Mae Huw Stephens yn cyflwyno ar C2 bob nos Lun, Mawrth a Mercher am 10pm ar Radio Cymru
Record yr Wythnos: Ashokan - Ashokan 2
Albym gwych gan y band o Bontypridd, yn wahanol i bopeth sydd wedi ei ryddhau yn y Gymraeg o'r blaen. I fod yn onest, mae gan hon fwy yn gyffredin gyda bandie trwm o Gymru fel Funeral for a Friend neu Bullet for My Valentine, ond gyda naws unigryw diolch i ganeuon fwy tawel fel Aberystwyth. Mae'r cynhyrchu yn wych, diolch i Joe Gibb yn stiwdios Mighty Atom yn Abertawe, ac mae Ashokan ar daith i hyrwyddo'r albym, gyda llu o fandiau a DJs yn cefnogi. Cliciwch fan hyn i weld lle mae'r gigs. Mae Ashokan 2 allan ar Ragfyr y 6ed ar label Dockrad.
Longcut - Transition
Band newydd, poeth o Fanceinion - gallwch ddisgwyl glywed llawer mwy ganddyn nhw yn y flwyddyn newydd. Mae 'ne gymaint o fandie da wedi dod i'r amlwg eleni - Bloc Party, Franz Ferdinand 'di mynd o nerth i nerth, The Killers yn enfawr - a nawr Longcut gyda'u cerddoriaeth trwm ond gydag elfen gryf o gerddoriaeth dawns yn gefndir i'r strymio. Gwych!
Zabrinski - 100th Yeti
Y trac cyntaf o albym gwych y band, Koala Ko-Ordination. Fydd Zabrinski nôl gyda albym newydd yn 2005, sydd bron iawn wedi ei gwblhau, wedi'i gynhyrchu gan Cian Ciaran o'r Super Furry Animals.
Brigyn - Sonar
Trac o albym newydd Brigyn, sy'n rhif 8 yn Siart C2. Band newydd y brydyr Ynyr ac Eurig o Epitaff sy'n cyfuno synau gwerin gyda synau electroneg. Dydi Epitaff ddim at fy nant i yn bersonol, ond mae'r band yma yn apelio llawer mwy ata i. Trac hyfryd! Cliciwch yma i glywed sesiwn acwstig arbennig y band i Lisa Gwilym ar C2, Radio Cymru.
Brave Captain - F*** With the Flow
Trac o albym byw y dyn talentog yma, sydd ond ar gael ar y we ar hyn o bryd. Martin Carr yw'r Brave Captain, sydd erbyn hyn yn canolbwyntio ar gerddoriaeth electronig eitha dwys ond dawnsiadwy, gan gyfuno swn ei laptop gyda gitars a'i lais.
Drymbago - Anian
Mae sengl cyntaf y band byw gwych allan nawr ar label newydd, Ciwdod, sy'n bartner i gwmni Cerdd Gymunedol Cymru. Mae Drymbago wedi cael blwyddyn gwych yn gwneud enw da iddyn nhw eu hunain!
Rhai eraill o draciau'r wythnos:
Radio Luxembourg - Fuzzy Rug (Dianc i'r Dwyrain)
Chemical Brothers - Galvanise
Bob Delyn a'r Ebillion - Pontypridd
Brian Wilson - Good Vibrations
Geraint Jarman - Lawr yn y Ddinas
Texas Radio Band - Rhan o Ni
Gweld chi wthnos nesa. Tew!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


