Lo Cut a Sleifar
Mae Huw Stephens yn cyflwyno ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm. Dyma rhai o draciau'r wythnos:
MC Mabon - Dwmbo
Cyn sesiwn i raglen Gang Bangor ar Radio Cymru - ac o bosib trac fydd yn ymddangos ar albym o gasgliad o sesiynau ar label ankstmusik. Hefyd ar y ffordd - Kerrdd Dant - albym o draciau newydd MC Mabon ar label Recordiau Slacyr.
The Earlies - Devil's Country
Band gwych o Fanceinion a Texas, oddi ar yr albym 'These Were the Earlies' sy' allan nawr.
Gabrielle 25 - Hiraeth
Trac 2 o'r sengl newydd 'Don't Wear That Face/Hiraeth'. Mae'n drac hyfryd, a bydd e allan ar label FF Vinyl ar Awst yr 2il.
Lo-Cut a Sleifar - Y Sialenz
Trac oddi ar yr albym newydd, Miwsig I'ch Traed a Miwsig I'ch Meddwl, fydd allan yn ystod y Steddfod Genedlaethol ar label Boobytrap. Mae'r trac yma yn cynnwys rapio Ifan Prys, ac yn dangos fod barddoni ddim mor wahanol i rapio yn y bôn.
Gofodwyr - Gwasgaru/Gwastraffu
Pwy ydi Gofodwyr? Sgen i ddim syniad, ond mae'r demo tri trac yma yn eithaf arbennig, a ddim yn swnio'n anhebyg i Mogwai. Da iawn.
Ffa Coffi Pawb - Dwi'n Troi'n Ffrwyth
Oddi ar yr albym Ffa Coffi Pawb Am Byth. Unwaith eto, allan yn ystod y Steddfod - gwyliwch allan am stondin Placid Casual fydd ar y maes yng Nghasnewydd fydd yn gwerthu'r albyms gwych yma!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


