I'r Brawd Hwdini
Ma 'ne gymaint o stwff newydd da yn cyrraedd C2 ar y foment - un o'r rheiny ydy'r casgliad aml-gyfrannog I'r Brawd Hwdini. Mae wedi cymryd tair mlynedd i roi'r casgliad at ei gilydd, gyda artistiaid fel Anweledig, Melys, Mim Twm Llai, Alcatraz, Celt a llawer mwy yn gwneud eu fersiynnau nhw o ganeuon Meic Stevens, brenin canu Cymraeg. Mwy am yr albym yma dros yr wythnosau nesa, a cofiwch wrando ar C2 i glywed mwy o'r tracie.
Y Gwir yn Erbyn y Byd
Casgliad arall sydd werth ei glywed ydi casgliad aml-gyfrannog Cymuned o'r enw Y Gwir yn Erbyn y Byd. Ma 'ne draciau gwych yma gan Llwyd, Mehefin y Cyntaf, Pep le Pew, Vates, Estella, MC Mabon, Baswca a llawer mwy. Mae rhai o'r tracie yn newydd sbon, rhai yn remicses a rhai yn hen dracie poblogaidd - 37 o ganeuon i gyd! Dyma un o'r albyms wnaeth marc yn ystod wythnos y Steddfod. Am fwy o wybodaeth ar Y Gwir yn Erbyn y Byd, cliciwch yma .
The Coral - Magic and Medicine
The La's, Echo and the Bunnymen, Cast (o diar), a band o'r enw The Beatles. Ma Lerpwl yn enwog am ei fandiau, ac ymhlith rhai o'r rhai mwya' addawol a diweddar yw'r Coral. Llynedd daeth ei albym cynta nhw allan, The Coral, ac allan diwedd Gorffennaf ma Magic and Medicine, ei albym newydd, gwych. Ma'r tiwns yn gofiadwy, y lleisiau a'r melodiau yn hamddenol ac amlwg, a'r 12 trac gorffenedig yn dod at ei gilydd fel un. Ewch i www.thecoral.co.uk am fwy o fanylion.
Daniel Amor - November Gold
Y sesiwn ddiweddara ar C2 oedd sesiwn newydd sbon Gabrielle 25 ; band sydd yn dawel bach wedi bod yn rhyddhau recordiau gwych ers rhyw ddwy flynedd bellach. Nes i siarad gyda Daniel Amor, prif leisydd y band, a fe soniodd am ei EP cynta unigol - November Gold, gyda phump cân rhannol-acwstig. Ma 'ne fersiwn o Y Dyn Heb Ddyfodol yma a cân wych o'r enw Are You Really Gonna Show Me Your Love? Ma'r EP yn dod allan ar label John Lawrence, sydd newydd adael Gabrielle 25, sef Lawrence Music, a mae yn y siopau ar hyn o bryd. Am fwy o fanylion, ewch i www.lawrence-music.com.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Welsh word of the day

