The Keys

Cymrwch bip i focs records Huw

Ffurfiodd Murry the Hump tra roedd Matthew Evans yn y coleg yn Aberystwyth. Fe gwrddodd a Gwion Rowlands a Curig Huws, a nath y tri ddechre recordio demos yn stiwdio Curig.

Unwaith, nol yn dyddie da, es i i weld Murry the Hump yn chware yng Nghaerdydd. Roedden nhw'n wych, a nhw oedd fy hoff fand newydd. Nes i a fy ffrind Baz roi gig mlaen i nhw yng Nhlwb y Bont ym Mhontypridd, colli chydig o arian, ac ath Baz ar daith gyda nhw am ryw bedwar diwrnod, heb ddeud wrth eu rieni. Naethon nhw ryddhau albym, Songs of Ignorance, a wedyn penderfynnu gorffen fel band. O fi a Baz yn gutted. Yna, ddaethon nhw nol - Mathew a Gwion a Sion Glyn, o dan yr enw The Keys.

Lle roedd MTH yn fand gyda'u tafodau yn styc yn eu bochau, ond gyda'r gallu anhygoel i sgwennu caneuon hollol wych, roedd y meddylfryd tu nol I'r Keys yn wahanol. Doedd ne ddim mwy o ganeuon tebyg i 'Kebab or Shag', neu 'Pigs on Parade'. Yn hytrach, roedd eu caneuon yn fwy syml, wedi eu dylanwadu yn fwy gan gerddoraieth canu gwlad fel Johnny Cash, a melodiau anhygoel o lliwgar fel rhai'r Beach Boys.

Ond roedd gallu geiriol Matthew Evans dal yn amlwg. Pan es i weld ei gig cynta nhw yn cefnogi Fernhill yn y Clwb Trydanol yng Nghaerdydd, ro'n i'n falch fod Matthew a Gwion yn dal i weithio gyda'i gilydd, a dal yn creu cerddoriaeth hynod o safonol, hynod o hamddennol, a hynod o hynod.

Yn barod, mae senglau fel Gurl Next Door, Strength of Strings a Love Your Sons and Daughters wedi dod allan gan ddenu sylw i'r band, a rwan mae ei albym cyntaf nhw allan, o'r enw, yn ddigon syml, The Keys. Mae'r unarddeg trac gorffenedig yn mynd gyda'i gilydd yn berffaith, gyda'r albym yn un llawn melodiau a offerynnu gwych. Mae yna lot yn mynd mlaen; gitar ydi'r swn fwya amlwg o bell ffordd, ond yn newid o fod yn electric a gwallgof ar rai traciau i fod yn dawelach ar eraill.

Mae'r cynhyrchu ar y record yn hynod o esmwyth; mae synnau electroneg o allweddellau yn dod mewn ag all o ganeoun drwy gydol yr albym, ond byth yn cymryd i ffwrdd o'r geiriau a'r prif offerynnu. Son am gariad a bywyd bob dydd mae Matthew Evans rhan fwyaf, weithiau yn dor calonnus ond weithiau yn bositif a gobeithiol, byth yn hunan bwysig, a wastad yn llawn angerdd. O ran uchafbwyntiau, mae All The Drugs in The World a Gurl Next Door yn ganeuon perffaith mewn ffyrdd wahanol iawn i'w gilydd, ond fel albym, mae'n gasgliad gwych.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.