

Dathlu Shostakovich
Nos Wener 3/10/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dmitry Shostakovich
Concerto Rhif 1 i’r Ffidil yn A leiaf 39’
EGWYL: 20 munud
Dmitry Shostakovich
Symffoni Rhif 7 yn C fwyaf, ‘Leningrad’ 69’
Ryan Bancroft arweinydd
Clara-Jumi Kang ffidil
Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 I’w ddarlledu ar November ar In Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Croeso i’r cyngerdd heno, lle rydyn ni’n falch iawn o groesawu ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ôl i arwain dau o gampweithiau Shostakovich, 50 mlynedd ers marwolaeth y cyfansoddwr.
Mae meistrolaeth Shostakovich i’w gweld ym mhobman yn y ddau ddarn cyferbyniol hyn sydd ar y rhaglen heno. Rydyn ni’n dechrau gyda’i Goncerto Cyntaf i’r Ffidil, a ysgrifennwyd ar gyfer y feiolinydd Sofietaidd enwog, David Oistrakh, a oedd yn ôl pob sôn wedi erfyn ar y cyfansoddwr am ychydig o seibiant i ‘sychu’r chwys oddi ar fy nhalcen’. I chwarae’r darn heno, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r cerddor disglair, Clara-Jumi Kang, yn ôl.
I gloi, cawn glywed symffoni epig Shostakovich, ‘Leningrad’. Dyma ddarn a gyfansoddwyd pan oedd yr Ail Ryfel Byd ar ei anterth ac, yn ôl y cyfansoddwr, roedd yn ymateb i ymosodiad y Natsïaid ar Rwsia. Ond fel bob amser, mae gwir destun Shostakovich – protest yn erbyn y gyfundrefn Sofietaidd ei hun o bosibl – yn llawer mwy chwyldroadol nag y mae’n ymddangos i ddechrau. Dyma waith sy’n cydblethu herfeiddiwch, galar a chynddaredd pur.
Mwynhewch!
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Dmitry Shostakovich (1906–75)
Concerto Rhif 1 i’r Ffidil yn A leiaf, Op. 77(1947–55)

1 Nocturne: Moderato
2 Scherzo: Allegro
3 Passacaglia: Andante – Cadenza –
4 Burlesque: Allegro con brio – Presto
Clara-Jumi Kang ffidil
Ysgrifennodd Shostakovich ei Goncerto Cyntaf i’r Ffidil ar adeg gythryblus i ryddid cerddorol yn yr Undeb Sofietaidd. Er bod anhrefn yr Ail Ryfel Byd wedi tynnu sylw awdurdodau Sofietaidd oddi wrth yr alanas a’r treialon er mwyn sioe, erbyn diwedd y 1940au roedd y llywodraeth unwaith eto’n sathru ar fynegiant artistig. Ym mis Chwefror 1948, cyhoeddodd Pwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol gerydd deifiol ynghylch y prif gyfansoddwyr Sofietaidd, a Shostakovich yn eu plith. Cafodd y rhan fwyaf o gerddoriaeth Shostakovich ei gwahardd rhag cael ei pherfformio, a chollodd y cyfansoddwr ei swyddi yn y Conservatoires ym Moscow a Leningrad. Dros y blynyddoedd nesaf bu’n rhaid iddo gefnogi ei deulu drwy ysgrifennu cantatâu gwladgarol a sgorio ffilmiau gwleidyddol uniongred.
Ac eto, daliodd Shostakovich ati i gyfansoddi yn ei ffordd ei hun. Roedd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth Faróc yn tyfu, ac mae hyn i’w weld yn strwythur y concerto hwn: pedwar symudiad am yn ail, araf-cyflym-araf-cyflym. Mae’r Nocturne agoriadol yn brudd, gyda’r unawdydd yn dominyddu mewn brawddegau anghyseiniol dros ben. Ceir adleisiau gwrthbwyntiol gan y baswnau, a lliw ategol gan y chwythbrennau, a cheir llygedyn bach o oleuni wrth i’r selesta seinio hanner ffordd drwy’r symudiad.
