Dyma ddetholiad o be chwaraeodd Huw Stephens wthnos yma ar C2.
Beastie Boys - Ch-Check it Out a Fight For Your Right
Dwy gân gan y Ad-Rock, MCA a Mike D, achos
a) fod Ch-Check it Out yn dod allan ddiwedd mis Mai,
b) es i weld nhw yn ddiweddar yn neud gig egslwsif i 200 o bobl ac mi roedden nhw mor mor dda (fi di bod ishe gweld nhw yn fyw ers ages)
c).... uuuhh... does ne ddim c - ond mae'r Beastie Boys nol, felly nes i chware'r sengl newydd, a fersiwn breaks o'r anthem Fight For Your Right to Party. Tew.
Y Lladron - Chwaraeon Soft
Trac oddi ar bootleg cd newydd Y Lladron, y tro yma yn cymsygu Chwaraeon gan Texas Radio Band gyda Tainted Love gan Soft Cell, ac mae'n swnio'n hollol wych. Mae'r ddau drac yn ffitio'n berffaith, ac yn ddim ond un o draciau sporrrron oddi ar y cd yma. Fydd Y Lladron yn chwarae mwy o'u traciau ecsglwsif, doniol, genius a newydd yn TJ's, Maes B ar nos Wener ola'r Steddfod.
Bob Dorough - The Magic Number
Cân o 1972, gyda phob llinell yn sôn am y rhif tri - gafodd ei sgwennu i helpu plant ysgol ddysgu eu tabl rhif tri. Er fod hwn yn swnio'n hynod o ddiflas ar bapur (neu ar sgrin), mae'n gân wych sy'n neud fi wennu bob tro fi'n ei chlywed hi. Gath elfennau o'r gân yma ei samplo gan De La Soul ar gyfer ei hit hip-hop - 3 Is the Magic Number, (sy'n cael ei defnyddio ar BBC 3 erbyn hyn!)
Alun Tan Lan - Pethau Achlysurol
Fersiwn Alun o un o glasuron Y Cyrff. Fe dyfodd Alun i fyny yn Llanrwst, a gweld y band yn chware'n fyw lot o weithie, felly roedd e'n naturiol iddo recordio hon. Mi fydd EP cyntaf Alun yn dod allan ar label newydd sbon Rasal yn ystod yr haf, ond nid cyn Winabego - nhw sy'n cael y fraint o gael y rhif catalog Rasal001! Nice one
Spiritualized - Broken Heart
Band Jason Pierce, oedd arfer bod yn Spacemen 3, a'r trac tor-calonus (llythrennol) yma oddi ar The Complete Works, Volume 2. Mae cerddoriaeth y band yn ddibynnol ar linynnau safonnol a geiriau gwych Pierce, sydd yn creu emosiwn heb drio. Band gwych.
Spandaw Bala - Awn i FefflemTrac Nadolig gafodd ei recordio i C2 llynedd. Mae'n ddoniol a clefar a hynod o ryfedd, ond yn catchy dors ben. Gobeithio fydd ne fwy o dracs Nadolig Cymraeg da o gwmpas erbyn i'r Nadolig nesaf ddod! Fi'n casglu recordiau sy'n ymwneud â'r Nadolig, ac mae'r casgliad yn dod mlaen yn dda - fi dal angen albyms Dolig Beach Boys a James Brown - ond ma un Mariah Carey gyda fi - so ma hwna'n ok!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


