Traciau Huw S

Huw Stephens

Mai 12-13, 2004

Nos Fercher, Mai 13

Lo-Cut a Sleifar - CF5
Fydd hwn ar albym hip-hop y deuawd di-flewyn ar dafod, Miwsig I'ch Traed a Miwsig I'ch Meddwl. Nes i glywed yr albym heddiw, a mae'n wych. Fydd e allan cyn bo hir.

Felix Da Housecat - Watching Cars Go By
Bach o electro-pop gyda riffs caled, wedi ei gynhyrchu gan frenin y sin yma; Felix Da Housecat. Mae ei albym newydd, Devin Dazzle & The Neon Fever allan ar Fai 24, ac yn cymysgu synnau dawns gyda tiwns pop perffaith, os nad ychydig yn rhyfedd. Neis.

Winebago - Unarddeg Dyn i Lawr, Safbwyntiau Chwyldroadol a Gofyn Gormod
Tri trac newydd sbon ac wedi ei recordio yn arbennig i C2. Gallwch glywed y sesiwn drwy glicio fan hyn. Mae'r band o Fethesda wedi bod yn gigio a gigio a gigio yn ddiweddar, ac yn mynd i fod yn gneud mwy dros yr haf. Sesiwn newydd gwych arall ar C2.

Surfjan Stevens - All Good Naysayers, Speak Up! Or Forever Hold Your Peace!
Teitl od, ond cân ogoneddus. Mae hon oddi ar y sengl newydd, ond mae'n syniad da checio allan yr albym Michigan, Greetings From the Great Lake State, sydd yn llawn o ganeuon fytholwyrdd, acwstig a hudolus, ar y label arloesol Rough Trade.

Gorky's Zygotic Mynci - Gewn Ni Gorffen?
Un o'r traciau gorau, yn fy marn i, oddi ar Bwyd Time, sy'n glasur o albym gan y Gorky's.

DJ Dangermouse vs Jay Z vs Beatles - 99 Problems
Gallwch chi ffeindio The Grey Album, sy'n cymysgu White Album y Beatles a Black Album Jay Z, yn nyfnderoedd y we nawr. Mae fersiwn wreiddiol o gân Jay Z allan wthnos yma.

Kenavo - Mwnci Cas
Trac cyntaf yr Ep Twix, Crisps a Bechdan Tywod.

Kentucky AFC - Bodlon
Allan yn wreiddiol ar label R-Bennig, gwych yn fyw, ac yn mynd i fod ar albym cyntaf Kentucky AFC, fydd allan mewn ryw ddau fis.

Zabrinski - Feeding On Our Filth
Hwre! Cerddoriaeth newydd gan Zabrinski, un o'r bandiau mwya cyffrous ac unigryw yng Nghymru. Mae hwn oddi ar sengl feinyl 7" coch (neu binc?) oedd ar werth yn ystod taith Zabrinski gyda'r SFA. Fydd yr albym newydd sbon, sydd bron wedi ei orffen, allan yn y gwanwyn.

Alcatraz - Bibopalwla'r Delyn Aur
Cate Timothy, a'i theyrnged hi i Meic Stevens. Mae Cate yn gigio ar ei phen ei hun ar y foment, ac yn chware noson Tacsi yn Aberystwyth nos Wener yma. Fyddai yno. Yn yfed.

Nos Fawrth, Mai 12

Anweledig - Fan Hyn
Mae nhw nol eleni gyda gigs yn Maes B yn y Steddfod yng Nghasnewydd, ac yn chware Miri Madog 13 a 14 Awst! Ma nhw hefyd wrthi yn recordio EP newydd. Smart.

Max Sedgley - Happy (remics Fatboy Slim)
Trac hafaidd, ac yn ol y teitl, hapus, a allai fod yn fawr dros yr haf. Fersiwn wych Norman Cook ydi hon, sy allan cyn hir ar label Sunday Best.

Kentucky AFC - Diferu
Dim ond cant copi o'r CDR yma sydd ar gael, a nath pob un gael eu rhoi i ffwrdd yn gig Tew Porthmadog ar ddechre'r mis. Os na gafoch chi gopi, dim ond ar C2 allwch chi glywed hi. Tew!

The Streets - Dry Your Eyes
Y sengl nesa yn dilyn Fit But You Know It, oddi ar yr albym A Grand Don't Come For Free sy allan wthnos yma. Mae'n albym doniol, difyr a llawn dychymyg - yn dathlu bywyd bob dydd. Mae hon yn hynod o drist. Rhybudd:Peidiwch gwrando arni pan chi di torri lan da'ch cariad!

SFA - Fix Idris
Mae'n dechre'n wych, gyda'r curiad drym a'r ba-ba-ba-ba's, ac yn son am ffilmie Tarrantino, cyn torri lawr a mewn i'r trac nesa oddi ar Outspaced, albym ochre-B yr Anifeiliaid.

Johnny Cash - A Satisfied Mind
Son am Tarrantino, mae'r trac yma ar soundtrack Kill Bill 2. Cân mor syml, ond fel arfer, mae Cash yn canu gwirionedd pur. Os chi di gweld y ffilm, fyddwch chi'n gwbod sut mae hon yn cael ei chware ddwy waith mewn carafan fydd rhywbryd yn gartref i neidr wenwynig. Ewch i weld y ffilm!

Poppies - Paint
Band arall Sam o'r grwp Mozz, o Aberystwyth. Mae hon yn sporrron,(cyfieithiad = da iawn) er fi methu son amdani gormod achos unwaith fi di chware hi. Mae'n nhw'n chware yn y Steddfod, a mae Sam o Mozz yn brysur yn trefnu Castell Roc eto yn Aber eleni. Hwre!

Datblygu - Merch Ty Cyngor
Cyfyr o gân Jarman, oedd ar albym aml-gyfrannog Ankst, Hen Wlad Fy Mamau. Methu aros i brynu Wyau, Pyst a Libertino, fydd allan eto cyn bo hir ar ankstmusik.

Outkast - Roses'
Roses really smell like poo poo-poo'!


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.