Record yr W'thnos - Super Furry Animals - Songbook Volume 1 - The Singles
Mae'r casgliad yma o 21 o senglau y Furries allan nawr, a fel se chi'n ddisgwyl, mae'n hollol wych. Y tracs nes i chware oedd Demons, God! Show Me Magic, Hermann Loves Pauline, Play it Cool a Northern Lites. Mae 'ne bump trac achos o fi'n sefyll mewn dros Steve a Tewryn nos Iau a nos Wener wthnos yma.
Mae ne lwyth o ffyrdd o fod yn berchen ar Songbook hefyd - ar DVD gwych gyda fideo sy'n mynd gyda phob cân a rhaglen American Sasquatch wedi ei g'neud gan Dyl Goch Jones sy'n dilyn y band tra'r oedden nhw yn America, ar feinyl dwbl pop-up hyfryd, ar CD pop up neu ar CD arferol. Hwre!
Rhai o'r tracs eri'll nes i chware wthnos yma;
Pwy Yw? - Nia Ben Aur
Elliott Smith - A Fond Farewell (trac o albym olaf y canwr talentog a fu farw eleni. Mae From a Basement on a Hill allan ddiwedd y mis)
Dielw - Iar yn y Car (hip hop rhyfedd gan Dielw - os tin darllen hwn Dielw - ebostia fi!)
Akira The Don - Drinking Song (hip hop newydd gan seren y dyfodol - mae mynd i fod yn hiiiiiiiiiwj!)
Datblygu - Cân i Gymru a Maes E (roedd Emyr o ankstmusik ar y rhaglen yn siarad am ail ryddhau Wyau, Pyst a Libertino)
Interpol - Slow Hands - (band o Efrog Newydd, gyda albym newydd gwych, Antics allan nawr)
Sibrydion - Dafad Ddu, Mynd Drwy'r To, Rhedeg i Ffwrdd - (tri trac newydd sbon o'r sesiwn gwych yma)
Something Personal - Diweddglo (EP - newydd gan y band a stwff da dros ben!)
Mehefin y Cyntaf - Garndolbenmaen (cyn sesiwn ar C2 - mor, mor dda...)
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


