Creatures of Dust and Dreams

Dydd Gwener 10 Rhagfyr 2021, 2.00pm

Sarah Lianne Lewis
Creatures of Dust and Dreams c10’
première byd

John Woolrich
Concerto I’r Fiola 20’

EGWYL: 15 munud

Maurice Ravel
Bale 30’


Finnegan Downie DearArweinydd
Timothy Ridout Fiola (Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3)

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio 3, ac ar ôl hynny gellir ei ffrydio neu ei lawrlwytho drwy BBC Sounds am 30 diwrnod, lle ceir podlediadau ac cherddoriaeth amrywiol. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau i ddod.

Cyflwyniad

Croeso i gyngerdd heddiw yn Neuadd Hoddinott y BBC, lle bydd yr arweinydd ifanc cyffrous, Finnegan Downie Dear, yn ymuno â ni. Mae’n arbennig o frwd ynghylch cerddoriaeth newydd, ac rydyn ni’n dechrau gyda’r perfformiad cyntaf erioed o Creatures of Dust and Dreams Sarah Lianne Lewis, sef Cyfansoddwr Cydweithredol BBC NOW. Mae wedi cyfeirio at y darn fel adlewyrchiad o freuder a bregusrwydd pobl. Mae tristwch hefyd yn perthyn i’r Concerto telynegol i’r Fiola gan John Woolrich sydd wedi’i ysbrydoli gan weithiau cyfansoddwyr eraill ac eto mae’n eu hail-liwio mewn ffordd bersonol iawn. Yr unawdydd heddiw ydy Timothy Ridout, sef un o chwaraewyr llinynnau mwyaf nodedig ei genhedlaeth, ac Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 ar hyn o bryd.

Yn olaf, campwaith o dros ganrif yn ôl. Dechreuodd Mother Goose Ravel fel deuawd piano i ddau blentyn ifanc ond fe ddaeth, yn ei wedd ar gyfer y bale, yn bortread hyfryd o fyd hudolus. 

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Sarah Lianne Lewis (ganed 1988)

Creatures of Dust and Dreams (2020–21) 

première byd

Mae Creatures of Dust and Dreams yn ddarn chwareus a bywiog sy’n agor gyda ffigurau’n troi a throelli drwy’r gerddorfa, gyda microtonyddiaeth (cywair y tu allan i’r tiwnio cyfartal 12 tôn traddodiadol yn y Gorllewin) yn nodwedd drwy’r cyfan. Mae defnyddio chwarter tonau yn gorfodi disgleirdeb yn yr adran agoriadol, cyn cwympo i dôn dywyllach a chynhesach ond dirgel yn yr adran ganol.  

Gwelir y syniad cychwynnol ar gyfer y darn hwn yn yr adran ganol. Caiff rhai lluoseinyddion eu chwarae ar y clarinét (lle bydd dau nodyn neu fwy i’w clywed wrth ddefnyddio ffyrdd ansafonol o chwarae). Mae cordiau yn y llinynnau yn dod i’r amlwg fel cymylau o’r lluoseinyddion hyn. O boptu’r adran hon, mae’r deunydd cerddorol yn troelli, yn codi ac yn dychwelyd yn ôl.

Ar yr wyneb, gellid ystyried bod y darn hwn yn gwyro oddi wrth fy ngweithiau cynharach. Mae llawer o’m gwaith dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn archwilio synau a manylion llai yr offerynnau unigol, ynghyd â dadfeiliad araf a phendant y motiffau cerddorol. Y gyfatebiaeth orau y gallaf ei chynnig yw ei bod yn debyg i fynd am dro gyda’r gerddoriaeth; gallwch stopio i edrych ar olygfa benodol, neu grwydro oddi ar y llwybr o bryd i’w gilydd, ond bydd gennych o hyd y terfyn mewn golwg, cyrchfan i arwain y crwydro pwrpasol. Er bod natur y darn hwn yn teimlo’n wahanol, mae’r dull cyfansoddiadol yr un fath. Mae chwilfrydedd chwareus yn y ffordd y mae’r deunydd yn cael ei archwilio. Daw pob cerddor yn unawdydd yng nghorff ehangach y gerddorfa – hyd yn oed os ydy hynny ddim ond am ychydig eiliadau ar y tro.

