The Afternoons

Beth sydd ar stereo Huw yr wythnos hon?

The Afternoons - My Lost City
Mae The Afternoons yn un o'r bandiau yne sy'n rhannu'r dorf mewn i 2 gamp; y rhai sy'n eu caru a'r rhai sy'n eu casau. Wrth gwrs, mae wastad yn well i garu, ond weithie, gyda ambell i fand, mae'n amhosib (fi'n meddwl am Limp Bizkit, Blink 182 a Celine Dion's y byd yma).

Wedi cael eu disgrifio fel cerddoriaeth Belle and Sebastian a Teenage Fanclub wedi eu cymysgu mewn crochan enfawr yn Ninbych y Pysgod, mae'r Afternoons wedi bod gyda'i gilydd ers blynyddoedd bellach ac yn barod wedi rhyddhau un albym, 'Days We Found in the Sun', a'r sengl diweddar 'Dwi Mynd i Newid Dy Feddwl'.

Ar ôl ffeindio cartre ar label FFVinyl ac ar label nhw'u hunain, Saturday Records, mae'r albym newydd, 'My Lost City', yn dod allan ar label Dockrad (cartref Skep, yr albym aml-gyfrannog gwych 'Dim Apathi' ac albym nesaf MC Saizmundo). Ond lle roedd y band unwaith yn cael eu ystyried yn rhy feddal a 'neis', mae'r Afternoons bellach wedi tyfu i fod yn fand cryf a blaengar yn eu meddylfryd.

'Make it Happen' sy'n agor yr albym gyda'r geiriau "F**k the past, it's over rated", ac yn stormio drwodd mewn munud a tri deg o eiliadau. Dim dyma'r Afternoons de ni wedi dod i nabod! Yn amlwg, dydi'r gerddoriaeth heb newid gymaint a hynny - dyden nhw heb droi'r gerddoriaeth i swn garej nei tecno neu unrhywbeth felly! Mae eu gallu i sgwennu a recordio caneuon llawn melodi ac emosiwn yn un rhy dda i golli, felly dylse ni ddiolch iddyn nhw am hyn.

Lle mae caneuon fel 'For a Fool' a'r sengl newydd 'Gonna Stay Together' yn gyflym a llawn fuzz (mae'r lleisiau cefndirol fan hyn yn wych!), mae 'Does She Look the Same?' ac 'How Do You Break Somebody's Heart?' yn gofyn cwestiynau eithafol. Mae'r ddwy yma'n llawn emosiwn gyda'r teimlad fod diwedd y byd bron wedi cyrraedd, a'i fod yn amser canolbwyntio ar y pethau pwysig mewn bywyd. Mae prif gân yr albym, 'My Lost City', yn dawel ac araf gyda llais Richard, y prif leisydd, ar ei orau.

Unwaith, yr haf oedd y tymor gorau i wrando ar yr The Afternoons, ond mae 'My Lost City' yn albym gaeafol perffaith. Mae wedi ei gynhyrchu yn wych, a bob syniad ar yr albym, bron iawn, wedi ei weld trwodd tan y diwedd. Ac os dydi hwnne ddim yn ddigon, mae 'You Can Change The World' yn cynnwys côr o blant yn canu'r gytgan hapus, gobeithiol. Smart.

Mae'r albym allan ar label Recordiau Dockrad Records ar Hydref 13. Ewch i www.theafternoons.com neu www.dockrad.com am fwy o fanylion, neu i brynu'r albym oddi ar y we.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.