Mae Huw Stephens yn cyflwyno ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm. Dyma rhai o draciau'r wythnos:
Ffa Coffi Pawb - Sega Segur
Oddi ar Ffa Coffi Pawb Am Byth - casgliad gwych o ganeuon doniol, swynol, od a gwych. Nath y cylchgrawn NME roi adolygiad gwael i'r albym yma yn ddiweddar yn anffodus.
Kentucky AFC - 'Rhwng y Gwir a'r Gwirion' a 'Be Nesa?'
2 drac newydd sbon gan Band Gorau Cymru (Gwobrau Roc a Phoc BBC Radio Cymru 2004), ac o'r diwedd mae'r albym allan. 13 trac sy'n gyflym a bywiog a llawn o riffs a diweddiadau-ffals, a 'Bodlon' a fersiwn o gân y Gorky's 'Iechyd Da' a llwyth mwy. Tew.
Anwledig - Byw
Hwn oddi ar EP newydd sbon Anweledig, y brif gân oddi ar Byw, sydd hefyd allan yn y Steddfod eleni. Dyma gynnyrch cyntaf y band ers Low Alpine yn 2001, ac ers hynny mae'r band wedi bod yn gweithio ar amryw o swyddi eraill, teithio, gigo a creu Byw, sydd hefyd yn cynnwys y gân wych 'Tikki Tikki Tempo'!
Gorky's Zygotic Mynci - 'Patio Song' a 'Diamond Dew'
Dwy gân wythnos yma, y ddwy oddi ar Barafundle, y ddwy yn wych. Falle dyma ddechrau darn newydd o fy rhaglen o'r enw 'Hen Gân Gorky's yr Wythnos', ond falle ddim. Mae Rich o Gorky's yn gigo ar ben ei hun ar y foment, a gallwch ei weld yn chwarae Gwyl y Dyn Gwyrdd ar lwyfan Tacsi ar y dydd Sadwrn.
Mozz - Yn y Bore
Daeth y newyddion fod Mozz wedi penderfynnu chwalu fel band, ac yn perfformio ei gig ola yn y Steddfod yng Nghasnewydd eleni. Newyddion drwg i ffans y band gwych yma o Aberystwyth. Falle ddown nhw nôl at ei gilydd, fel neith y Texas Radio band gobeithio. Pwy a wyr...
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


