Mae Huw Stephens yn cyflwyno ar C2 bob nos Lun, Mawrth a Mercher am 10pm ar Radio Cymru
Helo! Dyma rai o'r traciau nes i chware' ar C2 wthnos yma...
Radio Luxembourg - Fuzzy Rugg (Dianc ir Dwyrain)
Dal yn swnion wych, a pherfformaid gwych ganddyn nhw yn gig Maes B ryw bythefnos yn ol, gyda Rhys o Aberystwyth yn ychwanegu at y swn byw.
Boom Bip a Gruff Rhys - Do's and Don'ts
Dyn or enw Bryan o America ydi Boom Bip, a mae hwn o albym BB, Red Eyes in the Blue Room sy' allan ym mis Chwefror ar label Lex. Trac neis iawn, albym arbennig iawn!
Cofi Bach - Triwch Hi Ar
W'thnos o fi'n darlledu ar C2 heb Cofi Bach? Do's bosib? Na, does ne ddim...
Drymbago - Anian
Mae'r sengl hyfryd gan y band byw gwych allan nawr ar label Ciwdod.
LCD Soundsystem - Losing my Edge
Trac dawns anhygoel sydd allan ar albym y dyn o Loegr syn byw yn Efrog Newydd, James Murphy. Mae'r albym dwbl allan nawr.
Lou Reed a John Cale - Smalltown
Aeth John Cale i Efrog Newydd I ffurfio'r Velvet Underground. Ffrind ir band oedd Andy Warhol. Mae'r albym wych mae hon oddi - Songs for Drella yn un hynod o dda. Ddaeth hi allan yn 1990.
Datblygu - Nos Da Sgum
Oddi ar Pyst. Wedi bod yn gwrando llwythi ar Datblygu yn ddiweddar - mae gwrando ar albym gyfan yn gallu bod yn brofiad ysbrydol!
Gwilym Morus - Ym Mhontypridd
Trac or albym Traffig, ddaeth allan llynedd. Ond! Mae albym newydd, wedi ei ail recordio ar y ffordd ar label Rasal. Hwre mawr!
The Ukelele Orchestra of Great Britain - Ms Dynamitee
Saith person yn chware'r offeryn od, ond swynol, yn gneud fersiwn o gan Ms Dynamitee-ee-ee-ee-ee. Stafrdannol o dda!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


