yr albym allan ar label Strangetown Records Inc ar Fedi'r 1af 2008.
Os nad ydych chi wedi clywed am The Peth, lle 'dach chi di bod?
The Peth ydi band diweddara'r actor Rhys Ifans a Dafydd Ieuan o'r Super Furry Animals. Yr aelodau eraill ydi Dic Ben, Kris Jenkins a Mick Hilton.
Dafydd Ieuan sydd wedi cyfansoddi y mwyafrif o'r albym, ac mae'r cynhyrch gorffennedig wedi cymeryd dwy flynedd i'w recordio mewn stiwdio yn ardal Grangetown Caerdydd.
Mae'r albym yn cael ei disgrifio fel un 'sy'n chwil lamu o anthemau pop seicadelig yr holl ffordd draw i slabiau trwm o 'chwalfa-roc' budr a lusti'.
Bydd cyfle hefyd i weld The Peth yn perfformio'n fyw yn ystod yr haf:
- 3 Gorffennaf - Clwb Golff, Bala
- 4 Gorffennaf - Neuadd Bentre, Llanerfyl
- 5 Gorffennaf - Neuadd Y Pentre, Llanddewibrefi
- 6 Gorffennaf - Yr Institute, Cwmaman
- 10 Gorffennaf - Hoxton Bar + Grill, Llundain
- 20 Gorffennaf - Gŵyl Lovebox Weekender (llwyfan Clash)
- 17 Awst - Gŵyl Green Man, Parc Glannwysg
Mae tocynnau ar gyfer y dyddiadau uchod ar werth ar hyn o bryd. Am fwy o fanylion ewch i safle gwe The Peth.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
