Cyngherddau Amser Cinio Lesley

Dydd Iau 3/7/25, 2.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Dydd Gwener 4/7/25, 2.00pm

Cadeirlan Casnewydd

Joseph Haydn Symffoni Rhif 64, ‘Tempora mutantur’ 21’

Caroline Shaw Punctum 11’

Antonín Dvořák Serenâd i Linynnau 27’

Does dim egwyl

Lesley Hatfield  cyfarwyddwr/ffidil

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Caiff cyngerdd Neuadd Hoddinott ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol yn Classical Live; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu trwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso i’n cyngerdd heddiw, yr olaf yn y tymor presennol, lle bydd ein blaenwr hoff Lesley Hatfield yn cymryd yr awenau i arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi’i chwtogi, a hynny o safle’r ffidil.

Mae hi’n dechrau gyda Symffoni Rhif 64 Haydn. Llysenw annelwig y gwaith hwn yw ‘Tempora mutantur’, sef ‘Mae amseroedd yn newid’, ac efallai fod hynny’n cael ei adlewyrchu mewn gwaith sydd hyd yn oed yn fwy cyforiog nag arfer o newidiadau sydyn o ran naws a chyfeiriad cerddorol.

Ysgrifennwyd Punctum Caroline Shaw yn wreiddiolar gyfer ei phedwarawd llinynnol hi ei hun, ac mae’n cymryd ysbrydoliaeth o ffotograff penodol; heddiw cawn glywed fersiwn llawnach o’r darn ar gyfer cerddorfa linynnol.

I orffen, Serenâd i Linynnau gan Dvořák, gwaith athrylithgar sy’n llawn alawon hudolus a rhythmau bachog.

Mwynhewch – ac edrychaf ymlaen at eich gweld chi’r tymor nesaf!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Joseph Haydn (1732–1809)

Symffoni Rhif 64 yn A fwyaf, ‘Tempora mutantur’ (c1773)

1 Allegro con spirito
2 Largo
3 Menuet: Allegretto – Trio
4 Finale: Presto

Cyfansoddodd Haydn dros gant o symffonïau, felly does dim rhyfedd bod rhai wedi parhau’n fwy adnabyddus nag eraill. Mae’n debyg bod y rhai a rifwyd yn y pumdegau a’r chwedegau ymhlith y rhai lleiaf cyfarwydd erbyn heddiw, er iddynt fod mor boblogaidd gynt nes denu llysenwau defnyddiol i’w hadnabod: ‘L’Impériale’ (Rhif 53), ‘Der Schulmeister’ (Rhif 55, a fu’n ffefryn gan Benjamin Britten), ‘Feuersymphonie’ (Rhif 59), ‘Il Distratto’ (Rhif 60), ‘La Roxelane’ (Rhif 63) a ‘Laudon’ (Rhif 69). Ond efallai mai’r teitl mwyaf enigmatig oll yw ‘Tempora mutantur’, label a roddwyd i Symffoni Rhif 64, a gyfansoddwyd tua 1773.

Y geiriad Lladin llawn yw ‘Tempora mutantur, nos et mutamur in illis: Quomode? Fit semper tempore peior homo’ – ‘Mae amseroedd yn newid, a ninnau’n newid gyda nhw: Sut? Mae dyn o hyd yn gwaethygu gydag amser’ – epigram gan y bardd ac ysgolfeistr o Gymro, John Owen (c1564–1622), a ddaeth yn ddigon llwyddiannus trwy ei Epigrammata cyhoeddedig i gael ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Nid yw’n glir sut mae ‘Tempora mutantur’ yn uniongyrchol berthnasol i’r symffoni, ond mae’n werth nodi, hyd yn oed yn ôl safonau ffraethineb a gwreiddioldeb Haydn, bod y gwaith yn ymhyfrydu fwy nag erioed mewn tanseilio disgwyliadau ei wrandawyr.

Gwelir hyn yn fwyaf amlwg yn y symudiad araf, sy’n dechrau fel Largo emynaidd i linynnau tawel nodweddiadol o Haydn, ond sydd fel petai’n methu gorffen yr hyn y mae wedi’i ddechrau – fel pe bai’n colli penllinyn brawddeg ar ei chanol. Ceir seibiau, ebychiadau a non sequiturs melodig rhyfedd, sy’n ychwanegu at y naws anesmwythol cyn cyrraedd y diweddglo od o amhendant. Amser wedi’i fwrw oddi ar ei echel, efallai.

O ran y symudiadau eraill, mae’r Allegro con spirito agoriadol yn cyfosod cwestiwn telynegol y feiolinau yn erbyn ateb swta’r gerddorfa lawn – gan wrthdroi’r arfer o gychwyn gwaith yn uchel gydag ateb tawel – ond wedyn mae’n anwybyddu’r gerddoriaeth delynegol honno i bob pwrpas gan bwysleisio yn hytrach ffigwr cyfeiliant y llinynnau isaf. Mae’r Menuet yn camu i mewn ar ôl y Largo synfyfyriol gyda thema nerthol seiliedig ar y rhythm ‘clec Sgotaidd’ nodweddiadol a glywir ar y dechrau, tra bod cyrn uchel yn rhoi teimlad agored braf i’r Trio canolog. Rondo yw’r symudiad olaf, ond mae ei adrannau olynol yn gorgyffwrdd ac yn torri ar draws ei gilydd, gan droi’n annisgwyl i ambell gyweirnod lleiaf gyda gwrthgyferbyniadau deinamig sydyn. A gan mai Haydn yw Haydn, mae’n gwybod yn union pryd i gau’r pen ar y mwdwl, gan adael ei gynulleidfa’n awchu am fwy.

Nodyn y rhaglen © David Threasher

Caroline Shaw (ganed 1982)

Punctum (2009, trefn. 2022)

Yn y bôn, ymarferiad mewn nostalgia yw Punctum, wedi’i ysbrydoli gan ddisgrifiad Roland Barthes o’r ‘annisgwyl’ mewn ffotograffau ac yn enwedig gan ei ddisgrifiad estynedig o’r llun anniffiniadwy ‘Winter Garden’ yn ei gyfrol Camera Lucida o 1980. Trwy ddilyniannau modiwlaidd a gysylltir â’i gilydd heb gyd-destun, mae’r darn yn archwilio ffordd o lenwi’r palet â chlasuriaeth heb roi ffurf iddi, ac o gymylu eglurder dilyniant harmonig er mwyn ei atgyfnerthu’n ddiweddarach.

Gellid dweud hefyd fod y darn yn cyfeirio at y teimlad a ysgogir gan lywydd eilaidd penodol yn Y Dioddefaint yn ôl SantMathew gan Bach.

Nodyn y rhaglen © Caroline Shaw

Antonín Dvořák (1841–1904)

Serenâd i Linynnau yn E fwyaf(1875)

1 Moderato
2 Tempo di valse
3 Scherzo: Vivace
4 Larghetto
5 Finale: Allegro vivace

Er mai perfformiadau cerddorol i ddenu serch merched sydd wrth wraidd ffurf y serenâd, ymhen dim roedd y term yn cael ei gysylltu â gweithiau offerynnol aml-symudiad a oedd wedi’u cynllunio i roi profiad gwrando braf a hamddenol.

Mae’n arwyddocaol, mae’n debyg, fod Dvořák wedi ysgrifennu ei Serenâd i Linynnau mewn cyfnod pan oedd eisoes wedi treulio’r rhan orau o ddegawd yn ysgrifennu symffonïau pwysfawr mewn ymgais i ddangos y gallai hawlio perthyn i’r olyniaeth Glasurol o gyfansoddwyr fel Beethoven, Schubert a Mendelssohn. Ond erbyn cyrraedd ei dridegau cynnar, ac yntau wedi cynhyrchu pedair symffoni uchelgeisiol (a dim ond un ohonynt wedi’i pherfformio yn ei chyfanrwydd erbyn hynny), mae’n debyg ei fod wedi pwyso a mesur ei waith hyd yma ac wedi penderfynu efallai fod angen ychydig bach o newid cyfeiriad.

Nodyn y rhaglen © Paula Kennedy

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dyma ddigwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Beethoven 5

Dydd Sul 21/9/25, 3.00pm
Glan yr Afon, Casnewydd

Williams Hen Walia
Dvořák
Concerto i’r Ffidil
Beethoven Symffoni Rhif 5

Nil Venditti arweinydd
Inmo Yang ffidil

DRAMATIG | TRAWIADOL | LLAWN CYMERIAD

Yn ffefryn gyda chynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, bydd Nil Venditti yn camu i’r llwyfan yng Nghasnewydd ym mis Medi gyda rhaglen o glasuron poblogaidd.

Mae Hen Walia gan Grace Williams, a anwyd yn y Barri, wedi’i ysbrydoli gan alawon gwerin, a’r hwiangerdd Huna Blentyn yn pefrio yng nghalon y gwaith. Yn dilyn cyffro ymddangosiad cyntaf y feiolinydd Inmo Yang gyda Cherddorfa Gymreig y BBC, pleser o’r mwyaf yw ei groesawu’n ôl i berfformio Concerto rhamantaidd cynnes Dvořák i’r Ffidil. I gloi, cawn glywed yr agoriad enwocaf, o bosib, i unrhyw ddarn o gerddoriaeth glasurol, sef Pumed Symffoni Beethoven – campwaith symffonig sy’n cyfuno rhythmau nerthol â drama, tywyllwch a disgleirdeb.

Ymdeithio ac Ymhyfrydu

Nos Iau 25/9/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Schumann, trefn. Donal Bannister Pedair Ymdeithgan
Finzi Concerto i’r Clarinét
Franck Symffoni yn D leiaf

Gergely Madaras arweinydd
Nicholas Carpenter clarinét

GODIDOG | GWRESOG | GORFOLEDDUS

Mewn rhaglen sy’n rhoi’r llwyfan yn gyfan gwbl i’n cerddorion gwych, fe gychwynnwn ein tymor 2025-26 yn Neuadd Hoddinott y BBC trwy roi’r sylw ar ein hadran bres – mae Pedair Ymdeithgan Schumann, a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer piano unigol, yn gwneud argraff rymus yn y trefniant hwn gan ein Prif Trombonydd Donal Bannister. Mae Concerto Finzi i’r Clarinét, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Henffordd yng Ngŵyl y Tri Chôr ym 1949, yn dal i fod yn un o’i weithiau mwyaf poblogaidd. I berfformio’r darn teimladwy a meistrolgar hwn, bydd Prif Glarinét Cerddorfa Gymreig y BBC, Nicholas Carpenter, yn camu i’r sbotolau.

Mae’r arweinydd Gergely Madaras yn cloi’r noson gyda Symffoni Franck yn D leiaf – ei waith mawr olaf a’i unig symffoni. Yn dilyn themâu telynegol tyner a llawen y symudiad cyntaf cawn ail symudiad sy’n cyfuno llinynnau pizzicato o dan unawd hudolus ar y cor anglais gyda dau drio scherzo. Mae symudiad olaf y symffoni’n ailweithio themâu blaenorol mewn modd hynod ddyfeisgar, a’r effaith yn orfoleddus.

Bywgraffiadau

Lesley Hatfield cyfarwyddwr/ffidil

James Fear

James Fear

Mae Lesley Hatfield yn byw bywyd cerddorol amrywiol, sy’n cyfuno ei rôl fel blaenwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC â cherddoriaeth siambr, perfformio fel unawdydd, ac addysgu. Yn ystod ei gyrfa gynnar, fel cerddor siambr ac aelod o Gerddorfa Siambr Ewrop, bu’n gweithio gyda dau a gafodd ddylanwad parhaol ar y ffordd mae’n edrych ar gerddoriaeth, sef Sándor Végh a Nikolaus Harnoncourt. Roedd yn gyd-flaenwr yn y Northern Sinfonia ac yn flaenwr yng Ngherddorfa Ulster cyn ymgymryd â’i rôl bresennol yn 2004.

Mae cerddoriaeth siambr wedi bod yn rhan bwysig o’i bywyd cerddorol erioed. Mae’n aelod o Ensemble Gaudier ac mae’n cymryd rhan yn rheolaidd fel gwestai mewn amrywiaeth eang o wyliau cerddoriaeth siambr ac ensembles. Fe’i gwahoddir yn rheolaidd i berfformio yn y Seminar Cerddorion Rhyngwladol ar Gerddoriaeth Siambr Agored yn Prussia Cove ers 1986, ac mae bellach yn ymwneud yn agos â’r mentrau a redir gan IMS yn y gymuned ehangach yng Nghernyw. Mae wedi ymddangos fel blaenwr gwadd, unawdydd a chyfarwyddwr gyda sawl cerddorfa ar draws y DU ac yn Ewrop, mae wedi recordio ar gyfer labeli blaenllaw, ac mae i'w chlywed yn rheolaidd ar BBC Radio 3.

Yn rhinwedd ei swydd gyda BBC NOW, mae wedi chwarae rhan ganolog yng nghymuned gerddorol ffyniannus Cymru ers dros 20 mlynedd, ac wedi bod yn eiriolwr dros bwysigrwydd cerddoriaeth i bawb er lles y meddwl a’r enaid.

Mae galw mawr amdani fel athro, ac mae’n cyfrannu’n frwd fel Noddwr Creu Cerddoriaeth, Newid Bywydau, sef elusen yng Nghaerdydd sydd â’r nod o drawsnewid bywydau plant a’u cymunedau drwy gerddoriaeth a’r cyfle i ddysgu chwarae offerynnau. Mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Albert ac Eugenie Frost, sy’n cefnogi chwaraewyr llinynnau ifanc ac yn annog cerddoriaeth siambr ar bob lefel ym mhob cwr o’r DU, yn ogystal â galluogi’r rhaglen preswyliadau nodedig i bedwarawd llinynnol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae Lesley Hatfield yn Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Fiona McCapra
Gwenllian Haf MacDonald
Terry Porteus
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Ruth Heney
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Michael Topping
Kathrine Miller
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines
Ilze Abola

Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Lydia Abell
Anna Growns
Robert Gibbons
Catherine Palmer

Soddgrythau
Jessica Burroughs ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Rachel Ford
Carolyn Hewitt

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Emma Prince

Oboau
Amy McKean
Rachel Harwood-White

Cyrn
John Davy
Meilyr Hughes

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Daniel Williams
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications