Antony Hermus
yn Arwain …

Nos Wener 22/9/23, 7.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Dydd Sadwrn 23/9/23, 3.00pm

Hafren, y Drenewydd

Johan Wagenaar
Agorawd‘Cyrano de Bergerac’ 14’

Wolfgang Amadeus Mozart
Concerto i'r Obo 21’

EGWYL: 20 munud

Jean Sibelius
Symffoni Rhif 2 43’

Steven Hudson obo
Antony Hermusarweinydd

Mae’r cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar raglen Afternoon Concert yn y dyfodol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i chi i'r cyngerdd heno lle bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei harwain gan Antony Hermus. Byddwn yn dechrau gyda cherddoriaeth gan ei gydwladwr, y cyfansoddwr Johan Wagenaar o’r Iseldiroedd. Mae ei agorawd hudolus, Cyrano de Bergerac, yn rhoi bywyd i weithredoedd yr arwr o'r 17eg ganrif sy'n rhoi ei enw i'r darn.

Dim ond un concerto i'r obo a gyfansoddod Mozart, ond mae’n dangos dealltwriaeth gynhenid o’r offeryn yn y darn hwn sydd, yn ei dro, yn chwareus ac yn hynod delynegol. Steven Hudson, Prif Obo BBC NOW, a fydd hawlio'r llwyfan heddiw.

Cawn gampwaith symffonig i gloi, sef Ail Symffoni Sibelius. Cyfansoddodd lawer ohoni yn yr Eidal, lle roedd yn aros i ddianc rhag gaeaf llwm y Ffindir. Er gwaethaf hynny, mae ymdeimlad cyson o anesmwythyd yn y gwaith. Does fawr o heulwen i'w weld tan yr eiliadau olaf, ac mae'r rheini hyd yn oed yn fwy grymus am eich bod wedi mynd drwy'r felin i'w cyrraedd.

Mwynhewch!

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Johan Wagenaar (1862–1941)

Agorawd ‘Cyrano de Bergerac’ (1905)

Er bod y cyfansoddwr, yr organydd a’r athro Johan Wagenaar wedi cael gyrfa lwyddiannus yn ei wlad enedigol sef yr Iseldiroedd, ni wnaeth fyth ddygymod â bod yn blentyn siawns. Dydy hynny ddim yn golygu llawer y dyddiau yma, ond roedd stigma cymdeithasol mawr ynglŷn â hyn ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ni fu tad bonheddig a chyfoethog Wagenaar erioed yn briod â’i fam, a oedd o gefndir cymdeithasol llawer mwy gwerinol. Er ei fod wedi cefnogi ac annog ei fab hynod dalentog, mae’n ymddangos nad oedd hyn fyth yn ddigon i Johan.

Ai dyna un o’r pethau a ddenodd Wagenaar at ddrama Edmond Rostand, Cyrano de Bergerac? Er bod ei arwr, Cyrano, yn uchelwr, yn filwr dewr ac yn gerddor ac yn fardd dawnus, mae ei drwyn rhyfeddol o enfawr yn ei wneud yn ansicr yn gymdeithasol, ac mae’n argyhoeddi ei hun na fydd unrhyw fenyw fyth yn ei garu, sy’n arwain at bob math o helyntion dwys a digrif. Ac eto, mae'r digrifwch hwyliog yn amlycach o lawer na'r dwyster rhamantus yn agorawd Cyrano de Bergerac gan Wagenaar (1905). Er nad oedd ganddo fawr i'w ddweud wrth brudd-der hiraethus ac erotig y cyfansoddwr a oedd bron â'r un enw ag ef, Richard Wagner, roedd yn amlwg bod y cyfansoddwr a oedd bron yn cyfoesi ag ef, Richard Strauss, wedi gwneud mwy o argraff ar Wagenaar. Mae rhan agoriadol yr agorawd Cyrano yn creu’r un ymdeimlad bywiog o gychwyn ar antur ag a geir yn Don Juan, cathl symffonig Strauss. Lle bo Strauss yn gorffen gyda gweledigaeth llwm o galon wag y merchetwr o fri, mae arwr Wagenaar yn mynd o nerth i nerth, yn yr adrannau sy’n dwyn y teitlau ‘Llawenhau’, ‘Cryfder Cymeriad’, ‘Sirioldeb’, ‘Hiwmor’ a ‘Dychan’. Mae atganau mwy myfyriol, ond does gan Cyrano ddim amser i hel meddyliau prudd, a does dim rhagfynegiad o ddiweddglo trasig y ddrama. Mae’r ewyllys i fyw bywyd i’r eithaf yn trechu ar y diwedd.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Wolfgang Amadeus Mozart (1756–91)

Concerto i’r Obo yn C fwyaf, K314 (1777)

1  Allegro aperto
2  Adagio non troppo
3  Rondo: Allegretto

Steven Hudson obo

Er bod Mozart fel perfformiwr yn cael ei gysylltu’n bennaf â’r piano a’r ffidil, roedd ganddo ddiddordeb gydol ei oes mewn ysgrifennu ar gyfer offerynnau chwyth. Yn ogystal â’u hymgorffori yn ei weadau cerddorfaol mewn ffyrdd arloesol a blaengar a gafodd ddylanwad mawr ar Beethoven a’r cyfansoddwyr Rhamantaidd, cyfansodd o leiaf un concerto – a llawer o gerddoriaeth siambr – ar gyfer pob un o’r prif offerynnau chwyth, gan lwyddo bob amser i herio a dyrchafu ei unawdwyr. Ei goncerto cyntaf i’r chwythbrennau oedd y Concerto i’r Basŵn, K191 o 1774, a oedd yn bersain ac yn hynod bob yn ail, a’r olaf a’r mwyaf oedd y Concerto i'r Clarinét dedwydd, K622, a gwblhawyd yn ystod misoedd olaf ei fywyd byr. Rhwng y ddau o'r rhain, cafwyd concerti ar gyfer yr obo a’r ffliwt, yn ogystal â phedwar ar gyfer y corn.

Cafodd y Concerto i’r Obo ei gyfansoddi yn ystod haf 1777 ar ôl i oboydd o’r Eidal, Giuseppe Ferlendis (1755-1810), gyrraedd Salzburg. Gadawodd gerddorfa’r llys ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, er gwaethaf hynny. Cyhoeddodd Leopold, tad Mozart, y newyddion am ei ymadawiad mewn llythyr dyddiedig Mehefin 1778, gan nodi ‘yn ystod y ddau fis diwethaf, pryd bynnag y chwaraeai Ferlendis goncerto, roedd yr Archesgob wedi bod yn rhoi ducat neu ddau iddo. Ar ben hynny, ef oedd ffefryn y gerddorfa.’ Roedd Mozart yn dal i fod yn hoff o’i goncerto ac yn ddiweddarach, yn Mannheim, cynigiodd ef i’r oboydd meistrolgar Friedrich Ramm (1741–1813), a’i berfformiodd yn eang. Wrth adrodd yn ôl i’w dad yn Salzburg, dywedodd y cyfansoddwr fod Ramm yn ‘chwarae’n dda iawn ac mae ganddo dôn bur, hyfryd’.

Mae’r Concerto i’r Obo – a gafodd ei drawsgrifio’n ddiweddarach ar gyfer y ffliwt, dôn yn uwch yn D yn hytrach nag C fwyaf – wedi cael ei osod ar ffurf y tri symudiad traddodiadol. Mae’r Allegro aperto agoriadol (‘agored’) yn galluogi’r oboydd i arddangos ei ddeheurwydd a’i delynegiaeth, ac aria barhaus yw’r Adagio canolog, sy’n manteisio ar reolaeth anadl ac ansawdd tonyddol y chwaraewr. Yr unawdydd sy'n dechrau diweddglo chwareus yr Allegretto, sef Rondo tebyg i orymdaith sy’n cynnig cymysgedd o bwyll, ystwythder a medrusrwydd.

Nodyn y rhaglen © David Threasher

EGWYL: 20 munud

Jean Sibelius (1865–1957)

Symffoni Rhif 2 yn D fwyaf, Op. 43 (1901–2, diw. 1903)

1  Allegretto
2  Tempo andante, ma rubato
3  Vivacissimo – Lento e soave –
4 Finale: Allegro moderato

Pan oedd pethau’n ddrwg i Sibelius yn y Ffindir, byddai’r cyfansoddwr yn aml yn teithio i’r Eidal – naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’i deulu. Yn 1901, gyda’i deulu y tro hwn, llwyddodd Sibelius i ddianc rhag gaeaf y Ffindir yn Rapallo, sef tref fach ar arfordir gorllewinol yr Eidal, heb fod yn bell o Genoa.

Roedd Sibelius wedi benthyg ystafell wedi’i hamgylchynu gan ‘goed magnolia, cypreswydd, gwinwydd, palmwydd ac amrywiaeth eang o flodau’. Yn y lleoliad hwn ym Môr y Canoldir, cafodd ei atgoffa o chwedl Don Juan, a dechreuodd fraslunio cathl symffonig am y merchetwr chwedlonol. 

Er gwaethaf ei amgylchedd hyfryd, roedd Sibelius mewn argyfwng. Roedd ei ferch, Ruth, yn gwella ar ôl salwch peryglus ac roedd taith y Ffindir tuag at ryddid wedi dioddef ergyd arall. Roedd y Rwsiaid wedi dechrau’r broses o ymgorffori byddin y Ffindir yn eu byddin eu hunain, gan niweidio ymreolaeth y Ffindir.

Yn ôl gartref ym mis Mai 1901, aeth Sibelius yn ôl i weithio ar y darn yr oedd wedi’i ddechrau yng nghanol blodau Rapallo – sydd bellach yn symffoni heb naratif, ond sy’n cael ei chwarae yng nghywair D fwyaf.

Erbyn y gwanwyn canlynol, roedd y symffoni wedi’i gorffen. Perfformiodd Sibelius bedwar perfformiad o'r gwaith yn Helsinki, gan berfformio am y tro cyntaf ar 8 Mawrth. Daeth ei gydweithiwr Robert Kajanus i’r casgliad bod y gwaith yn gerdd i genedlaetholdeb y Ffindir – emyn cyffrous i ategu’r rhaglen eang o wrthsafiad goddefol. Ond yn ôl Sibelius, roedd casgliad Kajaneus yn anghywir. Mae nodiadau’r cyfansoddwr yn datgelu mwy o frwydrau personol. Cafodd ail thema’r ail symudiad ei hysbrydoli gan adferiad Ruth. Roedd thema mwy galarnadus a thawel y symudiad olaf er cof am Elli Järnefelt, sef chwaer yng nghyfraith Sibelius a oedd newydd ladd ei hun.

Mewn termau mwy haniaethol, mae’r darn yn cyfuno technegau a oedd yn prysur ddod yn fwy amlwg yn arddull Sibelius: dolennu a haenu patrymau yn y llinynnau, ei hoffter o alawon grisiog, a chydlyniaeth gyffredinol ei themâu – sy’n ymwneud yn naturiol â’i gilydd fel pe baent yn isafonydd yr un afon. Rydym yn clywed hynny yn y symudiad agoriadol, sy’n cael ei reoli’n llwyr gan y tri thraw cyfagos (F llonnod–G–A) a glywir ar y dechrau.

Clywir gweddillion prosiect Don Juan yng nghanol gwrthdaro’r ail symudiad. Mae Sibelius yn mynd i’r afael â thema a alwodd yn ‘marwolaeth’ (a glywir am y tro cyntaf ar faswnau sy’n chwarae wythawd ar wahân) yn erbyn un a alwodd yn ‘Cristws’ (thema Ruth, sy’n codi o linynnau pigog).

Mae’r trydydd symudiad yn ddawns stormus sy’n gweithio ei ffordd yn ôl i’r tri nodyn cyfagos a agorodd y darn.

O’r fan hon, mae’r symffoni’n llithro i’w symudiad olaf gydag alaw arwrol mewn harmonïau gofalus i ddechrau ac yna mewn harmonïau gwych a buddugoliaethus. Mae’r alaw, sy’n dechrau unwaith eto o’r tri nodyn cyfagos, yn goleuo cysgodion tywyll thema Elli Järnefelt i awgrymu bod bywyd newydd yn blodeuo. 

Nodyn y rhaglen © Andrew Mellor

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

CoLaboratory: Fiona Monbet

Nos Iau 19/10/23, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Ibert Divertissement
Satie La belle excentrique
Tailleferre Petite Suite
Milhaud Le boeuf sur le toit
Bernstein Three Dance Episodes o ‘On the Town’
Monbet Cyfres i Gerddorfa a Thriawd Jazz première byd

Fiona Monbetffidil/cyfarwyddwr
Zacharie Abrahambas dwbl
Auxane Cartignypiano
Philippe Maniezdrymiau

BYWIOG | PERSONOL | LLESMEIRIOL

Gan gyfuno cerddoriaeth werin draddodiadol a jazz Americanaidd â’i cheinder Ffrengig nodweddiadol, mae’r feiolinydd a’r cyfansoddwr Fiona Monbet yn ymuno â BBC NOW yn ein cyngerdd CoLaboratory cyntaf ar gyfer tymor 2023/24.

I agor y tymor, byddwn yn cyflwyno rhaglen wedi’i hysbrydoli gan draddodiadau Bwrlésg Ffrainc yn y 1920au a’r 1930au. Roedd gan y cyfansoddwyr Jacques Ibert, Erik Satie, Germaine Tailleferre a Darius Milhaud i gyd un peth yn gyffredin – ochr yn ochr â’u cyfansoddiadau mwy traddodiadol, roeddent i gyd yn gyfansoddwyr cerddoriaeth ffilm cynnar gwych, felly nid yw’n syndod bod eu cerddoriaeth yn llawn asbri ac mor hyfryd o ddarluniadwy. 

Yn yr ail hanner, byddwn yn gadael Ffrainc ac yn teithio i strydoedd Efrog Newydd a’u cyfoeth o jazz, at gyfansoddwr ffilm disglair arall, Leonard Bernstein, gyda’i ‘Three Dance Episodes’ o’r sioe On the Town, cyn clywed y perfformiad cyntaf erioed o waith newydd Fiona Monbet ar gyfer ffidil, bas dwbl, piano, drymiau a cherddorfa.

Bydd Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i osod mewn dull cabaret, felly dewch â’ch diod i mewn a mwynhewch y cyngerdd hwn mewn awyrgylch clyd.

Scheherazade

Nos Sadwrn 11/11/23, 7.30pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Dukas Prentis y Dewin
Grieg Concerto i’r Piano
Rimsky-Korsakov Scheherazade

Lionel Bringuierarweinydd
Zee Zeepiano

HUDOLUS | SWYNOL | SYFRDANOL

Mae’r cyngerdd hwn yn llawn hud a lledrith, gan ddechrau gyda Prentis y Dewin gan Dukas. Mae'r stori gerddorol ryfeddol hon yn darlunio ysgub hud a'r anhrefn sy’n codi yn ei sgil. Mae’n gwbl gyfareddol!

O’r cyflwyniad nodweddiadol i ansawdd gwreiddiol y gwaith ysgrifenedig, mae’n hawdd deall pam fod Concerto Grieg i'r Piano yn cael ei ystyried yn gymaint o gampwaith; gyda haen ryfeddol o feistrolaeth a hunaniaeth Norwyaidd gadarn, mae cydymdeimlad cryf y cyfansoddwr â chaneuon gwerin yn hollbresennol. Yna mae Rimsky-Korsakov yn cymryd yr awenau gyda’i gerddoriaeth llawn antur a swyn yn Scheherazade, ei fersiwn ef o Mil ac Un o Nosweithiau. Mae’r gwaith godidog hwn yn llawn lliw ac asbri rhythmig a naws y Dwyrain.

Dvořák 8 gyda Ryan Bancroft

Nos Iau 30/11/23, 7.30pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Nos Wener 1/12/23, 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones, Bangor

Hannah Kendall TheSpark Catchers
Glazunov Concerto i’r Ffidil
Dvořák Symffoni Rhif 8

Ryan Bancroftarweinydd
Benjamin Beilmanffidil

EGNÏOL | CYFFROUS | DEINAMIG

Bydd y Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ymuno â ni ar daith eto'r hydref hwn, gan ddechrau'r rhaglen â The Spark Catchers gan Hannah Kendall. O’i fywiogrwydd llawn ynni a’i egni rhythmig i’w alawon melancolaidd a’i gywreinrwydd caboledig, mae’r gwaith yn seiliedig ar gerdd hynod ddeinamig Lemn Sissay o’r un enw.

Mae’r Concerto i’r Ffidil gan Glazunov, er iddo gael ei ysgrifennu dros ganrif cyn gwaith Hannah Kendall, yn dangos bywiogrwydd rhythmig a thelynegol tebyg. Mae’n cyfuno dawn virtuoso yr unawdydd â mynegiant telynegol ac emosiwn dwfn, gydag awyrgylch, tempo a deinameg sy’n newid rhwng symudiadau i greu’r cyfanwaith. Mae Dvořák yn adlewyrchu llawenydd pur y byd naturiol yn ei Wythfed Symffoni, sydd yr un mor rhythmig a melodaidd. Mae coralau tywyll, tawel yn ildio i unawdau arwrol ar y chwythbrennau, ac mae huodledd pruddglwyfus yn ildio i lawenydd hoenus yn y symffoni ddramatig gyffrous hon.

Jurassic Park mewn Cyngerdd

Nos Fercher 13/12/23, 7.30pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Nos Iau 14/12/23, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Benjamin Popearweinydd

TEULUOL | ATGOFUS | GWEFREIDDIOL

Pwy sy’n gallu anghofio cerddediad dirgrynol a byddarol y T-rex neu synau arswydus y velociraptor? Ymunwch â BBC NOW y mis Rhagfyr hwn ar gyfer Jurassic Park, yn fyw mewn cyngerdd.

Dewch gyda ni i Isla Nublar i ddilyn stori Dr Alan Grant ac Ellie Sattler wrth iddynt frwydro i oroesi yn erbyn deinosoriaid y parc thema pan maent yn adfywio ac yn dianc o’u llociau i geisio rheoli’r ddaear unwaith eto. Gyda delweddau gweledol trawiadol ac effeithiau arbennig arloesol, efallai nad yw’r antur llawn cyffro hon yn nodweddiadol o gyngerdd Nadolig, ond gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio sgôr epig John William yn fyw i’r ffilm, mae’n ffordd briodol iawn o ddathlu pen-blwydd y ffilm eiconig hon yn 30 oed!

Bywgraffiadau

Antony Hermusarweinydd

Llun: Marco Borggreve

Llun: Marco Borggreve

Antony Hermus yw Prif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gwlad Belg, ac mae’n arwain y gerddorfa yn BOZAR, ei chartref ym Mrwsel, yn ogystal ag ar deithiau rhyngwladol. Mae hefyd yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Gogledd yr Iseldiroedd ac yn Brif Arweinydd Gwadd Opera North. Mae’n ffigwr blaenllaw ym mywyd cerddorol yr Iseldiroedd, yn arwain ei holl brif gerddorfeydd, gan gynnwys Cerddorfa Royal Concertgebouw, Cerddorfa Radio’r Iseldiroedd, Cerddorfa Ffilharmonig Rotterdam a’r Residentie Orkest. Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Ariadne auf Naxos gydag Opera North a Symffonïau Rhif 9 a 10 Mahler yn yr Iseldiroedd.

Mae cerddoriaeth gyfoes yn elfen bwysig o’i weithgareddau ac mae ganddo berthynas agos iawn ag Unsuk Chin. Mae wedi arwain ei gweithiau mewn cyngherddau gyda Cherddorfeydd Ffilharmonig Helsinki a Radio Ffrainc, a Cherddorfa Symffoni Radio Sweden.

Mae galw mawr amdano fel arweinydd gwadd, ac mae'n gweithio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd fel y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Orchestre National de Lyon, Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban a Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc. Y tymor diwethaf, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Ngogledd America, yn arwain Cerddorfa Symffoni Oregon.

Mae wedi gweithio mewn tai opera ledled Ewrop, yn benodol yn Stuttgart, Strasbourg, Göteborg, Berlin ac Essen. Roedd yn Gyfarwyddwr Cerdd yn Dessau (2009–15), gan orffen ei gyfnod gyda’i gylch Ring cyntaf a chael ei ddyrchafu i fod yn Arweinydd Anrhydeddus.

Mae ei recordiadau’n cynnwys gweithiau gan Auber, Diepenbrock, Hausegger, Klughardt a Wagenaar.

Mae gwthio ffiniau rhaglenni cyngherddau traddodiadol wedi ei arwain at brosiectau fel gŵyl roc Ligeti at the Lowlands, yn ogystal â dechrau cyngherddau arobryn Scratch, a rhoi’r perfformiadau cyntaf o Tweetfontie yn yr Almaen (52 première byd mewn diwrnod) yn ystod ei gyfnod preswyl yng Ngŵyl Ryngwladol Kurt Weill.

Dechreuodd Antony Hermus chwarae’r piano pan oedd yn chwech oed, ac fe astudiodd yr offeryn gyda Jacques de Tiège yn y Brabants Conservatorium, yn ogystal ag astudio arwain gyda Jac van Steen a Georg Fritzsch. Mae’n athro gwadd yn Conservatoire Amsterdam ac yn Gynghorydd Artistig Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol yr Iseldiroedd.


Steven Hudson obo

Mae Steven Hudson yn Brif Offerynnydd Adran ar yr Obo yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mae’n athro obo yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 

Cafodd ei eni a’i fagu yng Ngogledd Swydd Efrog a dechreuodd ddysgu’r obo pan oedd yn 16 oed. Aeth ymlaen i astudio yn y Guildhall gyda Gordon Hunt a Richard Simpson, cyn astudio ymhellach yn y Paris Conservatoire, yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Coleg Cerdd Brenhinol. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd hefyd yn aelod o Gerddorfa Gŵyl Verbier. 

Fe’i penodwyd yn Flaenwr Adran ar yr Obo yn y Royal Northern Sinfonia, lle’r oedd ei uchafbwyntiau’n cynnwys perfformio Concerto Vaughan Williams i’r Obo, mynd ar daith o amgylch Brasil fel unawdydd yn perfformio Concerto i'r Obo yn D leiaf gan Albinoni, a gwisgo i fyny fel aderyn yn Bird Spirit Dreaming, sef concerto Ross Edwards i’r obo. 

Mae’n gerddor siambr gweithgar, ac mae wedi rhoi darllediadau, datganiadau a pherfformiadau o gerddoriaeth siambr yng nghyfres Proms y BBC, ac yn Ffrainc, Japan, Tsieina a De America. Ymddangosodd yn rheolaidd yng Ngŵyl Cerddoriaeth Siambr Spannungen y diweddar Lars Vogt yn yr Almaen. Mae galw mawr amdano hefyd fel prif offerynnydd gwadd gyda llawer o brif gerddorfeydd y DU. 

Ar wahân i’w ymrwymiadau addysgu, mae wedi rhoi dosbarthiadau yn yr Academi Gerdd Frenhinol, y Coleg Cerdd Brenhinol, Conservatoire Brenhinol yr Alban a Sage Gateshead. Yn 2017, cafodd ei wneud yn Gydymaith yr Academi Gerdd Frenhinol.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau yn ogystal ag yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Martin Gwilym-Jones blaenwr
Shana Douglas
Terry Porteus
Suzanne Casey
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Emilie Godden
Laura Embrey
Carmel Barber
Anna Cleworth
Amy Fletcher
Barbara Zdziarska
Anna Szabo **
Gary George-Veale **

Ail Ffidlau
Jens Lynen ‡
Sheila Smith
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines
Joseph Williams
Michael Topping
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Ilze Abola
Beverley Wescott
Elizabeth Whittam **
Catherine Fox **

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Abby Bowen
James Drummond
Carl Hill **
Lucy Theo **

Soddgrythau
Tim Gill ‡
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Sandy Bartai
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Katy Cox **

Basau Dwbl
David Stark *
Christopher Wescott
Richard Gibbons **
Richard Lewis
Mike Chaffin
Alex Verster

Ffliwtiau
John Hall †
Lindsey Ellis
Gabriella Alberti

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Amy McKean †
Anna Seaton

Clarinetau
Tim Lines ‡
Lenny Sayers

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Alex Davidson

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Tom Findlay
John Davy

Utgyrn
Ben Jarvis
Robert Samuel
Alexander Morgan

Trombonau
Donal Bannister*
Cillian Ó Ceallacháin

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
James Bower ‡

Offerynnau Taro 
Phil Hughes ‡



* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

** Cyngerdd yn Neuadd Hoddinott yn unig

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentisiaid BBC Cymru Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications