Teyrngedau i John Peel

John Peel

Roedd Dydd Iau Hydref 13 yn ddiwrnod arbennig i ddathlu bywyd a gyrfa John Peel a bu nifer o artistiaid a cherddorion Cymru yn hel atgofion am y DJ ar raglen Lisa Gwilym ar C2, Radio Cymru. Cliciwch isod i glywed rhai o'r sgyrsiau:

News imageDavid R Edwards (Datblygu)

News imageRhys Mwyn (Anrhefn, Hen Wlad fy Mamau, Mangre)

News imageAndrea Parker (Melys)

News imageSteffan Cravos (Tystion, Sleifar)

News imageGruff (Texas Radio Band)

Bu John Peel yn cyflwyno ar Radio 1 o 1967 tan y bu farw yn 2004, a thrwy ei yrfa fe gefnogodd gerddoriaeth Gymraeg - o gyfnod Edward H Dafis a'r Trwynau Coch yn y 70au, i ddyddiau Datblygu a'r Anrhefn yn y 80au ac, yn fwy diweddar, bandiau fel Melys, Tystion a Llwybr Llaethog.

Fel rhan o'r diwrnod gafodd cannoedd eu gigs eu trefnu, yn cynnwys nosweithiau arbennig gyda bandiau ac artistiaid Cymraeg. Bu C2 yn darlledu o Glwb Ifor Bach, Caerdydd gyda Sibrydion, Briwsion a Pwsi Meri Mew Movement a bydd cyfle i glywed mwy o ganeuon byw o'r gig yma ar raglen C2 ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos i ddod.

Cliciwch yma i weld lluniau o'r gig. Am fwy o wybodaeth am ddiwrnod John Peel, ewch i dudalennau arbennig Radio 1 - Keeping it Peel.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.