Nes i fwynhau llwyth o bethau am y Steddfod eleni, a roedd yne lwyth o albyms a CDs newydd ar gael. Er fod y Babell Roc wedi ei osod yng nghornel y Maes heb unrhyw arwydd yn deud be oedd tu fewn (artistiad mwya' poblogaidd Cymru yn perfformio, llwyth o CDs gwych), roedd y naws yn dda yno. Anubis enillodd y Brwydr Bandiau roeddwn i a Ian Cottrell yn beirniadu - band da o Ddyffryn Nantlle. Gobeithio newn nhw ddefnyddio'r £1000 yn gall!
Ar y Maes nes i gael fy nwylo chwyslyd ar EP newydd Anweledig (ai dim ond fi sy'n hoffi'r fersiwn o 'I Mewn I'r Arch a Nhw?'), a dau CD yn ymwneud â Gwilym Morus, o babell Cymdeithas yr Iaith - CD ei hun oedd gynta, casgliad o saith cân hyfryd o'r enw Traffig, a'r llall gan ei fand Drymbago.
Nes i lwyddo i golli Drymbago yn chwarae eleni (mae pawb yn deud fod nhw'n wych yn fyw), ond mi nes i weld Gwilym yn perfformio yn bar Abri yng Nghlwb Pont Ebwy. Lle braf, gyda digon o gwmni da a diod yn llifo - a gigs personol! Roedd Gwilym yn canu gyda Alun Tan Lan un pnawn - roedd e mor boeth, a gyda'r gerddoriaeth wych yn cael ei chwarae, roedd hi'n brofiad a hanner clywed y ddau wrthi.
Nes i fwynhau DJio yn TJ's ar amryw o nosweithiau - a roedd y casgliad Degawdau Roc 1967-82 ar label Sain wedi galluogi i mi chwarae mwy nag un clasur drwy'r wthnos. Piti fod ne ddim mwy o fanylion am y bandiau yn y clawr - sut mae person ifanc fel fi fod i wbod pwy oedd y bandiau yma? A fi ishe gwybod!
Yn TJ's nes i wir fwynhau sets Sibrydion (band newydd Mei Big Leaves), gyda'i pop perffaith ac ysbrydoledig, set olaf Mozz (sniff) a nes i wir fwynhau Ashokan ar y nos Sadwrn olaf. Doedden nhw a fi heb glicio o'r blaen - ond nawr fi'n deall pam ma nhw mor dda yn fyw! Ewch i weld nhw ar unwaith! Cwic! A pha mor dda ydi stwff newydd Pep le Pew? Methu aros i glyed yr albym Un Tro yn Gorllewin yn gall!
Nes i weld a gneud llawer mwy wrth gwrs - byw ar chips a cyris, dim gwersylla unwaith, a chael amser gwych. Dyma i'r Steddfod Flwyddyn Nesa!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


