Meseia

ffrwd fyw

Nos Iau 12/12/24, 7.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

George Frideric Handel
Meseia 159’

Bydd 20 munud o egwyl ar ôl Rhan 1


John Butt arweinydd
Fflur Wyn soprano
Marta Fontanals-Simmons mezzo-soprano
Joshua Ellicott tenor
James Atkinson bariton
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 a BBC Radio Cymru i’w ddarlledu yn y dyfodol; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol. Yn ogystal â hyn, mae’n cael ei ffrydio’n fyw ar wefan BBC NOW.

Cyflwyniad

Llun: Kirsten McTernan

Llun: Kirsten McTernan

Croeso cynnes i’r cyngerdd heno, sy’n cynnwys un campwaith: Y Meseia ganHandel. Mae’r gwaith hwn mor ganolog i’r repertoire, fel ei bod yn hawdd anghofio iddo gael ei ysgrifennu ar adeg pan nad oedd llawer o fri ar waith Handel. Roedd wedi gadael Llundain â’i gynffon rhwng ei goesau, ar ôl diffyg llwyddiant ei dymor opera olaf. Aeth i Ddulyn gan fynd â sgôr gwaith y Meseia gydag ef. 

Roedd yn waith chwyldroadol mewn sawl ffordd: gan ddefnyddio darnau o’r Beibl yn unig, manteisiodd Handel i’r eithaf ar ei brofiad fel cyfansoddwr opera i greu drama gyffrous, gyda’r corws yn ysgwyddo rôl anghyffredin o ganolog. I’r cymysgedd, ychwanegodd y gŵr cosmopolitaidd hwn ystod lawn o arddulliau cenedlaethol, o’r agorawd Ffrengig ei arddull drwy draddodiad corawl ei wlad enedigol, yr Almaen, i’r ‘Symffoni Fugeiliol’ Eidalaidd. 

Nid yw’n syndod bod y cynulleidfaoedd cynharaf wedi cael eu swyno ac yn sicr heno byddwn yn cael ein hudo yn yr un modd, gyda John Butt, yr awdurdod Baróc, yn arwain Corws a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac unawdwyr dawnus. 

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

George Frideric Handel(1685–1759)

Meseia (1741, diw. 1743–59)

Er bod Handel yn arbennig o enwog am ei oratorios Seisnig, ni ddaeth y genre yn fara menyn iddo tan yn gymharol hwyr yn ei yrfa gyfansoddi. Yn wir, tan yr 1730au, ei brif ddiddordeb oedd opera Eidalaidd. Fodd bynnag, cafodd uchelgeisiau Handel ar gyfer y genre opera eu llesteirio gan gostau cynhyrchu cynyddol a newid yn chwaeth cynulleidfaoedd. Oherwydd methiant i gael digon o danysgrifwyr ar gyfer tymor opera 1738 yn Theatr y Brenin troes y cyfansoddwr at genre yr oratorio. 

Roedd gan oratorios lawer yn gyffredin gydag operâu o ran ffurfiau, arddulliau a syniadau cerddorol, felly nid oedd rhaid i Handel newid ei iaith gyfansoddi yn sylfaenol. Fodd bynnag, roeddent yn denu cynulleidfa ehangach yn rhinwedd y ffaith eu bod yn Saesneg ac yn dibynnu ar ddeunydd Beiblaidd, gan apelio felly at y dosbarthiadau canol Protestannaidd a oedd weithiau’n teimlo bod iaith a chynnwys operâu yn anhygyrch. Yn weithiau nad oedd angen eu llwyfannu, ond a oedd wedi’u cynllunio ar gyfer y neuadd gyngerdd, roedd llai o orbenion ariannol hefyd. Felly, yn niwedd yr 1730au a dechrau’r 1740au, cyfansoddodd Handel gnwd o oratorios eithriadol, gan gynnwys Saul, Israel yn yr Aifft, a’i waith enwocaf, Y Meseia, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Nulyn, ac a fu’n llwyddiant ysgubol.

Mae’r Meseia wedi’i seilio ar destun gan Charles Jennens ac mae’n portreadu Iesu Grist fel y gwir Feseia a addawyd gan y proffwydi Hebreaidd, gan roi hanes cenhadaeth Iesu drwy destunau o’r Hen Destament sy’n cefnogi’r athrawiaeth hon, a gogoneddu Crist yn y nefoedd. 

Er ei fod yn defnyddio grymoedd cymedrol, mae’r Meseia yn waith ar raddfa fawr, yn cael ei chwarae mewn tair rhan ac mae perfformiad llawn yn para oddeutu dwy awr a hanner. Nid oes amheuaeth am allu Handel i ddal dychymyg cynulleidfa gydol y gwaith oherwydd yr amrywiaeth anhygoel sydd ynddo. 

Yn Rhan 1, mae’r darn lleisiol cyntaf yn adroddgan delynegol hyfryd gan y tenor ‘Comfort ye, my people’. Mae’n cynnwys cyfeiliant llinynnol ysgafn ond dychlamus, fel curiad calon sy’n sail i’r unawdydd. I’r gwrthwyneb, mae agoriad ansicr aria’r mezzo ‘But who may abide the day of his coming?’ yn ildio i adran ganolog stormus sy’n osodiad o’r geiriau ‘For he is like a refiner’s fire’, gyda’r llinynnau’n chwarae tremolo cyffrous. Mae’r corysau enwog yn y rhan hon yn cynnwys ‘For unto us a child is born’, gyda’i dôn nwyfus a’i neges lawen.

Mae Rhan 2 yn agor gyda chorws trwm, ‘Behold the lamb of God’; mae ei rhythm yn adleisio agorawdau mawreddog yn yr arddull Ffrengig. Mae aria dyner ar gyfer y mezzo yn dilyn, ‘He was despised’, unwaith eto gydag adran ganolog stormus. Prif ogoniant Rhan 2 yw’r corws bythol boblogaidd ‘Hallellujah’, wedi’i sgorio ar gyfer yr holl ensemble ac yn cynnwys llawer o ddynwared cerddorol rhwng y rhannau lleisiol, gan greu effaith o ogoneddu enw Iesu ym mhob cornel o’r nefoedd a’r ddaear. 

Yn Rhan 3, mae utgorn unigol yn cael eiliad o ogoniant yn aria’r bas ‘The trumpet shall sound’, ac mae’r gwaith yn cloi gyda chorws mawreddog wedi’i osod ar y gair ‘Amen’.

Nodyn y rhaglen © Aditya Chander

Meseia

Rhan 1

1  Symffoni

2  Adroddgan â chyfeiliant (Tenor) 
Comfort ye, comfort ye, my people, saith your God. Speak ye comfortably to Jerusalem, and cry unto her, that her warfare is accomplish’d, that her iniquity is pardon’d. The voice of him that crieth in the wilderness: Prepare ye the way of the Lord, make straight in the desert a highway for our God.
Eseia 40, adnodau 1–3

3  Alaw (Tenor)
Ev’ry valley shall be exalted, and ev’ry mountain and hill made low: the crooked straight, and the rough places plain.
Eseia 40, adnod 4

4  Corws
And the glory of the Lord shall be revealed. And all flesh shall see it together: for the mouth of the Lord hath spoken it.
Eseia 40, adnod 5

5  Adroddgan â chyfeiliant (Bas)
Thus saith the Lord of hosts: Yet once a little while and I will shake the heav’ns and the earth, the sea and the dry land; and I will shake all nations, and the desire of all nations shall come.
Haggai 2, adnodau 6–7

The Lord, whom ye seek, shall suddenly come to his temple, ev’n the messenger of the covenant, whom ye delight in, behold, he shall come, saith the Lord of hosts.
Malachi 3, adnod 1

6  Alaw (Mezzo-soprano)
But who may abide the day of his coming? 
And who shall stand when he appeareth? 
For he is like a refiner’s fire.
Malachi 3, adnod 2

7  Corws
And he shall purify the sons of Levi, that they may offer unto the Lord an offering in righteousness.
Malachi 3, adnod 3

8  Adroddgan (Mezzo-soprano)
Behold, a virgin shall conceive, and bear a son, and shall call his name Emmanuel, ‘God with us’.
Eseia 7, adnod 14; Mathew 1, adnod 23

9  Alaw (Mezzo-soprano) a Corws
O thou that tellest good tidings to Zion, get thee up into the high mountain; O thou that tellest good tidings to Jerusalem, lift up thy voice with strength; lift it up, be not afraid; say unto the cities of Judah: Behold your God!

O thou that tellest good tidings to Zion, arise, shine; for thy light is come, and the glory of the Lord is risen upon thee.
Eseia 40, adnod 9; 60, adnod 1

10  Adroddgan â chyfeiliant (Bas)
For, behold, darkness shall cover the earth, and gross darkness the people: but the Lord shall arise upon thee, and his glory shall be seen upon thee. And the Gentiles shall come to thy light, and kings to the brightness of thy rising.
Eseia 60, adnodau 2–3

11  Alaw (Bas)
The people that walked in darkness have seen a great light. And they that dwell in the land of the shadow of death, upon them hath the light shined.
Eseia 9, adnod 2

12  Corws
For unto us a child is born, unto us a son is given, and the government shall be upon his shoulder, and his name shall be called: Wonderful, Counsellor, The mighty God, The everlasting Father, The Prince of Peace.
Eseia 9, adnod 6

13  Pifa (Symffoni Fugeiliol)

14  Adroddgan ac adroddgan â chyfeiliant  (Soprano)
There were shepherds abiding in the field, keeping watch over their flock by night.

And, lo, the angel of the Lord came upon them, and the glory of the Lord shone round about them: and they were sore afraid.
Luc 2, adnodau 8–9

15  Adroddgan (Soprano)
And the angel said unto them: Fear not: for, behold, I bring you good tidings of great joy, which shall be to all people. For unto you is born this day, in the city of David, a Saviour, which is Christ the Lord.
Luc 2, adnodau 10–11

16  Adroddgan â chyfeiliant  (Soprano)
And suddenly there was with the angel a multitude of the heav’nly host, praising God, and saying:
Luc 2, adnod 13

17  Corws
Glory to God in the highest, and peace on earth, good will toward men.
Luc 2, adnod 14

18  Alaw (Soprano)
Rejoice greatly, O daughter of Zion, shout, O daughter of Jerusalem: behold, thy King cometh unto thee. He is the righteous Saviour, and he shall speak peace unto the heathen.
Sechareia 9, adnodau 9–10

19  Adroddgan (Mezzo-soprano)
Then shall the eyes of the blind be open’d, and the ears of the deaf unstopped.
Then shall the lame man leap as a hart, and the tongue of the dumb shall sing.
Eseia 35, adnodau 5–6

20  Alaw (Mezzo-soprano, Soprano)
He shall feed his flock like a shepherd, and he shall gather the lambs with his arm, and carry them in his bosom, and gently lead those that are with young.
Eseia 40, adnod 11

Come unto him, all ye that labour, come unto him, that are heavy laden, and he will give you rest. Take his yoke upon you, and learn of him, for he is meek and lowly of heart, and ye shall find rest unto your souls.
Mathew 11, adnodau 28–29

21  Corws
His yoke is easy, his burthen is light.
Mathew 11, adnod 30

Egwyl: 20 munud

Rhan 2

22  Corws
Behold the Lamb of God, that taketh away the sin of the world.
Ioan 1, adnod 29

23  Alaw (Mezzo-soprano)
He was despised and rejected of men; a man of sorrows, and acquainted with grief.
Eseia 53, adnod 3

24  Corws
Surely he hath borne our griefs and carried our sorrows: he was wounded for our transgressions, he was bruised for our iniquities; the chastisement of our peace was upon him.
Eseia 53, adnodau 4–5

25  Corws
And with his stripes we are healed.
Eseia 53, adnod 5

26  Corws
All we like sheep have gone astray, we have turned ev’ry one to his own way; and the Lord hath laid on him the iniquity of us all.
Eseia 53, adnod 6 

27  Adroddgan â chyfeiliant  (Tenor)
All they that see him laugh him to scorn; they shoot out their lips and shake their heads, saying …
Salm 22, adnod 7

28  Corws
He trusted in God, that he would deliver him: let him deliver him, if he delight in him.
Salm 22, adnod 8

29  Adroddgan â chyfeiliant  (Tenor)
Thy rebuke hath broken his heart; he is full of heaviness. He looked for some to have pity on him, but there was no man, neither found he any to comfort him.
Salm 69, adnod 20

30  Arioso (Tenor)
Behold, and see if there be any sorrow like unto his sorrow.
Galarnad 1, adnod 12

31  Adroddgan â chyfeiliant  (Soprano)
He was cut off out of the land of the living: for the transgression of thy people was he stricken.
Eseia 53, adnod 8

32  Alaw (Soprano)
But thou didst not leave his soul in hell; nor didst thou suffer thy Holy One to see corruption.
Salm 16, adnod 10

33  Corws 
Lift up your heads, O ye gates; and be ye lift up, ye everlasting doors; and the King of Glory shall come in.
Who is this King of Glory? The Lord strong and mighty, The Lord mighty in battle.
Lift up your heads, etc.
Who is this King of Glory? The Lord of Hosts, 
He is the King of Glory. 
Salm 24, adnodau 7–10

34  Adroddgan (Tenor)
Unto which of the angels said he at any time, thou art my son, this day have I begotten thee?
Hebreaid 1, adnod 5

35  Corws
Let all the angels of God worship him.
Hebreaid 1, adnod 6

36  Alaw (Mezzo-soprano)
Thou art gone up on high; thou has led captivity captive, and received gifts for men, yea, even for thine enemies, that the Lord God might dwell among them.
Salm 68, adnod 19

37  Corws
The Lord gave the word: great was the company of the preachers.
Salm 68, adnod 11

38  Alaw (Soprano)
How beautiful are the feet of them that preach the gospel of peace, and bring glad tidings of good things!
Rhufeiniaid 10, adnod 15

39  Corws
Their sound is gone out into all lands,
and their words unto the ends of the world.
Rhufeiniaid 10, adnod 18

40  Alaw (Bas)
Why do the nations so furiously rage together, and why do the people imagine a vain thing? The kings of the earth rise up, and the rulers take counsel together against the Lord and against his anointed.
Salm 2, adnod 1–2

41  Corws
Let us break their bonds asunder, and cast away their yokes from us.
Salm 2, adnod 3

42  Adroddgan (Tenor)
He that dwelleth in heaven shall laugh them to scorn: the Lord shall have them in derision.
Salm 2, adnod 4

43  Alaw (Tenor)
Thou shalt break them with a rod of iron; thou shalt dash them in pieces like a potter’s vessel.
Salm 2, adnod 9

44  Corws
Hallelujah, for the Lord God omnipotent reigneth, Hallelujah. The kingdom of this world is become the kingdom of our Lord and of his Christ; and he shall reign for ever and ever, Hallelujah! King of Kings, and Lord of Lords, and he shall reign for ever and ever, Hallelujah!
Datguddiad 19, adnod 6; 11, adnod 15; 19 adnod 16

Rhan 3

45  Alaw (Soprano)
I know that my Redeemer liveth, and that he shall stand at the latter day upon the earth.
And though worms destroy this body, yet in my flesh shall I see God.
Job 19, adnodau 25–26

For now is Christ risen from the dead, the first fruits of them that sleep.
I Corinthiaid 15, adnod 20

46  Corws
Since by man came death, by man came also the resurrection of the dead. For as in Adam all die, even so in Christ shall all be made alive.
I Corinthiaid 15, adnodau 21–22

47  Adroddgan (Bas)
Behold, I tell you a mystery: we shall not all sleep, but we shall all be chang’d, in a moment, in the twinkling of an eye, at the last trumpet.
I Corinthiaid 15, adnodau 51–52

48  Alaw (Bas)
The trumpet shall sound, and the dead shall be raised incorruptible, and we shall be changed. For this corruptible must put on incorruption, and this mortal must put on immortality.
I Corinthiaid 15, adnodau 52–53

49  Adroddgan (Mezzo-soprano)
Then shall be brought to pass the saying that is written; death is swallowed up in victory.
I Corinthiaid 15, adnod 54

50  Deuawd (Mezzo-soprano, Tenor)
O death, O death, where is thy sting? O grave, where is thy victory? The sting of death is sin, and the strength of sin is the law.
I Corinthiaid 15, adnodau 55–56

51  Corws
But thanks be to God, who giveth us the victory through our Lord Jesus Christ.
1 Corinthiaid 15, adnod 57

52  Alaw (Soprano)
If God be for us, who can be against us? Who shall lay anything to the charge of God’s elect? It is God that justifieth; who is he that condemneth?
It is Christ that died, yea, rather that is risen again; who is at the right hand of God, who makes intercession for us.
Rhufeiniaid 8, adnodau 31, 33–34

53  Corws
Worthy is the Lamb that was slain, and hath redeemed us to God by his blood, to receive power, and riches, and wisdom, and strength, and honour, and glory, and blessing. Blessing and honour, glory and pow’r be unto him that sitteth upon the throne, and unto the Lamb, for ever and ever. Amen.
Datguddiad 5, adnodau 12–13

Libretto gan Charles Jennens (1700–73) o destunau Beiblaidd

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant … 

Missa solemnis

Nos Iau 10/4/25, 7.30pm
Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd

Nos Wener 11/4/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Beethoven Missa solemnis

Andrew Manzearweinydd
Carolyn Sampson soprano
Sophie Harmsen mezzo-soprano
Ed Lyon tenor
Darren Jeffery bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

MAWREDDOG | CLODFORUS | O’R RADD FLAENAF

Mae Missa solemnis gan Beethoven, a saif fel cofeb ymysg gweithiau corawl cysegredig, yn osodiad o’r offeren sy’n aruthrol o ran ei rym a’i raddfa. Ynddo mae mawredd aruchel a serenedd nefolaidd yn dawnsio gyda ffigurau onglog sy’n neidio; mae cyferbyniadau deinamig ffyrnig yn plethu drwy’r rhannau wedi’u trefnu’n ofalus i rymoedd cyfun y gerddorfa a’r corws; ac yn ffrwtian yn gyson dan yr wyneb, ceir naws chwilgar sy’n adlewyrchu ffydd y cyfansoddwr ei hun – sef edrych y tu hwnt i’n dealltwriaeth ni at Dduw dwyfol.

Roedd Beethoven o’r farn mai’r Missa solemnis oedd ei waith gorau, ac mae’n sicr yn ddarn sydd ar restr ddymuniadau pob un sy’n caru cerddoriaeth. Gydag unawdwyr nodedig yn camu i’r llwyfan, ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, mae hwn yn argoeli i fod yn berfformiad rhy dda i’w golli.

Caneuon Tynged

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain

Nos Wener 20/6/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Brahms Serenâd Rhif 2
Brahms Schicksalslied
Stravinsky Symffoni’r Salmau 

Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

CELFYDD | TANBAID | DARLUNIADOL

Os bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahms o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.

Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn Symffoni’r Salmau yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd ag ysgrifennu ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau...dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.

Bywgraffiadau

John Buttarweinydd

John Butt yw cyfarwyddwr cerddorol y Dunedin Consort ac mae’n Brif Artist gyda’r Orchestra of the Age of Enlightenment. Roedd yn Athro Cerddoriaeth Gardiner ym Mhrifysgol Glasgow (2001–24), ac mae’n parhau i fod yn athro-gymrawd ymchwil er anrhydedd yno. Dechreuodd ei yrfa pan gafodd ei benodi’n ysgolhaig ar yr organ yng Ngholeg King’s, Caergrawnt. Arweiniodd hyn at amryw o swyddi academaidd a pherfformiadol (gan gynnwys yn UC Berkeley, 1989–97). Mae ei yrfa fel cerddor ac ysgolhaig yn cylchdroi o gwmpas cerddoriaeth yr 17eg a’r 18fed ganrif, ond y mae hefyd yn ymwneud ag effaith y gorffennol ar ein diwylliant ni heddiw. Ef yw awdur pum monograff sy’n canolbwyntio ar Bach, y Baróc a chysyniadau o ran arferion perfformio hanesyddol; mae ei waith diweddar yn ymwneud â cherddoriaeth a moderniaeth, diwylliannau gwrando, a cherddoriaeth a ffilm. 

Mae ei recordiadau’n amrywio o albymau unawdol ar yr organ a’r harpsicord i rai â’r Dunedin Consort, sy’n cynnwys recordiadau sydd wedi ennill gwobrau Gramophone o Meseia gan Handel a Requiem Mozart, yn ogystal â gweithiau Dioddefaint Bach, Offeren yn B leiaf, Magnificat, Oratorio’r Nadolig, Cyfresi Cerddorol a Concerti Brandenburg, a Vespers 1610 gan Monteverdi. Fe wnaeth ei recordiad o gantatas Bach ennill Gwobr BBC Music Magazine yn 2021.

Gyda Dunedin ac ensembles eraill, mae wedi ymddangos sawl gwaith ym Mhroms y BBC ac yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin. Mae wedi bod ar deithiau rhyngwladol ar draws Ewrop, Unol Daleithiau America, Mecsico a Colombia.

Ers ennill gwobr W. H.Scheide am ei lyfr cyntaf, mae wedi cael Medal Dent yr RMA, ynghyd â Gwobr Bach Sefydliad Kohn/RAM. Dyfarnwyd OBE, FBA ac FRSE iddo, yn ogystal â medal Coleg Brenhinol yr Organyddion.

Fflur Wyn soprano

Cat Arwel

Cat Arwel

Cafodd y gantores o Gymru, Fflur Wyn, radd anrhydedd dosbarth cyntaf o’r Academi Gerdd Frenhinol, a graddiodd o Gwrs Opera’r Academi Frenhinol gyda DipRAM. Y tymor hwn, mae hi’n dychwelyd i Opera Cenedlaethol Cymru i ganu First Niece (Peter Grimes)ac ar y llwyfan cyngherddau mae hi’n dychwelyd i Gerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban ar gyfer Carmina burana ac yn perfformio gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC.

Mae ei pherfformiadau operatig wedi cynnwys First Niece (Royal Danish Opera); Jemmy (William Tell), Iphis (Jephtha), Blonde (Die Entführung aus dem Serail) a Dorinda (yng ngwaith Handel, Orlando) ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru; Pamina (The Magic Flute), Vivetta (yng ngwaith Cilea, L’arlesiana) a’r prif rannau yn Lakmé ac Alice’s Adventures in Wonderland ar gyfer Opera Holland Park; Malinka (The Excursions of Mr Brouček) ar gyfer Grange Park Opera; Barbarina (The Marriage of Figaro) yn La Monnaie; Lucia (The Rape of Lucretia) ar gyfer Potsdamer Winteroper; Woodbird (Siegfried) ar gyfer Longborough Festival Opera; Esilena (Rodrigo) ar gyfer Gŵyl Handel Göttingen; Celia (Lucio Silla) ar gyfer Buxton Opera; Euridice (yng ngwaith Gluck, Orfeo ed Euridice), Sophie (Werther)Marzelline (Fidelio)Susanna (The Marriage of Figaro), Morgana (Alcina)Servilia (La clemenza di Tito), Blue Fairy (Pinocchio)Woodbird (Siegfried), Achsah (Joshua), Gretel (Hansel and Gretel), Flora (The Turn of the Screw)Clerida (Croesus)Giannetta (L’elisir d’amore), Sophie (Der Rosenkavalier), Fire/Nightingale/Princess (L’enfant et les sortilèges) a Trio Soprano (Trouble in Tahiti) ar gyfer Opera North; Floriana (Zazà gan Leoncavallo) ar gyfer Opera Rara; Mimi (yng ngwaith Offenbach, Vert Vert) ar gyfer Garsington Opera); Nedda (Pagliacci) gyda’r Cambridge Philharmonic; Michal (Saul) gyda’r BBC Singers; a Celidora (L’oca del Cairo) gyda’r London Mozart Players.

Marta Fontanals-Simmons mezzo-soprano

Victoria Cadisch

Victoria Cadisch

Yn ddiweddar, fe wnaeth y mezzo-soprano Marta Fontanals-Simmons ymddangos am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden fel Siebel (Faust), gydag Opera Cenedlaethol Lloegr fel Eurydice Woman (yng ngwaith Harrrison Birtwistle, The Mask of Orpheus), yn y Concertgebouw fel Amando (yng ngwaith Ligeti, Le Grand Macabre) a chreu’r brif ran yn y perfformiad cyntaf erioed o waith Gavin Higgins, The Faerie Bride, yng Ngŵyl Aldeburgh.

Mae ei huchafbwyntiau diweddar eraill yn cynnwys dychwelyd i’r Teatro Real ym Madrid fel Vlasta (The Passenger) a Kate Pinkerton (Madama Butterfly) ac ymddangosiadau yn y Barbican a Gŵyl y Tri Chôr a gyda’i Hensemble Erda.

Mae uchafbwyntiau operatig diweddar yn cynnwys y perfformiad cyntaf erioed o Anna gan David Matthews yng Ngŵyl y Grange, Matriosha (yng ngwaith Prokofiev, War and Peace) a First Maid (Elektra) y ddwy rôl tra oedd hi yn yr Ensemble yn y Grand Théâtre de Genève. Ar gyfer Glyndebourne, mae hi wedi perfformio rhan Jacquet (yng ngwaith Ethel Smyth, The Wreckers), Second Lady (The Magic Flute) a Lapak (The Cunning Little Vixen). Ar gyfer Garsington Opera, mae hi wedi perfformio rhannau’r Ail Arglwyddes a Cherubino (The Marriage of Figaro), ac mae hi hefyd wedi canu rôl Cherubino yn y Théâtre de Champs-Élysées, Opéra de Monte Carlo a’r Grange Park Opera.

Fel datgeiniad, mae hi wedi perfformio yn Neuadd Wigmore, Cyfres o Gyngherddau Sefydliad Barber a gwyliau Aldeburgh, Caerfaddon, Lammermuir a Chaneuon Rhydychen, ymysg eraill.

Graddiodd Marta Fontanals-Simmons o Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall, lle dyfarnwyd y Fedal Aur glodfawr iddi yn 2016, ac roedd hi’n un o Artistiaid Jerwood yng Nglyndebourne ar gyfer tymor 2015/16.

 Joshua Ellicott tenor

Sane Seven

Sane Seven

Mae llais tenor hyfryd, hyblyg ond pwerus Joshua Ellicott a’i ddoniau cerddorol amryddawn yn amlwg yn amrywiaeth eang y repertoire y mae'n ei pherfformio, o ganeuon i opera i gyngherddau, a'r rhestr o arweinwyr ac ensembles y mae’n gweithio gyda nhw ledled y byd.

Mae wedi datblygu cysylltiad penodol â cherddoriaeth Bach, Handel a Monteverdi, gan ganu rôl yr Efengylydd yng yn ngweithiau Dioddefaint Bach, yn ogystal â gweithio gydag arweinwyr fel Syr Mark Elder, Daniel Harding ac Esa-Pekka Salonen mewn repertoire sy’n amrywio o Wagner drwy Berg i Weill.

Mae’r gân yn nodwedd bwysig arall o’i waith celf. Un o lwyddiannau penodol y blynyddoedd diwethaf oedd rhaglen a ddyfeisiwyd o gwmpas llythyrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, sef Great Uncle Jack gan Joshua Ellicott, sy’n cyfuno darlleniadau o’r llythyrau gyda chaneuon. Cafwyd perfformiad arbennig iawn yng Ngŵyl Cerddoriaeth Gynnar Cwlen lle cafodd rhai o’r llythyrau eu cyfieithu i’r Almaeneg.

Y tymor hwn, mae’n dychwelyd i ŵyl Lammermuir i berfformio ei ddatganiad ‘Jack’, yn perfformio datganiad gydag Anna Tilbrook ac yn canu gwaith Syr James MacMillan, All the Hills and Vales yng Ngŵyl Cumnock Tryst, yn perfformio gwaith Elgar The Dream of Gerontius yn Nottingham, gwaith Handel, Susanna gyda’r Dunedin Consort yn St Martin in the Fields a’r Wiener Konzerthaus, Dioddefaint Sant Mathew gan Bach (yr Efengylydd) gyda’r Residentie Orkest dan arweiniad Richard Egarr, a rhaglen o waith Handel gyda'r Dresdner Philharmonie dan arweiniad Hans-Christoph Rademann.

Ganed Joshua Ellicott ym Manceinion ac mae wedi graddio o Brifysgol Caerefrog, lle bu’n astudio Cerddoriaeth. Yna enillodd ysgoloriaeth i astudio canu yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall. Yn 2006, enillodd y Gystadleuaeth Leisiol Ryngwladol yn Hertegonbosch yn yr Iseldiroedd.

James Atkinsonbariton

Mae James Atkinson, bariton o Brydain, wedi graddio o Stiwdio Opera’r Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu’n astudio gydag Alison Wells. Mae’n un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd cyfredol BBC Radio 3 (2023-25).

Mae eisoes yn ganwr gwaith Mozart o fri, ac ymddangosodd am y tro cyntaf yn canu rôl Masetto (Don Giovanni) ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, gan ddychwelyd yn 2024 ar gyfer Guglielmo (Così fan tutte). Bu'n perfformio rôl Papageno yng Ngŵyl Glyndebourne, a’r tymor hwn mae’n ychwanegu rôl Count Almaviva (The Marriage of Figaro) at ei repertoire gyda’r Mozartists ac Ian Page yn Llundain a Sisili.

Y tymor diwethaf, canodd Orest (Elektra) gyda Cherddorfa Symffoni Tokyo a Jonathan Nott, Belcore (L’elisir d’amore) ar gyfer Wild Arts a Steersman (Tristan und Isolde) ar gyfer Opera Lwcsembwrg. Ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin hefyd yng ngwaith Bach, Dioddefaint Sant Mathew gyda Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban a Ryan Wigglesworth.

Mewn cyngherddau, mae’n canu trefniannau o waith Schubert gyda Cherddorfa Ffilharmonig Lwcsembwrg a Nicolas Ellis, A German Requiem gan Brahms gyda Chymdeithas Handel a Haydn a Bernard Labadie yn Boston, a Des Knaben Wunderhorn gan Mahler gyda Geneva Musica.

Fel datgeiniad, mae wedi ymddangos yn Amsterdam, Birmingham a Rhydychen, yn ogystal ag yn Neuadd Wigmore, Gŵyl Klosters a Neuadd Ulster, Belfast, lle bu’n perfformio am y tro cyntaf ym Mhroms y BBC.

Mae gwobrau niferus James Atkinson yn cynnwys Gwobr Cantorion y Gynghrair Dramor Frenhinol (2022), Gwobrau Lleisiol Maureen Lehane (2018) a Chystadleuaeth Mozart a Gwobr y Gynulleidfa yng Ngwobr y Gân Gwlad yr Haf (2019).

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.

Yn eu cartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cynnwys dros 120 o gantorion, ac mae’n un o brif gorau symffoni cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig. Mae’r Corws – sy’n cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac sydd wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd – yn gweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ei hun.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio Stabat mater gan Poulenc a rhoi’r perfformiad cyntaf erioed o Sound of Stardust gan Alexander Campkin gyda Julieth Lozano Rolong, enillydd Gwobr y Gynulleidfa BBC Canwr y Byd Caerdydd a’r arweinydd corawl Sofi Jeannin, yn ogystal â pherfformio 13eg Symffoni Shostakovich dan arweiniad y Prif Arweinydd Ryan Bancroft, a Dewi Sant fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Karl Jenkins yn 80 oed. Mae hefyd yn ymddangos ym Mhroms y BBC bob blwyddyn, ac mae ei berfformiadau diweddar yn cynnwys Requiem Verdi, Harmonium gan John Adams gyda Ryan Bancroft, ac A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze.

Y tymor hwn bydd y corws yn perfformio Meseia gan Handel gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar John Butt, Missa solemnis grymus Beethoven yng Nghadeirlan Llandaf ac yn Abertawe gydag Andrew Manze, yn ogystal â’i gyngerdd carolau blynyddol a chyngerdd o weithiau Brahms gyda Ryan Bancroft.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth gyfoes, a’r corws a roddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf. Mae’r Corws wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr eraill hefyd, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, sef gosodiad o eiriau Malala Yousafzai o’i Haraith i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac ymddangosodd yn ddiweddar ar drac sain y rhaglen Wonders of the Celtic Deep ar BBC Cymru Wales.

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Martin Gilyn-Jones is-flaenwr
Shana Douglas
Terry Porteus
Ruth Heney
Alejandro Trigo
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Hatty Haynes
Ros Butler
Vickie Ringguth
Lydia Caines
Ilze Abola

Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Anna Growns
Laura Sinnerton

Soddgrythau
Joely Koos
Sandy Bartai
Alistair Howes

Basau Dwbl
David Stark *
Emma Prince

Oboau
Amy McKean †
Alec Harmon

Baswnau
Sarah Burnett
David Buckland

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel

Timpani
Steve Barnard *

Organ Siambr
Gregory Drott

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd




Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlleduswydd wag
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Cyfarwyddwr Artistig Adrian Partington
Cyfeilydd Chris Williams
Hyfforddwr LlaisGail Pearson

Soprano 1
Elizabeth Aitken
Jessica Rose Baber
Eve Bennett
Asia Bonuccelli
Anwen Boyce
Eve Carey
Iustina Chirila
Logan Clark
Charlotte Crane
Phoebe Dry
Rebekah Edwards
Ella Edwards-Beavington
Sarah Jane Griffiths
Darcie Hamilton
Kylie Hansen
Claire Hardy
Megan Hastings
Delyth Jewell
Vanessa John-Hall
Rebecca Jolliffe
Lucie Jones
Rachael Leary
Katherine Meredith
Bethan Nicholas-Thomas
Emma Noonan
Joanna Osborn
Angharad Phillips
Elizabeth Phillips
Ellen Steward
Helen Thomas
Jo Westaway
Hannah Willman
Lydia Wilson 

Soprano 2
Megan Allen
Marcella Benson
Angie Contestabile
Denise Cooke
Isabel D’Avanzo
Esme Daniell-Greenhalgh
Rhian Davies
Sofia Franklin
Sinead Gallagher
Penelope George
Rhianwen Hallows
Cerys Herbert-Stott
Emily Hopkins
Rhiannon Humphreys
Victoria Illsley
Francesca Ingall
Isabel Jackson
Margaret Lake
Carolyn Lee
Lucy Paterson
Kensey Petschow
Sarah Roberts
Samar Small
Melanie Taylor
Florence Waddington
Hannah Williams
Katherine Woolley 

Alto 1
Ceri-Ann Absalom
Grace Barrett
Catherine Bradfield
Alison Davies
Catherine Duffy
Anna Eldred
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Hitchings
Rhian-Carys Jones
Lisa May
Shanta Miller
Bethany Piper
Heather Price
Rhian Pullen
Avery Rabbitt
Kate Reynolds
Amy Roberts
Zozi Sookanadenchetty
Cerys Thomas
Vicki Westwell
Jessica Williams 

Alto 2
Jennie Beard
Yasmin Browne
Alex Butler
Darcy Cole
Charley Davies
Heledd Evans
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Rhian Humphreys
Mattina Keith
Josie Nemeth
Eleanor Prescott
Cerian Rolls
Sian Schutz
Julie Wilcox
Sarah Willmott 

Tenor 1
Oli Bourne
Keith Davies
Roland George
Phil Holtam
Tom Lazell
Andrew Lunn
Andrew Morris
Carwyn Whomsley
Nicholas Willmott 

Tenor 2
Rhys Archer
Orin Daniel
Joshua Dickin
Jonathan Dobie
Michael Ennis
Peter Holmes
Rory McIlver
Owen Parsons
Sam Proll
Richard Shearman
Richard Wilcox 

Bas 1
Noah Boneham-Hill
Peter Cooke
David Davies
Ethan Davies
John Davies
Claurindo Diakiesse
Josh Eatough
Raphael Grigoletto
David Hopkins
Jack Irwin
Morgan Jones
Emyr Wynne Jones
John Rhys Liddington
Lucas Maunder
Ben Pinnow
Jez Piper
Joseph Pitkethly
Neil Schofield
David Stephens
Andrew Watt
Alun Williams
Daniel Williams

Bas 2
Jeffrey Davies
Lyndon Davies
Ollie Hodgson
Stuart Hogg
David Hutchings
David McLain
Gareth Nixon
Mike Osborn
David Rodgers

Roedd y rhestr o gantorion yn gywir adeg cyhoeddi'r rhaglen

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications