Benedict

Huw Stephens

Beth sydd ym mocs recordiau Huw yr wythnos hon?

Ar beth yn union mae Huw Stephens yn gwrando wythnos yma, a phwy mae Huw yn meddwl sydd werth eu clywed?

1.Benedict - Twll ac Herian
Grwp newydd Rhydian Dafydd yw Benedict, a ma nhw'n dda iawn. Es i weld nhw'n chware gyda Jakokoyak ryw fis yn ol, ond dwi'n meddwl falle bod eu tiwns yn well ar record nag yn fyw. Llawn emosiwn ac agwedd, ma stwff newydd Benedict werth ei chlywed

2. The Darkness - Albym sydd heb gael teitl eto
Ma'r band yma yn ddoniol ac yn dda ar yr un pryd, sy'n eitha camp. A digwydd bod, ma nhw'n eitha camp hefyd! Spandex, lledr, mwledi o fri, trwsus leopard-skin, a solos gitar dros ben llestri. Mae'r Darkness ddim yn swnio'n anhebyg i Queen ar eu gore, a dwi'n meddwl eu bod nhw'n mynd i fod yn enfawr. Gwallgo' - ond gwych!

3. Super Furry Animals - Golden Retriever
Sengl newydd y Furries - mae'n catchy a hafaidd a byr a gwych, yn union be ni angen pa ma'r haf yn cyraedd. Sa ni'n disgwyl clywed y band yn chware hon yn Pesda Roc a Glastonbury a gwyl Witness a Move eleni - newydd sylwi; ma nhw'n eitha prysur dros yr haf yn dyden? Ma hwn allan ddechre Gorffennaf.

4. Donnie Darko - Mad World
Dim dyn ydi Donnie Darko, ond ffilm sydd allan i'w phrynu nawr. Mae'r ffilm yn hynod o ryfedd ond gwych, braidd fel American Beauty. Ma'r gân yma yn swnio fel REM, ac yn prysur ddod i fod yn un o'n hoff ganeuon i ar y foment. Tears for Fears nath y gwreiddiol yn yr 80au, ond ma hwn yn swnio mor unig, oeraidd a hudol, ma'n anhygoel. Gallwch ffindio hwn ar soundtrack i'r ffilm Donnie Darko.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.