Alun Tan Lan - Cân Beic
Trac nath Alun, cyn ganwr y band Serein o Lanrwst, berfformio yn fyw ar raglen Lisa Gwilym wthnos dwetha. Cliciwch yma i'w chlywed yn llawn.
Sintra - Cysgod
Trac cyntaf oddi ar yr EP newydd ar label RASP (is-label Fflach). Llais hudolus Nia Morgan sy'n arbennig am hwn; cerddoriaeth sy'n creu delweddau o ddiwrnod poeth o haf. Yn Aberteifi...
The Beta Band - Assessment (C Swing's Bootleg Mix)
Band arbennig o'r Alban, a remics o'r sengl gynta oddi ar eu albym newydd, From Zeroes to Heroes, sy'n argoeli i fod yn wych. Mae'r Beta Band yn fand eitha od i ddeud y lleia, falle ma ecsentrig ydi'r gair, ond mae hyn fel arfer yn meddwl fod y gerddoriaeth yn fwy anarferol ac arbennig, fel yn yr achos yma!
Zabrinski - Commandos
Trac oddi ar Screen Memories, albym cyntaf Zabrinski, sydd newydd fod ar daith o Brydain gyda'r SFA. Mae'r trac yma yn cynnwys llais unigryw Steffan Cravos, y rapiwr gorau erioed i ddod o Gymru. O bosib.....
Tali - Blazin'
Mae Tali yn dod o Seland Newydd, ac yn ffrindie â'r cynhyrchydd drwm a bas Roni Size o Fryste. Mae ei harddull yn unigryw: yn gyflym, yn ddoniol, yn bwerus ac yn hynod drawiadol, gyda hi'n rapio dros y curiadau cyflym. Mae'r albym, Lyric on my Lip yn dda hefyd, os chi'n hoffi'r fath yma o beth. A fi yn.
Ashokan - Y Llyn
Mae erthygl yn y gyfrol ddiweddara o'r cylchgrawn Barn yn cwyno fod C2 dim ond yn chware Seniorita oddi ar albym newydd Ashokan, Diolch am Ddal y Gannwyll. Dydi hyn ddim yn wir. Achos nes i chware Y Llyn nos Fawrth...
The Shins - So Says I
Os chi'n hoffi'r Flaming Lips, My Morning Jacket, bach o Neil Young, Mercury Rev, Pavement a'r math yna o beth, ddylse chi brynu a gwerthfawrogi albym The Shins, Shutes Too Narrow, ar label Sub Pop.
Tystion - Fisher Price Vs Tonka
O'r EP Toys, un o gampweithiau y Tystion, lle roedd tegannau yn cael eu defnyddio fel offerynnau chware ar draws yr EP. Mae'r gân yma'n wych, ac yn cynnwys llinellau gwych fel, 'Dwi ddim yn Boncyrs ond fi'n hel y concyrs'. Sublime
Ennio Morricone - Svolta Definitiva
Mae Ennio Morricone yn enwog am greu cerddoriaeth i gyd-fynd â ffilmiau, ac mae'r trac yma newydd ddod allan eto ar gasgliad gwych o'r enw Hidden Charms, gan Cherrystones. Gareth Goddard yw Cherrystones ac mae wedi casglu ynghyd hen draciau a thraciau anghyffredin am y tro cyntaf ar yr albym yma. Mae'n amrywiol a da; mae hyd yn oed Cher ar yr albym yma!
Catatonia - Gyda Gwên
Clasur!
Llygod Ffyrnig - NCB
Un o'r bandiau o'dd John Peel yn gefnogol iawn ohnonynt. Nes i chware hon ar orchymyn Hywel, gwrandawr C2 sy'n byw ym Mhenbrê. Nath e ofyn amdani rwy fis yn ôl yn Ty Tawe, ond dim ond nawr ni'n ffindio fe. Nath Hywel golli ei gopi e pan symudodd o'i dy i fws, i dreilyr, felly roedd e'n neis chware hwn i Hywel. A neisach fyth cael neges o ddiolch ar y testun ar ôl ei chware gan neb llai na Hywel ei hun!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


