

Rhamantwyr Cain
Nos Iau 3/4/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 4/4/25, 7.30pm
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

Fanny Mendelssohn
Agorawd 10’
Edward Elgar
Concerto i’r Soddgrwth 30’
EGWYL: 20 munud
Johannes Brahms
Symffoni Rhif 4 39’
Simone Menezes arweinydd
Bryan Cheng soddgrwth
Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf
Caiff y cyngerdd yng Nghaerdydd ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn Classical Live yn y dyfodol; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu trwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’n cyngerdd heno, lle rydym yn falch iawn o groesawu’r arweinydd o dras Eidalaidd o Frasil, Simone Menezes, i gyflwyno noson o gampweithiau Rhamantaidd.
Yn gyntaf, darn sy’n haeddu bod yn llawer mwy adnabyddus – yr Agorawd yn C fwyaf gan Fanny Mendelssohn, ei hunig waith symffonig, sy’n dangos y fath gryfder a chymeriad fel na allwn ond galaru nad oes llawer mwy i’w fwynhau.
Bydd y sielydd addawol Bryan Cheng yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng Nghoncerto enwog Elgar i’r Soddgrwth. Dyma ddarn sy’n llawn harddwch trwm ac angerdd mawr, a phob ennyd o ddisgleirdeb a glywir yn gwasanaethu’r gerddoriaeth bob amser.
I gloi, cawn symffoni olaf Brahms, ei Bedwaredd – darn y bu’n llafurio’n galed drosto ac yn amheus ynghylch sut dderbyniad a gâi, yn enwedig gan ei fod mor wahanol i’r Drydedd gysurlon. Ond roedd y gwaith a gyflwynodd i’w gynulleidfaoedd yn ddarn llawn tensiwn, drama a meistrolaeth symffonig sy’n llwyr foddi’r emosiynau.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Fanny Mendelssohn (1805–47)
Agorawd yn C fwyaf(1830–32)

Trwy gydol eu plentyndod yn Berlin, cafodd y brawd a’r chwaer Felix a Fanny Mendelssohn ill dau addysg gerddorol o’r radd flaenaf. Ond wrth i Felix gychwyn ar yrfa ddisglair, bu raid i Fanny, a hithau’n 14 oed, dderbyn gair ei thad na allai cerddoriaeth, i ferch, fyth fod yn ddim mwy nag ‘addurn’ i fywyd domestig. A doedd Felix yntau ddim am annog Fanny i gyhoeddi ei gwaith – heblaw am ambell ddarn a argraffwyd o dan ei enw ef.
Yn ffodus, doedd gŵr Fanny, yr artist Wilhelm Hensel, ddim o’r un brethyn: bob bore byddai’n gosod dalen o bapur erwydd gwag ar ei desg. O’i hysgrifbin daeth llifeiriant o ganeuon, darnau piano a cherddoriaeth siambr hynod o gain, rhyw 400 darn i gyd. Yn drist iawn, newydd fagu digon o blwc i ddechrau eu cyhoeddi nhw dan ei henw ei hun oedd hi pan fu farw o strôc, yn 41 oed. A thebyg iawn oedd tynged Felix chwe mis yn ddiweddarach.
Yr Agorawd yn C yw ei hunig waith cerddorfaol pur ac mae’n dyddio o 1830–32, wedi’i ysgrifennu i’w berfformio yn salon serennog y teulu. Ddwy flynedd ar ôl première y darn, arweiniodd Fanny ail berfformiad ei hun. ‘Petawn i heb fod mor swil, a phob strôc yn gwneud imi gochi, mi allwn fod wedi gwneud arweinydd go lew,’ meddai wrth Felix. ‘Roedd yn andros o hwyl clywed y darn am y tro cyntaf ers dwy flynedd a chanfod bod popeth fel roeddwn i’n ei gofio. Roedd pobl i weld yn mwynhau – roedden nhw’n garedig iawn, yn fy nghanmol i, yn beirniadu ambell ran anymarferol, ac maen nhw am ddod yn ôl ddydd Sadwrn nesaf. Felly mi fu’r profiad yn bleser annisgwyl imi.’
Ar ôl agor gyda chyflwyniad araf, mewn amser triphlyg, mae’r agorawd yn ymdaflu i Allegro 4/4 byrlymus gan feiolinau blodeuog dramatig. Mae ar ffurf sonata, a thema delynegol yn wrthgyferbyniad i’r thema allblyg agoriadol. Grŵp o unawdwyr yw’r chwythbrennau i bob pwrpas, a daw tremolandos llinynnol yn adran y datblygiad i greu naws hudolus fyw. Ni chafwyd cyhoeddwr i’r gwaith tan mor ddiweddar â 1994. Gwell hwyr na hwyrach.
Nodyn y rhaglen © Jessica Duchen
Edward Elgar (1857–1934)
Concerto i’r Soddgrwth yn E leiaf, Op. 85
(1918–19)

1 Adagio – Moderato –
2 Lento – Allegro molto
3 Adagio
4 Allegro – Moderato – Allegro, ma non troppo
Bryan Cheng soddgrwth
‘Rwy’n unig nawr ac nid wyf yn gweld cerddoriaeth yn yr hen ffordd, ac ni allaf gredu y gwnaf gwblhau unrhyw waith newydd ... Uchelgais nid oes gennyf ddim,’ ysgrifennodd Elgar, ychydig dros flwyddyn ar ôl cwblhau ei Goncerto yn E leiaf i’r Soddgrwth. Hwn fyddai ei waith mawr olaf. Ac eithrio ambell ddarn bach o gerddoriaeth siambr a llond llaw o drawsgrifiadau, ni chyfansoddodd Elgar fawr ddim o bwys yn ystod 14 blynedd olaf ei fywyd, er iddo ddechrau gweithio ar lu o sgoriau newydd heb lwyddo i’w gorffen: Concerto i'r Piano, Trydedd Symffoni ac opera yn eu plith. Roedd ei awch dros gyfansoddi wedi marw gyda’i wraig, Alice, a fu farw chwe mis yn unig ar ôl perfformiad cyntaf y Concerto i'r Soddgrwth.
Doedd marwolaeth Alice ddim yn annisgwyl. Yn y misoedd cynt, roedd Elgar wedi sôn ei bod hi ‘fel petai’n diflannu’n raddol o flaen llygaid dyn’. Ond, wrth iddi hi waelu, aeth persona cerddorol Elgar yn fwy mewnsyllol. Ac yntau heb ysgrifennu fawr ddim yn ystod blynyddoedd y rhyfel, yn 1918–19 creodd bedwar o weithiau harddaf – a mwyaf nodedig – ei yrfa. Arddull newydd, fyfyriol oedd i’w Sonata i’r Ffidil, ei Bedwarawd Llinynnol a’i Goncerto i’r Soddgrwth (pob un yn E leiaf), a’i Bumawd Piano yn A leiaf, gweithiau ‘bendigedig’ ym marn Alice. Roedd y beirniaid yn llawn edmygedd o’r Elgar newydd hefyd, er bod première y Concerto i’r Soddgrwth, gan Gerddorfa Symffoni Llundain yn Neuadd y Frenhines ym mis Hydref 1919, bron yn drychineb. Mae’n debyg y neilltuwyd gormod o amser ymarfer i’r gweithiau eraill ar y rhaglen, nes i adolygydd The Observer nodi: ‘Ni wnaeth cerddorfa mor fawr erioed, yn ôl pob tebyg, sioe mor druenus ohoni’i hun ... Mae’r gwaith ei hun yn hyfryd, yn syml iawn – y symlrwydd beichiog hwnnw sydd wedi nodweddu cerddoriaeth Elgar yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf – ond gyda doethineb dwfn a harddwch yn sail i’w symlrwydd.’
Yn wahanol i’w Goncerto i’r Ffidil o 1907-10, sy’n fawreddog, angerddol ac – yng ngeiriau Elgar ei hun – ‘yn rhy emosiynol’, mae’r Concerto i’r Soddgrwth yn ddwys, yn fyfyriol ac yn llawn dyhead hiraethus. Nid concerto i arddangos dawn feistrolgar yr offerynnwr mo hwn mewn unrhyw ystyr draddodiadol, er mai’r unawdydd sy’n dal i gario pwysau’r naratif. Yma, mae’r sielydd yn rhan-berfformiwr ac yn rhan-adroddwr, gan agor y gwaith gydag adroddgan feiddgar sy’n dechrau fel cri o wae cyn pylu’n bruddglwyfus yn syth. Mae’r gerddorfa, hefyd, yn camu’n ôl, a’i hadleisiau ysgafn a’i chyfeiliant tawel heb fwrw cysgod byth dros linellau crwydrol yr unawdydd. Er y ceir fflachiadau o fawredd a hyd yn oed o ysgafnder, yn enwedig yn yr ail symudiad brysiog a gorymdaith y symudiad olaf, mae’r enydau hyn yn gwibio heibio, un ai wedi’u sgubo i ffwrdd gan syniad arall neu wedi’u tanseilio gan nodyn o dristwch. Dyma’r Elgar dwys a meddylgar, yn diosg ei faich fel pe bai’n nofio ar fôr o fyrfyfyrio.
Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride
EGWYL: 20 munud
Johannes Brahms (1833–97)
Symffoni Rhif 4 yn E leiaf, Op. 98(1884–5)

1 Allegro non troppo
2 Andante moderato
3 Allegro giocoso
4 Allegro energico e passionato
Hoffai Johannes Brahms dynnu coes ei ffrindiau – yn enwedig fydden nhw’n ei holi am beth roedd o wrthi’n ei ysgrifennu ar y pryd. Weithiau byddai’n eu camarwain yn llwyr, ond ar brydiau eraill gallai’r dyn gwirioneddol swil a sensitif hwn leisio amheuon am ei ymdrechion diweddaraf – ac mae’n debyg mai felly yr oedd hi gyda’r Bedwaredd Symffoni. Mewn llythyr at yr arweinydd Hans von Bülow o dref wyliau Mürzzuschlag yn yr Alpau yn Awstria ym 1885, mae Brahms yn pendroni – dim ond yn lled-wamal – tybed a oedd y tywydd wedi cael effaith negyddol ar y gerddoriaeth: ‘Mae gen i ofn ei fod yn debyg i’r hinsawdd yn y parthau hyn – dydi’r ceirios ddim yn aeddfedu yma; fyddech chi ddim yn eu bwyta!’ Mae’r un ddelwedd yn ymddangos mewn llythyr at gyfaill agos arall, Elisabeth von Herzogenberg: ‘Yn y maes gwaith rydw i’n siarad amdano, dydi’r ceirios ddim yn tyfu’n aeddfed a melys eu blas – os nad ydych chi’n hoffi’r peth, dwedwch hynny, da chi.’
Gallai hynny helpu i esbonio pam roedd rhai o ffrindiau cerddorol agosaf Brahms yn ei chael hi’n anodd cymryd at y Bedwaredd Symffoni ar y gwrandawiad cyntaf. Ymateb swta oedd adroddiad cyntaf Hans von Bülow i’w asiant cyngherddau: ‘Pedwaredd Brahms, E leiaf, ymddengys yn anodd, tra anodd.’ Efallai mai rhan o’r broblem oedd ei bod mor wahanol i waith mawr diwethaf Brahms, y Drydedd Symffoni. Yn dyner, agos-atoch, a thawel yn y diwedd, roedd y Drydedd yn llawn pethau a oedd yn ‘aeddfed a melys eu blas’. Mewn cyferbyniad, roedd Symffoni Rhif 4 yn aml yn nerfus angerddol, yn annifyr o amwys, ar adegau hyd yn oed yn llym o ran lliw (y ceirios sur yna eto). Ac roedd y symudiad olaf yn wahanol i unrhyw beth roedd Brahms wedi’i greu o’r blaen: cyfres dynn, wedi’i hadeiladu’n drylwyr, o amrywiadau ar thema o gordiau moel gan yr offerynnau chwyth, yn symud yn gwbl anochel tuag at ddiweddglo tywyll yn y cywair lleiaf. Er gwaethaf sawl ennyd hardd, symffoni oedd hon nad oedd fel petai’n cynnig fawr o gysur i enaid gwan.
Ond gall ceirios sur fod yn flasus yn y cyd-destun iawn; gall trasiedi fod yn fywiocaol, yn ddyrchafol hyd yn oed – a dyna, mae’n debyg, sut y mae llawer o bobl erbyn hyn yn ymateb i Bedwaredd Symffoni Brahms. Mae rhai wedi canfod awgrymiadau o ‘ddweud tywyll’ yn y symffoni, ac i’r rhai sy’n hoff o chwilio am ystyron y tu ôl i’r nodau neu’r tu mewn iddynt, plannodd Brahms ambell gliw yn ofalus. Yn y symudiad cyntaf, er enghraifft, clywn rag-adleisiau arswydus o’r drydedd o’i Bedair Cân Ddifrifol: ‘O angau, o angau, mor chwerw wyt ti.’ A’i duedd at iselder, câi Brahms ei blagio o hyd gan feddyliau am farwolaeth, ac roedd y meddyliau hynny’n dwysáu wrth iddo droi’r hanner cant – fel y gwnânt i lawer ohonom. Mae’r ddau symudiad canol efallai’n cynnig cysur, a hyd yn oed y posibilrwydd o lawenydd (mae’r trydydd symudiad egnïol, gorymdeithiol wedi’i farcio ‘giocoso’, neu ‘chwareus’), ond daw thema’r symudiad olaf o un o gantatas eglwysig tywyllaf J. S. Bach, Nach dir, Herr, verlanget mich, BWV150 (‘Mae fy enaid yn hiraethu amdanat ti, O Dduw’). Eto, mae rhywbeth gwefreiddiol am y gerddoriaeth hon: nid yw’n ildio; mae’n herfeiddiol ac yn llawn bywyd. Efallai mai’r peth agosaf ati mewn geiriau yw cerdd wych Dylan Thomas ‘Fern Hill’: ‘Time held me green and dying / Though I sang in my chains like the sea.’
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Missa solemnis
Nos Iau 10/4/25, 7.30pm
Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd
Nos Wener 11/4/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Beethoven Missa solemnis
Andrew Manzearweinydd
Carolyn Sampson soprano
Sophie Harmsen mezzo-soprano
Ed Lyon tenor
Darren Jeffery bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
MAWREDDOG | CLODFORUS | O’R RADD FLAENAF
Mae Missa solemnis gan Beethoven, a saif fel cofeb ymysg gweithiau corawl cysegredig, yn osodiad o’r offeren sy’n aruthrol o ran ei rym a’i raddfa. Ynddo mae mawredd aruchel a serenedd nefolaidd yn dawnsio gyda ffigurau onglog sy’n neidio; mae cyferbyniadau deinamig ffyrnig yn plethu drwy’r rhannau wedi’u trefnu’n ofalus i rymoedd cyfun y gerddorfa a’r corws; ac yn ffrwtian yn gyson dan yr wyneb, ceir naws chwilgar sy’n adlewyrchu ffydd y cyfansoddwr ei hun – sef edrych y tu hwnt i’n dealltwriaeth ni at Dduw dwyfol.
Roedd Beethoven o’r farn mai’r Missa solemnis oedd ei waith gorau, ac mae’n sicr yn ddarn sydd ar restr ddymuniadau pob un sy’n caru cerddoriaeth. Gydag unawdwyr nodedig yn camu i’r llwyfan, ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, mae hwn yn argoeli i fod yn berfformiad rhy dda i’w golli.
Caneuon Tynged
Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain
Nos Wener 20/6/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Brahms Serenâd Rhif 2
Brahms Schicksalslied
Stravinsky Symffoni’r Salmau
Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
CELFYDD | TANBAID | DARLUNIADOL
Os bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahms o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.
Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn Symffoni’r Salmau yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd ag ysgrifennu ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau...dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.
Bywgraffiadau
Simone Menezesarweinydd
Mae Simone Menezes yn enwog am ei rhagoriaeth artistig, ei dyfnder cerddorol a deallusol a’i recordiadau clodwiw.
Mae hi wedi gweithio gyda rhai o gerddorfeydd mwyaf y byd, gan gynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Los Angeles, cerddorfeydd Symffoni Albanaidd y BBC, Detroit, Frankfurt Radio, Osaka a São Paulo, Cerddorfa Philharmonia, Orchestra dell’Accademia Nazionale di Santa Cecilia a Cherddorfa Siambr Fienna. Mae hi hefyd wedi cydweithio ag unawdwyr a chyfansoddwyr o fri, gan gynnwys Fazıl Say, Gautier Capuçon, Thomas Adès a Philippe Hersant. Mae wedi arwain dros 20 première byd.
Cafodd ganmoliaeth uchel am arwain perfformiadau cerddorfaol traddodiadol a phrosiectau amlddisgyblaethol. Mae ei recordiadau wedi ennill clod y beirniaid, gan gynnwys prosiect i recordio holl weithiau Maurice Ravel, gyda’r albwm cyntaf wedi’i ryddhau’n ddiweddar.
Ymhlith ei phrosiectau arloesol mae’r rhaglen ddogfen Metanoia – gyda cherddoriaeth gan Puccini, Pärt a Bach – a enillodd wobr yng Ngwobrau Cerddoriaeth Glasurol Ryngwladol 2023.
Prosiect mawr arall yw Amazônia, cyngerdd sy’n cyfuno gwaith y ffotograffydd enwog Sebastião Salgado â cherddoriaeth gan Philip Glass a Villa-Lobos; fe’i cyflwynwyd mewn neuaddau cyngerdd ledled y byd, yn ogystal â’i recordio er clod mawr. Y llynedd cafodd ei chanmol am berfformio dehongliad o Scheherazade yn y Boulez Saal yn Berlin; datblygwyd hwn yn ystod cyfnod preswyl artistig lle bu’n cydweithio â’r actores Golshifteh Farahani, a chafwyd recordiad hefyd. Eleni mae’n cyflwyno Four Elements gyda Cherddorfa Ffilharmonig Osaka, sy’n cynnwys première byd Concerto Piano Fazıl Say.
Yn artist o dras Eidalaidd sy’n hanu o Frasil, astudiodd Simone Menezes yn São Paulo, Paris a Llundain, a chafodd ei mentora gan Paavo Järvi. Mwynhaodd yrfa lachar ym Mrasil cyn symud i Ewrop yn 2017. Mae hi hefyd yn arwain Ensemble K, grŵp a sefydlwyd yn 2019 gyda’r nod o gyfuno traddodiadau clasurol â phrosiectau beiddgar, blaengar.
Bryan Cheng soddgrwth
Andrej Grilc
Andrej Grilc
Ar ôl ennill gwobrau yn ddiweddar yn rhai o gystadlaethau rhyngwladol mwya’r byd, gan gynnwys y Queen Elisabeth, Genefa a Paulo, mae’r sielydd Bryan Cheng o Ganada, sy’n byw bellach yn Berlin, wedi sefydlu ei hun fel artist ifanc pwysig ym myd cerddoriaeth glasurol.
Y tymor hwn mae’n ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Ankara Presidential, Bochum, Radio Frankfurt a Greensboro, Orchestre Métropolitain, Orquesta Reino de Aragón, Cerddorfa Ffilharmonig Tampere a Cherddorfa Siambr Stuttgart, mewn gweithiau gan Elgar, Haydn, Saint-Saëns, Tchaikovsky a Mason Bates.
Ymhlith uchafbwyntiau diweddar mae ymddangosiadau gyda’r Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, cerddorfeydd Ffilharmonig Brwsel, Calgary, Helsinki a Slofacia, Orchestre de la Suisse Romande, National Arts Centre Orchestra Ottawa a cherddorfeydd Symffoni Antwerp, India, Montreal a Taiwan. Mae wedi cydweithio ag arweinwyr enwog, gan gynnwys Stéphane Denève, Martyn Brabbins, Susanna Mälkki, Alpesh Chauhan, Matthias Pintscher, Dalia Stasevska, Daniel Raiskin, Christian Arming, Yan-Pascal Tortelier, Giordano Bellincampi, Jonathan Darlington, Joshua Weilerstein a Laurence Equilbey.
Fe’i penodwyd yn Artist Preswyl gyda cherddorfa Filarmonica Banatul Timişoara dros gyfnod y ddinas yn Brifddinas Diwylliant Ewrop yn 2023/24; mae’n parhau â’r preswyliad y tymor hwn gyda chyngherddau cerddorfaol a siambr.
Gwnaeth Bryan Cheng ei ymddangosiad cyntaf yn Carnegie Hall yn 14 oed, chwaraeodd am y tro cyntaf yn yr Elbphilharmonie yn 20 oed gyda’r Deutsche Kammerphilharmonie Bremen, ac yn 2022 ef oedd y sielydd cyntaf i dderbyn Prix Yves Paternot i gydnabod cerddor mwyaf addawol a medrus Academi Gŵyl Verbier. Ef yw derbynnydd Gwobr Virginia Parker gan Gyngor Celfyddydau Canada yn 2023, anrhydedd uchaf y genedl i gerddorion ifanc.
Mae wedi rhyddhau pedwar albwm a blesiodd y beirniaid: Russian Legends (2019), Violonchelo del fuego (2018), Violoncelle français (2016) ac, yn fwyaf diweddar, Portrait (2023).
Mae Bryan Cheng yn chwarae’r soddgrwth ‘Bonjour’ Stradivari c.1696, ar fenthyg hael gan Fanc Offerynnau Cerdd Cyngor Celfyddydau Canada, ar ôl ennill cystadlaethau’r Cyngor yn 2018 a 2023.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Martin Gwilym-Jones blaenwrGwenllian Hâf MacDonaldShana Douglas
Terry PorteusKerry Gordon-SmithRuth Heney **Anna CleworthŽanete UškāneCarmel Barber
Alejandro TrigoAmy Fletcher
Gary George-Veale
Paul Mann
Jane Sinclair
Ail FfidlauAnna Smith *Ros ButlerSheila SmithVickie RingguthBeverley WescottRoussanka KaratchivievaKatherine MillerLydia Caines **Michael ToppingJoseph Williams
Liz Whittam
Frances Richards
FiolâuRebecca Jones *Alex Thorndike #Tetsuumi NagataPeter TaylorLaura SinnertonAnna GrownsLydia Abell
Robert Gibbons
Lowri Taffinder
Daire Roberts
SoddgrythauReinoud Ford ‡Jessica FeaverKeith Hewitt
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Katy Wright
Basau DwblPeter Fry ‡
Christopher WescottRichard GibbonsEmma Prince
Ayse Osman
Hannah Turnbull
FfliwtiauMatthew Featherstone *John Hall †
PiccoloJohn Hall †
OboauSteve Hudson *
Amy McKean †
ClarinetauNicholas Carpenter *Will White
BaswnauJarosław Augustyniak *Rhiannon Carmichael
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
CyrnTim Thorpe *Meilyr HughesNeil Shewan †Tom Taffinder
Alexander Harris
UtgyrnPhilippe Schartz *
Ben Jarvis
TrombonauDonal Bannister *Dafydd Thomas †
Trombôn BasDarren Smith †
TiwbaMatthew Thistlewood
TimpaniSteve Barnard *
Offerynnau Taro Phil Hughes
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +**
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol swydd wag
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications





