Steddfod Huw S

Huw Stephens

Storis o'r Steddfod ac edrych ymlaen i Meifod

Fi wedi bod i bob Eisteddfod Genedlaethol ers i fi gael fy ngeni. Dwy ar hugain o Eisteddfodau (gan gynnwys Steddfod eleni yn Meifod), a ma hwnne diolch i Mam a Dad ath â fi i bob un nes fy mod i'n ryw 15 oed. Fi'n eitha balch i ddeud bo fi erioed wedi cystadlu yn y Steddfod (yr unig reswm allai roi ydi achos bo fi methu canu, erioed wedi cael yr amynedd i adrodd, a methu actio'n dda iawn). Unwaith, es i drwodd i'r rhagbrofion achos roedd côr yr ysgol yn brin o aelodau, a mi roedd rhaid i fi sefyll yn y cefn yn meimio. Naethon ni ddim cael llwyfan.

Dwi'n cofio mynd i un o fy gigs cynta yn y Steddfod - Gorky's Zytgotic Mynci gyda Topper yn cefnogi. Nes i gerdded mewn yn eitha cynnar yn y noson, a roedd Topper yn gorffen ei set. Fi oedd yr unig berson yne, felly dyma fi'n dechre clapio, gan deimlo tipyn o drueni drostyn nhw. Dim ond wedyn dyma'r band yn deud wrtha i mae'r sound check oedd hwnne, a doedd y gig go iawn ddim yn dechre am ryw ddwy awr. O'n i erioed wedi clywed am fath beth a sound check or blaen!

Yn araf deg dyma'r lle yn dechre llenwi, gyda rhai o fy ffrindie yn cyrraedd, a dyma ni'n dechre yfed. Erbyn i Gorky's ddod mlaen, o'n i'n feddw. Meddw iawn. Nath y noson orffen mewn mes, y gig yn wych ac yn gyffrous, a dyma fi'n mynd nôl i fy mhabell wlyb, oer a thrist ei golwg.

Y bore wedyn, nes i sylweddoli bo fi wedi colli fy nghot, felly dyma mam yn mynd a fi nol i chwilio amdani. Ath y perchennog a ni allan i'r maes parcio. "Pan yden ni'n chwilio fan hyn? O'n i tu fewn drwy'r nos!" medde fi. "Yyyy na. Oeddet ti'n gorwedd fan hyn am o leia awr neithiwr medder perchennog." Gyted.

Nes i erioed ffeindio fy nghot.

Mae'r Steddfod adeg gwych i brynu CD newydd - ma bandiau a chwmnïau recordiau yn gweld y fantais o ryddhau eu cynnyrch ar y maes lle mae gan bobl arian, brwdfrydedd, ac yn barod i wario ar rywbeth falle fydden nhw ddim yn meddwl prynu os fysen nhw adre. Mae albyms newydd Jakokoyak, Bob Delyn a'r Ebillion, casgliad Y Gwir yn Erbyn y Byd a'r casgliad teyrnged I'r Brawd Hwdini yn ddim ond rhai o'r albyms sydd ar gael yn ystod yr wthnos, a fyddwch chi gallu clywed adolygiadau trylwyr a chryno o rhain i gyd ar C2.

Mi fydd Eryr - band buddugol Brwydr y Bandiau C2 yn perfformio hefo Geraint Jarman ar y nos Sadwrn ola, felly noson fawr iddyn nhw. Cofiwch wrando ar C2 yn ystod y Steddfod - fyddwn ni'n fyw o Maes B drwy'r wythnos; cam cyffrous i fyd darlledu cerddoriaeth yng Nghymru.

Nai weld chi yn y mosh pit!


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.