Ummh, Nick Drake, Play a Manjabi MC

Huw Stephens

Beth sydd ym mocs recordiau Huw yr wythnos hon?

Ar beth yn union mae Huw Stephens yn gwrando wythnos yma, a phwy mae Huw yn meddwl sydd werth eu clywed?

1. Ummh - Amheuthun
Albym newydd y grwp o Aberystwyth sy' allan ar label Recordiau Awen - ma'n dechre gyda Aron o Pep le Pew yn rapio dros ffync hynod o hafaidd y band, ac yn parhau i fod yn un albym sy'n swnio fel slab mawr o ffync. Cymysgedd o hip hop a jazz - Ffyncin Gwych!

2. Nick Drake - Bryter Layter
O bosib yr albym gore iddo sgwennu, dath hon allan yn 1970. Ma'r dylanwad ar fandie fel Belle and Sebastien yn amlwg, a mae'r gerddoriaeth yn emosiynol a hyfryd. Fuodd Nick Drake farw yn ifanc, ond mae ei gerddoriaeth yn dal i hudo....

3. 10p a Play - Artisitiad Amrywiol
CD am ddim gyda'r ffansin dwy-ieithog Viva Sparky ydi hwn, ac yn werth ei chael os yn ffan o gerddoriaeth dawns tanddearol. Mae'r traciau o label Catchpenny o'r Wyddgrug yn ddiddorol a difyr. Anfonwch e-bost at vivasparky@aol.com i gael copi.

4. Panjabi MC - Panjabi MC
Os chi'n cofio Mundian To Bach Ke, sengl oedd yn deg uchaf y siartiau am amser hir, ac yn ei hoffi, fydd albym cynta Panjabi MC yn plesio. Mwy o hip-hop wedi ei gymysgu gyda banghra, a fersiwn Jay Z o'r sengl wych hefyd.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.