Y "Khan" - un o uchafbwyntiau Huw!
Nes i fwynhau llwyth o bethau am y Steddfod eleni, ac roedd ne lwyth o albyms a cd's newydd ar gael. Er fod y Babell Roc wedi ei gosod yng nghornel y Maes heb unrhyw arwydd yn deud be oedd tu fewn (artistiad mwya poblogaidd Cymru yn perffromio, llwyth o cd's gwych), roedd y naws yn dda yno.
Anubis enillodd y gystadleuaeth Brwydr Bandiau yn y Babell Roc. Fi ac Ian Cottrell oedd yn beirniadu - band da o Ddyfffryn Nantlle. Gobeithio newn nhw ddefnyddio'r £10000 yn gall!
Cd's newydd
Tra ar y Maes nes i gael fy nwylo chwyslyd ar EP newydd Anweledig (a'i dim ond fi sy'n hoffi'i fersiwn nhw o I Mewn I'r Arch a Nhw?!), a dwy CD sy'n ymwneud â Gwilym Morus. CD Gwilym ei hun oedd un ohonyn nhw - casgliad o saith cân hyfryd o'r enw Traffig, a'r llall gan ei fand Drymbago.
Yn anffodus nes i golli Drymbago yn chwarae eleni - mae pawb yn deud fod nhw'n wych yn fyw, ond mi nes i weld Gwilym yn perfformio yn bar Abri yng Nghlwb Pont Ebwy. Roedd bar Abri yn lle braf, gyda digon o gwmni da a diod yn llifo - a gigs personnol! Roedd Gwilym yn canu gydag Alun Tan Lan un p'nawn ac roedd hi mor boeth, a chyda'r gerddoriaeth wych yn cael ei chwarae, roedd hi'n brofiad a hanner bod yna.
TJ's
Nes I fwynhau Djo yn TJ's ar amryw nosweithiau - ac roedd y casgliad Degawdau Roc 1967-82 ar label Sain wedi galluogi fi chwarae mwy nag un clasur yn ystod yr wthnos. Biti fod ne ddim mwy o fanylion am y bandiau yn y clawr though - sut mae person ifanc fel fi fod i wbod pwy oedd y bandiau yma? A fishe gwybod!
Yn TJ's nes i wir fwynhau sets Sibrydion (Band newydd Mei Big Leaves) gyda'u pop perffaith ac ysbrydoledig, set olaf Mozz (sniff:( ) a nes i wir fwynhau Ashokan ar y nos Sadwrn olaf. Doedden nhw a fi heb glicio o'r blaen - ond nawr fi'n deall pam ma nhw mor dda yn fyw! Ewch i weld nhw ar unwaith! Cwic! A pa mor dda ydi stwff newydd Pep le Pew? Methu aros i glywed Un Tro yn Gorllewin yn gall!
Ymalen i Steddfod Eryri!
Steddfod arall ar ben felly! Nes i weld a gneud loads mwy wrth gwrs - byw ar chips a cyris, yfed gormod, dim gwersylla unwaith, ac ar y cyfan - cael amser gwych. Dyma i'r Steddfod Flwyddyn Nesa!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


