Dewis Dolig Huw 2003

Beth fydd ar stereo Huw 'Dolig yma?

.....Huw a'r Darkness

Siart y Sengle
Erbyn i chi ddarllen hwn fydd unai'r Darkness neu 'Mad World' ar eu ffordd i ddwyn safle rhif un y Nadolig. Neu, o leiaf, dyna beth mae'r rhaglenni radio a theledu a chylchgronnau eisiau i ni gredu.

Wrth gwrs, gwych os ydi un o'r 2 wedi llwyddo - roedd C2 yn chware 'Mad World' gan Gary Jules a Michael Andrew pan oedd yn ddim byd ond fersiwn o gân Tears For Fears ar albym y ffilm 'Donnie Darko'. Mae'r Darkness yn ffefryn ar C2 ers i ni fod yn chware nhw ar ffurf demo ac mae'r gân Nadolig yn hynod o dda a doniol.

Ond peidiwch a synnu os ydi Noddy neu'r ffyliaid Pop Idolaidd yne ar frig y siartiau! Ar ddiwedd y dydd, heip yn unig ydi'r siart Dolig, a mae'r gân fel arfer ond yne am un wthnos beth bynnag!

Dolig C2
Dros y Dolig mae C2 yn chware caneuon Nadoligaidd wedi'i recordio'n arbennig ar gyfer y rhaglen - Meinir Gwilym, Epitaff, Dyl Mei o Pep le Pew a Spandau Bala (Rhys Edwards o Jakokoyak) oedd yr artistiaid fuodd yn ddigon caredig i fynd i'r stiwdio i ni. Cyn hyn, ar raglenni Nadoligaidd eraill ar Radio Cymru, yr unig gân dda gan artist ro'n i'n hoffi oedd record gafodd ei ryddhau ar label R-Bennig gan Crac.

Roedd Crac yn fand pync gyda Pippa a Clancy yn canu gyda agwedd, ac enw'r gân oedd 'Nadolig Llawen (Hebddo Ti)'. Yn lle'r 'jingl-bells' arferol, gyda geiriau yn cyfleu delweddau o deuluoedd hapus yn yfed gwin wedi ei mwlio a mins peis, roedd Crac yn canu am Ddolig yn torri lan gyda cariad. Roedd yn gân Nadolig ond un gyda agwedd, yn anarferol ac yn swnio'n newydd a gwreiddiol.

Y Brawd Houdini
Clasur arall ydi 'Noson Oer Nadolig' gan Meic Stevens (fersiwn cynnar ar 'Disgwyl Rhywbeth Gwell i Ddod'). Ar ôl aros am flynyddoedd, fe ddaeth hunangofiant Meic allan a mae nawr ar werth yn y siopau. Nai ddim mynd mlaen am pa mor dda yw e achos, i fod yn hollol onest, fi heb ddarllen e ond yn edrych mlaen i wneud dros y Nadolig.

Yn ogystal â'r hunangofiant, fe ail-ryddhawyd un o'i albyms cynnar, sef 'Outlander'. Dyma'r albym fuodd yn anodd cael gafael arno ers blynyddoedd, ac allai eich sicrhau ei fod yn wych. Mae'r caneuon bron i gyd yn Saesneg (dim peth diweddar ydi artistiaid o Gymru yn canu'n Saesneg, fel fyse rhai yn cael chi i feddwl), ac i gyd o safon hynod o uchel, fel sydd nawr i'w ddisgwyl gan Meic Stevens. Am gopi o'r albym, ewch i www.rhinohandmade.com.

Felly, Nadolig Llawen i chi gyd - a gobeithio gewch chi llond sach o CDs newydd!


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.