Record yr Wythnos - Gabrielle 25 - Twenty More Fish in the Sea
Er fod nhw wedi bod yn mynd ers blynyddoedd, mae'n anodd credu mai dyma albym cyntaf y band. Ond ar ôl EP's, senglau a gigio di-baid, mae hon nawr allan ar label FFVinyl. Fel newch chi glywed os wnewch chi wrando ar adoylgiad Owen Powell a Iwan England, mae yna nifer o genres gwahanol yn cael ei cymysgu fan hyn, i greu un albym hamddenol, safonol a gwerth ei chlywed.
Rhai o'r recordiau er'ill nes i chwarae wythnos ymaSibrydion - Dafad Ddu a Mynd Drwy'r Tô - y sesiwn orau eto ar C2? Fim yn deud dim!
Radiohead - Creep - Mwdi a cas a trist a depressing. Ond da!
Something Personal - Diweddglo EP - Ma nhw'n n'ôl ac yn dda!
Bloc Party - Helicopter - Band y flwyddyn 2005 - gobeithio!
Soft Hearted Scientists - The Bethesda EP - EP gwych ar label o Gaerdydd, Mu Kung Fu. Roedd y canwr arfer bod yn Tynal Tywyll fi'n meddwl.
Datblygu - Cân i Gymry a Ugain i Un - Allan ar Wyau, Pyst a Libertino nawr! Campwaith!
Lemon Jelly- Stay With You - Band gwych o Bath, a sengl hyfryd iawn o albym dylse fod yn wych!
Nia Ben Aur - Pwy a Wyr - Pam lai?
Dielw - Iar yn y Car - Dal yn ddoniol, dal yn dda, dal ddim yn gwybod pwy ydio.....
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


