

Shostakovich 9 gyda Christoph König
Nos Iau 13/3/25, 7.30pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Nos Wener 14/3/25, 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones, Bangor

Maurice Ravel
Le tombeau de Couperin 17’
Anna Clyne
Glasslands 22’
EGWYL: 20 munud
Louise Farrenc
Agorawd Rhif 2 7’
Dmitry Shostakovich
Symffoni Rhif 9 27’
Christoph König arweinydd
Jess Gillam sacsoffon soprano
Caiff y cyngerdd yn Aberystwyth ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol yn In Concert; caiff y cyngerdd ym Mangor ei recordio i’w ddarlledu yn y dyfodol yn Classical Live. Byddant ar gael am 30 diwrnod ar ôl eu darlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’n cyngerdd heno, rhan o daith wanwyn Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, lle bydd Christoph König yn arwain rhaglen amrywiol, o weithiau Rhamantaidd dramatig i gerddoriaeth hollol gyfoes. Byddwn yn agor a chloi’r noson gyda dau gyfansoddwr sy’n destun dathlu arbennig eleni. I nodi 150 o flynyddoedd ers geni Ravel, cawn berfformiad o’i gyfres ddihafal Letombeau de Couperin, darn lle mae’n coffáu ffrindiau a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n 50 mlynedd hefyd ers marwolaeth Shostakovich ac mae ei Nawfed Symffoni yn waith mor gryno nes synnu ei gynulleidfaoedd cynnar, ond yn waith sy’n llawn cyferbyniad cerddorol.
Arloeswraig yn meddu ar ddoniau arbennig iawn oedd Louise Farrenc, o Baris. Doedd ganddi ddim ofn tresmasu ym myd cerddoriaeth gerddorfaol (a ystyrid yn fyd dynion yn bennaf yn y 19eg ganrif). Cyfansoddodd symffoni a dwy agorawd, a chawn glywed yr Ail heno. O’r nodyn cyntaf, mae ysgrifennu hynod fedrus Farrenc a’i chlust am ddrama yn amlwg iawn.
Ac i ddod â ni i’r presennol, mae’r ddigymar Jess Gillam yn ymuno â ni i chwarae concerto newydd i sacsoffon soprano – Glasslands gan AnnaClyne, a ysbrydolwyd gan y cennad angau chwedlonol: y banshee.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Maurice Ravel (1875–1937)
Le tombeau de Couperin(1914–17, trefn. 1919)

1 Prélude
2 Forlane
3 Menuet
4 Rigaudon
Cyfres ar gyfer piano oedd Le tombeau de Couperin i gychwyn. Dechreuodd Ravel weithio arni ym 1914, ond torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei draws ac ni chwblhawyd y darn tan 1917. Roedd chwe symudiad – Prélude, Fugue, Forlane, Rigaudon, Menuet a Toccata – wedi’u modelu ar ddawnsiau Baróc Ffrengig ac wedi’u cyd-gyflwyno er cof am ei ffrindiau a laddwyd yn y rhyfel. Yn 1919, sgoriodd y cyfansoddwr bedwar o’r symudiadau hyn ar gyfer cerddorfa fach.
Sut gall gweithiau cerddorol goffáu anwyliaid orau? Nid cyfres o farwnadau yw Tombeau Ravel. Nid yw ychwaith wedi’i fwriadu fel cyfres o bortreadau personol. Yn hytrach, ceir ymdeimlad annelwig o hiraeth, o fydoedd coll a phethau diflanedig. Mae teyrngedau soffistigedig Ravel yn anrhydeddu atgofion am bobl heb eu cloi mewn ambr, ac mae’r canlyniad yn aml yn symud rhywun, yn nau ystyr y gair.
Yn y Prélude, mae llif cyson y nodau fel cylch diderfyn. Dawns werin fywiog, gyflym o Fenis oedd y Forlane ond mae fersiwn Ravel yn wahanol gyda thempo cymedrol, rhythmau swynol a mynegiant llithrennog braidd. Mae’r Menuet yn annwyl ac ar yr un pryd yn urddasol. Ar wahân i’r fugeilgan sy’n ffurfio’i hadran ganol, nodweddir y Rigaudon gan seiniau llachar ac elfennau dawnsiol, sy’n creu diweddglo afieithus i’r gwaith.
Nodyn y rhaglen © Lucía Camacho Acevedo
Anna Clyne (ganed 1980)
Glasslands(2022)

Jess Gillam sacsoffon soprano
Irai, gall cyfansoddi fod yn waith unig, ond mae Anna Clyne yn dibynnu ar ei chysylltiadau â phobl eraill. ‘Cydweithio sy’n tanio llawer o’m darnau,’ meddai. ‘Mae’n ffynhonnell ysbrydoliaeth ac yn gyfle i weld fy ngherddoriaeth a ’mhroses greadigol fy hun drwy lens wahanol.’ Dros y pum mlynedd diwethaf, mae hi wedi ehangu ei chatalog o goncertos yn ddramatig fel hyn, gan gydweithio ar weithiau newydd ar gyfer ffidil, piano, clarinét, soddgrwth a sacsoffon. Ym mhob darn, mae wedi ceisio herio rôl draddodiadol yr unawdydd concerto ac ymdrechu, yn ei geiriau ei hun, ‘i sicrhau cywaith yn hytrach na brwydr rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa’.
Ac nid eithriad mo’i choncerto i sacsoffon soprano a cherddorfa, Glasslands. Ar draws ei dair rhan, mae llinell yr unawdydd yn rhedeg drwy’r gerddorfa fel edau troellog, ariannaidd. Mae’n dal i fod yn llwyfan i’r offeryn yn ystyr draddodiadol y concerto, ond yng nghyfansoddiad Clyne mae’r sacsoffon yn integreiddio’n ddi-dor gyda’r gerddorfa mewn deialog bersain o lanw a thrai, yn llachar un munud, ac ynghudd y nesaf. Fel llawer o weithiau Clyne, mae Glasslands wedi’i ysbrydoli gan lên gwerin. Fel mae hi’n esbonio: ‘Mae Glasslands yn llunio byd dychmygol o dair teyrnas dan lywodraeth y banshee – ysbryd benywaidd sydd, yn chwedloniaeth Iwerddon, yn rhagargoeli marwolaeth aelod o’r teulu, fel arfer trwy wylofain, oernadu neu ddolefain yn nhawelwch y nos.’
Sgrech iasol y banshee yw’r sain gyntaf a glywn ni: cri gythryblus o fraw sy’n gychwyn ar gyfres wyllt o oernadau, dolefau a galarnadau. Ac eto, hyd yn oed wrth i’r banshee wibio’n ôl a blaen yn wyllt gyda’i neges daer, ceir ambell gip gogleisiol ar rywbeth mwy ysbrydol yn yr enydau rhwng y gwibio. Mae’r synnwyr llonyddwch tawel, hypnotig hwn yn cymryd mwy o siâp yn yr ail ran dawel, gan ymgorffori tawelwch y nos – neu efallai marwolaeth ei hun. Ond y rhan olaf yw’r un sy’n cau’r cylch yn gyfan, yn gyfuniad o’r ddwy gyntaf i bob pwrpas. Yma, mae Clyne yn ein cludo i deyrnas hudolus, arallfydol sy’n pefrio â sain y fibraffon a’r llinynnau pizzicato, rhyw le sydd y tu hwnt i’r bywyd daearol hwn. Mae banshee y deyrnas hon yn fwy o dylwythen deg chwareus, a’i gwylltineb wedi’i dreulio bron i gyd – tan inni glywed, ar yr ennyd olaf un, ei sgrech ddolefus un waith eto.
Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride
EGWYL: 20 munud
Louise Farrenc (1804–75)
Agorawd Rhif 2(1834)

Ganwyd Louise Dumont ym 1804 – bum mis ar ôl Berlioz – i deulu nodedig o artistiaid ym Mharis (sawl un ohonynt yn fenywod), ac roedd hi’n bianydd ifanc dawnus iawn a aeth i astudio yn y Paris Conservatoire yn 15 oed. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, priododd ŵr cariadus a chefnogol, Aristide Farrenc, oedd yn ffliwtydd a chyfansoddwr a helpodd i hyrwyddo’i chyfansoddiadau ac yn ddiweddarach i olygu casgliad enfawr o gerddoriaeth gynnar i allweddellau – o Lyfr Firdsinalau Fitzwilliam i Frescobaldi a Couperin – o’r enw Le Trésor des pianistes. Yn ystod y 1820au a’r 1830au, daeth Louise Farrenc yn fwyfwy enwog nid yn unig fel perfformiwr, ond hefyd fel cyfansoddwr cerddoriaeth i allweddellau. Cafodd ei chanmol gan feirniaid yn Ffrainc a thu hwnt (Robert Schumann, er enghraifft) am ei chrefft a’i hysgrifennu chwaethus. Ac erbyn canol y 1830au, penderfynodd Farrenc roi prawf ar ei gallu mewn maes cyfansoddi newydd: cerddoriaeth gerddorfaol.
Yn 1834 cyfansoddodd Farrenc ddwy agorawd gyngerdd. Yr ail a glywn ni heno: yr ‘Ouverture à Grand Orchestre’ yn E feddalnod fwyaf, a orffennwyd yn gynnar ym mis Rhagfyr a chael ei berfformiad cyntaf y flwyddyn ganlynol. Mae’n waith mawreddog fel sy’n gweddu i’w adnoddau cerddorfaol sylweddol, gyda chyflwyniad araf urddasol sy’n dechrau yn E feddalnod leiaf ac sydd fel petai’n adleisio agorawd Don Giovanni Mozart yn rhythmau dotiog a seibiau cythryblus ei fariau agoriadol. A gyrhaeddwn ni fyth y cywair mwyaf a addawyd yn nheitl y gwaith? Hyd yn oed yn ychydig fariau cyntaf yr Allegro nid yw’n gwbl glir, wrth i gordiau lleiaf ddal i ymyrryd yn y gerddoriaeth bob tro yr ymddengys fod cymylau’r storm wedi clirio o’r diwedd. Yma, hefyd, mae yna rywbeth operatig am yr egni, y gweadau prysur, a hyd yn oed themâu telynegol hardd y chwythbrennau pan ymddangosant o’r diwedd. (Roedd Paris, wedi’r cyfan, yn ddinas oedd yn gaeth i’w thai opera yn y 1830au, a Meyerbeer yn frenin arnynt tra oedd Berlioz yn brwydro i gael llwyfan i’w weithiau.) Wrth i’r agorawd fynd yn ei blaen, mae Farrenc ar brydiau’n lleihau’r grymoedd cerddorfaol i’r eithaf, a darnau siambraidd yn cael eu hamlygu’n sydyn cyn i rym y gerddorfa lawn ailymddangos. Ceir diweddglo dramatig i’r gerddoriaeth yn ei chywair gwreiddiol.
Mae’n debyg i Aristide ymdrechu i gael cwmni nodedig Peters yn Leipzig i gyhoeddi’r Agorawd hon a’i chymar yn E leiaf, ond yn anffodus ni wireddwyd hynny. Serch hynny, perfformiwyd yr agorawd hon, o lawysgrif, ym Mharis (sawl gwaith) a hefyd yn Copenhagen, lle cafodd ei chynnwys mewn cyngerdd yn y Theatr Frenhinol a chael derbyniad mor wresog nes cael ei hailadrodd ar gais yn Llys Denmarc ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.
