Mae Huw Stephens ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm
Eisiau mwy o fanylion am un o'r traciau gafodd eu chwarae gan Huw Stephens ar C2 wythnos yma? Darllenwch ymlaen.....
Mozz - Yn y Bore
Cân ore y band o Aberystwyth hyd yn hyn. Gobeithio neith Mozz ryddhau rwbeth eleni - ma' nhw wedi creu enw i'w hunen gyda gigs byw, nawr mae angen y records! Mae gan Sam o Mozz fand arall hefyd, The Poppies, sy fod yn dda iawn.
The Zutons - Railroad
Trac o'r albym 'Who Killed the Zutons?' fydd allan cyn bo hir. Band o Lerpwl sy'n ffrindiau ac yn rhannu'r un dylanwadau â'r Coral. Stwff da a melodig!
DJ Dafis - Hen Bentre Bach Llanber
Mae gallu DJ Dafis i ddwyn tracs pobl erill ac ychwanegu bits yn anhygoel. Hogiau'r Wyddfa fel chi erioed wedi clywed nhw o'r blaen - her gan griw C2 bore Sadwrn.
Phoenix - Everything is Everything
Mae ail albym Phoenix, y band o Baris, allan nawr o'r enw 'Alphabetical'. Mae'n gerddoriaeth hawdd i wrando arni ond yn stwff diddorol, gyda cynhyrchu glân a chryno yn cymysgu swn acwstig a bits dawns, ond gyda elfennau caneuon Elton John neu rhywun felly. Mae'n swnio'n warthus ar bapur (neu ar sgrîn), ond credwch fi mae'n dda i'w glywed.
Skep - Ctrl-S a Diaspora
Traciau o'r albym newydd Ctrl-S sy allan nawr ar label Dockrad. Mae nhw wedi bod yn gigio yn ddiweddar, ac er fod y gig yng Nghaerdydd heb fynd yn wych, roedd y gig yn bar Retro Aberystwyth yn wych yn ol bob son. Faint o weithie allai ddeud - mae'n albym gwych! Cliciwch yma i glywed adolygiad ohoni.
Divine Comedy - Come Home Billy Bird
Sengl ddiweddara Neil Hannon a'i fand. Ar un adeg, rhein oedd fy hoff fand yn y byd, ac fy arbenigedd yn yr ysgol oedd i beidio adolygu ond i neidio rownd fy stafell i'r band yma. Ond fi wedi callio erbyn hyn a fi'n neidio rownd fy stafell i bethau eri'll. Mae'r Divine Camedy dal yn dda, ddo.
Anhysbys - Breuddwyd
Trac o albym newydd y band, 'Twyni Tywod', sy' allan ar Gwynfryn Cymunedol. Stwff melodig llawn egni - fi'n edrych mlaen i iste lawr a gwrando ar yr albym yn ei gyfanrwydd. Mwy fanylion drwy glicio fan hyn.
Super Furry Animals - Hello Sunshine (remix Weevil)
Y trac cynta oddi ar Phantom Phorce' sy' allan ar Ebrill 19 ar label Placid Casual. Y gwreiddiol wedi ei gymysgu gan y cynhychwyr dawns Weevil, sy'n rhyddhau eu cerddoriaeth ar label Wichita. Peidiwch anghofio y gallwch chi lawrlwytho y Slow Life EP am ddim o placidcasual.com ar Ebril 2il, sy'n cynnwys y gan Motherf****r gyda'r GLC.
Geraint Jarman - Skip ar Dân
Clasur gan Mr Jarman o'r albym Hen Wlad fy Nhadau o 1978.
Bonnie 'Prince' Billy - I See a Darkness
Dim byd i 'neud gyda'r band poblogaidd coc-roc. Un o'r caneuon mwya' trist ond prydferth fi wedi clywed. Mae Johnny Cash di neud fersiwn o hon ar un o'i albyms dwetha, ond dyma'r gwreiddiol - a'r gore, gyda William Oldham yn ei chanu. Oddi ar yr albym 'I See a Darkness' ar label Domino.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day


