Phoenix - Run, Run, Run
Dyma'r tro olaf i fi chware'r sengl yma gan Phoenix ar C2, fi'n addo! Gwychder o Baris, ar gael ar yr albym Alphabetical.
Quidest - Lawr Stryd Dychymyg
Trac hyfryd nath Quidest recordio fel sesiwn i ni ar C2. Cliciwch yma i glywed y sesiwn yn llawn.
!!! - Pardon My Freedom
Band gwych o Efrog Newydd sy'n cyfuno cerddoriaeth ddawns gyda synau band. Mae'n debyg fod chi fod i alw nhw'n 'Chk Chk Chk'. Rhyfedd, ond hynod o dda!
Melys - Un Darllenwr Lwcus
Heb chware Melys ers sbel, felly chware hon i'n atgoffa o'u gwychder, cyn i ni ddechrau chwarae ei sengl newydd nhw ar C2.
Nick Drake - Magic
Bu farw'r cerddor Saesneg Nick Drake yn ifanc ryw 30 o flynyddoedd yn ôl, gan adael albyms gwefreiddiol a hudol ar ei ôl. Mae hon yn drac fydd ar gasgliad o dracs cudd, remicsis a 'newydd' gan Nick Drake, fydd allan ym mis Mai o'r enw Made To Love Magic.
Sintra - Cysgod + Man Gwyn Fan Draw
Traciau gwych o'r EP newydd ar label RASP/Fflach. Ges i sgwrs gyda Nia Morgan o'r band am ei hanes ac am y gerddoriaeth. Cliciwch yma i glywed adolygiad o'r EP.
Goldie Lookin Chain - Half Man, Half Machine
Ti'n gwybod e, ti yn! Mae sengl hir ddisgwyledig y band o Gasnewydd allan nawr ar label Must Destroy, label y Darkness. Gwallgofrwydd hurt am fynd i'r siop i brynu sigarets wedi gwisgo fel robot.
Kenavo - Mwnci Cas
Trac newydd gwych gan Kenavo, band Rhys a Cynan Llwyd o Aberystwyth. Mae hon ar gael ar eu EP Twix, Crisps a Bechdan Tywod. Gallwch gael yr EP drwy fynd i safle gwe Kenavo, sef kenavo.2ya.com
SFA - Bleed Forever (remics Brave Captain)
Un o'r fersiynau gorau ar yr albym newydd, Phantom Phorce, sy'n gweld nifer o artistiaid yn ail gymysgu tracs SFA oddi ar Phantom Power. Mae'r gwaith celf yn odidog hefyd, gyda'r clawr yn plygu allan i fod yn ddarn o gelf ynddo'i hun. Gwych!
Drumbago - Trac 1
Fi'm yn gwbod be 'di enw hon. Drumbago ydi band y cerddor talentog Gwilym Morus. Mae'n dda.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