Nodyn y rhaglen © Katy Hamilton
Dmitry Shostakovich (1906–75)
Symffoni Rhif 9 yn E feddalnod fwyaf, Op. 70(1945)

1 Allegro
2 Moderato
3 Presto –
4 Largo –
5 Allegretto – Allegro
Cyhoeddodd Shostakovich yn wreiddiol y byddai ei Nawfed Symffoni yn ddathliad o fuddugoliaeth y Sofietiaid dros y Natsïaid, yng ngwir arddull arwrol Sosialaeth Realaidd. Yn wir, roedd ei Seithfed ac Wythfed Symffonïau ill dwy wedi bod yn aruthrol o ran maint, felly mae’n siŵr bod ei wrandawyr wedi disgwyl rhywbeth tebyg o ran cwmpas a mawredd. Ond rhywbeth tra gwahanol oedd y symffoni a ddaeth i’r golwg yn y pen draw. Roedd hi’n fyr, yn un peth – mae’r symffoni gyfan yn para llai o amser na symudiadau unigol yn y Seithfed a’r Wythfed. Roedd ar raddfa fach hefyd – yn wir, rhoddwyd y label ‘Clasurol’ iddi oherwydd ei ffurf a’i chymeriad. Nid dyma’r symffoni arwrol yr oedd Shostakovich wedi arwain y cyhoedd i’w disgwyl, ac roedd yntau’n gwybod hynny. ‘Bydd cerddorion wrth eu bodd yn ei chwarae, a bydd beirniaid wrth eu bodd yn ei lambastio,’ meddai Shostakovich yn ddi-hid.
Mae Clasuriaeth y symffoni hon yn fwyaf amlwg yn ei symudiad cyntaf, sy’n dilyn ffurf sonata gaeth y 18fed ganrif i lawr i’r dangosiad ailadroddus. Yn fwyaf nodedig, mae’r trombôn yn ailadrodd ffanffer bach yn aml yn union pryd na ddylai, fel pan fydd yn torri ar draws cyflwyniad y piccolo uchel o ail thema’r symudiad. Yma mae fel petai’r cyfansoddwr yn wincio: ‘Siŵr iawn, mi alla i ddilyn y rheolau – weithiau.’
Mae’r ail symudiad yn dywyllach, er mai mater i’r arweinydd yw pa mor dywyll a thrwm ydyw yn ymarferol. Eto, mae’n gyferbyniad i’r symudiad cyntaf llon, hyd yn oed os yw’n dal wedi’i wreiddio mewn rhyw fath o fyd dawns. Gallai thema ailadroddus y clarinét fod yn waltz, heblaw bod y rhythm weithiau’n cael ei dorri gan oediad petrus, un curiad. Mae fel petai’r cyfansoddwr yn llusgo’i draed yma: ‘O, o’r gorau, mi ddilyna’ i’r rheolau ’te.’
Caiff y tri symudiad olaf eu chwarae’n ddi-dor. Mae’r Presto scherzoaidd yn symud yn hynod o gyflym o fod yn wantan a gwibiol i fod yn bowld ac aflafar, ond mae’n marw’n ddim bron mor gyflym ag y chwyddodd. Yna mae’r Largo’n chwalu holl olion yr alaw flaenorol, wrth i drombonau a thiwbas (o bob peth!) lafarganu’n lleddf cyn unawd basŵn lawn enaid. Wedyn caiff hyn ei ailadrodd, a’r unawd basŵn yn ysgafnhau’n Allegretto hwyliog sydd fel petai’n methu penderfynu a ddylai fod yn ddawns, fel agoriad y symffoni, neu’n orymdaith. ‘O’r diwedd,’ ochneidia’r cyfansoddwr, ‘dyma’r arwr a addewais i – falle.’
Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Diwygiad ac Adfywiad
Ffrwd fyw
Nos Iau 15/5/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Mozart Priodas Figaro – agorawd
Jörg Widmann Concerto i’r Ffidil Rhif 2 première y DU
Mendelssohn Symffoni Rhif 5, ‘Diwygiad’
Jörg Widmann arweinydd
Carolin Widmann ffidil
STEILUS | DRAMATIG | BYRLYMUS
Mae sibrydion prysur a chyffro byrlymus yn arwain at uchafbwyntiau gwefreiddiol yn agorawd bythol boblogaidd Mozart i’w opera Priodas Figaro. Yn llawn ffraethineb, hwyl a llawenydd, dyma’r agoriad perffaith i unrhyw gyngerdd. Ysgrifennwyd Pumed Symffoni Mendelssohn i nodi 300 mlynedd ers geni’r Diwygiad Protestannaidd; mae’n teithio trwy ffrwydradau dramatig, unawdau tebyg i ariâu a choralau hwyliog tuag at fuddugoliaeth yn wyneb diwygiad. I arwain, rydym yn falch iawn o groesawu Jörg Widmann, sy’n arwain Cerddorfa Gymreig y BBC am y tro cyntaf.
Mae’r feiolinydd Carolin Widmann wedi gwneud enw iddi’i hun yn rhyngwladol fel un o berfformwyr gorau’r repertoire Clasurol a Rhamantaidd, felly ni ddylem synnu o ddeall fod ei brawd Jörg, pan oedd y ddau’n ifanc, wedi pwyso arni i roi cynnig ar dechnegau estynedig, a hithau’n dweud wrtho am gallio! Ysgrifennodd yntau ei Ail Goncerto i’r Ffidil a’i gyflwyno’n arbennig i Carolin, ac ynddo, mae llinell yr unawdydd yn gweithredu fel yr adroddwr, gan roi ei lais ei hun i’r ffidil ac arbrofi gyda’r arddull Ramantaidd virtuoso sydd mor hoff gan Carolin.
Bywgraffiadau
Christoph König arweinydd
Mae Christoph König yn dechrau ei gyfnod fel Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Teledu ac Radio Sbaen (RTVE) ym Madrid yn nhymor 2023/24 ac mae wedi bod yn Brif Arweinydd a Chyfarwyddwr Cerdd y Solistes Européens Luxembourg ers 2010. Ar ddechrau’r tymor hwn daeth yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Ffilharmonig Warsaw. Mae galw mawr amdano fel arweinydd gwadd ledled y byd. Ers ei ymddangosiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 2010 mae wedi arwain nifer o gerddorfeydd Gogledd America, gan gynnwys cerddorfeydd Symffoni Houston, Indianapolis, New Jersey, Oregon, Pittsburgh a Toronto, yn ogystal â’r Los Angeles Philharmonic.
Ymhlith uchafbwyntiau a fu ac sydd i ddod mae ymddangosiadau gyda cherddorfeydd Bournemouth a Dinas Birmingham, Cerddorfa BBC yr Alban, Cerddorfeydd Cenedlaethol Colombia a Denmarc, cerddorfeydd symffoni New Jersey a Seland Newydd; cerddorfeydd Ffilharmonig Dresden, yr Iseldiroedd, Rochester, Brenhinol a Stuttgart, Staatskapelle Dresden, Orchestre de Paris, Cymdeithas Gyngerdd Fienna, Cerddorfa Mozarteum Salzburg, Cerddorfa Beethoven, Bonn, a Cherddorfa Radio Genedlaethol Rwmania.
Rhwng 2009 a 2014, ef oedd Prif Arweinydd yr Orquestra Sinfónica do Porto Casa da Música. O 2003 i 2006 gwasanaethodd fel Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Malmö, a hefyd fel Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Ffilharmonig Gran Canaria.
Mae Christoph König wedi cydweithio â llawer o dai opera enwocaf y byd, gan gynnwys Zurich Opera, Deutsche Oper Berlin, Bonn Oper, Semperoper Dresden, Staatsoper Stuttgart a Teatro Real Madrid.
Mae wedi recordio gweithiau sy’n cynnwys cylch Beethoven, yn ogystal â cherddoriaeth gan Berio, Brahms, Copland, Dvořák, Ives, Méhul, Melcer a Schubert.
Ganwyd Christoph König yn Dresden a chanodd yng Nghôr Bechgyn enwog y ddinas. Astudiodd arwain, piano a chanu yn y Musikhochschule Dresden gan astudio ymhellach mewn dosbarthiadau meistr gyda Sergiu Celibidache a Colin Davis, a daeth yn gynorthwyydd i’r olaf yn ddiweddarach yn y Semperoper Dresden.
Jess Gillam sacsoffon soprano
Mae Jess Gillam yn cael ei chydnabod yn un o’n prif sacsoffonwyr. Cafodd ei gwahodd i chwarae ar lwyfannau mawr y byd ers perfformio yn Noson Olaf y Proms, yr unawdydd ieuengaf erioed i wneud hynny. Yr un mor gartrefol y tu ôl i’r meicroffon, hi yw’r cyflwynydd ieuengaf erioed ar BBC Radio 3 lle mae ei sioe wythnosol, This Classical Life, wedi ennill gwobrau.
Mae hi’n frwd dros ehangu’r repertoire ar gyfer y sacsoffon ac mae premières y tymor hwn yn cynnwys y gwaith y mae’n ei berfformio heno, Glasslands gan Anna Clyne, a Choncerto Dani Howard i’r Sacsoffon gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.
Ymhlith uchafbwyntiau ei hymddangosiadau concerto mae cyngherddau gyda cherddorfeydd Symffoni y BBC, Gothenburg, Houston, Gwlad yr Iâ, Lahti, Llundain a Sydney, cerddorfeydd Ffilharmonig Llundain a Munich, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Cherddorfa Minnesota, ymysg eraill.
Ar y llwyfan datganiad, mae Jess Gillam wedi perfformio ar draws Ewrop, yr Unol Daleithiau a thu hwnt. Yn un o Sêr Newydd ECHO yn nhymor 2022/23, ymddangosodd yn rhai o neuaddau cyngerdd gorau Ewrop. Mae hi wedi rhoi datganiadau hefyd yng ngwyliau Kissinger Sommer, Schleswig-Holstein a Heidelberger Frühling. Yn dilyn ei hymddangosiad cyntaf yn Neuadd Carnegie yn nhymor 2022/23 a datganiadau yng Ngŵyl Aspen a Celebrity Series Boston, mae hi’n dychwelyd i’r Unol Daleithiau y tymor hwn.
Mae cydweithio’n elfen ganolog i’w cherddoriaeth ac fe ffurfiodd y Jess Gillam Ensemble yn 2019 er mwyn cymryd ysbrydoliaeth o wahanol fydoedd cerddorol.
Mae ganddi gontract recordio ecsgliwsif a chyrhaeddodd ei dwy albwm Rise a Time y brig yn Siartiau Cerddoriaeth Glasurol y Deyrnas Unedig.
Yn 2016, Jess Gillam oedd y sacsoffonydd cyntaf i gyrraedd rowndiau terfynol Cerddor Ifanc y BBC. Mae hi wedi ennill Gwobr Classic BRIT a dyfarnwyd MBE iddi yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines yn 2021. Yn Ulverston yn Cumbria y mae ei gwreiddiau, ac mae hi’n dal i hyrwyddo’i chyfres ei hun o gyngherddau, a sefydlwyd ganddi yn 12 mlwydd oed, yn ei thref enedigol.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr Nick Whiting + blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jonesis-flaenwrGwenllian Hâf MacDonald
Terry PorteusSuzanne CaseyŽanete UškāneCarmel BarberJuan GonzalezAlejandro Trigo
Anna CleworthRuth Heney **
Ail FfidlauAnna Smith *Ros ButlerSheila SmithBeverley WescottJoseph WilliamsMichael ToppingVickie RingguthKatherine MillerLydia Caines **Roussanka Karatchivieva
FiolâuRebecca Jones *Tetsuumi NagataPeter TaylorLowri TaffinderRobert GibbonsLydia AbellAnna GrownsCatherine Palmer
SoddgrythauWilliam Clark-MaxwellRaphael LangSandy BartaiKeith HewittAlistair HowesRachel Ford
Basau DwblAna Cordova ‡ Christopher WescottRichard GibbonsEvangeline Tang
FfliwtiauFederico Paixao ‡ John Hall †Lindsey Ellis **
PiccoloLindsey Ellis * **
OboauSteve Hudson *Amy McKean †
Cor anglaisAmy McKean †
ClarinetauNicholas Carpenter *Will White
BaswnauJarosław Augustyniak *Rebecca Allen
Jo Shewan
CyrnTim Thorpe *Meilyr HughesNeil Shewan Dave Ransom
James Chesney
UtgyrnCorey Morris †
Louis Barclay
TrombonauDonal Bannister *Dafydd Thomas †
Trombôn BasTom Pilsbury
TiwbaDaniel Trodden †**
TimpaniMatthew Hardy
Offerynnau Taro Phil HughesPhil Girling
Y DelynAnwen Mai Thomas
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +**
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol swydd wag
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications




