Fernhill

Huw Stephens

Beth sydd ym mocs recordiau Huw yr wythnos hon?

Fernhill - Hynt
(allan nawr ar label Beautiful Jo Records)

Julie Murphy sy'n canu i Fernhill, a'i llais hudol, ysbrydoledig hi sy'n gwneud eu cerddoriaeth draddodiadol werinol mor wych. Hynt yw eu pedwerydd albym, a'r cyntaf ers i Whilia ddod allan yn ddiweddar, albym ro'n i'n chwarae eitha tipyn ar fy hen raglen nos Sadwrn ar Radio Cymru, a dal i 'neud ar C2.

Mae'n anodd disgrifio swn Fernhill - ma disgrifio nhw fel grwp gwerin yn g'neud i nhw swnio'n hen ffasiwn ac amherthnasol; gall hyn ddim fod yn fwy pell o'r gwir. Drwy gyfuno cerddorion talentog a modern; Crwth gwych Cass Meurig, Tomos Williams ar y trwmped a Tim Harries ar y bas dwbl, mae'r swn yn hudol ac arall-fydol. Mae elfennau o Jazz a cherddoriaeth byd yn dod drosodd yn wych.

Y tro yma hefyd mae'r rapiwr Nobsta Nutts yn ymuno gyda nhw i rapio ar y trac Gwalch, trac naw munud o hyd, yn dechrau yn esmywth a hyfryd gyda Julie Murphy yn canu, a wedyn rapio byr-fyfyr a wirioneddol ddoniol Nobsta yn ymuno hanner ffordd drwy'r gân. Mae'n aelod o'r Headcase Ladz, un o griwiau hip-hop mwyaf addawol Cymru, a dyn sydd wedi rapio gyda'r band ffync/rap/dawns Herbaliser o'r blaen, ac mae ei rapio cyflym, unigryw yn dod â elfen wahanol i'r gerddoriaeth.

Ond i ddeud y gwir, gall Fernhill wahodd unrhywun mae nhw eisiau i weithio gyda nhw ar eu cerddoriaeth; cyn belled fod y gerddoriaeth yr un mor safonol â'r hyn sydd ar Hynt, fydd yr effaith ar y pendraw yr un mor wych.

Ewch I www.fernhill.info am fwy o fanylion


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.