CoLaboratory: Fiona Monbet

Nos Iau19/10/23, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Jacques Ibert
Divertissement 15’

Erik Satie
La belle excentrique 9’

Germaine Tailleferre
Petite Suite 5’

Darius Milhaud
Le boeuf sur le toit 15’

EGWYL: 20 munud

Leonard Bernstein
Three Dance Episodes o’r sioe gerdd ‘On the Town’ 11’

Fiona Monbet
Faubourg 23: Cyfres ar gyfer cerddorfa a band jazz première byd c30’

Fiona Monbetffidil/cyfarwyddwr
Zacharie Abraham bas dwbl
Auxane Cartigny piano
Philippe Maniez  drymiau

Mae’r cyngerdd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio 3 ar y rhaglen Radio 3 in Concert ac yn cael ei ffrydio'n fyw ar wefan BBC NOW.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’r cyngerdd heno, lle bydd y feiolinydd a’r arweinydd/cyfansoddwr Fiona Monbet yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar gyfer cyngerdd CoLaboratory cyntaf y tymor.

Mae angerdd Fiona Monbet dros jazz a cherddoriaeth glasurol yn llifo drwy’r cyngerdd cyfan, ac mae’r hanner cyntaf yn mynd â ni i'w gwlad enedigol, Ffrainc. O ran naws, byddwn ni’n symud o ysbryd chwareus a hudolus Divertissement gan Ibert, drwy gynildeb hyfryd Petite Suite gan Germaine Tailleferre, i weithiau a lwyfannwyd gan y gweledydd anarchaidd, Jean Cocteau: La belle excentrique gan Satie a Le boeuf sur le toit gan Milhaud.

Yn yr ail hanner, byddwn ni’n croesi Môr yr Iwerydd ar gyfer Three Dance Episodes gan Bernstein, a gafodd ei ysbrydoli gan ei sioe gerdd boblogaidd On the Town, sef ei lythyr serch i ddinas Efrog Newydd. I gloi, bydd y perfformiad cyntaf erioed o Faubourg 23, cyfres Fiona Monbet ar gyfer cerddorfa a band jazz, sy’n cyfuno ei diddordebau cerddorol deuol mewn modd grymus.

Mwynhewch!

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Jacques Ibert (1890–1962)

Divertissement(1929, trefn. 1930)

1  Rhagarweiniad
2  Cortège
3  Nocturne
4  Valse
5  Parade
6  Finale

Mae’r teitl Divertissement yn addas iawn ar gyfer y darn llawn miri yma; cerddoriaeth i dynnu sylw a diddanu a geir yma heb os. Mae’r gwaith hwn yn llawn ysbryd bwrlésg ac mae ei chwe symudiad gwrthgyferbyniol yn tarddu o gerddoriaeth achlysurol a gyfansoddodd Ibert yn 1929 ar gyfer cynhyrchiad o'r gomedi boblogaidd gan Eugène Labiche, Un chapeau de paille d’Italie (‘Yr Het Wellt Eidalaidd’). Mae ffars yn flaenllaw yn y ddrama, lle mae ceffyl yn bwyta het wellt ac yna ceir ymgais i ddod o hyd i un arall yn ei lle, gyda charwriaethau amhriodol yn gefndir i’r cyfan.

Mae wedi’i sgorio ar gyfer cerddorfa siambr gyda llond llaw o offerynnau taro a rhan amlwg i’r piano; mae’r Rhagarweiniad cythryblus yn arwain at y Cortège, symudiad lle clywir arlliw o Ymdeithgan Priodas enwog Mendelssohn ymysg y rhythmau ragtime. Ceir interliwd fer yn ystod y nos lle clywn y clarinét, sy’n rhoi eiliad o saib cyn y Valse chwareus a chwyrlïog. Mae hyn yn talu teyrnged i waltsiau Ewropeaidd, gyda'r soffistigeiddrwydd Fiennaidd, yn y pen draw, yn ildio i vaudeville wrth i drombôn dioglyd gymryd yr awenau. Yn y symudiad olaf ond un, mae gorymdeithiau milwrol yn dod i’r amlwg – er bod hynny ar gyfer milwyr tegan yn hytrach na maes brwydr go iawn – ac yn y Finale mae chwibanau croch yn arwain at ddiweddglo sionc.

Erik Satie (1866–1925)

La belle excentrique(1920)

1  Grande ritournelle
2  Marche franco-lunaire
3  Valse du ‘mystérieux baiser dans l’oeil’
4  Cancan grand-mondain

Cyfansoddodd Satie y tair dawns a'r interliwd sy’n ffurfio La belle excentrique (‘Y Rhiain Ecsentrig’) ar gyfer y dawnsiwr-goreograffydd avant-garde a elwid yn Caryathis. Roedd Caryathis – neu Élise Jouhandeau, née Toulemont, i ddefnyddio ei henw go iawn – yn ffrind i Coco Chanel, un o ffigyrau nodweddiadol y sîn gymdeithasol ym Mharis a oedd yn enwog am ei beiddgarwch. Ar y cyd â’r artist, yr awdur a’r cymdeithaswr Jean Cocteau, trefnodd noson o ddawns a cherddoriaeth yn Théâtre du Colisée ym Mharis ar 14 Mehefin 1921. Yn y fan honno, ochr yn ochr â gweithiau gan Ravel a’r cyfansoddwyr ifanc yr oedd Cocteau yn eu hyrwyddo fel Les Six bryd hynny, perfformiwyd La belle excentrique am y tro cyntaf.

Cynllun gwreiddiol Satie oedd cyfansoddi cyfres o bortreadau cerddorol o Baris, ond yn y pen draw cafodd y gwaith ei ddiwygio i’w ffurf bresennol, sef darn ar gyfer cerddorfa siambr sy'n chwarae ar ddawnsiau poblogaidd mewn modd idiosyncratig. Ar ôl ailgylchu hen cakewalk ar gyfer y gyfres ‘Grande ritournelle’, mae’r gyfres fel mae’n sefyll yn symud drwy’r darnau â theitlau digrif, ‘Franco-lunar March’, ‘Waltz of the Mysterous Kiss in the Eye’ a ‘High-Society Cancan’. Mae’r canlyniad yn nodweddiadol o waith Satie: mae seiniau’r neuaddau dawns a cherddoriaeth wedi cael eu trawsnewid a’u taro oddi ar eu hechel gydag anghyseinedd annisgwyl, dyfeisgarwch rhythmig ac offeryniaeth aflednais.

Germaine Tailleferre (1892–1983)

Petite Suite(1957)

1  Prélude
2  Sicilienne
3  Les filles de la Rochelle

Mae cerddoriaeth Tailleferre yn enwog am ei harddull Neoglasurol a’i hymdeimlad o gydbwysedd. Gwelir hyn yn ei holl allbwn – o'r comisiynau mawr a gyflawnodd yn y 1920au i'w darnau diweddarach, fel Petite Suite. Cyfansoddwyd y gyfres yn 1957 ar gyfer y darlledwr Ffrengig, RTF, ac mae’n cynnwys tri symudiad cain, onid braidd yn felancolaidd. Mae’r ‘Prélude’ yn ein trochi mewn seinfyd unigryw, gyda chyfeiriadau at Stravinsky yma a thraw, yn deillio o wead cerddorfaol sy’n aml yn ddisglair. Mae rhythmau dawns yn nodwedd sy’n codi dro ar ôl tro yn y gyfres, ac mae’r mydr amser triphlyg sydd fel petai’n tician bron, yn gefndir i linellau alawol yr unawdydd yma. Yn rhan ganolog y ‘Sicilienne’, sydd hefyd â dawns wrth ei gwraidd, mae naws felancolaidd i’w siglad nodweddiadol, ac mae’r rhan olaf, ‘Les filles de la Rochelle’, yn drefniant o sianti fôr Ffrengig am grŵp o ferched 15 oed o La Rochelle sy’n mynd i’r môr. Mae offeryniaeth gadarn Tailleferre yn cyfleu natur annibynnol y merched sy’n penderfynu mynd amdani ar eu pen eu hunain.


Darius Milhaud (1892–1974)

Le boeuf sur le toit, Op. 58(1919)

Ar 21 Chwefror 1920, camodd cwmni o ddawnswyr ac acrobatiaid mewn masgiau cardfwrdd enfawr ar lwyfan y Comédie des Champs-Élysées ar gyfer y perfformiad cyntaf o fale newydd, Le boeuf sur le toit. Roedd modd adnabod y cymeriadau ar unwaith, gyda’r Fenyw Gwallt Coch, y Joci, y Dyn yn yr Hwyrwisg a’r Plismon – ymysg eraill – yn adrodd stori abswrd gan Cocteau a oedd wedi’i gosod mewn bar Americanaidd. Roedd y bale yn cynnwys dyluniadau trawiadol gan Raoul Dufy a choreograffi gan Léonide Massine, ac roedd fel petai’n adlewyrchu popeth a oedd yn newydd ac yn ffasiynol ym Mharis rhwng y rhyfeloedd.

I Milhaud, roedd y sgôr yn cyhoeddi ei ddychweliad i Ffrainc ar ôl treulio dwy flynedd ym Mrasil yn ystod y rhyfel. Roedd wedi bod yn ysgrifennydd llysgenhadaeth i Paul Claudel, yr awdur a aeth ymlaen i fod yn ddiplomydd, yn Rio de Janeiro ond, yn bwysig iawn, cafodd hefyd ddigon o amser i archwilio’r diwylliant cerddorol lleol. Mae adlais o'i ddiddordeb yng ngherddoriaeth Brasil a'r hyn a ddysgodd amdani i'w glywed drwy Le boeuf sur le toit. Erbyn hyn, cydnabyddir bod tua 25 o themâu yn deillio o ganeuon a dawnsfeydd o Frasil. Dyma a ddywedodd Milhaud wrth gofio’r broses o gyfansoddi’r gwaith yn ôl yn Ffrainc yn ddiweddarach: ‘A minnau’n dal i feddwl am fy nghyfnod ym Mrasil, es ati i osod rhywfaint o alawon poblogaidd, dawnsfeydd tango, maxixe, samba, a hyd yn oed fado Portiwgalaidd, a’u trawsgrifio gyda thema debyg i rondo yn codi dro ar ôl tro rhwng pob pâr olynol.’

Mae’r thema agoriadol, gyda guiro amlwg, yn dychwelyd dro ar ôl tro, gan weithredu fel atalnodau rhwng nifer o benodau cyferbyniol. O drawsacennu sy’n gwneud i chi dapio’ch traed i delynegiaeth sentimental, mae’n sgôr liwgar a bywiog o ran rhythm sy’n gofyn llawer gan ei pherfformwyr, yn enwedig y chwythbrennau a’r offerynnau pres. Ar ben hynny, er ei fod yn dwyn ysbrydoliaeth o gerddoriaeth boblogaidd a brodorol, mae hoffter Milhaud o amlgyweiredd ac anghyseinedd pigog yn ein hatgoffa o’i rinweddau modern diamheuol.

Efallai er syndod, o ystyried yr ystod o arddulliau dawns sydd yn y darn – heb sôn am ba mor rhwydd yw dawnsio i’r gerddoriaeth – ei ysgrifennu i gyd-fynd â ffilm gan Charlie Chaplin wnaeth Milhaud yn y lle cyntaf. Roedd Cocteau wedi’i ddarbwyllo i’w ddefnyddio ar gyfer bale (er nad oedd cysylltiad â Brasil), a’r is-deitl ‘cinéma-symphonie’ oedd yr unig awgrym o’i fywyd cynharach erbyn hyn.

Nodyn y rhaglen © David Threasher

EGWYL: 20 munud

Leonard Bernstein (1918–90)

Three Dance Episodes o’r sioe gerdd ‘On the Town’ (1944, trefn. 1945)

1 The Great Lover Displays Himself
2  Lonely Town: Pas de deux
3  Times Square: 1944

‘There are ballets, of course. Cripes, what I would give to see a good vole hoof and choral again’. Dyma gŵyn yr adolygydd ar gyfer y New York Daily News ar ôl i’r sioe gerdd, On the Town, agor ar Broadway ar 28 Rhagfyr 1944. Er bod y rhan fwyaf o’r beirniaid wedi ei chanmol – cafodd ei disgrifio yn y New York Times fel ‘y sioe gerdd fwyaf diddorol yn y parthau hyn ers oes aur Oklahoma!’ – roedd rhai’n teimlo bod ganddi syniadau uwchlaw ei safle. Ochr yn ochr â’r caneuon arferol, roedd y coreograffydd newydd addawol, Jerome Robbins, wedi cynnwys wyth bale (a oedd i gyd yn symud y plot yn ei flaen) ac roedd Bernstein wedi cyfansoddi dros 90 munud o gerddoriaeth wreiddiol a oedd yn symffonig o ran ei maint a’i naws. O ystyried mai sioe ysgafn am forwyr ar wyliau ar y lan am 24 awr yn Efrog Newydd oedd hi, bu’n rhaid i hyd yn oed y rhai a'i creodd gyfaddef eu bod wedi bod yn uchelgeisiol: ‘Iawn. Roedd yn chwyldroadol. Fe wna i gyfaddef,’ oedd atgof Bernstein ddegawdau yn ddiweddarach.

Yn dilyn llwyddiant On the Town yn y theatr, aeth Bernstein ati i greu Three Dance Episodes fel darn diddan ar gyfer y neuadd gyngerdd. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o gerddoriaeth ddawns helaeth y sioe, mae’r tri symudiad cyferbyniol yn rhoi cipolwg bywiog ar y ddinas. Maen nhw’n agor gyda’r gerddoriaeth ar gyfer dilyniant o freuddwydion lle mae’r morwr sensitif a rhamantus, Gabey, yn trawsnewid i fod yn garwr nwyfus a hyderus – ceir yma ysgrifennu chwareus a hyf ar brydiau gan Bernstein, sy’n cynnwys motifau sy’n dychwelyd ac arddull rhythmig nodweddiadol. Mae ‘Lonely Town: Pas de deux’, y faled mewn arddull blues sy’n dilyn, wedi’i llunio o gwmpas y gân hiraethus ‘Lonely Town’, tra mae’r darn clo, ‘Times Square: 1944’ yn mynd â ni i fwrlwm Times Square ar noson allan gyda’r morwyr a’r merched maen nhw newydd eu cyfarfod. Wrth i’r darn ruthro i’r diwedd, mae Bernstein yn cyfuno jazz, trawsacennu rhyfeddol o anodd a sain yr arcêd a’r neuadd gerddoriaeth. Wrth i’r morwyr ganu yn y sioe: ‘New York, New York! It’s a helluva town!’  

Nodyn y rhaglen © Sophie Redfern

Fiona Monbet (ganed 1989)

Faubourg 23: Cyfres ar gyfer cerddorfa a band jazz (2023)

première byd

Fiona Monbetffidil/cyfarwyddwr
Auxane Cartigny piano
Zacharie Abraham bas dwbl
Philippe Maniez drymiau

Mae’r darn hwn yn rhoi sylw i’r piano yn bennaf. Fe’i cyfansoddais ar gyfer Auxane Cartigny, pianydd jazz gwych sy’n gallu perfformio’n rhydd ym mhob arddull, ond hefyd yn yr arddull waltz musette. Mae’r piano’n ymagor fel llif parhaus o feddyliau, nes i’r ffidil darfu ar y llwybr llonydd.

Mae’r gwaith yn dechrau yn yr hen Baris a’i hawyrgylch maestrefol, sy’n cael ei gyfleu drwy waltsiau a chyfeiriadau at Edith Piaf a Joséphine Baker. Mae ‘maestrefol’ (neu ‘faubourg’) hefyd yn cyfeirio at yr hyn sydd y tu hwnt i waliau’r ddinas, y tu hwnt i’w ffiniau, ac felly mae’r ysgrifennu’n newid, gan fynd â ni i rywle arall a dod â bydoedd gwahanol iawn, neu fydoedd sydd eto i’w dyfeisio,  at ei gilydd.

Roeddwn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfansoddi’r pontydd rhwng y gwahanol fydoedd cerddorol a geir drwy’r darn – y syniad oedd eich bod yn gallu gwneud naid enfawr o ran arddull neu hwyliau cyn belled â’ch bod yn mynd ati’n gynnil i wneud hynny. Mae’n amrywio bob yn ail rhwng rhyw fath o goncerto ac awyrgylch jazz mwy cerddorfaol.

Wrth weithio ar bontio a thrawsnewid, roedd cwestiwn yng nghefn fy meddwl am dreftadaeth, a beth allwn ni ei wneud â’n treftadaeth ni heddiw. 

Nodyn y rhaglen © Fiona Monbet

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Scheherazade

Nos Sadwrn 11/11/23, 7.30pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Dukas Prentis y Dewin
Grieg Concerto i’r Piano
Rimsky-Korsakov Scheherazade

Lionel Bringuierarweinydd
Zee Zeepiano

HUDOLUS | SWYNOL | SYFRDANOL

Mae’r cyngerdd hwn yn llawn hud a lledrith, gan ddechrau gyda Prentis y Dewin gan Dukas. Mae’r stori gerddorol ryfeddol hon yn darlunio ysgub hud a’r anhrefn sy’n codi yn ei sgil. Mae’n gwbl gyfareddol!

O’r cyflwyniad nodweddiadol i ansawdd gwreiddiol y gwaith ysgrifenedig, mae’n hawdd deall pam fod Concerto Grieg i’r Piano yn cael ei ystyried yn gymaint o gampwaith; gyda haen ryfeddol o feistrolaeth a hunaniaeth Norwyaidd gadarn, mae cydymdeimlad cryf y cyfansoddwr â chaneuon gwerin yn hollbresennol. Yna mae Rimsky-Korsakov yn cymryd yr awenau gyda’i gerddoriaeth llawn antur a swyn yn Scheherazade, ei fersiwn ef o Mil ac Un o Nosweithiau. Mae’r gwaith godidog hwn yn llawn lliw ac asbri rhythmig a naws y Dwyrain.

Perfformio Picasso

Nos Wener 8/12/23, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC

Stravinsky Pulcinella
Satie Parade
Stravinsky Ragtime
Falla El Sombrero de Tres Picos – Cyfres Rhif 2

Ryan Bancroftarweinydd
Katharine Dain soprano
Jorge Navarro Colorado tenor
Michel de Souzabariton

LLIWGAR | ANGERDDOL | GOLEUEDIG

Ac yntau’n adnabyddus fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif ac am gyd-sefydlu’r mudiad Ciwbaidd, mae’n syndod cyn lleied o bobl sy’n gwybod bod yr artist Pablo Picasso wedi ymwneud llawer â dylunio’r gwisgoedd ar gyfer sawl bale arloesol. Roedd ei gyswllt creadigol â’r impresario bale, Serge Diaghilev, yn un o gydweithrediadau mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, a newidiodd natur bale, ac a agorodd y drws i fyd newydd o archwilio artistig i Picasso.

50 mlynedd ar ôl ei farwolaeth, byddwn yn dathlu ei waith mewn cyngerdd sy’n cynnwys dim ond y gerddoriaeth o’r gweithiau bale yr oedd ef wedi dylunio ar eu cyfer – o Pulcinella Stravinsky lle cafodd straeon traddodiadol eu ‘trawsnewid yn llwyr yn gampweithiau modernaidd trawiadol, gan ail-ddychmygu’r bale fel lleoliad ar gyfer arddulliau, siapiau a ffurfiau avant-garde oedd yn gwrthdaro â’i gilydd’ drwy ei wisgoedd a’i ddyluniadau ar gyfer setiau, i waith onglog, cyfwynebol ac avant-garde Satie, Parade, a chyfres Het Tri Chornel Falla sy’n adrodd stori garu o Sbaen, wedi’i lleoli ym mynyddoedd Andalwsia.

Jurassic Park mewn Cyngerdd

Nos Fercher 13/12/23, 7.30pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Nos Iau 14/12/23, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Benjamin Popearweinydd

TEULUOL | ATGOFUS | GWEFREIDDIOL

Pwy sy’n gallu anghofio cerddediad dirgrynol a byddarol y T rex neu synau arswydus y velociraptor? Ymunwch â BBC NOW y mis Rhagfyr hwn ar gyfer Jurassic Park, yn fyw mewn cyngerdd.

Dewch gyda ni i Isla Nublar i ddilyn stori Dr Alan Grant ac Ellie Sattler wrth iddynt frwydro i oroesi yn erbyn deinosoriaid y parc thema pan maent yn adfywio ac yn dianc o’u llociau i geisio rheoli’r ddaear unwaith eto. Gyda delweddau gweledol trawiadol ac effeithiau arbennig arloesol, efallai nad yw’r antur llawn cyffro hon yn nodweddiadol o gyngerdd Nadolig, ond gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio sgôr epig John William yn fyw i’r ffilm, mae’n ffordd briodol iawn o ddathlu pen-blwydd y ffilm eiconig hon yn 30 oed!

Bywgraffiadau

Fiona Monbetffidil/cyfarwyddwr

Dechreuodd Fiona Monbet yrfa ym myd jazz cyn mynd i’r Conservatoire ym Mharis i astudio’r ffidil glasurol, gan raddio yn 2015. Mae ei dylanwadau’n eang ac mae hi wedi cydweithio â llawer o artistiaid, gan gynnwys Philip Catherine, Marcel Azzola, Biréli Lagrène, Adrien Moignard ac Ibrahim Maalouf.

Fel perfformiwr a chyfansoddwr, mae ganddi sawl albwm i’w henw: Django Club (2011), O’Ceol (2013) a Contrebande (2018). Cafodd y diweddaraf – Maelström, sy’n cynnwys triawd jazz a cherddorfa siambr – ei recordio y llynedd ac mae wedi teithio i ŵyl Jazz in Marciac. Yn dilyn hynny, cafodd y gerddoriaeth ei threfnu ar gyfer cerddorfa symffoni a Band Mawr Radio Denmarc.

Yn ogystal â’i gweithgareddau fel artist jazz, mae hi hefyd yn arweinydd. Mae’n ymddangos yn rheolaidd yn ei gwlad enedigol, Ffrainc, ac yn rhyngwladol, ac mae wedi arwain cerddorfeydd a chwmnïau opera blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ac yn Iwerddon. Yn 2017, cydsefydlodd Miroirs Étendus, a hi yw’r prif arweinydd.

Mae diddordebau deuol Fiona Monbet mewn jazz a cherddoriaeth glasurol wedi arwain ati’n cyfarwyddo prosiectau sy’n dod â cherddoriaeth gyfoes, jazz a cherddoriaeth y byd at ei gilydd gyda’r gerddorfa symffoni. Mae’r rhain yn cynnwys cydweithrediadau gyda Seckou Keita, António Zambujo, Ana Moura ac MC Solaar.

Ers mis Medi 2020, mae hi wedi bod yn artist preswyl gydag Orchestre National de Bretagne ac mae wedi arwain y gerddorfa’n rheolaidd, gan gynnwys yn Festival Interceltique de Lorient, Opéra de Rennes a Festival de Saint-Denis. Y tymor hwn, mae hi hefyd yn artist preswyl yng Nghanolfan Ddiwylliannol Iwerddon ym Mharis.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau yn ogystal ag yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Rebecca Totterdell
Emilie Godden
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Daniel Joseph
Zanete Uskane
Gary George-Veale

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines
Ilze Abola
Jane Sinclair
Anna Szabo

Fiolâu
Francis Kefford ‡
Peter Taylor
Liam Brolly
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Ania Leadbeater
Charlotte Limb
Lucy Theo

Soddgrythau
Reinoud Ford ‡
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Christopher Wescott
Richard Gibbons
David F. C. Johnson
Antonia Bakewell
Thea Sayer

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Sarah-Jayne Porsmoguer

Cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinetau
Fiona Cross ‡
Jennie Joy Porton
Lenny Sayers

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Guylaine Eckersley ‡
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris
Jean Paul Gervasoni

Trombonau
Donal Bannister*
Simon Baker

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Rhys Matthews

Offerynnau Taro 
Phil Hughes *
Rhydian Griffiths
James Bower
Max Ireland

Drymiau
Rhydian Griffiths

Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

Piano/Selesta
Catherine Roe Williams



* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

** Cyngerdd yn Neuadd Hoddinott yn unig

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentisiaid BBC Cymru Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications