Angen rhywle i fynd ar benwythnos gwlyb ym mis Ionawr?
Wel beth am fynd i Dregaron.
Yn ôl y sôn Tregaron yw'r lle i fod ddydd Sadwrn 21 Ionawr! Y Talbot, i fod yn hollol gywir gan y bydd nifer o artistiaid a beirdd Cymru yn dod at ei gilydd fel rhan o ddigwyddiad Gair ar Gân sydd wedi cael ei drefnu gan Academi.
Drwy gydol y dydd bydd sawl 'cawr' o'r byd canu pop a llenyddiaeth Cymru yn dod at ei gilydd i drafod ymysg pethau eraill: ydi canu pop yn wahanol i ganu llenyddol?
Yn perfformio ar y dydd bydd:
Heather Jones
Tecwyn Ifan
Fflur Dafydd
Myrddin ap Dafydd
Gwyneth Glyn
Catrin Dafydd
Aneirin Karadog
Iwan Llwyd
Twm Morys
Hefin Wyn
Ed Holden
Ar ôl yr holl drafod bydd gig yn y nos, gyda'r 'bytholwyrdd' Tecwyn Ifan yn perfformio.
Am fwy o fanylion am sesiynau'r dydd neu am y gig nos, ewch i wefan Academi. Ac un peth pwysig am y gigwyddiad - bydd y bar ar agor drwy'r dydd!
Syniad arall ar gyfer y penwythnos
Os ydi Tregaron yn rhy bell i chi'r penwythnos yma, beth am fynd i ddiwrnod agored BBC Cymru yn Aberdâr ddydd Sul Ionawr 22.
Rhwng 10am a 4pm yng Nghanolfan Hamdden Michael Sobell bydd cyfle i chi gymeryd rhan mewn gweithdy radio efo Dafydd Du, a chwrdd â drymiwr gwreiddiol y Stereophonics, a ffrind newydd C2 - Stuart Cable, yn ogystal a llawer mwy! Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
Am holl ddigwyddiadau'r penwythnos cliciwch yma i weld calendr gigs C2.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

