Dathliadaur Nadolig

Nos Iau 18/12/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 19/12/25, 7.30pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Amrywiol, tr. Balcombe A Christmas Overture 3’

Herman, tr. Balcombe We Need a Little Christmas 4’

Cahm a Styne, tr. Balcombe Let it Snow 2’

Wilson, tr. Balcombe It’s Beginning to Look a Lot Like Christmas 3’

Cappeau ac Adam, tr. Balcombe O Holy Night 3’

Stanley, Taylor, Brooks, tr. Balcombe The Man with the Bag 3’

Armstrong, tr. Balcombe Glasgow Theme (o Love Actually)2’

Parish ac Anderson, tr. Balcombe Sleigh Ride 2’

Connor, tr. Balcombe I Saw Mommy Kissing Santa Claus 3’

Dammicco a Jay, tr. Balcombe When a Child is Born 2’

Pola a Wyle, tr. Balcombe It’s the Most Wonderful Time of the Year 2’

EGWYL: 20 munud

Jarre, tr. Balcombe Lara’s Theme (o Dr Zhivago) 4’

Rollins a Nelson, tr. Balcombe Frosty the Snowman 3’

Javits, Springer ac Ebb, tr. Balcombe Santa Baby 3’

Tormé a Wells Christmas Song 3’

Gannon a Kent I’ll Be Home for Christmas 4’

Anderson-Lopez a Lopez, tr. Balcombe Let it Go! (o Frozen) 3’

Amrywiol, tr. Balcombe Christmas at the Movies 5’

Loesser, tr. Balcombe Baby, it’s Cold Outside 4’

Amrywiol, tr. Rutter, tr. Balcombe The Twelve Days of Christmas 4’

Carey, Afanasieff, John a Taupin, tr. Balcombe All I Want/Step into Christmas 5’

Martin a Blane, tr. Balcombe Have Yourself a Merry Little Christmas 4’

Berlin, tr. Balcombe White Christmas 2’

Richard Balcombearweinydd
Katie Birtill cantores
Graham Bickley canwr

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio Wales i’w ddarlledu ar 25 Rhagfyr. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’n dathliad blynyddol o bopeth Nadoligaidd. Yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mae’r arweinydd Richard Balcombe a sêr y West End Katie Birtill a Graham Bickley.

Aiff y rhaglen â ni ar daith Nadoligaidd hudolus, gan roi tinc jazz ar rai o ganeuon yr Ŵyl, o’r hen glasuron i ffefrynnau ein hoes ni. Cawn ddechrau mewn steil gyda’r Christmas Overture, un o nifer o alawon fydd yn arddangos doniau trefnu ein harweinydd heno.

Ochr yn ochr â cherddoriaeth o ffilmiau poblogaidd fel Dr Zhivago, Frozen a Love Actually cawn fwynhau darnau traddodiadol fel O Holy Night a The Twelve Days of Christmas, ynghyd ag ambell gân jazzaidd fel I Saw Mommy Kissing Santa Claus a Baby, it’s Cold Outside, oll yn arwain at uchafbwynt y noson, White Christmas.

Dymunwn nadolig llawen a blwyddyn newydd dda ac iach i’n cynulleidfaoedd!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Bywgraffiadau

Richard Balcombe arweinydd

Mae Richard Balcombe wedi hawlio’i le fel un o gerddorion mwyaf amryddawn ei genhedlaeth.

Ym maes opera mae wedi arwain The Gondoliers (Opera Cenedlaethol Lloegr), Barbwr Seville (Cerddorfa Ulster), Y Ffliwt Hud a gwaith Offenbach, Bluebeard (Cerddorfa Siambr Lloegr), Rigoletto (Opera Teithiol Lloegr), Madama Butterfly (Central Festival Opera), Die Fledermaus, The Merry Widow, The Mikado,  HMS Pinafore, The Gondoliers a Pirates of Penzance (Carl Rosa) ac HMS Pinafore a The Mikado (Cwmni Opera D’Oyly Carte ym Mhrydain ac America). Bu hefyd yn arweinydd ar Syr Bryn Terfel, José Carreras a Roberto Alagna ac Angela Gheorghiu.

Mae wedi gweithio gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys cerddorfeydd Symffoni Bournemouth, BBC yr Alban, Estonia, Gothenburg, Odense a Stavanger, cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC, Llundain, Malaysia, Qatar a’r Royal Philharmonic, Orchestre National de Lille, Stockholm Sinfonietta, Cerddorfa Siambr Prag, Hallé a cherddorfeydd cwmnïau Opera Cenedlaethol yr Alban, Cymru a Lloegr.

Yn y West End bu’n Gyfarwyddwr Cerdd ar Phantom of the Opera, Aspects of Love, Carmen Jones, Cats a Once on this Island; ymhlith eigydnabyddiaethau mewn mannau eraill mae Divorce me Darling, Out of this world, The Gondoliers a How to succeed in business (Gŵyl Chichester), Follies in Concert (Palladium Llundain), Wonderful Town, Oklahoma a South Pacific (Grange Park Opera) ac Anton and Erin (teithiau cenedlaethol 2010–22). Bu’n oruchwyliwr cerddorol ar Top Hat, Promises and Lies (dau première byd) a thaith genedlaethol Kiss me Kate. Yn 2008 bu’n Gydymaith Cerdd ar gyfres deledu enwog y BBC, Maestro, ac yn 2009 trefnodd Shall we Dance ar gyfer cerddorfa, ac arwain y darn ar gyfer y canwr Adam Cooper (Sadlers Wells).

Katie Birtill cantores

Ar ôl cyfnod yn astudio meddygaeth ym Mryste, penderfynodd Katie Birtill ddilyn ei breuddwyd o fod yn berfformwraig trwy fynd i astudio theatr gerddorol yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Ers hynny, mae hi wedi mwynhau gyrfa amrywiol ym maes theatr a cherddoriaeth. Pan nad yw’n canu fel unawdydd cyngerdd, fe’i gwelir yn rhoi perfformiadau unigol mewn ambell ŵyl neu glwb jazz. Mae hi wedi rhyddhau dau recordiad: ei halbwm cyntaf Baby, Dream Your Dream a’r EP Something’s Coming. Mae’r ddwy record yn cyfuno’r ddau genre sy’n agos at ei chalon, gan gyflwyno caneuon sioeau cerdd gyda thinc jazz.

Mae wedi perfformio fel unawdydd gyda cherddorfeydd drwy Brydain ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Malaysia, Cerddorfa Ffilharmonig Lerpwl a'r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Hallé, Cerddorfa Gyngerdd RTÉ, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfa John Wilson, Ensemble Symffoni Celfyddydau Barcelona a Cherddorfa Swing ‘Down For The Count’.

Fel actores, ymddangosodd yn Tell Me on a Sunday, The Knights of The Rose, Sweet Charity, Last Five Years, Priscilla, Queen of the Desert, By Jeeves, The Boy Who Fell into a Book, a Dreamboats and Petticoats

Graham Bickley canwr

Mae Graham Bickley yn hen law yn theatrau’r West End ac yn unawdydd cyngherddau heb ei ail. Mae wedi ymddangos mewn sioeau cerdd di-rif gan gynnwys They’re Playing Our Song, The Pirates of Penzance, Les Misérables, Miss Saigon, Ragtime, Metropolis, Maddie, The Pajama Game, Sunset Boulevard a High Society, gan gael ei enwebu bedair gwaith am wobr yr actor gorau mewn sioe gerdd, gan gynnwys enwebiad am Wobr Laurence Olivier.

Bu’n perfformio gyda cherddorfeydd niferus ledled Prydain a Gogledd Iwerddon, Ewrop, Asia a De America. Mae ei waith cyngerdd yn cynnwys Wonderful Town, Guys and Dolls, Jesus Christ Superstar, Evita ac On the Town. Perfformiodd gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC yn y rhaglen gyngherddau radio Friday Night Is Music Night ac mewn dau gyngerdd Proms y BBC; a gyda’r Royal Philharmonic perfformiodd ddegawd o gyngherddau Best of Broadway yn y Royal Albert Hall. Mae hefyd wedi ymddangos mewn cyngherddau lu ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, yn Oman a Tsieina.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Róisín Verity
Martin Gilyn-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Žanete Uškāne
Juan Gonzalez
Emilie Godden
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Ruth Heney **
Anna Cleworth
Kerry Gordon-Smith

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Beverley Wescott
Michael Topping
Lydia Caines
Joseph Williams
Jane Sinclair
Elizabeth Whittam
Gary George-Veale

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Lydia Abell
Lowri Taffinder

Soddgrythau
Leo Popplewell 
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Keith Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Richard Lewis
Chris Wescott
Emma Prince
Imogen Fernando

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Cor anglais
Amy McKean

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers +**

Clarinét Bas
Lenny Sayers †+**

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Jo Shewan

Cyrn
Anna Drysdale 
Meilyr Hughes
John Davy
Flora Bain
Tom Taffinder

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Mike Lovatt

Trombonau
Dafydd Thomas †
Simon Baker

Trombôn Bas
Darren Smith †

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Elliot Gaston-Ross 
Jake Brown

Y Delyn
Eluned Pierce

Cit Drymiau
Matt Senior

Gitâr
Mitch Dalton

Gitâr Fas
Al Swainger

Piano
Rebecca Nash

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol




Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications