Haydn – Offeren ‘Nelson’
Nos Iau 6/4/23, 7.30pm

Jean-Féry Rebel
Les Élémens – Chaos 7’
Henry Purcell
King Arthur – cyfres 27’
EGWYL: 20 munud
Joseph Haydn
Offeren ‘Nelson’ 42’
Anna Dennissoprano
Hilary Summers contralto
Rupert Charlesworthtenor
Edward Hawkinsbas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Christian Curnynarweinydd

Mae’r cyngerdd yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 yn y rhaglen Radio 3 in Concert. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu ar BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnig podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Croeso

Ar gyfer y cyngerdd heno, rydyn ni’n falch iawn o groesawu Christian Curnyn, arweinydd sydd yn arbennig o frwd dros repertoire Baróc a Chlasurol.
Rydyn ni’n dechrau gydag un o’r agorawdau mwyaf dramatig ym myd cerddoriaeth, sef cynrychiolaeth anarchaidd gogoneddus o anhrefn gan y cyfansoddwr Baróc o Ffrainc, Jean-Féry Rebel. Cafodd hwn ei gyfansoddi’n wreiddiol ar gyfer bale; mae Henry Purcell yn cynnig drama o fath gwahanol yn King Arthur, gwaith sy’n cyfuno geiriau llafar a cherddoriaeth ac sy’n amrywio o’r ffraeth i’r aruchel – gyda chân enwocaf y darn, ‘Fairest isle’, yn enghraifft hyfryd o hyn.
Ar gyfer yr ail hanner, rydyn ni’n symud i Haydn yn anterth ei bwerau aeddfed, a’i Offeren ‘Nelson’, gwaith sydd, yn ei dro, yn ddwys, yn weddigar ac yn orfoleddus yn y pen draw. Mae rhestr nodedig o unawdwyr yn ymuno â’r gerddorfa ac, wrth gwrs, Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Jean-Féry Rebel (1666–1747)
Les Élémens (1737–8) – Chaos

Roedd gwaith olaf Jean-Féry Rebel – ffigwr sefydliadol yn Versailles yn ystod y 1730au – yn fale o’r enw Les Élémens (‘Yr Elfennau’) a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 1737. Mewn naw symudiad i ddechrau, roedd yn darlunio’r elfennau y credid eu bod yn ffurfio’r holl greadigaeth: Y Ddaear, Aer, Tân a Dŵr.
Fodd bynnag, cyn sefydlu trefn y byd naturiol, roedd popeth yn gythrwfl. Roedd y pedair elfen, a oedd mor wahanol ac unigryw yn ddiweddarach, yn we ddryslyd ac yn brwydro dros oruchafiaeth. Ar gyfer ail berfformiad Les Élémens cyfansoddodd Rebel symudiad ychwanegol, agorawd o’r enw ‘Chaos’.
Mae ‘Chaos’ yn dechrau gyda chord clwstwr o nodau sy’n gwrthdaro’n dreisgar, yn wahanol i unrhyw gerddoriaeth arall yn ystod y cyfnod. Roedd yn dra gwahanol i’r rheolau harmoni confensiynol a fyddai’n rheoli cerddoriaeth y Gorllewin tan yr 20fed ganrif.
Mae’r cacoffoni agoriadol yn parhau gyda rhythm dirgrynol llawn egni sy’n ymddangos fel pe bai’n rhagddarlunio sgôr bale arbennig arall: Defod y Gwanwyn gan Stravinsky. Yn yr un modd â’r gwaith hwn, mae gan gerddoriaeth agoriadol Rebel ddwysedd cysefin, sy’n adlewyrchu ansawdd elfennol ei destun.
Yna, mae’r elfennau unigol yn dechrau dod i’r amlwg. Mae’r tân yn cael ei gynrychioli gan gordiau cyflym bywiog a chwyrliadau ar y llinynnau, tra bo’r thema sy’n cynrychioli Dŵr yn cynnwys graddfeydd gosgeiddig sy’n gostwng ac yn gorgyffwrdd â’i gilydd yn adrannau’r ffidlau a’r ffliwtiau. Mae Aer yn cael ei gynrychioli gan driliau ffliwt tebyg i drydar adar sy’n hofran uwchben y gwead; ac mae crosietau bas mesuredig yn awgrymu traed yn disgyn ar y Ddaear soled.
Wrth i’r elfennau, yng ngeiriau Rebel, ‘geisio dod yn rhydd o’i gilydd’, cânt eu clywed mewn gwahanol gyfuniadau, gyda’r anrhefn yn lleihau dros saith adran fer yr agorawd. I gloi, yn dilyn darn byr sy’n ein hatgoffa o’r anghyseinedd agoriadol, mae thema’r Ddaear yn cipio grym ac mae trefn yn teyrnasu o’r diwedd.
Nodyn y rhaglen © Helen Cocks
Gwrando Pellach: Ensemble Pygmalion/Raphaël Pichon (Harmonia Mundi HMM902288)
Henry Purcell (1659–95)
King Arthur (1691) – cyfres

1 Y Gerddoriaeth Gyntaf: Agorawd
2 Yr Ail Gerddoriaeth: Aire
3 ‘How blest are shepherds’
4 Alaw’r Ail Act: Aire
5 ‘How happy the lover’
6 Act 5: Alaw’r Gân – ‘Fairest isle’
7 ‘You say, ’tis love’
8 Y Ddawns Fawr (Chaconne)
Anna Dennissoprano
Rupert Charlesworthtenor
Edward Hawkinsbas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Ar ôl gweld perfformiad o Dioclesian gan Henry Purcell yn 1690, datganodd y bardd a’r dramodydd John Dryden ei fod ‘o’r diwedd wedi darganfod Sais sydd cystal â’r goreuon dramor’. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gwahoddodd Dryden y cyfansoddwr ifanc i gydweithio ag ef a chafodd eu cyfansoddiad King Arthur ei berfformio am y tro cyntaf yn 1691.
King Arthur yw’r unig un o led operâu Purcell (croesiad Seisnig unigryw o theatr lafar a masque ) i gael ei hadeiladu’n bwrpasol gan ei dramodydd. Mae ganddi hyblygrwydd a chydlyniant sy’n ei gwneud yn wahanol. Mae’n bosib nad yw stori’r Sacsoniaid a’r Brythoniaid rhyfelgar yn meddu ar apêl gyfareddol y Fairy Queen, sydd wedi’i hysbrydoli gan Shakespeare, ond mae byrdwn dramatig y gwaith – sy’n cael ei yrru gan gerddoriaeth fwyaf dyfeisgar Purcell – yn creu cyfanwaith boddhaol.
Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am y sgôr ar gyfer King Arthur yw ei hamrywiaeth. Mae arioso cymhleth (‘You say ’tis love’), anthemau gwersi bonheddig (‘How blest are shepherds’) ac Agorawd urddasol yn eistedd ochr yn ochr â dawnsio gwledig, caneuon gwerin ffug, caneuon yfed ac atganau cerddorfaol cymhleth (gan gynnwys y passacaglia enfawr ‘How happy the lover’, sy’n datblygu mewn cadwyn ddi-dor o amrywiadau).
Mae’r effaith yn ddryslyd, ond felly’n fwriadol. Mae llawer o bellter eironig testun John Dryden yn cael ei adlewyrchu yn arddulliau newid cyflym Purcell, sy’n ymhyfrydu mewn gwyrdroi ei gilydd. Mae cân fwyaf enwog yr opera – ‘Fairest Isle’, sy’n hynod o wladgarol – yn dod ag ysbryd newydd i’r darn o’i gymharu â’r gân anweddus ‘Your hay it is mow’d’.
Y canlyniad yw drama genedlaetholgar gellweirus. Mae angen gwin ar filwyr bonheddig i roi dewrder potel gwrw iddynt, ac mae Paganiaid bwystfilaidd yn canu emynau cain i’w hamryfal dduwiau. Mae bugeilesau Arcadaidd yn rhybuddio am beryglon ymarferol gormod o garu Arcadaidd, ac nid yw Brenin arwrol yn gallu gweld beth mae ei gariad dall yn ei weld yn blaen. Am y tro cyntaf mewn lled opera gwelwn gerddoriaeth a geiriau’n gweithio gyda’i gilydd, nid yn unig ochr yn ochr â’i gilydd, er mwyn gwau’r tapestri cymhleth a dynol iawn hwn o gymeriad a hunaniaeth cenedl.
Nodyn y rhaglen © Alexandra Coghlan
Gwrando Pellach: Soloists; Les Arts Florissants/William Christie (Erato 4509 98535-2)
Darllen Pellach: Purcell Peter Holman (Ashgate)
EGWYL: 20 munud
Joseph Haydn (1732–1809)
Missa in angustiis, Offeren ‘Nelson’ (1798)

1 Kyrie
2 Gloria
3 Credo
4 Sanctus
5 Benedictus
6 Agnus Dei
Anna Dennissoprano
Hilary Summerscontralto
Rupert Charlesworthtenor
Edward Hawkinsbas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Er iddo ennill ei blwyf fel cyfansoddwr mwyaf anrhydeddus ac enwocaf Ewrop ym mlynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif, roedd Haydn yn dal yn llawn antur yn ei chwedegau hwyr. Yn Llundain, roedd wedi clywed oratorios Handel yn cael eu perfformio ar raddfa enfawr yn Abaty Westminster, ac fe gafodd ei ysbrydoli ganddynt i gyfansoddi dau oratorio cyfoethog a chalonogol ei hun, sef The Creation a The Seasons. Ac yn ei brif ddyletswydd barhaus i’w gyflogwyr, yr Esterházys – y dyletswydd anaddawol o gyfansoddi Offeren i nodi diwrnod nawddsant gwraig Tywysog Nikolaus II bob mis Medi – daeth o hyd i gerbyd newydd ar gyfer ei egni creadigol di-ben-draw ac, rhwng 1796 a 1802, cynhyrchodd chwe hampwaith cysegredig o wir ehangder symffonig.
Y Missa in angustiis yw’r trydydd o’r chwe Offeren hyn, a gyfansoddwyd yn union ar ôl The Creation ym mis Gorffennaf ac Awst 1798. Mae teitl Lladin Haydn yn golygu ‘Yr Offeren mewn amgylchiadau anodd’, ac mae’n siŵr ei fod yn cyfeirio at gyflwr Awstria yn ystod y rhyfel, gyda llawer o’i thiriogaethau’n cael eu meddiannu gan fyddinoedd Napoleon. Un o nodweddion mwyaf trawiadol y gwaith yw’r agwedd dywyll, sydd ar adegau’n ddychrynllyd o ddigalon, ac mae’n anorfod bod y gwrandawyr cyntaf wedi troi eu meddyliau at ryfel wrth wrando arno. Ac eto, os oedd hynny’n wir, mae cerddoriaeth yma hefyd sy’n llawn hwyl a dathlu optimistaidd ac mae’n rhaid ei bod wedi taro tant â’r gwrandawyr hefyd - oherwydd ychydig ddyddiau’n unig cyn y perfformiad cyntaf, roedd y newyddion ynglŷn â dinistr annisgwyl a beiddgar y Llyngesydd Nelson o fflyd Ffrainc yn Aboukir wedi cyrraedd Fienna.
Pan aeth Nelson i ymweld â’r Esterházys yn Eisenstadt ddwy flynedd yn ddiweddarach (gan ffeirio’i oriawr am hen ysgrifbin Haydn), perfformiwyd yr Offeren hon yn arbennig ar ei gyfer, gan ennill ei lysenw mwy cyfarwydd o Offeren ‘Nelson’. Fodd bynnag, yn anad dim, mae hwn yn waith sy’n cyflawni mawredd ar ei delerau ei hun, sy’n dangos y math o sgiliau cyfansoddi a natur fyrlymus y gallai dim ond Haydn fod wedi eu rheoli yn y cyfnod rhwng marwolaeth Mozart a Beethoven yn dod i’r brig.
Un o bleserau’r darn yw ffiwg enfawr ar ddiwedd y Gloria ar y geiriau ‘in gloria Dei Patris’, wedi’i ddilyn yn gyflym gan ganon 78-bar (lleisiau soprano a thenor wedi’i ddilyn gan leisiau alto a bass) i agor y Credo; symudiad Largo cynnes a chysurus yn ‘Et incarnates est’; a chloi gyda Agnus Dei sy’n dilyn cyflwyniad araf dwys gyda cherddoriaeth ffiwgol sy’n llawn miri digywilydd.
Mae Offerenau olaf Haydn weithiau wedi cael eu beirniadu am eu gwamalrwydd, ond eto, yn y gwrthgyferbyniadau eang sy’n Offeren ‘Nelson’, mae’n bosib na fyddai unrhyw arwydd mwy gwir o ffydd dwfn a pharchus y gŵr hwn dros ei drigain oed - ond hefyd o’i ymwybyddiaeth ddiolchgar o’i ddoniau ei hun.
Nodyn y rhaglen © Lindsay Kemp
Gwrando Pellach: Soloists; Collegium Musicum 90/Richard Hickox (Chandos CHAN0640)
Darllen Pellach: Haydn Richard Wigmore (Faber)
Bywgraffiadau
Christian Curnyn arweinydd

Lun: Eric Richmond
Lun: Eric Richmond
Mae Christian Curnyn yn cael ei gydnabod yn eang fel un o brif arweinwyr repertoire Baróc a Chlasurol y DU. Sefydlodd yr Early Opera Company yn 1994 ac mae’r cwmni ymddangos yn rheolaidd yn Neuadd Wigmore a St John’s Smith Square ar gyfer Gŵyl Gerddoriaeth Baróc Llundain. Maent hefyd wedi perfformio ym Mhroms y BBC ac yng ngwyliau Cheltenham, Spitalfields, York Early Music a Kilkenny.
Yn y DU, mae Christian yn ymddangos yn rheolaidd yn Opera Cenedlaethol Lloegr, ac mae hefyd wedi arwain Opera North, Opera Garsington, Opera’r Alban, Opera Grange Park a’r Opera Brenhinol, Covent Garden.
Yn Ewrop a thu hwnt, mae wedi gweithio gyda Landestheater Salzburg, Opera Frankfurt, Komische Oper Berlin, Opera Stuttgart, Teatro Nacional de Sáo Carlos, Theatr Basel, Opera Awstralia, Opera Dinas Efrog Newydd, Opera Glymmerglass a Theatr Opera Chicago.
Mae ei uchafbwyntiau diweddar, a rhai sydd ar y gweill ganddo, yn cynnwys cyngherddau gyda’r Orchestra of the Age of Enlightenment, Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, Cerddorfa Gŵyl Budapest a Komische Oper Berlin; Acis and Galatea gyda Early Opera Company ar gyfer Gŵyl Buxton; cynhyrchiad newydd o Orlando Handel ar gyfer Oper Halle, a fydd hefyd yn dathlu can mlwyddiant Gŵyl Halle; Semele gyda Akademie für Alte Musik Berlin and Opera Collective Ireland; ac yna dychwelyd i Covent Garden ar gyfer Alcina. Gyda’r Early Opera Company, mae hefyd yn arwain cyngherddau yn Neuadd Wigmore, St John’s Smith Square, Concertgebouw yn Amsterdam ac yn Bruges, yn ogystal â rhyddhau eu recordiad o Amadigi.
Mae ei ddisgograffi helaeth, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnwys perfformiadau uchel eu parch o Partenope, Semele, Il Trionfo del Tempo, Flavio, Serse ac Acis and Galatea, The Judgement of Paris gan Eccles ac adfywiad Britten o The Beggar’s Opera.
Anna Dennis soprano

Mae Anna Dennis wedi ymddangos mewn lleoliadau rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys y Berlin Philharmonie, Canolfan Lincoln Efrog Newydd, Tŷ Opera Sydney ac ym Mhroms y BBC.
Mae ei huchafbwyntiau operatig diweddar wedi cynnwys y brif ran yn Violet Tom Coult yng Ngŵyl Aldeburgh y llynedd; Florinda (Rodrigo gan Handel) ac Emira (Siroe) yng Ngŵyl Handel Göttingen; Lucy Schmeeler a Claire (On the Town gan Bernstein) yng Nghanolfan Celfyddydau Perfformio Hyogo yn Japan; Paride (Paride ed Elena gan Gluck) yn Nhŷ Opera Nürnberg, Katherine Dee (Dr Dee gan Damon Albarn) ar gyfer Opera Genedlaethol Lloegr; Bersi (Andrea Chénier) ar gyfer Opera North; Ilia (Idomeneo) ar gyfer Cwmni Opera Birmingham; a Strawberry Seller a Strolling Player (Death in Venice gan Britten) yn La Scala, Milan.
Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn hon yn cynnwys The Fairy Queen gan Purcell yn Drottningholm, dan arweiniad Franceso Corti, a ‘Masque of Might’ gydag Opera North, cynhyrchiad o gerddoriaeth Purcell a ddyfeisiwyd gan Syr David Pountney ac a arweinir gan Harry Bicket.
Mae ei recordiadau’n cynnwys Requiem Novum gan Mårten Jansson, Requiemfor Fallen Brothers gan Kastalsky, King Arthur, Anacréon gan Rameau, Il ritorno d’Ulisse in patria gan Monteverdi, Siroe, Rodrigo, Joshua gan Handel, disg o gerddoriaeth Elena Langer, Landscape with Three People, a Sweeter than Roses, datganiad gan Purcell gyda Julian Perkins.
Derbyniodd Anna Dennis Wobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yng nghategori’r Canwr eleni.
Hilary Summers contralto

Lun: Claire Newman Williams
Lun: Claire Newman Williams
Wedi’i geni yn Ne Cymru, mae Hilary Summers yn un o gontraltos go iawn y byd ac mae wedi gwneud dros 40 o CDs sy’n rhychwantu gweithiau o’r cyfnod Baróc cynnar hyd at heddiw. Mae hi wedi canu yn y rhan fwyaf o neuaddau cyngerdd a thai opera mawr y byd.
Mae cerddoriaeth gyfoes yn rhan bwysig o’i gweithgareddau ac mae ei pherfformiadau operatig premiere byd yn cynnwys rôl Stella (What Next? gan Carter) ar gyfer Opera Talaith Berlin, Madame Irma (Le balcon gan Peter Eötvös) yng Ngŵyl Aix-en-Provence, Miss Prism (The Importance of Being Earnest gan Gerald Barry) gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles, a White Queen, Dormouse and Cook (Alice’s Adventures Under Ground gan Gerald Barry). Yn fwyaf diweddar, creodd rôl Nell (Endgame ganGyörgy Kurtág) yn La Scala, Milan, gyda chryn glod. Mae ganddi berthynas agos hefyd â Michael Nyman, sydd wedi ysgrifennu llawer o weithiau ar ei chyfer.
Bu’n gweithio’n agos gyda Pierre Boulez o 2004, gan ennill Gwobr Grammy am ei recordiad o’i Le marteau sans maître, darn a berfformiwyd ganddi ledled y byd.
Mae galw mawr amdani yn repertoire Baróc, gan weithio gydag arweinyddion blaenllaw, yn cynnwys William Christie a Christian Curnyn.
Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ffilmio DVD o Alice’s Adventures Under Ground ar gyfer Opera Cenedlaethol Iwerddon; canu rhannau Little Buttercup (HMS Pinafore) ar gyfer Opera Cenedlaethol Lloegr a Cornelia (Giulio Cesare) yn y Palau yn Barcelona; a recordio Amadigi gyda’r Early Opera Company o dan Curnyn, a gafodd ei ryddhau yr hydref diwethaf.
Y tymor nesaf, bydd yn mae’n ailadrodd rôl Nell ar gyfer Opera Ballet Flanders, yn perfformio Dido and Aeneas ac Actéon gan Charpentier mewn cyngherddau gyda’r Early Opera Company, yn canu yn Silla gan Handel yn Japan gydag Europa Galante, ac yn mynd â pherfformiad o Die erste Walpurgisnacht gyda Cherddorfa Insula ar daith o amgylch Ffrainc.
Rupert Charlesworth tenor

Mae Rupert Charlesworth yn mwynhau gyrfa brysur yn y tŷ opera a’r neuadd gyngerdd.
Y tymor hwn, mae’n canu Bob Boles (Peter Grimes) yn Theater an der Wien, Oronte (Alcina) yn Opéra de Paris, Melot (perfformiad cyngerdd o Tristan und Isolde) yn Opéra de Lyon a Celidoro (I portentosi gan Scarlatti) yn Potsham.
Yn ystod y ddau dymor diwethaf mae wedi ymddangos yn Glyndebourne fel Beurrefondu (In the Market for Love gan Offenbach ); Damon (Acis and Galatea) gydag Opera North; a Jonathan (Saul) gyda Theater an der Wien. Yn ystod tymor 2019–20 ymunodd ag ensemble y Staatsoper, gan ganu Tamino (Die Zauberflöte); Narraboth (Salome) ac Oronte. Mewn cyngherddau, mae wedi perfformio Oratorio’r Nadolig gan Bach gyda Cherddorfa Symffoni Gogledd yr Iseldiroedd a’r Messiah gyda La Cetra Barockorchester Basel.
Mae ei rolau operatig eraill yn cynnwys Laertes (Hamlet gan Brett Dean), Marzio (Mitridate), Emilio (Partenope), Dancing Master (Ariadne auf Naxos), Lysander (A Midsummer Night’s Dream), Lucano a Milwr 1 (L’incoronazione di Poppea) a Dyn Arfog Cyntaf (Die Zauberflöte).
Ar y llwyfan cyngerdd, mae wedi gweithio gyda nifer o arweinwyr uchel eu parch, gan gynnwys Laurence Cummings, Ottavio Dantone, Tõnu Kaljuste, Nicholas Kraemer, Marc Minkowski, Daniel Reuss a Jean-Christophe Spinosi.
Astudiodd Gerddoriaeth yng Ngholeg y Brenin Llundain ac astudiodd ganu yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Roedd yn gerddor llawryfog Gŵyl Aix-en-Provence yn 2011 ac enillodd Wobr y Beirniaid a’r Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Ganu Handel yn 2013 ac yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Cesti yn 2014.
Edward Hawkins bas

Cafodd Edward Hawkins ei eni yn Llundain ac astudiodd Gerddoriaeth yng Ngholeg y Brenin Llundain. Mae hefyd wedi astudio’r trwmped gydag Ian Wilson yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Roedd yn ei ugeiniau hwyr pan ddechreuodd ganu, ond fe ddatblygodd Gyrfa broffesiynol yn gyflym iawn gan astudio gyda Russell Smythe a Gary Coward. Yn 2015, daeth yn aelod o Gorws Glyndebourne, ac ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau nodedig, gan gynnwys perfformiadau ym Mhroms y BBC a darllediadau sinema ar draws y byd.
Mae ei ymrwymiadau diweddar a’r rhai sydd ganddo ar y gweill yn cynnwys Somnus (Semele) ar gyfer Opera Collective Ireland; Claudio (Agrippina), Achilla (Giulio Cesare), General Polkan (The Golden Cockerel) a Dioddefaint Sant Ioan gan Bach ar gyfer Opera Teithiol Lloegr; ac ymgymryd â sawl rôl ar gyfer Glyndebourne. Yn ystod y pandemig, bu’n ffilmio dau gylch o ganeuon llwyfan gan Shostakovich – Romances on Verses by English Poets a Suite on Verses by Michelangelo Buonarroti – ar gyfer Opera Teithiol Lloegr.
Mae ei ymrwymiadau blaenorol wedi cynnwys y Doctor a Banquo (Macbeth) a llais Neptune (Idomeneo) ar gyfer Opera Teithiol Lloegr, Banquo ar gyfer Opera Duchy yn Theatr Minack Cernyw, Luka (The Bear), Long Tom (Merrie England), Sergeant Merrill (The Yeomen of the Guard) a Polyphemus (Acis and Galatea).
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.
Wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’r corws, a ffurfiwyd yn 1983, yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 150 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys taith chwe-diwrnod i Rennes ar gyfer pedwar perfformiad o Requiem Mozart gyda’r Orchestre Symphonie de Bretagne, perfformiad o Ddioddefaint Sant Mathew gan Bach gyda Harry Bicket a pherfformiadau blynyddol ym Mhroms y BBC; gydag ymddangosiadau diweddar yn cynnwys A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze, Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann ac Wythfed Symffoni Mahler dan y cyn Brif Arweinydd Thomas Søndergård.
Yn ystod y tymor hwn, bydd y corws yn perfformio Requiem Fauré a’r O sacrum convivium gan Messiaen o dan Ludovic Morlot, Offeren ‘Nelson’ Haydn o dan arweiniad Christian Curnyn ac Elegiac Ode a Te Deum gan Standord gydag Adrian Partington wrth y llyw.
Mae’r corws wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth gyfoes ac yn 2016 rhoddodd yr ail berfformiad i’w gynnal erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y première. Mae wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed gan amrywiaeth eang o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, yn seiliedig ar eiriau Araith Malala Yousafza i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.
Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor ar gyfer Wonders of the Celtic Deep BBC Cymru.
Soprano 1
Charlotte Amodeo
Jessica Baber
Eve Bennett
Beth Bradfield
Bethan M. Evans
Sally Glanfield
Sarah Jane Griffiths Claire Hardy
Vanessa John-Hall
Lucie Jones
Joanna Leighton
Eleanor Moore
Rosie Moore
Joanna Osborn
Maisie O’Shea
Elizabeth Phillips
Ellen Steward
Helen Thomas
Soprano 2
Dee Cook
Angela Contestabile
Emily Hopkins
Rhiannon Humphreys
Victoria Illsley
Pippa Johnson
Julie Jones
Margaret Lake
Devon Macadam-Sutton
Niamh Pragnell Toal
Chloe Riordan
Melanie Taylor
Caroline Thomas
Hannah Williams
Alto 1
Ceri-Ann Absalom
Anna Beresford
Catherine Bradfield
Yasmin Browne
Alison Davies
Catherine Duffy
Giselle Dugdale
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Emilia Hubbard
Rhian-Carys Jones
Lisa May
Sara Peacock
Heather Price
Rhian Pullen
Kate Reynolds
Zozi Sookanadenchetty
Jessica Williams
Alto 2
Alex Butler
Heledd Evans
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Mattina Keith
Sian Schutz
Julie Wilcox
Sarah Willmott
Tenor 1
Keith Davies
Philip Holtam
Tom Lazell
Huw Llywelyn
Nicholas Willmott
Tenor 2
Rhys Archer
Mike Ennis
Roland George
Peter Holmes
Owen Parsons
Richard Shearman
Richard Wilcox
Michael Willmott
Bas 1
Peter Cooke
David Davies
Ethan Davies
James Garland
Rafael Grigoletto
David Hopkins
Lucas Maunder
Owen McCarthy
Jez Piper
Neil Schofield
Miles Smith
David Stephens
Allan Waters
Alun Williams
Daniel Williams
Emyr Wynne Jones
Bas 2
Jeffrey Davies
Lyndon Davies
Joseff Morris
Gareth Nixon
Mike Osborn
Roedd y rhestr o gantorion yn gywir wrth fynd i’r wasg.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Gabby Painter
Terry Porteus
Anna Cleworth
Kerry Gordon-Smith
Emilie Godden
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Vickie Ringguth
Lydia Caines
Michael Topping
Ilze Abola
Katherine Miller
Beverley Wescott
Fiolâu
Rebecca Jones *
Peter Taylor
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Laura Sinnerton
Ania Leadbeater
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Rachel Ford
Basau Dwbl
David Stark *
Daniel Vassallo
Ffliwtiau
Michael Cox ‡
John Hall †
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Cor Anglais
Amy McKean
Baswnau
Steve Marsden ‡
David Buckland
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris
Timpani
Phil Hughes
Harpsichord/Chamber Siambr
David Ponsford
Theorbo
Toby Carr
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-Rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-Wyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-Faoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruch-Wylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid BBC Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