Mae’r Scherzo sy’n dilyn yn ddawns wyllt, gyda’r clarinét a’r llinynnau’n goslefu thema 2/4 a ysbrydolwyd gan Klezmer. Hefyd, am y tro cyntaf yn allbwn y cyfansoddwr, mae’r symudiad yn cyflwyno arwyddnod cerddorol Shostakovich: y nodau D–E feddalnod–C–B (sy’n sillafu D–S–C–H mewn nodiant Almaeneg).
Passacaglia wedi’i farcio’n Andante yw’r trydydd symudiad – math o thema ac amrywiadau Baróc, lle mae motiff llinell y bas yn cael ei ailadrodd. Yma, mae’r bas yn ffigur gormesol, wrth i naw amrywiad cynyddol ofidus rifoli yn yr offerynnau eraill.
Mae cadenza brathog yn torri drwy’r tristwch. Yn sgil hyn, mae’r ffidil yn cael ei gollwng rhydd, gan ei gadael hi a’r gwrandawyr yn hongian ar y trothwy. Mae llinell yr unawdydd, sy’n mynd yn fwy a mwy dwys, yn dwyn i gof themâu o symudiadau cynharach – gan gynnwys y motiff D–S–C–H a’r thema Klezmer.
Gyda’r diweddglo’n dal i fynd rhagddo’n swnllyd ac yn wyllt, ychydig iawn o amser y mae’r unawdydd yn ei gael am seibiant. (Yn wir, roedd David Oistrakh – y cerddor gwych yr ysgrifennwyd y gwaith ar ei gyfer – wedi erfyn ar Shostakovich am seibiant i ‘sychu’r chwys oddi ar fy nhalcen’). Mae’r finale, sy’n dwyn y teitl ‘Burlesque’, yn symud gyda churiad di-baid y tympanau, gan ddyfynnu Petrushka gan Stravinsky i roi winc fach slei i’r absẃrd a’r anystywallt.
Nodyn y rhaglen © Margaret Frainier
EGWYL: 20 munud
Dmitry Shostakovich
Symffoni Rhif 7 yn C fwyaf, Op. 60, ‘Leningrad’ (1942)

1 Allegretto
2 Moderato (poco allegretto)
3 Adagio
4 Allegro non troppo
Mae Seithfed Symffoni Shostakovich yn hawlio lle unigryw yn hanes cerddoriaeth symffonig, yn gymaint am y naratifau sy’n gysylltiedig â hi ag am ei chynnwys cerddorol. Dechreuodd ei chyfansoddi yn 1942 pan roddwyd gwarchae ar Leningrad (St Petersburg) gan fyddin y Natsïaid. Roedd gwerth propagandaidd enfawr i’r syniad bod prif gyfansoddwr yr Undeb Sofietaidd yn ysgrifennu symffoni am ddigwyddiadau cyfredol. Roedd ei ffrindiau agos, yn ogystal â’r cyhoedd ar y cyfan, yn croesawu’r syniad bod y Seithfed Symffoni yn ymateb uniongyrchol i’r rhyfel, ac fe sylwodd gweledydd eraill y Cynghreiriaid yn ddigon sydyn ar ymateb brwd cynulleidfaoedd cynnar i’r symffoni.
Gwnaeth Shostakovich bwynt o egluro’r cysylltiadau uniongyrchol rhwng goresgyniad y Natsïaid a thri symudiad cyntaf y symffoni mewn nodiadau a ddosbarthwyd yn eang. Fodd bynnag, cyfaddefodd y cyfansoddwr yn breifat fod y cyfansoddiad wedi’i sbarduno gan agenda lawer ehangach. Roedd ffrind i’r teulu yn cofio Shostakovich yn dweud nad yw ‘cerddoriaeth go iawn fyth ynghlwm wrth thema’. O ystyried sylwadau diweddarach Shostakovich fod y Seithfed Symffoni hefyd yn ymwneud â’r system Sofietaidd, efallai ei bod yn well meddwl am y symffoni hon fel un sy’n ‘ymwneud â dychryn, caethwasiaeth a thrymder ysbryd’, yn hytrach na digwyddiad hanesyddol penodol.
Ysgrifennwyd y symudiad cyntaf ar ffurf sonata afluniaidd, sy’n sefydlu’r syniad o wrthdaro ar unwaith. Mae thema linynnol eang yn cael ei hadleisio gan y chwythbrennau, gan arwain i mewn i ymdeithgan ostinato, sydd wedyn yn cael ei gwrthdroi a’i chwarae mewn rhythm gwn peiriant ar y cyrn mewn datblygiad creulon o ailadroddus. Mae adran fwy myfyriol yn dilyn, gyda basŵn a chlarinét unawdol, ac yna awgrym o ‘Requiem aeternam’ ar y cyrn.
Yr ail symudiad yw’r byrraf o’r pedwar, gyda chwythbrennau ac offerynnau pres main yn torri ar draws ei delynegiaeth dawel. Mae hyn yn arwain at ostinato byr a llwm arall, sydd ychydig yn wahanol i’r symudiad cyntaf. Mae’r telynau’n ceisio chwalu’r rhythm, ond mae’r clarinét bas yn goslefu’r brif alaw, gan arwain at ailadrodd dechrau’r symudiad.
Yn y trydydd symudiad, mae llinynnau cynnes yn cyferbynnu â chwythbrennau cynhyrfus, fortissimo, sy’n cyfleu’r syniad o wrthdaro a brwydro. Mae unawd ffliwt teimladwy yn peri rhagor anesmwythder, gan ffrwydro i mewn i adran ganol y symudiad. Mae’r ffidlau’n ailddatgan thema’r ffliwt mewn unsain, dros gyfeiliant pizzicato. Yna mae adran ganol uchel, wedi’i marcio’n Moderato risoluto, yn dod â’r gerddorfa’n ôl yn gadarn at yr ymdeimlad o ymlafnio a glywir yn eiliadau olaf y symudiad cyntaf.
Mae’r diweddglo’n dechrau’n dawel, gan adeiladu’n araf, nes i’r gerddorfa ddechrau ailddatganiad enfawr o thema agoriadol y symffoni yn C fwyaf. Ategir naws buddugoliaethus hwn gan ddychweliad drwm, sy’n awgrymu bod gwrthdaro a brwydro yn bresennol bob amser.
Oherwydd pwysau’r Seithfed Symffoni a’i hyd (70 i 80 munud) cafodd ei gwawdio gan rai beirniaid am fod yn rhodresgar, ac mae llawer o inc wedi cael ei golli wrth geisio pennu gwir gymhellion Shostakovich. A yw o blaid neu yn erbyn yr Undeb Sofietaidd? Ai galargan i ddioddefwyr yr alanas Stalinaidd ac erchyllterau’r Natsïaid yw hi? Efallai mai’r rheswm bod y gwaith hwn mor bwerus yw am ei fod ‘yn ymwneud’ â’r holl bethau hyn, a mwy.
Nodyn y rhaglen © Margaret Frainier
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.
Thema ac Amrywiadau
Nos Iau 16/10/25, 7:30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Shostakovich Thema ac Amrywiadau
Shostakovich Concerto Rhif 2 i’r Piano
Haydn Symffoni Rhif 6, ‘Le Matin’
Brahms Amrywiadau ar Thema gan Joseph Haydn
Jaime Martín arweinydd
Alim Beisembayevpiano
DYFEISGAR | DYMUNOL | NODEDIG
Mewn ail gydnabyddiaeth i Shostakovich yn hanner canmlwyddiant ei farwolaeth, mae Jaime Martín, Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn cyflwyno rhaglen sy’n cynnwys ei Thema ac Amrywiadau a’i Ail Goncerto i’r Piano.
Yn ei arddegau yr ysgrifennodd y Thema ac Amrywiadau, sy’n datgelu llais ffres a hyderus, tra bo’r concerto hwyrach – a gyfansoddodd fel anrheg pen-blwydd chwareus i’w fab, Maxim – yn gorlifo â’i ffraethineb, ei liw, a’i delynegiaeth.
Gan archwilio rhagor o setiau o themâu ac amrywiadau, mae Amrywiadau ar Thema Haydn gan Brahms yn dangos ei chwilfrydedd â llinach gerddorol, tra bo Chweched Symffoni Haydn ei hun, ‘Le Matin’, yn agor y rhaglen gyda sioncrwydd a swyn.
Bywgraffiadau
Ryan Bancroft arweinydd
Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2018 pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd yn Artist Cyswllt gyda’r Tapiola Sinfonietta ac, ers mis Medi 2023, mae wedi bod yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.
Ar ôl dechrau ar ei gyfnod fel Prif Arweinydd yn Stockholm gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström, roedd ei ail dymor wedi cynnwys perfformiadau o symffonïau gan Mahler a Bruckner, ochr yn ochr â’r perfformiadau cyntaf erioed o weithiau gan Chrichan Larson a Zacharias Wolfe, a chydweithrediadau gydag unawdwyr enwog gan gynnwys Leif Ove Andsnes, Maxim Vengerov a Vikingur Ólafsson.
Y tymor hwn, mae wedi ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Radio Boston a’r Ffindir, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin yn y Berlin Philharmonie, a’r WDR Symphonieorchester yn Cologne.
Mae Ryan Bancroft yn frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble yn Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban, ac yn yr Iseldiroedd.
Clara-Jumi Kangffidil
Marco Borggreve
Marco Borggreve
Cafodd Clara-Jumi Kang ei geni i rieni o Korea a’i magu yn yr Almaen, ac mae hi’n yn enwog yn rhyngwladol am ei dawn gerddorol a’i meistrolaeth. Mae ei gwobrau a’i hanrhydeddau niferus yn cynnwys y wobr gyntaf yng nghystadlaethau ffidil Indianapolis, Sendai a Seoul.
Y tymor hwn, mae hi’n Artist Preswyl gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm. Mae ei huchafbwyntiau diweddar eraill, a’r rhai sydd ganddi ar y gweill, yn cynnwys: ymddangos mewn gwyliau yn yr Hollywood Bowl a Phroms y BBC, ymddangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Salzburg, a pherfformio am y tro cyntaf gydag Accademia Nazionale di Santa Cecilia, Cerddorfa West-Eastern Divan, Cerddorfeydd Symffoni Atlanta a Shanghai, Canolfan Gelfyddydau Genedlaethol Ottawa, a Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd. Mae’n dychwelyd at gerddorfeydd Ffilharmonig Israel a Seoul ac yn perfformio datganiadau ar draws Korea, yn y Boulez Saal yn Berlin, yn Neuadd y Ddinas Hong Kong, ac yn Rhufain a Turin.
Ers perfformio concerto am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Hamburg pan oedd hi’n bump oed, mae hi wedi gweithio gydag arweinwyr blaenllaw, gan gynnwys Paavo Järvi, François Xavier-Roth, Stéphane Denève, Vasily Petrenko, Daniel Harding, Jaap van Zweden, Kazuki Yamada, Eva Ollikainen, Ryan Bancroft, Juanjo Mena, Lahav Shani, Thierry Fischer, Charles Dutoit, Christian Reif, Anja Bihlmaier, Kevin John Edusei a Long Yu. Yn 2012, cafodd ei dewis yn un o’r ‘100 o bobl fwyaf addawol a dylanwadol o Korea’ gan bapur newydd y Dong-A Times, a dyfarnwyd Gwobr Cerddoriaeth Daewon iddi. Yn 2015, cafodd ei henwi’n Gerddor y Flwyddyn Kumho.
Mae ei recordiadau’n cynnwys Modern Solo, albwm o weithiau Brahms a Schumann gyda Yeol-Eum Son, a chylch o sonatau Beethoven gyda Sunwook Kim. Mae hi hefyd yn ymddangos yn rheolaidd mewn gwyliau cerddoriaeth siambr ac yn cydweithio â cherddorion enwog, gan gynnwys Janine Jansen, Gidon Kremer a Mischa Maisky.
Dechreuodd Clara-Jumi Kang chwarae’r ffidil pan oedd yn dair oed ac astudiodd gyda Zakhar Bron, Dorothy DeLay a Christoph Poppen, yn ogystal â chael arweiniad gan Daniel Barenboim.
Mae hi’n chwarae’r Stradivarius ‘Thunis’ o 1702, sydd ar fenthyg yn hael gan KIA.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau CyntafLesley Hatfield blaenwr Jens LynenNick Whiting is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus Suzanne Casey Alejandro TrigoEmilie Godden Ruth Heney **Kerry Gordon-Smith Anna Cleworth Carmel Barber
Žanete Uškāne
Zhivko Georgiev
Anya Birchall
Gary George-Veale
Ail FfidlauAnna Smith *Kirsty Lovie # Ros ButlerSheila SmithMichael ToppingKatherine MillerJoseph WilliamsLydia Caines **Vickie RingguthRoussanka KaratchivievaRowan PattersonSali-Wyn Ryan
Elizabeth Whittam
Frances Richards
FiolâuRebecca Jones *Alex Thorndike # Tetsuumi NagataPeter TaylorLydia AbellCatherine PalmerLowri Taffinder Robert GibbonsLaura Sinnerton Dáire Roberts
Carl Hill
Sharada Mack
SoddgrythauMorwenna Del Mar Jessica Feaver Sandy Bartai
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Rachel FordKathryn Graham Katy Wright
Celia Camacho Carmena
January Johnnsen
Basau DwblDavid Stark *
Christopher Wescott
Emma PrinceAntonia BakewellChris KellyHannah Turnbull
Imogen Fernando
William Priest
FfliwtiauMatthew Featherstone *John Hall †
Lindsey Ellis
Ffliwt Alto
John Hall
Piccolo
Lindsey Ellis †
OboauSteve Hudson *
Amy McKean †Ben Marshall
Cor anglais
Ben Marshall
ClarinetauNicholas Carpenter *Alison Lambert
William White †
Lenny Sayers +**
Raphael Hitchen
Clarinét E feddalnod
William White
Clarinét BasLenny Sayers †+**
BaswnauJarosław Augustyniak *
Rhiannon Carmichael
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
CyrnTim Thorpe *Meilyr HughesJohn DavyFlora Bain
Marcus Bates
Tom Taffinder
Neil Shewan
Dave Ransom
Neil Mitchell
UtgyrnPhilippe Schartz *
Robert SamuelCorey Morris †
Lewis West
Will Morley
Stuart Essenhigh
Giovanni Re
TrombonauDonal Bannister*Simon Wills
David Whitson
Stephen Turton
Martyn Hunter
Trombôn BasDarren Smith †
Tiwba
Richard Evans
Timpani
Steve Barnard *
Offrynnau Taro
Scott Lumsdaine
Rhydian Griffiths
Christina Slominska
Max Ireland
Phil Hughes
Sarah Mason
Sam Jowett
Phil Girling
Telynau
Tomos Xerri
Bethan Semmens
Piano/Celesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran† Prif Offerynnwr‡ Prif Offerynnwr Gwadd# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyolRoedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Daniel Williams
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications



