Yr Wythnos Fach

Click here to see this page in English
Beth sy'n digwydd?
Bydd Radio 1 yn rhoi'r cyfle i fandiau o Ogledd Cymru berfformio yn Yr Wythnos Fach sy'n rhan o Benwythnos Mawr Radio 1.
Bydd Yr Wythnos Fach yn dathlu'r sîn gerddoriaeth leol, o fandiau gitâr i DJs ac MCs amhrofiadol, a phopeth yn y canol.
Mae cyfuniad anhygoel o artistiaid wedi'u dewis i fod ar banel Yr Wythnos Fach. Mae'r panel yn cynnwys DJs Radio 1, Huw Stephens a Bethan Elfyn, Adam Walton, o BBC Radio Wales Lisa Gwilym, o BBC Radio Cymru a chynhyrchwyr Radio 1.
Mae'r holl DJs sydd ar banel Yr Wythnos Fach yn rhan o'r rhwydwaith BBC Introducing; mae BBC Introducing yn cefnogi artistiaid nad ydynt wedi arwyddo â chwmni recordio ac nad ydynt wedi'u darganfod ledled y DU.
I gael rhagor o fanylion, ewch i bbc.co.uk/music/introducing
Mae'r gigs i gyd am ddim!
Dydd Llun 17 Mai - Central Station, Wrexham
- Gallops myspace.com/thegallopsband
- Polly Mackey & the Pleasure Principle myspace.com/pollymackey
- Trader myspace.com/traderband
- No Room For Heroes myspace.com/nrfhmusic
- DJ Adam Walton bbc.co.uk/wales/radiowales/sites/adamwalton
Adolygiad Gig Yr Wythnos Fach gan Bethan Elfyn
Dydd Mawrth 18 Mai - Speakers Corner, Colwyn Bay
- Leucine myspace.com/weareleucine
- Bastions myspace.com/bstns
- Kick Start Kitty myspace.com/kixxstartkitty
- Die! Chihuaha! Die! myspace.com/diechihuahuadie
Adolygiad Gig Yr Wythnos Fach gan Bethan Elfyn
Dydd Mercher 19 Mai - Morgan Lloyd, Caernarfon
- Mr Huw myspace.com/ymrhuw
- Y Bandana myspace.com/ybandana
- Tim and sams tim and the sam band with tim and sam myspace.com/timandsamstimandthesambandwithtimandsam
- Through Colour myspace.com/thisisthroughcolour
GWYBODAETH AM Y LLEOLIAD
Morgan Lloyd, 10 Y Maes, Caernarfon, Gwynedd LL55 2NF
Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hyn i fynd i'r digwyddiad
Amser: 1900-2300
Dydd Iau 20 Mai - Venue 342, Bangor
- Y Niwl myspace.com/yniwl
- Yucatan myspace.com/yucatanambyth
- Mechanical Owl myspace.com/mechanicalowl
- Messner myspace.com/messnermusic
GWYBODAETH AM Y LLEOLIAD
Venue 342, 342 High Street,Bangor, Gwynedd LL57 1YA
Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hyn i fynd i'r digwyddiad
Amser: 1900-2300
Dydd Iau 20 Mai - Hendre Hall, Bangor
- Sibrydion myspace.com/sibrydion
- Race Horses myspace.com/racehorsesmusic
- Yr Angen myspace.com/532185717
- Crash.Disco! myspace.com/crashdiscomusic
GWYBODAETH AM Y LLEOLIAD
Hendre Hall
Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hyn i fynd i'r digwyddiad
Amser: 1900-2300
Dydd Iau 20 Mai - Greek Taverna, Bangor
- Cyrion myspace.com/cyrionmusic
- Pen-ta-gram myspace.com/pentagramcymraeg
- Tokinawa myspace.com/tokinawa
- Cloud4mations myspace.com/cloud4mations
GWYBODAETH AM Y LLEOLIAD
Greek Taverna, 12-14 Holyhead Road
Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hyn i fynd i'r digwyddiad
Amser: 1900-2300
Dydd Iau 20 Mai - Rascals Cafe Bar, Bangor
- Gallops! myspace.com/thegallopsband
- Masters in France myspace.com/mastersinfrance
- We Are Animal myspace.com/weareanimal
- I Am Austin myspace.com/iamaustinmusic
- Castles myspace.com/ukcastles
- + special guest DJ
GWYBODAETH AM Y LLEOLIAD
Rascals Cafe Bar, 6 Holyhead Road, Bangor LL57 2EG
Amser: 2100-0100
Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hyn i fynd i'r digwyddiad
Yn ogystal â gigs yr Wythnos Fach yn ystod yr wythnos sy'n arwain at Benwythnos Mawr Radio 1, mae BBC Introducing hefyd yn rhoi cyfle i rai cerddorion newydd gael cyngor ac adborth ar eu cerddoriaeth.
Os yw hyn yn apelio atoch chi, darllenwch ymlaen!
Fel y gwyddoch, mae BBC Introducing yn cefnogi cerddorion nad ydynt wedi arwyddo â chwmni recordio ac nad ydynt wedi cael eu darganfod. Fel rhan o Wythnos Fach Penwythnos Mawr Radio 1, maent wedi trefnu dau gyfle gwych i gerddorion newydd lleol yn ardal Bangor.
Cyflwyno demo i gynhyrchwyr a DJs Radio 1 a Radio Cymru!
Yn Cob Records ar Stryd Fawr Bangor ddydd Gwener 21 Mai, bydd Huw Stephens a Bethan Elfyn o Radio 1, Adam Walton o BBC Radio Wales, a Huw Evans o C2 yn aros i wrando ar eich demo! Cewch gyfle i chwarae'ch demo diweddaraf iddynt a byddant yn cynnig adborth ar eich cân - a yw'n gân addas ar gyfer y radio, cyngor ar sut mae cael cyhoeddusrwydd i'r gân...
Bydd angen i chi gofrestru gyda Cob Records yn uniongyrchol ymlaen llaw, naill ai drwy fynd i'r siop neu eu ffonio - Cob Records, 320 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1YA - Awron 'n ddiwall booked - Diolch yn fawr
Clinig Cerddoriaeth gyda Kids in Glass Houses
Ddydd Gwener 21 Mai, bydd Joel a Philip o'r grŵp Kids in Glass Houses yn ymweld á Siop Gerdd John Williams ym Mangor. Felly, os ydych chi'n chwarae gitâr neu gitâr fas, dyma'ch cyfle i sgwrsio â'r hogiau am berfformio, datblygu caneuon newydd, technegau... unrhyw beth dan haul!
Bydd angen i chi gofrestru gyda Siop Gerdd John Williams yn uniongyrchol ymlaen llaw. Gallwch naill ai fynd i'r siop neu eu ffonio - John Williams, 1 Stryd Waterloo, Bangor, LL57 1DS
Caiff slot 15 munud ei neilltuo ar eich cyfer. Caiff slotiau eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Fel y gallwch ddychmygu, dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael ar gyfer y cyfleoedd hyn, felly ewch ati i gofrestru cyn gynted â phosibl. Gallwch wrando ar rai o'r uchafbwyntiau ar sioe Bethan ar Radio 1.
BBC Introducing - Yn cefnogi artistiaid nad ydynt wedi arwyddo â chwmni recordio ac nad ydynt wedi'u darganfod ar draws y BBC www.bbc.co.uk/introducing
