

Dathliadau’r Nadolig
Dydd Iau 19/12/24, 3.00pm a 7.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Christmas Medley Martin Williams 5’
It’s the Most Wonderful Time of the Year Pola a Wyle (gyda Louise Dearman) 3’
Have Yourself a Merry Little Christmas Hugh Martin(gyda Louise Dearman) 3’
Rhagarweiniad, Gorymdaith, Dawns y Bugail o Amahl and the Night Visitors Menotti 7’
Journey to Lapland Adam Saunders 5’
Merry Christmas Darling Pooler a Carpenter(gyda Louise Dearman) 3’
Rudolph the Red Nosed Reindeer Ron Goodwin3’
It’s A Wonderful Life Tiomkin 9’
EGWYL: 20 munud
Fairytale Sleigh Ride Adam Saunders 5’
I’ll Be Home for Christmas Walter Kent(gyda Louise Dearman) 4’
Sleigh Ride Leroy Anderson 3’
Santa Claus is Coming to Town Coots a Gillespie(gyda Louise Dearman) 3’
Harry (Cho) in Winter o’r ffilm Harry Potter and the Goblet of Fire Patrick Doyle 3’
Christmas Song Wells a Tormé(gyda Louise Dearman) 3’
Jingle Bells Ron Goodwin 3’
White Christmas Irving Berlin(gyda Louise Dearman) 3’
I Wish It Could Be Christmas Every Day Roy Wood(gyda Louise Dearman) 3’
Pete Harrisonarweinydd
Louise Dearman cantores
Mae’r ddau gyngerdd yn cael eu recordio gan BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru i’w darlledu dros yr ŵyl; byddant ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso cynnes iawn i’n dathliad Nadoligaidd blynyddol. Yn ymuno â BBC NOW eleni mae’r arweinydd Pete Harrison a seren y West End, Louise Dearman.
Mae’r rhaglen yn mynd â ni ar daith hudolus ar sled Siôn Corn, gan ychwanegu naws jazz at rai o’n hoff ganeuon Nadolig hen a newydd. I’n rhoi ni yn hwyl yr ŵyl, cawn glywed y Christmas Medley bywiog, cyn i Louise gamu i’r llwyfan i ganu ffefrynnau fel It’s the Most Wonderful Time of the Year a Have Yourself a Merry Little Christmas.
Byddwch yn barod i fynd ar wib gyda Journey to Lapland a Sleigh Ride anhygoel Leroy Anderson, ac fe gewch fynd i fyd hudolus ffilmiau Harry Potter ac It's a Wonderful Life, cyn cyrraedd uchafbwynt y cyngerdd gyda White Christmas ac I Wish It Could Be Christmas Every Day.
Mwynhewch, a gobeithio y cewch chi Nadolig arbennig!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Gwychder Gwyllt
Nos Iau 20/3/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 21/3/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Grace Williams Penillion
Bruch Concerto Rhif 1 i’r Ffidil
Rachmaninov Symffoni Rhif 3
Tadaaki Otaka arweinydd
Eldbjørg Hemsing ffidil
TANLLYD | ANGERDDOL | GRYMUS
Yn y darn Penillion gan Grace Williams, ceir adlais o ganeuon gwerin â chyfeiliant telyn wrth i alawon lled-fyrfyfyr gael eu plethu â chyfeiliant rhythmig i greu agoriad grymus i’r cyngerdd yma gydag Arweinydd Llawryfog poblogaidd BBC NOW, Tadaaki Otaka.
Cyfunir alaw esgynnol a meistrolaeth andros o anodd yng Nghoncerto Cyntaf angerddol Bruch i’r Ffidil. O dân gwyllt yr unawdydd i gefndir cyfoethog y gerddorfa, does dim rhyfedd bod y concerto hwn yn dal yn ffefryn ymysg unawdwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, ac mae’n bleser gennym groesawu’r meistr ar y ffidil, Eldbjørg Hemsing, yn ei ôl i berfformio’r darn. Yn yr un modd, mae Trydedd Symffoni Rachmaninov hefyd yn ddarn angerddol, gydag uchafbwyntiau trawiadol yn ildio i unawdau dwys, a gorymdeithiau grymus yn troi’n ddathliad taranllyd, a’r cyfan yn seiliedig ar un motiff cerddorol sy’n cael ei drawsnewid a’i ddatblygu’n fedrus drwyddi draw.
Rhamantwyr Cain
Nos Iau 3/4/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 4/4/25, 7.30pm
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Fanny Mendelssohn Agorawd
ElgarConcerto i’r Soddgrwth
Brahms Symffoni Rhif 4
Simone Menezes arweinydd
Bryan Cheng cello
RHAMANTAIDD | CAIN | EICONIG
Mae Agorawd rhamantaidd a chain Fanny Mendelssohn yn gosod yr awyrgylch ar gyfer y cyngerdd hwn o ffefrynnau clasurol. Mae alawon rhapsodïaidd gydag acenion pizzicato yn arwain y ffordd tuag at feistrolaeth a brafado Prydeinig yng Nghoncerto poblogaidd Elgar i’r Soddgrwth, er nad yw ei brudd-der yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf byth yn bell o’r wyneb, gyda themâu cadarn ond diaddurn, ac egni sionc yn cael eu gwrthbwyso gan rinweddau myfyriol. Fel unawdydd, rydyn ni’n croesawu cerddor sy’n perfformio am y tro cyntaf gyda BBC NOW, y chwaraewr soddgrwth sydd wedi ennill sawl gwobr, Bryan Cheng.
Yn waith anferthol sy’n llawn grym ac angerdd, mae symffoni olaf Brahms – a’i symffoni fwyaf mae’n debyg – sef ei bedwaredd, yn cyfleu harddwch, mawredd ac emosiwn, ac mae’n bleser gennym groesawu i’r podiwm yr arweinydd uchel iawn ei pharch o Brasil, Simone Menezes, sydd â’i gwreiddiau yn yr Eidal, ar gyfer ei pherfformiad cyntaf gyda BBC NOW.
Bywgraffiadau
Pete Harrisonarweinydd
Astudiodd Pete Harrison yn y Coleg Cerdd Brenhinol cyn dechrau ei yrfa arwain yn y West End yn Llundain gyda Crazy For You (Theatr Prince Edward), Beauty and the Beast gan Disney (Theatr Dominion) a Lautrec (Theatr Royal, Plymouth a Theatr Shaftesbury).
Ef yw Prif Arweinydd y Klassik Radio Pops Orchestra, ac mae hefyd yn arweinydd a chyflwynydd gwadd rheolaidd gyda llawer o gerddorfeydd eraill, gan gynnwys y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Philharmonia, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a Cherddorfa Symffoni Bournemouth (BSO).
Mae ei waith gyda’r BSO yn cynnwys cyngherddau’r gerddorfa ar Noson Olaf y Proms, yn ogystal â’i chyfres reolaidd o gyngherddau cerddoriaeth ffilm, gan gynnwys Heroes & Superheroes (1 a 2), Heroes & Aliens, Heroes & Legends a Heroes & Monsters. Mae cyngherddau blaenorol y gerddorfa yn cynnwys ei chyngerdd Classic FM Live yn y Royal Albert Hall, Symphonic Queen, Chilled Out Classics, Abba Spectacular, Disco Symphonic Spectacular, Symphonic 80s a Symphonic Pink Floyd. Ef yw cyfarwyddwr cerdd Lleisiau Cerddorfa Symffoni Bournemouth a Cherddorfa Gyngerdd Pops Ieuenctid Brent, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol ym Mwrdeistref Brent yn Llundain.
Mae hefyd wedi arwain a chyflwyno i Raymond Gubbay Ltd. Ymysg ei gyngherddau blaenorol mae Spectacular Classics, The Best of Bond, Zimmer v. Williams, Star Wars and Beyond - A Space Spectacular, Abba Classics, Cyngherddau Gala Nos Galan, Noson Olaf Proms yr Haf a Superheroes at the Symphony.
Mae gwaith addysgol arall Pete Harrison yn cynnwys arwain Cerddorfa Chwyth Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr, Cerddorfa Chwyth Ieuenctid Genedlaethol Cymru, Cerddorfa Ieuenctid Swydd Caint, Cerddorfa Symffoni Ieuenctid Berkshire, a Cherddorfa Symffoni a Cherddorfa Chwyth Symffonig Ysgol Cadeirlan Wells.
Louise Dearmancantores
Astudiodd Louise Dearman yn Laine Theatre Arts ac erbyn hyn mae galw mawr amdani yn y West End, a hithau wedi chwarae’r brif ran mewn cynyrchiadau lu.
Yn y theatr, mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys chwarae rhan Adelaide yn Guys and Dolls (taith o gwmpas y DU); bod yr unig actores sydd wedi chwarae rhan Elphaba a Glinda yn Wicked (Theatr Apollo Victoria); Mrs D yn y perfformiad cyntaf erioed o The Waterbabies (Theatr Leicester Curve); Eva Peron yn Evita (taith o gwmpas y DU); Mimi yn Guys and Dolls (Theatr Piccadilly); Sarah Brown yn Guys and Dolls (taith o gwmpas y DU); Jan yn Grease (Theatr Victoria Palace a thaith o gwmpas y DU); a’r Adroddwr yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat (taith o gwmpas y DU).
Mae ei halbymau’n cynnwys Bedtime Baby, You and I, Here Comes the Sun, It’s Time, For You, For Me a’r EP Bond and Beyond. Mae hi hefyd yn ymddangos ar Christmas in New York, The Route to Happiness, Lift, Scrapbook, More with Every Line, All Things in Time, Songs a Somewhere in the Audience.
Mae Louise Dearman yn ymddangos yn y ffilm WICKED a ryddhawyd yn ddiweddar. Ar y teledu, mae wedi ymddangos fel Lois Lane yn Kiss Me Kate (darllediad Proms y BBC ar y teledu), Gershwin in Hollywood a Cole Porter in Hollywood (ill dau ar y BBC).
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.
Yn eu cartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Martin Gilyn-Jones is-flaenwr
Terry Porteus
Suzanne Casey
Alejandro Trigo
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Amy Fletcher
Gary George-Veale
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Hatty Haynes
Ros Butler
Sheila Smith
Lydia Caines
Ilze Abola
Michael Topping
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Joseph Williams
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Lydia Abell
Lowri Taffinder
Anna Growns
Soddgrythau
Alice Neary *
Raphael Lang
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Basau Dwbl
David Stark *
Christopher Wescott
Georgia Lloyd
Richard Gibbons
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Anna Seaton
Cor anglais
Anna Seaton
Clarinetau
Bethany Crouch
Jennie Joy Porton
Alison Lambert
Clarinét Bas
Alison Lambert
Baswnau
Bed Hudson
Stanley Kaye Smith
Chris Vale
Isfasŵn
Chris Vale
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
John Davy
Tom Taffinder
Utgyrn
Philippe Schartz *
Rob Johnston
Corey Morris †
Jean Paul Gervasoni
Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Anders Swane
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Phil Hughes
Rhydian Griffiths
Andrea Porter
Y Delyn
Bethan Semmens
Adran Rhyddm:
Cit Drymiau
Tim Goodyer
Allweddellau
Mark Etherington
Gitar
Dave Holmes
Gitar Fas/Bas Dwbl
Zoltan Dekany
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlleduswydd wag
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications



