Rhamant A Therfysg
Nos Iau 6/10/22, 7.30pm

Sergey Rachmaninov
Concerto i’r Piano Rhif 3 (39’)
EGWYL (20’)
Igor Stravinsky
The Rite of Spring (33’)
Ryan Bancroft Arweinydd
Yeol Eum Son Piano

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 yn Radio 3 in Concert ac yn cael ei ffilmio ar gyfer ei ddarlledu yn y dyfodol ar Inside Classical BBC Four. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lawrlwytho drwy BBC Sounds am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu. Mae BBC Sounds hefyd yn cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad
Croeso i gyngerdd heno, y cyntaf o’r tymor newydd yma yn Neuadd Dewi Sant, lle bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei harwain gan Ryan Bancroft, ei Phrif Arweinydd.
Dau gampwaith enfawr, gan ddechrau gyda Thrydydd Concerto Rachmaninov i’r Piano, gwaith y mae ei anhawster eithriadol, ei hyd uchelgeisiol a’i alawon hyfryd wedi’i wneud yn ffefryn ymysg cynulleidfaoedd ers tro byd ac yn ddefod newid byd i bianyddion. Heddiw, bydd y pianydd dawnus Yeol Eum Son o Dde Korea yn chwarae’r unawd.
Cafodd Rite of Spring gan Stravinsky ei orffen bedair blynedd yn unig ar ôl concerto Rachmaninov, ond ni allai fod ar dirwedd sonig fwy gwahanol, gyda’i egni wedi’i ysbrydoli gan baganiaeth a’i groes-rythmau cymhleth, yn darlunio’r stori fwyaf creulon, wrth i ferch ifanc ddawnsio’i hun i farwolaeth.
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Sergey Rachmaninov (1873–1943)
Concerto Rhif 3 i’r Piano yn D leiaf, Op. 30 (1909)

1 Allegro ma non tanto
2 Intermezzo: Adagio – Un poco più mosso –
3 Finale: Alla breve
Yeol Eum Sonpiano
Ysgrifennodd Rachmaninov ei Goncerto Cyntaf i’r Piano yn 1891, pan oedd yn fyfyriwr ac yn dal yn ei arddegau. Daeth ei Ail, sy’n llawer mwy adnabyddus heddiw, ddegawd yn ddiweddarach. Cyfansoddwyd ei Drydydd yn ystod haf 1909, wrth baratoi am daith y byddai’n ei gwneud y gaeaf canlynol i’r Unol Daleithiau, y wlad a fyddai’n dod yn gartref iddo am chwarter canrif olaf ei fywyd.
Tra’n croesi’r Iwerydd, treuliodd ei amser wrth fysellfwrdd ffug, yn ymarfer yn dawel er mwyn peidio â tharfu ar deithwyr eraill – a gan fod angen ymarfer arno, oherwydd gyda’r gwaith hwn roedd wedi gosod tasg aruthrol iddo’i hun. Rhoddodd y perfformiad cyntaf yn Efrog Newydd ar 28 Tachwedd 1909, yn y New Theatre (a enwyd yn briodol, gan mai yn y flwyddyn honno yr agorwyd hi). Ar ôl ymweld â dinasoedd eraill, roedd yn ôl yn Efrog Newydd am ail berfformiad ar 16 Ionawr 1910. Yr arweinydd oedd Gustav Mahler, y bu i’w ofal dros y sgôr greu argraff fawr arno.
Gyda churiad ysgafn gan y gerddorfa y mae’r gwaith yn dechrau, ond yn fuan iawn daw’r unawdydd i mewn gyda thema, sy’n swnio’n Rwsiaidd iawn ac efallai’n seiliedig ar hen siant. Datblygir hyn gan y pianydd a’r gerddorfa, sy’n gweithio gyda’i gilydd yn fwy nag yn erbyn ei gilydd yn y concerto hwn, a’u nod cyffredin yw cyflwyno’r alaw, sydd bron yn barhaus, cyn ddisgleiried â phosibl. Ar ôl ychydig funudau, gan adael y piano ar ôl am funud, bydd y gerddorfa’n troi’r gerddoriaeth o’r lleddf i’r llon. Mae fel pe bai’r haul wedi dod allan. Yn y goleuni newydd hwn, gall y piano fod yn chwareus ond yn angerddol hefyd. Datblygir popeth wedyn, gydag ymchwydd o bŵer ar y ffordd at gadenza gan yr unawdydd sydd yn sicr yn meddu ar ei rym ei hun. Yn y pen draw, daw agoriad y gwaith yn ôl, ond mae’r ailadrodd yn gryno, ac yn gadael llawer mwy i’w ddweud.
Ar gyfer y symudiad araf, mae Rachmaninov yn cynnig cyfres o amrywiadau, sy’n cychwyn gyda’r gerddorfa yn unig. Mae’r piano’n ymuno ac yn fuan iawn mae’n gwneud y gerddoriaeth hyd yn oed yn fwy rhamantus. Gan droi’n llachar, mae’r piano’n gwibio ymaith ar ffurf scherzo. Yna, mae’n ymddangos bod y symudiad yn dod i ben fel y dechreuodd ...
Fodd bynnag, nid yw’n gwneud hynny gan fod y piano’n llamu’n ôl i arwain pawb yn uniongyrchol i’r ddiweddglo bywiog. Mae elfennau o orymdaith i’w clywed yma, gyda ffanfferau, ond mae llawer o’r syniadau’n deillio o’r symudiad cyntaf, sydd nawr yn cael eu cyflwyno gyda gorawen newydd.
Nodyn y rhaglen © Paul Griffiths
EGWYL: 20 munud
Igor Stravinsky (1882–1971)
The Rite of Spring (1911–13)

Rhan 1: Addoli’r Ddaear
Cyflwyniad – Darogan y Gwanwyn – Dawnsfeydd y Genethod Ifanc – Gêm Gipio – Dawnsfeydd Cylch y Gwanwyn – Gemau’r Llwythau Croes – Gorymdaith y Doeth – Addoli’r Ddaear – Y Doeth – Dawns y Ddaear
Rhan 2: Yr Aberth
Cyflwyniad – Cylchoedd Cyfrin y Genethod Ifanc – Moli’r Un Dethol – Galw ar yr Hynafiaid – Defodau’r Hynafiaid – Dawns Aberthol yr Un Dethol
Os ydych chi eisiau gweld i’r dyfodol, efallai mai’r peth gorau i’w wneud yw edrych yn ddwfn i’r gorffennol. Mae awduron nofelau ffantasi yn gwybod hyn. Felly hefyd yr oedd yr artistiaid hynny y bu iddynt, ychydig dros ganrif yn ôl, chwyldroi diwylliant Ewrop drwy osod eu golygon ar gyfnodau cynnar. Mae The Rite of Spring yn enghraifft allweddol: Nod Stravinsky yma oedd llwyfannu defod wanwyn fel y byddai pobl baganaidd stepdiroedd Rwsia wedi’i pherfformio, gan orffen gydag aberth merch ifanc ddethol sy’n dawnsio’i hun i farwolaeth. Roedd yn rhaid iddo ef a’i gydweithwyr – Nicholas Roerich ar gyfer y senario a’r dyluniadau, Vaclav Nijinsky ar gyfer y coreograffi – ddefnyddio’u dychymyg yma, ond fe wnaethant waith ymchwil hefyd. Bu Stravinsky, er enghraifft, yn chwilio am ganeuon hynafol i seilio ei gerddoriaeth arnynt.
Clywn un ohonynt yn syth, yn uchel ar fasŵn ar ddechrau’r ‘Cyflwyniad’, sy’n dwyn i gof bibau yn galw ar draws tirwedd wag. Mae’r tawelwch disgwylgar yn cael ei dorri gan rythm curiadau ‘Darogan y Gwanwyn – Dawnsfeydd y Genethod Ifanc’. Mae’r adran hon yn cronni haenau, ac yna’n codi i gyflymder rasio ar gyfer ‘Gêm Gipio’. Ar y llaw arall, mae ‘Dawnsfeydd Cylch y Gwanwyn’ yn symud gyda rhythm trwm tuag at uchafbwynt bygythiol, lle mae’r gerddoriaeth yn ffrwydro’n gyflym eto. Mae ailgychwyn wedyn yn arwain at ‘Gemau’r Llwythau Croes’ sy’n gyffrous, gydag ystumiau rhuthrol ac anghytundeb llwyr. Mae trombonau’n cychwyn ymdeithgan fygythiol a thrawiadol iawn, gan symud ymlaen at ‘Orymdaith y Doeth’. Yna ceir saib. Mae pedwar bar tawel – ‘Y Doeth’ – yn awgrymu eiliad o ddisgwylgarwch a gweithred hollbwysig, a nodir gan gord ar gyfer unawdwyr llinynnol sy’n chwarae cytgordiau. Mae hyn yn rhyddhau ‘Dawns y Ddaear’.
Mae’r ail ran yn cael ei lansio gan y ‘Cyflwyniad’, sef coedwig o liw. Mae trwmpedau’n seinio nodyn o rybudd, a’r cyrn yn cyhoeddi ‘Cylchoedd Cyfrin y Genethod Ifanc’. Mae rhybuddion offerynnau pres yn ymyrryd, ac mae hwrdd o ddrymio cyson yn arwain at symudiadau cyflym a rhuthriadau ‘Moli’r Un Dethol’. Mae’r diwedd yn cael ei baratoi. Mae bron pob un o’r offerynnau chwyth yn codi eu lleisiau gyda’i gilydd yn ‘Galw ar yr Hynafiaid’, a ddilynir gan ‘Defodau’r Hynafiaid’, sy’n dechrau’n ddrwgargoelus ac yn datblygu pŵer aruthrol. Mae ei egni’n cael ei adael yn chwildroi o gwmpas ychydig o offerynnau chwyth isel, ac yna’n llithro i mewn i’r rhan derfynol sef ‘Dawns Aberthol yr Un Dethol’.
Cafwyd terfysg yn y theatr pan berfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf, ym Mharis ar 29 Mai 1913. Ar sail y cyfnod cynhanes, yr oedd rhywbeth cyffrous a chythryblus o fodern wedi cyrraedd.
Nodyn y rhaglen © Paul Griffiths
Bywgraffiadau
Ryan Bancroft arweinydd

Photo: Benjamin Ealovega
Photo: Benjamin Ealovega
Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yr Artist Cyswllt o’r tymor 2021– 22 ymlaen. Y llynedd, cyhoeddwyd ei fod yn Brif Arweinydd Dynodedig Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm a bydd yn dechrau yn y swydd fis Medi nesaf.
Mae wedi perfformio am y tro cyntaf gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw yn Ewrop, gan gynnwys y Philharmonia, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Rotterdam, y BBC, cerddorfeydd Symffoni Radio Cenedlaethol Denmarc a Sweden, Cerddorfa Capitole Toulouse, RAI Turin ac Ensemble Intercontemporain. Yng Ngogledd America, mae wedi gweithio gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Houston a Toronto a bydd y tymor hwn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Dallas a Cherddorfa Minnesota. Mae hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Suntory Hall gyda New Japan Philharmonic a Midori, yn y Royal Festival Hall gyda’r Philharmonia a Syr Stephen Hough ac yn y Royal Concertgebouw gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd. Mae hefyd yn dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Gothenburg a Malmö.
Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, Cage, Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda threfnwyr byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Mae’n dychwelyd i weithio gydag Ensemble Intercontemporain ym mis Mawrth.
Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd.
Yeol Eum Son piano

Mae’r pianydd o Dde Korea, Yeol Eum Son, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi cael clod am bŵer a barddoniaeth ei chwarae. Mae’n perfformio ledled y byd fel datgeiniad ac unawdydd concerto. Mae hi hefyd yn gerddor siambr brwd ac yn 2018 cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Artistig Cerddoriaeth yng Ngŵyl PyeongChang.
Mae ei repertoire yn amrywio o Bach a Mozart i Ligeti ac Esa-Pekka Salonen ac mae wedi ymddangos gyda cherddorfeydd Ffilharmonig blaenllaw, gan gynnwys Bergen, y Weriniaeth Tsiec, Dresden, Efrog Newydd, St Petersburg a Sofia, Cerddorfa Theatr Mariinsky, Konzerthausorchester Berlin, Cerddorfa Tonkunstler, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfa Aurora, Orchestre de la Suisse Romande a Moscow Virtuosi, ymysg llu o rai eraill.
Mae’r arweinwyr y bu’n cydweithio a nhw yn cynnwys Ryan Bancroft, Dmitri Kitayenko, Valery Gergiev, Vasily Petrenko, Vladimir Spivakov, Andrew Manze, Susanna Mälkki, Krzysztof Urbański, Omer Meir Wellber, Pietari Inkinen, Jonathan Nott, Mikko Franck, Nicholas Collon, Jaime Martín, Roberto González-Monjas, Jonathon Heyward, Joana Carneiro, Pablo González, Jun Märkl, Case Scaglione, Edo de Waart, Gergely Madaras, Anja Bihlmaier a Rune Bergmann.
Y tymor hwn, mae’n Artist Preswyl gyda Cherddorfa Residentie yr Hâg. Mae ei huchafbwyntiau eraill yn cynnwys perfformio am y tro cyntaf heno gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â cherddorfeydd Siambr Saint Paul a’r Alban, Cerddorfeydd Symffoni Detroit, Radio’r Ffindir, Melbourne, Singapore, Sydney a Tasmania, NDR Radiophilharmonie Hanover, Orquesta Sinfónica del Principado de Asturias a Musikkollegium Winterthur.
Mae ei recordiadau diweddaraf yn cynnwys datganiadau o weithiau Kapustin a Schumann.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff
raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Nick Whiting Blaenwr Cyswllt
Martin Gwilym- Jones Is-Arweinydd
Gwenllian Hâf Macdonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Denis Bernier- Martin
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Juan Gonzalez
Gary George-Veale
Zhivko Georgiev
Paul Mann
Amy Fletcher
Catherine Fox
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ruth Heney
Ros Butler
Sheila Smith
Elliot Kempton
Katherine Miller
Beverley Wescott
Barbara Zdziarska
Sellena Leony
Joseph Williams
Vickie Ringguth
Michael Topping
Jane Sinclair
Elizabeth Whittam
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Ania Leadbeater
Sara Roberts
Linda Kidwell
Sharada Mack
Liam Lynch
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Katy Cox
Katie Tertell
Jacky Phillips
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones
Christopher Wescott
Laura Murphy
Richard Gibbons
Chris Kelly
Michael Chaffin
Albert Dennis
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
Oliver Roberts
Liz May
Ffliwt Alto
John Hall
Piccolos
Lindsey Ellis †
Liz May
Oboau
Steve Hudson *
Amy Mckean
Emily Cockbill
Adrian Rowlands
Cors Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Adrian Rowlands
Clarinetau
Natalie Harris
Jennie Joy Porton
Steve Morris
Clarinét E Feddalnod
Will White
Clarinetau Bas
Lenny Sayers †
Steve Morris
Baswnau
Vahan Khourdoian ‡
Gareth Humphreys
Jo Shewan
Chris Vale
Is-Faswnau
David Buckland †
Chris Vale
Cyrn
Tim Thorpe *
Tom Taffinder
Neil Shewan †
Craig Macdonald
Michael Gibbs
Alistair Rycroft
John Davy
William Haskins
Nathan Barker
Tiwbâu Wagner
John Davy
William Haskins
Utgorn Piccolo
Philippe Schartz *
Utgyrn
Dean Wright
Robert Samuel
Stuart Essenhigh
Jaco Roseberg
Utgorn Bas
Christopher Augustine
Trombonau
Donal Bannister *
Anders Østergaard Frandsen
Christopher Augustine
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwbâu
Daniel Trodden †
Pete Smith
Timpani
Steve Barnard *
Christina Slominska
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Girling
Phil Hughes
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

