Finger likin' good
O'r diwedd, dwi wedi cael y cyfle i weld Kentucky AFC yn fyw yn ddiweddar. A fel bysus, ddath yne nifer o gyfleodd i weld nhw yn fyw ar yr un pryd. Mae hyn yn beth da, achos mae Kentucky AFC yn wych yn fyw. Efo dim ond tri yn y band, mae'r swn yn dynn a gwefreiddiol, a'r riffs yn buzzian o amgylch y stafell.
Gall ei fersiwn nhw o Iechyd Da, clasur y Gorky's, wedi gallu bod yn amlwg, ond mae ei fersiwn nhw yn newid y gwreiddiol, ac yn pyncio fo fynny, ac yn neud e'n fersiwn wirioneddol dda. Mae ei sengl newydd nhw - Outlaw/11, allan ar label Cerdd Gymneudol Cymru, clwb senglau Remote Control. Ewch i brynu hi - ma'r Kentucky's yn haeddu bob cefnogeth, ac yn amlwg mynd i fynd o nerth i nerth.
Viva ffansin!
O fand newydd gore Cymru i ffansin newydd gore Cymru. Rhifyn rhif 11 ydi'r rhiftyn sy mas ar hyn o bryd, sydd yn rediad da i unrhyw gylchgrawn gymharol newydd. Mae'r ffansin am ddim, ac yn crynhoi popeth o werth sydd yn digwydd yn y sin Gymraeg danddearol. Yn ogystal â adolygiadau gigs a pytiau o newyddion, mae cyfweliadau gyda Dai Lloyd o Skep a phennaeth label Dockrad (Afternoons, Diffiniad, MC Saizamundo a Skep, wrth reswm), Rhys Edwards (sef Jakokoyak - dylse chi wbod hynny erbyn hyn) a Dyl Mei (popeth), bob un yn ddiddorol a difyr.
Mae'r adolygiadau o albyms a recordiau o bob math; rhai sydd i'w clywed ar C2, a rhai fydd siwr o fod byth i'w clywed ar C2 (er, chi byth yn gwbod). Felly, dyma beth sydd yn mynd mlaen ym myd cerddoriaeth danddaearol y byd, ar bapur i chi gael darllen. Mae'n ddoniol hefyd - ma'r golofn olygyddol wedi ei sgwennu gan ddynes o'r enw Sianed Stryd-Pyrtyr.
Os fysech chi'n hoffi gwbod lle i gael copi o Viva Sparky, neu dim ond am ddeud helo, cysylltwch â vivasparky@aol.com.
Dim son o Billy
Os chi'n ffan o gerddoriaeth canu gwlad, ond yn dueddol o gadw i ffwrdd o'ch Garth Brooks a Billy Ray Cyris, mae ne gasgliad gwych ar gael ar y foment o'r enw Country 1, wedi ei roi at ei gilydd gan Rough Trade. Mae'n gwmni eitha mawr, ond anibynnol, sydd yn rhedeg label recordio (nhw ddaeth a'r Smiths, Strokes a gymaint mwy i boblogrwydd), edrych ar ol artistiaid fel Cerys Matthews, ac yn berchen ar siopau recordiau yn Llunden. Beth bynnag, mae'r casgliad yma yn ddwy cd, gyda canu gwlad modern a hen ysgwydd yn ysgwydd, yn llawn o artistiaid do'n i erioed wedi clywed o'r blaen gyda chaneuon arbennig o dda gyda rhwybeth i bawb, heb yr un synth, sampl neu bit yn codi ei drwyn mewn i'r mics.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day

