Datblygu, Lo Cut a Sleifar, Jane's Addiction...

Huw Stephens

Beth sydd ym mocs recordiau Huw yr wythnos hon?

Ar beth yn union mae Huw Stephens yn gwrando wythnos yma, a phwy mae Huw yn meddwl sydd werth eu clywed?

1. Datblygu - Wyau/Pyst
Dau albym ddaeth allan ar yr label arloesol Ankst ydi Wyau a Pyst, y ddau ar yr un CD yma. David R. Edwards oedd prif leisydd Datblygu, athrilyth ac un o feirdd pwysica' Cymru. Mae'r gerddoriaeth yn amrwd, yn ddoniol, yn hynod ddifrifol, yn onest ac yn hanfodol. Mae clasuron yma gyda Am, Ugain i Un a Dafydd Iwan yn y Glaw, ond mae arddull unigryw a dylanwadol Datblygu yn g'neud yr holl brofiad o wrando yn un diddorol, dwys a da. Os ydech chi'n ffan o gerddoriaeth Cymraeg safonol, mae'r albym yma yn un hanfodol!

2. Lo Cut a Sleifar - Sefyll fel Un
Os oeddech chi yn Pesda Roc eleni (ac os ddim, pam?), fyddwch chi'n gyfarwydd â'r gân yma gath ei chomisiynnu yn arbennig gan y trefnwyr. Steffan Cravos (Sleifar) a Curig Huws (Lo Cut) yn ôl gyda'i gilydd - a dyn nhw ddim yn siomi. Ma'r bîts dal yn drwm a'r rapio yn gyflym a gwleidyddol. Yn dathlu canrif ers streic y Penrhyn (pan roedd perchennog Chwarel Bethesda yn rhoi amodau annerbynniol i'w weithwyr), ac ar yr un pryd yn talu teyrnged i streicwyr Friction Dynamix yng Ngahernarfon.

3. Jane's Addiction - Just Because
Ar ol 13 mlynedd i ffwrdd o'r sîn, ma'r band roc dylanwadol, gyda Perry Farrell wrth y lliw, nol gyda'r sengl wych yma. Os y'chi'n ffan o fandiau roc modern, y tebygrwydd yw ei bod nhw wedi eu dylanwadu gan y rhein. Does gen i ddim lot i ddeud am y sengl yma, ond ei bod yn dda. Ffwl stop.

4. Primal Scream - Screamadelica
Ma Primal Scream yn dod o'r Alban, a ma'n nhw wedi bod yn mynd ers y 90au cynnar ond ma nhw'n dal i greu cerddoriaeth heddi'. Daeth yr albym newydd ar label Creation cyn i Oasis, SFA a'r Boo Radleys wneud enw iddyn nhw eu hunain ar y sin gerddoriaeth ryngwladol. O bosib un o'r albyms dawns cynta i bobl oedd yn hoff o gitars, yr uchafbwynt heb os nag oni bai ydi Loaded; saith mynd o ffync, bîts a chanu anhygoel. Hen ond dal yr un mor hanfodol a gwych heddiw.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.