Mae’r gwaith yn ystyried breuder a bregusrwydd anochel pobl, o gwympo a methu, a’r dewis i estyn allan ac nid yn unig i ofyn am gymorth – ond hefyd i gynnig cymorth – gan y rhai o’n cwmpas er mwyn tyfu a chyflawni mwy gyda’n gilydd nag sy’n bosibl ar ein pennau ein hunain. Er bod gwreiddiau’r darn – ac yn wir y teitl – wedi’u dyfeisio yn ôl yn y gwanwyn 2019, a’r syniadau a’r strwythur cychwynnol wedi digwydd ymhell cyn y pandemig byd-eang, mae’r teitl yn dal yn addas, yn enwedig yng ngoleuni’r hyn rydyn ni wedi’i brofi gyda’n gilydd dros y ddwy flynedd diwethaf.  

Yn y brasluniau cychwynnol ar gyfer Creatures ysgrifennais y llinellau canlynol:  

‘… but if I must first fall, then let me do so gently; my bones are fragile, for we are made only of dust and dreams.’

Nodyn y rhaglen © Sarah Lianne Lewis

John Woolrich (ganed 1954)

Concerto i’r Fiola (1993) 

1 Soave sia il vento –
2 Torna il tranquillo al mare –
3 Distant –
4 Placido e il mar … –
5 Tristansburg –
6 Chorale –
7 O sia tranquillo il mare

Timothy Ridout fiola

Ganed John Woolrich yn 1954, a chafodd sylw eang yn y 1990au gyda chyfres o gomisiynau cerddorfaol a oedd yn cynnwys ei Goncerto pruddglwyfus i’r Fiola. Cyfansoddwyd y darn ar gyfer Paul Silverthorne, a’i chwaraeodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Cheltenham yn 1995 gyda Cherddorfa Ffilharmonig y BBC, dan arweiniad Yan Pascal Tortelier.

Disgrifiodd un o’r beirniad y darn ar y pryd fel ‘cerddoriaeth ysgafn ac egr, yn llawn teimlad ond wedi’i sgorio’n glir … gwreiddiol iawn’. Nid cyfrwng am berfformiad gorchestol oedd hwn fel y byddid yn ei ddisgwyl yn draddodiadol mewn concerto. Yn hytrach, mae Woolrich wedi creu gwaith cynnil lle mae’r unawdydd a’r gerddorfa’n archwilio’r ffin rhwng mynegiant cyhoeddus a phreifat.

Ysgrifennodd y cyfansoddwr: ‘Mewn gwirionedd cylch o saith cân dywyll a synfyfyrgar heb eiriau ydy fy nghoncerto. Mae’r fiola’n canu, ac mae’r gerddorfa’n adleisio ei chân mewn lliw sy’n ysgafn ac yn feddal gan mwyaf.’ 

Mae’r caneuon hynny hefyd, i bob pwrpas, yn ganeuon am ganeuon, yn yr ystyr bod gwead y darn wedi’i wau o gyfres o gyfeiriadau cynnil at gerddoriaeth leisiol gan gyfansoddwyr y gorffennol, ond yn dal i fod yn llais nodedig Woolrich ei hun. Mae cyfeiriadau o’r fath yn nodweddiadol o’i gerddoriaeth – ac yn wir mae’r concerto yn adleisio’n rhannol ei 1989 Ulysses Awakes, addasiad o aria Monteverdi ar gyfer y fiola a’r llinynnau.

Mae pob cân/adran yn symud yn ddi-dor o un i’r llall drwy drawsgrifiad y corn o fotiff ‘lebewohl’ (ffarwel) o Sonata Rhif 26 Beethoven i’r Piano, ‘Les adieux’. Maen nhw i gyd yn rhannu naws hiraethus, llawn angerdd ac ansawdd dwys sy’n gorgyffwrdd. Mae’r olaf hwn yn aml yn dwyn symudiadau’r gwynt a’r môr i’r cof law yn llaw â methu anwyliaid drwy seiniau anniffiniadwy Mozart, Wagner, Schumann (sydd yntau’n adleisio Beethoven) a Monteverdi. 

Yn anad dim, mae ymdeimlad cryf o bersonoliaeth yn perthyn i’r darn ac nid yw’n dibynnu ar y gwrandawr yn adnabod y dyfyniadau. Yn bwysicach na hynny yw’r ffordd mae cariad y cyfansoddwr tuag at y fiola’n disgleirio, fel un sy’n hybu ‘dirgelion tywyll, nosol … acwstig’.

Nodyn y rhaglen © Steph Power
Gwrando Pellach: Lars Anders Tomter; Cerddorfa Symffoni’r BBC/Martyn Brabbins (NMC NMCD071)
Gwefan:
http://www.johnwoolrich.com


EGWYL: 15 munud

Maurice Ravel (1875–1937)

Mother Goose – Bale (1908–10, Diw. A Offeryniaeth 1911) 

1 Prélude
2 Danse du rouet [Dawns y Droell
Nyddu] – Golygfa –
3 Pavane de la Belle au bois dormant [Pavane y Forwyn Gwsg] – Trawsgyweiriad –
4 Les entretiens de la Belle et de la Bête [Sgwrs rhwng y Rhiain a’r Bwystfil] – Trawsgyweiriad –
5 Petit Poucet [Bodyn Bach] – Trawsgyweiriad –
6 Laideronnette, Impératrice des Pagodes – Trawsgyweiriad – [Y Ferch Fach Hyll, Ymerodres y Pagodâu]
7 Le jardin féerique [Gardd y Tylwyth Teg] – Apotheosis 

Roedd gan Ravel un o’r doniau mwyaf cywrain at offeryniaeth yn hanes cerddoriaeth, a dyna sut roedd yn gallu trefnu gweithiau pobl eraill gystal (Pictures at an Exhibition Mussorgsky, er enghraifft) yn ogystal â’i waith ei hun. Cafodd nifer o’i weithiau a ddechreuodd ar gyfer y piano eu trawsnewid fel hyn, a’r un fwyaf disglair ydy Mother Goose. Cyfres ar gyfer deuawd piano i ddau blentyn ifanc, talentog yn amlwg, ei ffrindiau agos oedd hon yn wreiddiol. Mae’r pum darn gwreiddiol yn bortreadau lliwgar o gymeriadau mewn straeon tylwyth teg a fyddai wedi bod yn gyfarwydd iawn i’r plant, gyda’r Rhiain a’r Bwystfil a Tom Thumb yn eu plith. Roedd hynny yn 1910; flwyddyn yn ddiweddarach trefnodd y pum darn a’u hymestyn i fale a berfformiwyd am y tro cyntaf yn y Théâtre des Arts ym Mharis ym mis Ionawr 1912.

Er mwyn trawsnewid Mother Goose o gyfres i fale roedd yn rhaid iddo ymestyn y gerddoriaeth yn ogystal ag ad-drefnu rhai o’r caneuon gwreiddiol i sicrhau naratif cydlynol a oedd yn canolbwyntio ar y Forwyn Gwsg, lle mae’r prif gymeriad, y Dywysoges Florine, yn pigo ei bys ar y droell nyddu ac wrth iddi syrthio i gysgu mae cymeriadau chwedlonol o gyfres wreiddiol Ravel yn ymweld â hi yn ei breuddwydion.

Dyma’r union ddeunydd a oedd wrth fodd Ravel – ac mae’r byd hwnnw’n cael ei ail-greu’n llawn bywyd yn y Prélude newydd, gyda math disglair o hud a lledrith sy’n tywys y gwrandawr ar daith i ffwrdd o bethau beunyddiol. Mae ‘Dawns y Droell Nyddu’ ar ei newydd wedd yn dod nesaf, ac mae Ravel yn cyfleu’n wych yr elfennau tywyllach o dan ei symlrwydd ymddangosiadol wrth i’r Dywysoges gwrdd â’r hen wraig ger y droell. Mae hi’n baglu ac yn pigo’i bys ar werthyd y droell nyddu. Yn y Pavane, sydd â haws difrifol o hardd, mae’r hen wraig yn datgelu mai hi ydy’r Dylwythen Deg. Wrth i ddau was ymddangos mae’n eu gorchymyn i warchod y Dywysoges a sicrhau ei bod hi’n breuddwydio’n braf. 

Mae’r drydedd olygfa’n cyferbynnu â’r Rhiain a’r Bwystfil, gydag un yn cynnwys dau glarinét mewn rhythm waltz, a’r llall yn cynnwys lletchwithdod isfasŵn. Ond wrth i gariad y Rhiain droi’r Bwystfil yn Dywysog hardd, mae Ravel yn tanlinellu’r trawsnewidiad hwnnw gyda glissandi telyn llachar. Mae’r Bodyn Bach – neu Tom Thumb fel rydym yn tueddu i’w alw – yn dod i mewn nesaf. Mae’n nosi, ar gyrion y goedwig. Mae Tom yn taenu briwsion bara fel nad yw’n mynd ar goll, ond mae’r adar yn eu bwyta, ac mae cynnydd herciog y gerddoriaeth – unwaith eto – yn adrodd stori nad oes angen ei hesbonio. Rydyn ni’n teithio i’r Dwyrain cyfriniol yn ‘Y Ferch Fach Hyll’, ac mae Ravel yn creu naws egsotig ei bwnc gyda’r defnydd o raddfeydd pentatonig a synau tebyg i glychau. 

Wrth i ni ddod at ‘Ardd y Tylwyth Teg’ mae hi’n gwawrio ac mae’r Tywysog yn cyrraedd i ddihuno’r Dywysoges gyda chusan. Dyma un o seinweddau mwyaf hudolus Ravel; mae’n gywrain ac yn llawn tynerwch arallfydol; wrth i’r Dylwythen Deg ymddangos a bendithio’r cwpl mae’r bale yn gorffen yn yr un modd â’r chwedlau gorau gyda’r Tywysog a’r Dywysoges yn byw’n hapus am byth.  

Nodyn y rhaglen © Harriet Smith
Gwrando Pellach: Cerddorfa Symffoni Llundain/Claudio Abbado (DG E4159722)
Darllen Pellach: Ravel Roger Nichols (Yale UP)

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?

Bywgraffiadau

Finnegan Downie Dear arweinydd

Lun: Frank Bloedhorn

Lun: Frank Bloedhorn

Enillodd Finnegan Downie Dear Gystadleuaeth Mahler 2020. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt a’r Academi Gerdd Frenhinol, ac wedyn aeth i weithio fel arweinydd cynorthwyol i Simone Young, Thomas Adès, Daniel Harding, Matthias Pinscher a Richard Baker.

Yn ddiweddar mae wedi perfformio am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Gothenburg, Korea a Radio Sweden, cerddorfeydd Ffilharmonig KoŠice State a Lwcsembwrg, Cerddorfa Radio Munich, Cerddorfa Haydn, Ensemble Resonanz, Klangforum Wien, Cerddorfa Gyngerdd y BBC a cherddorfeydd Cyngerdd a Symffoni Genedlaethol RTÉ. Mae’n dychwelyd y tymor hwn i Gerddorfa Symffoni Bamberg ar gyfer cyngherddau a pherfformiadau cyflawn o Where the Wild Things Are Knussen.

Yn y dyfodol agos, bydd yn perfformio gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, cerddorfeydd Symffoni Baltimore, Dinas Birmingham, Melbourne a Sydney, Sinfonieorchester Basel, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin a Cherddorfa NDR Elbphilharmonie.

Mae ei uchafbwyntiau operatig diweddar yn cynnwys digwyddiadau yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Opera Nevill Holt, Opera Cenedlaethol Gwlad Pwyl, Deutsche Oper am Rhein, Opera Cenedlaethol Korea ac Opera’r Alban. Ef hefyd ydy Cyfarwyddwr Cerdd Opera Shadwell sydd wedi ennill gwobrau.


Timothy Ridout
fiola

Lun: Kaupo Kikkas

Lun: Kaupo Kikkas

Mae Timothy Ridout yn Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 ac yn gymrawd Ymddiriedolaeth Borletti–Buitoni. 

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymddangosiad ym Mhroms y BBC, a chyngherddau gyda Cherddorfa Siambr Paris, Cerddorfa Ffilharmonig Strasbourg, Cerddorfa Symffoni Lucerne a’r Hallé a’i berfformiad cyntaf yn y Konzerthaus yn Fienna. Mae hefyd yn cyflwyno datganiadau a chyngherddau siambr yn Neuadd Wigmore, Vienna Musikverein, Amsterdam Concertgebouw a’r Auditorio Nacional de Música ym Madrid. Y llynedd, enillodd Wobr Syr Jeffrey Tate Cerddorfa Symffoni Hamburg ac eleni ymunodd â Rhaglen Bowers Cymdeithas Cerddoriaeth Siambr Canolfan Lincoln. 

Bu’n gweithio gydag arweinwyr blaenllaw, gan gynnwys Christoph Eschenbach, David Zinman, Sakari Oramo, Gabor Takács-Nagy, Sylvain Cambreling, Nicholas Collon a Martyn Brabbins. Fel cerddor siambr mae’n cydweithio’n rheolaidd ag artistiaid blaenllaw fel Steven Isserlis, Joshua Bell, Janine Jansen, Isabelle Faust, Kian Soltani, Benjamin Grosvenor, Lars Vogt, Nicolas Altstaedt a Christian Tetzlaff. 

Recordiodd ei albwm diweddaraf, A Poet’s Love, gyda’r pianydd Frank Dupree ac mae’n cynnwys cerddoriaeth gan Prokofiev a Schumann.

Mae’n chwarae ar fiola gan Peregrino di Zanetto c1565–75, sydd ar fenthyg gan un o noddwyr hael Cymdeithas Ffidil Ryngwladol Beare.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.

Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who. Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Cellerina
Hyojung Park
Gwenllian Hâf
MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
James Wicks
Zanete Uskane
Ana Do Vale
Gary George-Veale
Richard Newington

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Jane Sinclair #
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott **
Laurence Kempton
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Ania Leadbeater
Laura Sinnerton
Dáire Roberts

Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Sandy Bartai
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Alistair Howes

Basau Dwbl
Lynda Houghton
Piotr Hetman
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Claire Whitson

Ffliwt/Piccolo
Matthew Featherstone *
Lindsey Ellis

Ffliwt Alto/Piccolo
John Hall

Oboau
Steve Hudson *
David Hedley

Obo/Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinétau
Nick Cox ‡

Clarinét/Clarinét E Meddalnod
Will White

Clarinét/Clarinét Bas
Alison Lambert

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Joanna Shewan

Basŵn/Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Neil Shewan †
Meilyr Hughes
Hugh Seenan
Kirsty Howe

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Andy Everton †

Trombonau
Donal Bannister*
Simon Wills

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden † **

Timpani
James Bower

Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Hughes
Rhydian Griffiths

Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

Celesta
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr
Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Rhonwen Jones **
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-wyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-faoedd Sassy Hicks +
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +, Caroline Richards **
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey
Rheolwr y Corws a Chydlynydd Allgymorth Osian Rowlands **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications