Boed i’r Holl Fyd Ganu ym mhob Cwr

Nos Iau 22/3/24, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

José Maurício Nunes Garcia
Agorawd ‘Zemira’7’

Johann Sebastian Bach
Cantata Rhif82, ‘Ich habe genug’24’

EGWYL: 20 munud

Joseph Haydn
Symffoni Rhif 26, ‘Lamentatione’17’

Ralph Vaughan Williams
Five Mystical Songs20’

Harry Bicketarweinydd
Julien Van Mellaerts bariton
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Radio 3 in Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, ac mae podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth hefyd ar gael yma. Mae’r darnau gan Garcia, Bach a Haydn yn cael ei ffilmio i'w rhyddhau yn y dyfodol yng Nghyfres Cyngherddau Digidol BBC NOW.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i chi i’r cyngerdd heno, lle bydd Harry Bicket yn arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Efallai nad yw’r cyfansoddwr cyntaf ar y rhaglen – José Maurício Nunes Garcia o Frasil – yn enw cyfarwydd, ond does dim amheuaeth ynghylch yr argyhoeddiad angerddol sydd yn ei Agorawd Zemira.    Mae’r holl ddarnau sy’n weddill yn cyfleu ysbryd y Pasg. Mae Cantata Rhif 82 Bach, ‘Ich habe genug’, yn un o’i alawganau adnabyddus. Mae’n ddarn gogoneddus i unawdwr ac ensemble bach sy’n archwilio'r ddelfryd Lwtheraidd o ganfod heddwch yn sgil angau, gyda chymorth tonau baritonaidd cynnes Julien Van Mellaerts ar yr achlysur hwn.

Mae perthynas Symffoni Rhif 26 Haydn â'r Pasg yn fwy anuniongyrchol, ond mae cliwiau yn y ffordd y mae’r cyfansoddwr yn dyfynnu melodïau o lafarganau hynafol, y cywair lleiaf sy’n ei llywio a’r llysenw – ‘Lamentatione’.

Mae Five Mystical Songs Vaughan Williams yn ymestyn yn ôl mewn amser yn eu gosodiadau o destunau gan George Herbert. Y fersiwn ar gyfer bariton, corws a cherddorfa y byddwn yn ei chlywed heno. Efallai fod y cyfansoddwr wedi disgrifio ei hun fel ‘agnostig llawen’, ond does dim amheuaeth bod y gosodiadau hyn yn ddidwyll, a’u bod yn lliwio’r geiriau mewn ffordd sensitif eithriadol.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

José Maurício Nunes Garcia(1767–1830)

Agorawd ‘Zemira’(1803)

Ganed José Maurício Nunes Garcia yn Rio de Janeiro, yn fab i rieni deuhiliol, y ddau ohonynt yn blant i gaethweision, ac fe’i hordeiniwyd yn offeiriad yn 1792. Er gwaethaf hyfforddiant cerddorol sy’n ymddangos yn dameidiog, roedd ei dalent yn amlwg, a chafodd ei benodi’n gyfarwyddwr cerdd yng nghadeirlan ei ddinas enedigol yn 1798. Erbyn i Napoleon alltudio’r llys ym Mhortiwgal i Frasil yn 1808, Garcia oedd prif gyfansoddwr y wlad a gwnaeth y Rhaglyw Dywysog (a ddaeth yn João VI yn ddiweddarach) ef yn gyfrifol am y capel brenhinol ar unwaith. Dirywiodd ei iechyd o tua 1816 ymlaen, a phan ddychwelodd y llys i Bortiwgal hebddo yn 1821, cyfyngwyd fwy fyth ar ei weithgareddau proffesiynol yn ei flynyddoedd olaf.

Roedd yn adnabyddus am gyfnod fel pianydd byrfyfyr poblogaidd a ffasiynol, ond cerddoriaeth gysegredig yw’r mwyafrif helaeth o’i gyfansoddiadau (gan gynnwys 19 offeren) er bod llond llaw o sgorau cerddorfa hefyd wedi goroesi. Enigma yw’r ‘agorawd’ heno, gan nad oes unrhyw opera o'r enw Zemira gan Garcia yn hysbys (er bod libreto o’r enw hwnnw wedi’i osod yn y 1790au gan o leiaf dri chyfansoddwr adnabyddus o’r Eidal). Nid yw’r sgôr cynharaf yn cynnig unrhyw esboniad, ond mae’n cynnwys nodyn sy’n disgrifio’r darn fel ‘agorawd neu gyflwyniad yn cyfleu mellt a tharanau’, sy’n awgrymu y gallai fod wedi bod yn ddarn o gerddoriaeth achlysurol generig ar gyfer drama neu ryw fath arall o waith cerddorol neu ddramatig, sydd bellach wedi’i golli.

Nodyn y rhaglen © Lindsay Kemp

EGWYL: 20 munud

Johann Sebastian Bach (1685–1750)

Cantata Rhif 82, ‘Ich habe genug’(1727)

1 Aria: Ich habe genug
2 Adroddgan: Ich habe genug
3 Aria: Schlummert ein, ihr matten Augen
4 Adroddgan: Mein Gott! wenn kömmt das schöne: Nun!
5 Aria: Ich freue mich auf meinen Tod

Julien Van Mellaerts bariton

Pan ymgymerodd Bach â swydd Kantor y Thomasschule yn Leipzig yn 1723, roedd yn camu i un o brif swyddi cerddoriaeth eglwysig yr Almaen Brotestannaidd. Roedd ei ddyletswyddau’n cynnwys trefnu cerddoriaeth ar gyfer y Sul a gwasanaethau arbennig ym mhedair prif eglwys y ddinas. Yn y ddwy fwyaf, sef eglwysi St Thomas a St Nicholas, y canolbwynt oedd cantata i leisiau ac offerynnau i’w berfformio ar ôl darlleniad o'r Efengyl a, thrwy ei ddewis o destun, i fyfyrio a thaflu goleuni arno.

Ich habe genug oedd ei gantata ar gyfer Gŵyl y Canhwyllau (2 Chwefror) 1727, a’r darlleniad o’r Efengyl ar gyfer y diwrnod hwnnw oedd y bennod yn y Beibl lle mae’r baban Iesu yn cael ei gyflwyno yn y Deml, pan mae Simeon yr Israeliad oedrannus yn ei gydnabod fel y Meseia hirddisgwyliedig ac yn datgan ei hun yn barod ar gyfer marwolaeth. Ei eiriau yw’r llinellau enwog sy’n dechrau (yn y Beibl Cymraeg) ‘Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd’, ond nid ydynt yn cael eu dyfynnu’n uniongyrchol yn y cantata. Yn hytrach, mae’n eu gwneud yn fan cychwyn ar gyfer myfyrdod Lwtheraidd clasurol ar angau fel rhyddhad o lafur bywyd. Roedd yn bwnc roedd Bach yn dychwelyd ato’n aml, ond byth â chymaint o rym perswâd ag y mae yn y darn hwn. Mae’r cyflwr meddwl cymhleth a ddisgrifiwyd fel ‘dyhead pruddglwyfus am farwolaeth’ gan yr organydd a’r ysgolhaig ar Bach, Albert Schweitzer, yn treiddio drwy’r darn, gan ddangos i ni sut i farw’n dda a symud tuag at fywyd tragwyddol dedwydd, gan gyrraedd yno wedi’ch cysuro a'ch puro.

Ysgrifennwyd y darn ar gyfer bas unawdol a cherddorfa fach o offerynnau llinynnol ynghyd â rhan obligato hyfryd i’r obo, ac mae ei aria agoriadol yn creu awyrgylch o ildio sydd bron â bod yn lludded wrth i'r llinellau ar gyfer yr obo a’r canwr blethu gyda’i gilydd i anwesu'r enaid mewn modd na all neb ond Bach ei wneud. Mae’r geiriau ‘Ich habe genug’ yn ffurfio cytgan yn yr aria gyntaf hon, ac mae’r adroddgan sy’n dilyn yn parhau â’r syniad wrth iddi wahodd y gwrandäwr i ymuno â Simeon i ymwrthod â’r byd. Ond yn y ‘Schlummert ein, ihr matcken Augen’ (Ildiwch i gwsg, o lygaid llesg), un o ariâu mwyaf godidog Bach, y caiff melys gwsg marwolaeth ei gofleidio’n llawn, ar ffurf suo-gân sy'n gyforiog o dynerwch a chynhesrwydd. Ar ôl ‘ffarwelio’ â’r byd drwy adroddgan arall, mae’r aria olaf fywiog yn edrych ymlaen yn llawen at angau.     

Nodyn y rhaglen © Lindsay Kemp

Testun

Aria
Ich habe genug.
Ich habe den Heiland, das Hoffen der Frommen,
Auf meine begierigen Arme genommen;
Ich habe genug!
Ich hab ihn erblickt,
Mein Glaube hat Jesum ans Herze gedrückt;
Nun wünsch ich, noch heute mit Freuden
Von hinnen zu scheiden.

Adroddgan
Ich habe genug.
Mein Trost ist nur allein,
Dass Jesus mein und ich sein eigen möchte sein.
Im Glauben halt ich ihn,
Da seh ich auch mit Simeon
Die Freude jenes Lebens schon.
Lasst uns mit diesem Manne ziehn!
Ach! möchte mich von meines Leibes Ketten
Der Herr erretten;
Ach! wäre doch mein Abschied hier,
Mit Freuden sagt ich, Welt, zu dir:
Ich habe genug.

Aria
Schlummert ein, ihr matten Augen,
Fallet sanft und selig zu!
Welt, ich bleibe nicht mehr hier,
Hab ich doch kein Teil an dir,
Das der Seele könnte taugen.
Hier muss ich das Elend bauen,
Aber dort, dort werd ich schauen
Süssen Frieden, stille Ruh.

Adroddgan
Mein Gott! wenn kömmt das schöne: Nun!
Da ich im Friede fahren werde
Und in dem Sande kühler Erde
Und dort bei dir im Schosse ruhn?
Der Abschied ist gemacht,
Welt, gute Nacht!

Aria
Ich freue mich auf meinen Tod,
Ach, hätt’ er sich schon eingefunden.
Da entkomm ich aller Not,
Die mich noch auf der Welt gebunden.

Cyfieithiad

Aria
Mae’n ddigon.
Derbyniais y Gwaredwr, gobaith y ffyddlon,
I’m breichiau;
Mae’n ddigon!
Rwyf wedi edrych arno,
Daeth yr Iesu i’m calon drwy ffydd;
Ffarweliwn yn llawen heddiw, nawr
Â'r byd hwn.

Adroddgan
Mae’n ddigon.
Fy unig obaith yw:
Bydd Iesu’n eiddo i mi a minnau’n eiddo iddo yntau.
Mewn ffydd y glynaf wrtho,
Gan weld fel Simeon gynt
Lawenydd y byd tu draw i'r llen.
Gadewch i ni fynd gyda’r dyn hwn!
O na bai’r Arglwydd yn fy rhyddhau
O gaethiwed fy nghorff;
O na bai f’amser yn dod
Mewn llawenydd y dywedwn, O fyd:
Mae’n ddigon.

Aria
Ildiwch i gwsg, o lygaid llesg,
A chau yn ddedwydd braf!
O fyd, nid arhosaf yma’n hwy,
Gan nad oes ynot ddim
All fod o fudd i’m henaid i.
Yma gofid sydd i mi,
Ond yno, yno y caf
Orffwys a gorwedd mewn heddwch.

Adroddgan
Fy Nuw! pa bryd y gelwi arnaf: Nawr!
Pa bryd gaf deithio mewn heddwch
A gorffwys ym mhridd y ddaear oer
Ac yn dy fynwes dithau?
Rwy’n myned
Nos da, o fyd!

Aria
Edrychaf ymlaen at angau,
O na bai eisoes wedi dod.
Yna, cawn ddianc rhag yr holl gystudd
A’m carcharodd yma ar y ddaear.

Cymraeg gan Cymen

EGWYL: 20 munud

Joseph Haydn (1732–1809)

Symffoni Rhif 26 yn D leiaf, ‘Lamentatione’ (1768)

1 Allegro assai con spirito
2 Adagio
3 Minuet a Trio

Roedd y degawd o ganol yr 1760au hyd ganol yr 1770au yn un pwysig iawn yng ngyrfa Haydn. Yn y cyfnod hwn, newidiodd ei statws o fod yn Kapellmeister newydd anhysbys y Tywysog Nikolaus Esterházy i gael ei gydnabod fel un o feddyliau cerddorol gorau Ewrop. Roedd ei symffonïau yn enwedig ar yr adeg hon yn aml yn cynnwys neges newydd a gwahanol iawn i’w rhagflaenwyr. Roeddynt fel pe baen nhw’n ceisio cyfleu rhywbeth pwysicach na darnau seremonïol, difyr neu achlysurol arferol y cyfnod. 

Mae symudiad agoriadol Rhif 26, a gyfansoddwyd yn 1768, yn dechrau yn yr arddull cywair lleiaf emosiynol a elwir yn Sturm und Drang, (‘storm a straen’), gyda llinellau trawsacen curiadol dros gamau breision yn y llinell fas wedi’u gwrthgyferbynnu ag ocheneidiau tawel gan y llinynnau a’r cyrn.   Ac eto, melodïau’r blaengan eglwysig sy’n ymddangos wedyn sy’n rhoi undod i’r darn.   Roedd Haydn wedi defnyddio llafarganau mewn symffonïau o’r blaen, ond yma mae’r ddau symudiad cyntaf yn defnyddio alawon a fyddai wedi bod yn gyfarwydd i lawer o wrandawyr yn Awstria, gan eu bod wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd mewn dramâu Dioddefaint Lladin. Yn amlwg, symffoni i’w pherfformio yn ystod Wythnos y Pasg, yn yr eglwys efallai, oedd hon.

Mae’r llafargan gyntaf yn ymddangos fel ail thema’r symudiad cyntaf ac yn cael ei chanu gan obo a’r ail ffidlau, ond mae wedi’i chuddio’n rhannol gan linell y ffidlau cyntaf, sy’n dawnsio’n ysgafn dros y top; yn hwyrach ymlaen, pan mae’r thema’n ailymddangos yn y cywair mwyaf, mae corn yn cael ei ychwanegu i atgyfnerthu ei neges, ac mae’r symudiad yn gorffen gyda’r un awyrgylch taer ag y dechreuodd.

Mae’r llafargan yn yr ail symudiad araf yn un sy’n gysylltiedig â thestun arall ar gyfer Wythnos y Pasg, sef Galarnad Jeremeia, ac mae hon yn cael ei datgan o’r cychwyn cyntaf, unwaith eto ar yr ail ffidlau ac ar yr obo i gyfeiliant cyfalawon gosgeiddig a chywrain gan y ffidlau cyntaf.  Mae awyrgylch prudd ac urddasol i’r darn ond, pan mae'r cyrn yn ymuno yn y llafargan tuag at y diwedd, mae’n cael ei drawsnewid yn un o ddisgleirdeb a bendith.

Nid oes unrhyw gyfeiriadau amlwg at lafarganau yn y Menuet, er efallai bod ei aflonyddwch emosiynol, sydd weithiau’n llym ac weithiau’n cysuro, yn awgrymu rhyw fath o fwriad dramatig. Yn anarferol, dyma sut mae’r symffoni’n gorffen; does dim diweddglo confensiynol. Efallai bod Haydn eisiau gadael i stori’r Dioddefaint gael ei datrys ar Sul y Pasg.

Nodyn y rhaglen © Lindsay Kemp

Ralph Vaughan Williams (1872–1958)

Five Mystical Songs (1906, trefn. 1910–11)

1 Easter
2 I got me flowers
3 Love bade me welcome
4 The Call
5 Antiphon

Julien Van Mellaerts bariton
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Dechreuodd Vaughan Williams gyfansoddi Five Mystical Songs yn 1906, ond roedd wedi’u hailwampio’n sylweddol yn 1910–11. Roedd y blynyddoedd rhwng y ddau ddyddiad hyn yn rhai arwyddocaol iawn o ran datblygiad Vaughan Williams: cyfansoddodd weithiau sydd heddiw ymysg ei rai mwyaf poblogaidd (gan gynnwys A Sea Symphony a Fantasia on a Theme of Thomas Tallis) ac aeth ati i drwytho ei hun mewn ‘Seisnigrwydd’ drwy olygu’r English Hymnal a chasglu caneuon gwerin. Yn yr un cyfnod, roedd yn ceisio rhoi naws ychwanegol i’w iaith gerddorol, gan gredu – fel y dywedodd ei hun – y byddai ‘ychydig o sglein Ffrainc’ o fudd i’w gyfansoddiad. I’r perwyl hwnnw, teithiodd i Baris ac astudio gyda Maurice Ravel am dri mis cynhyrchiol yn 1907–8. Mae’r gwaith a ddilynodd yn syth ar ôl hyn yn disgleirio gyda’r llewyrch newydd hwn.

Mae’r amryfal ddylanwadau hyn yn bwydo i mewn i Five Mystical Songs, a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl y Tri Chôr yn 1911, gyda Vaughan Williams ychydig yn nerfus wrth y llyw. Mae’r testun gan George Herbert, un o feirdd metaffisegol amlycaf yr 17eg ganrif. Er bod Vaughan Williams ar y gorau yn ‘agnostig llawen’, serch hynny fe ymatebodd i osgeiddrwydd rhethregol barddoniaeth Herbert, yn ogystal â’i nodweddion rhythmig (fel y grwpiau o dri melodaidd yn ‘The Call’, sydd wedi’u strwythuro fel cerdd acrostig gain). Mae’r dylanwad Ffrengig i'w deimlo gryfaf yn y drydedd gân fyfyriol, gyda’i swyn telynegol a’i chyfeiliant cerddorfaol ysgafn.

Mae’r caneuon yn bodoli mewn gwahanol fformatau perfformio, gan gynnwys ar gyfer unawd bariton a phiano, ond efallai mai grym cronnus cyfunol y fersiwn ar gyfer côr a cherddorfa sy’n gwasanaethu gwahoddiad uniongyrchol Herbert i'r cymun orau (sy’n cael ei fynegi ar ei gryfaf yn y gân olaf). Ar adegau, mae’r côr yn llafarganu heb eiriau wrth i’r unawdydd gyflwyno’r testun; ar adegau eraill, mae’r corws a’r unawdydd yn pasio cymalau yn ôl ac ymlaen i’w gilydd yn ysgafn. Yn ‘Antiphon’, mae’r côr yn hawlio’r llwyfan ar gyfer diweddglo bywiog: ymchwydd egnïol o rym corawl, sydd efallai’n dangos dylanwad y ffrwydrad o seiniau corawl yn A Sea Symphony.Nid yw’n syndod bod y caneuon wedi cael derbyniad da yn y première, gyda’r adolygwyr yn ymateb i ddiffuantrwydd barddoniaeth Herbert ac i’r apêl reddfol, uniongyrchol i’r synhwyrau a geir yn iaith bersonol Vaughan Williams sy’n esblygu’n barhaus.

Nodyn y rhaglen © Lucy Walker

Text

1 Easter
Rise heart; thy Lord is risen. Sing his praise
Without delayes,
Who takes thee by the hand, that thou likewise
With him may’st rise;
That, as his death calcined thee to dust,
His life may make thee gold, and much more, just.

Awake, my lute, and struggle for thy part
With all thy art.
The crosse taught all wood to resound his name,
Who bore the same.
His stretched sinews taught all strings, what key
Is best to celebrate this most high day.

Consort both heart and lute, and twist a song
Pleasant and long:
Or since all musick is but three parts vied
And multiplied,
O let thy blessed Spirit bear a part,
And make up our defects with his sweet art.

2 I got me flowers
I got me flowers to straw thy way;
I got me boughs off many a tree:
But thou wast up by break of day,
And brought’st thy sweets along with thee.

The Sunne arising in the East,
Though he give light, and th’East perfume;
If they should offer to contest
With thy arising, they presume.

Can there be any day but this,
Though many sunnes to shine endeavour?
We count three hundred, but we misse:
There is but one, and that one ever.

3 Love bade me welcome
Love bade me welcome: yet my soul drew back,
Guiltie of dust and sinne.
But quick-ey’d Love, observing me grow slack
From my first entrance in,
Drew nearer to me, sweetly questioning
If I lack’d anything.

A guest, I answer’d, worthy to be here:
Love said, You shall be he.
I the unkinde, ungratefull? Ah, my deare,
I cannot look on thee.
Love took my hand, and smiling did reply,
Who made the eyes but I?

Truth Lord, but I have marr’d them: let my shame
Go where it doth deserve.
And know you not, sayes Love, who bore the blame?
My deare, then I will serve.
You must sit down, sayes Love, and taste my meat:
So I did sit and eat.

4 The Call
Come, my Way, my Truth, my Life:
Such a Way, as gives us breath:
Such a Truth, as ends all strife:
Such a Life, as killeth death.

Come, my Light, my Feast, my Strength:
Such a Light, as shows a feast:
Such a Feast, as mends in length:
Such a Strength, as makes his guest.

Come, my Joy, my Love, my Heart:
Such a Joy, as none can move:
Such a Love, as none can part:
Such a Heart, as joyes in love.

5 Antiphon
Let all the world in ev’ry corner sing,
My God and King.

The heavens are not too high,
His praise may thither flie;
The earth is not too low,
His praises there may grow.

Let all the world in ev’ry corner sing,
My God and King.

The Church with psalms must shout,
No doore can keep them out;
But above all, the heart
Must bear the longest part.

Let all the world in ev’ry corner sing,
My God and King.

oThe Temple gan George Herbert (1593–1633)

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Enigma Variations

Nos Iau 11/4/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 12/4/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Grace Williams Sea Sketches
Mathias Concerto i’r Delyn
Elgar ‘Enigma’ Variations

Tadaaki Otaka arweinydd
Catrin Finch telyn

DARLUNIADOL | DIGAMSYNIOL | CAIN

Er iddo gael ei ysgrifennu yn Llundain, hiraeth am foroedd y Barri oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i forlun cerddorol hudolus Grace Williams – Sea Sketches.  Mae Cymreictod digamsyniol hefyd yn treiddio drwy Goncerto William Mathias i’r Delyn, yn y ffordd y mae'r delyn yn cael ei chyflwyno fel offeryn cyfeilio, gan adlewyrchu ei rôl draddodiadol yng ngherddoriaeth Cymru, cyn camu i safle mwy unawdol, a drwy ddyfynnu’r gân Gymreig ‘Dadl Dau’ yn ei symudiad clo. I’w chwarae, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r delynores benigamp o Gymru, Catrin Finch, sydd bellach yn un o berfformwyr rheolaidd BBC NOW.

Gan gydbwyso’r ysgafn a’r mawreddog, mae Enigma Variations gan Elgar yn gasgliad celfydd o bortreadau cerddorol o’i ffrindiau a hunanbortread craff – mae enigma wedi’i guddio o fewn y sgôr wrth i bob amrywiad gael ei labelu â llythrennau cyntaf llysenwau’r ffrindiau. I arwain rydyn ni’n falch iawn o estyn croeso unwaith eto i’n Harweinydd Llawryfog poblogaidd, Tadaaki Otaka.

Llwch Sêr ac Eneidiau

FFRYDIO BYW a Dehongliad BSL

Nos Iau 18/4/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Alexander Campkin Sounds of Stardust première byd
Dani Howard Gwaith Newydd: Concerto i Offerynnau Taro première byd
Poulenc Stabat mater

Sofi Jeannin arweinydd
Y Fonesig Evelyn Glennie offerynnau taro
Julieth Lozano soprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

ARALLFYDOL | ATMOSFFERIG | DIRGEL

Gyda dau bremière byd ac un o berlau’r repertoire corawl, mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd dihafal Sofi Jeannin yn ôl ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, y Fonesig Evelyn Glennie ac enillydd Gwobr Cynulleidfa Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano, am noson o archwilio a darganfod cerddorol.

Ond yn gyntaf, première byd gan Alexander Campkin a’i Sounds of Stardust. Bydd y Fonesig Evelyn Glennie, yr offerynnwr taro o fri, yn camu i’r llwyfan i berfformio concerto newydd Dani Howard i offerynnau taro am y tro cyntaf, cyn i ni ddathlu campwaith lleisiol Poulenc 60 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i ysgrifennu mewn ymateb i farwolaeth ei gyfaill agos, yr artist Christian Bérard, mae Stabat mater yn cwmpasu’r tywyll a’r golau – cynrychiolaeth wirioneddol o Gatholigiaeth ddidwyll y cyfansoddwr, ond hefyd ei ffraethineb a’i gymeriad bywiog.

Concerto i’r Gerddorfa gan Bartók

Nos Iau 9/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 10/5/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Caroline Shaw The Observatory première y DU
Ravel Concerto i’r Piano yn G fwyaf
Bartók Concerto i’r Gerddorfa

Giancarlo Guerrero arweinydd
Sergio Tiempo piano

LLIWGAR | DEINAMIG | GAFAELGAR

Cafodd The Observatory gan Caroline Shaw (sy’n cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y DU) ei ysbrydoli gan daith i Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl; mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, yn cyfuno’r hen a'r newydd gydag anhrefn ac eglurder, mewn llif ymwybod sy’n procio ein chwilfrydedd.

Bydd concerto atmosfferaidd Ravel i’r piano, sy’n gymysgedd gyfoethog o delynegiaeth, offeryniaeth atgofus a darnau piano meistrolgar, yn cael ei berfformio gan y pianydd penigamp, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, mae’r feistrolaeth ryfeddol yn parhau yng Nghoncerto gwych Bartók i’r Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.

Bywgraffiadau

Harry Bicketarweinydd

Lun: Dario Acosta

Lun: Dario Acosta

Ganed Harry Bicket yn Lerpwl ac astudiodd yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac ym Mhrifysgol Rhydychen lle’r oedd yn Ysgolor yr Organ yng Ngholeg yr Iesu. Mae’n Aelod Anrhydeddus o’r Academi Gerdd Frenhinol a chafodd OBE yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2022.

Mae’n arbennig o enwog am ei ddehongliad o repertoire Baróc a Chlasurol. Ers 2007 mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig The English Concert, ac mae wedi dechrau ar brosiect gyda nhw yn ddiweddar i recordio holl weithiau Handel fel adnodd ar-lein i bawb.

Ers 2013 mae wedi bod yn Brif Arweinydd Opera Santa Fe ac yn 2018 daeth yn Gyfarwyddwr Cerdd yno. Mae wedi arwain operâu gan Beethoven, Berlioz, Bernstein, Bizet, Britten, Debussy, Handel, Monteverdi a Mozart. Y tymor hwn, mae’n dychwelyd i Opera North ac Opéra de Paris. Mae hefyd yn westai rheolaidd yn yr Opera Metropolitan, Efrog Newydd ac mae wedi arwain yn Opera Talaith Bafaria, Munich, Liceu, Barcelona, Theater an der Wien, Opéra de Bordeaux, y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Opera Cenedlaethol Lloegr, Opera’r Alban, Opera Cenedlaethol Cymru a Glyndebourne.

Mae’n arwain cerddorfeydd yng Ngogledd America yn rheolaidd, gan gynnwys Cerddorfeydd Symffoni Boston, Chicago, Cincinnati, Detroit, Houston, Indianapolis, San Francisco a Seattle, Cerddorfeydd Ffilharmonig Los Angeles ac Efrog Newydd, Cerddorfeydd Siambr Los Angeles a St Paul, Cerddorfa St Luke, NACO Ottawa, Cerddorfa Cleveland a Cherddorfa Minnesota. Mewn mannau eraill, mae wedi arwain repertoire sy’n amrywio o Bach i Britten gyda Radio Bafaria, Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol RTÉ a Cherddorfa Symffoni Tokyo, Cerddorfeydd Ffilharmonig Israel, Monte-Carlo, Oslo, Prague, Rotterdam a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, Royal Northern Sinfonia a Cherddorfa Siambr yr Alban.

Mae’n artist recordio toreithiog ac mae wedi gwneud nifer o recordiadau gyda The English Concert, yn fwyaf diweddar, Rodelinda, La Resurrezione a Serse gan Handel, a enillodd glod mawr.


 Julien Van Mallaerts bariton

Lun: Benjamin Reason

Lun: Benjamin Reason

Enillodd Julien Van Mellaerts Gystadleuaeth y Gân Ryngwladol yn Neuadd Wigmore/Sefydliad Kohn, Gwobrau Kathleen Ferrier a Gwobr Maureen Forrester a Gwobr Lied yr Almaen yng Nghystadleuaeth Cerddoriaeth Ryngwladol Montreal; fe wnaeth hefyd gynrychioli Seland Newydd yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2019.

Ymysg uchafbwyntiau ei yrfa operatig mae Dug Nottingham (Roberto Devereux) ar gyfer Badisches Staatstheater Karlsruhe a Grŵp Opera Chelsea, Silvio (Pagliacci) ar gyfer Opera Israel, Masetto (Don Giovanni) a’r brif ran yn Priodas Figaro ar gyfer Mozartwoche Salzburg, Masetto a Papageno (Y Ffliwt Hud) yng Ngŵyl Verbier ac Iarll Almaviva (Priodas Figaro) ar gyfer Opera Holland Park.   Gyda’r Bale Brenhinol, ymddangosodd ochr yn ochr â Zenaida Yanowsky yn Elizabeth yn y Barbican.

Mae wedi rhoi datganiadau mewn gwyliau yn Seland Newydd, Awstria a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â neuaddau cyngerdd yn Llundain, Berlin a Madrid.

Mae ei ymrwymiadau ar hyn o bryd yn cynnwys y brif rôl yn Wozzeck ar gyfer Cerddorfa Wellington, Frédéric (Lakmé) ar gyfer Grŵp Opera Chelsea, Oreste (Iphigénie en Tauride) ar gyfer Opéra national de Lorraine, Guglielmo (Così fan tutte) ar gyfer Opera Seland Newydd, Schaunard (La bohème) ar gyfer Opera Israel a Frank (Edgar) ar gyfer Opera Holland Park. Mae hefyd yn gyd-guradur Opera in Song a fydd yn cael ei gyflwyno yn Opera Holland Park yr haf hwn.

Mae ei recordiadau’n cynnwys gweithiau gan Barber, Handel, Russell Pascoe a Stanford, yn ogystal â dau ddatganiad o ganeuon.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Emilie Godden
Carmel Barber
Ruth Heney
Anna Cleworth
Rebecca Totterdell
Žanete Uškāne

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Dmitry Khakhamov
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva

Fiolâu
Catherine Marwood ‡
Peter Taylor
Daire Roberts
Lydia Abell
Robert Gibbons
Anna Growns

Soddgrythau
Alice Neary *
Raphael Lang
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Gabriel Rodrigues

Ffliwtiau
Amy Yule  ‡
John Hall † 

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Clarinetau
Nick Carpenter *
Lenny Sayers

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Jo Shewan

Cyrn
Neil Shewan †
Meilyr Hughes
John Davy
Jenny Cox
Alexander Harris

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel

Trombonau
Donal Bannister*
Jake Durham

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Matt Lait

Timpani
Steve Barnard *

Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

Organ Siambr
Gregory Drott

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa penodiad ar waith
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.

Wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’r corws, sy’n dathlu ei benblwydd yn 40 y tymor hwn, yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 150 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiadau o Requiem Fauré ac O sacrum convivium Messiaen gyda Ludovic Morlot, Offeren Nelson’ Haydn gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar enwog Christian Curnyn a recordiad CD o Dewi Sant gan Syr Karl Jenkins yn ei flwyddyn pen-blwydd yn 80 oed, a pherfformiadau blynyddol ym Mhroms y BBC – gydag ymddangosiadau diweddar yn cynnwys Harmonium gan John Adams gyda Prif Arweinydd Ryan Bancroft, A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze a Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann.

Yn ystod y tymor hwn, bydd y corws yn perfformio Five Mystical Songs Vaughan Williams gyda Harry Bicket, Dewi Sant gan Karl Jenkins i nodi Dydd Gŵyl Dewi, Stabat mater Poulenc a pherfformiad cyntaf y byd o Sound of Stardust Alexander Campkin ochr yn ochr ag enillydd Gwobr Cynulleidfa BBC Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano, ynghyd â’r baswyr yn perfformio 13eg Symffoni wych Shostakovich o dan faton Ryan Bancroft.

Mae’r corws wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth gyfoes Rhoddodd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf, y maent newydd ei recordio i’w rhyddhau ar gryno ddisg yn ddiweddarach eleni. Mae wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed gan amrywiaeth eang o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, yn seiliedig ar eiriau Araith Malala Yousafza i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor ar gyfer Wonders of the Celtic Deep BBC Cymru.

Cyfarwyddwr ArtistigAdrian Partington
Cyfeilydd Chris Williams

Soprano 1
Jessica Rose Baber
Logan Clark
Phoebe Dry
Sarah Jane Griffiths
Claire Hardy
Caitlin Hockley
Vanessa John-Hall
Rebecca Jolliffe
Lucie Jones
Katherine Meredith
Angharad Phillips
Elizabeth Phillips
Zoha Sohail
Helen Thomas
Charlotte  Town
Jo Westaway
Hannah Willman

Soprano 2
Kate Bidwell
Dee Cooke
Katelyn Da Costa
Rhianwen Hallows
Emily Hopkins
Rhiannon Humphreys
Victoria Illsley
Izzy Jackson
Julie Jones
Carolyn Lee
Rosie Moore
Hannah Soares
Melanie Taylor
Caroline Thomas
Hannah Williams

Alto 1
Ceri-Ann Absalom
Anna Eldred
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Hitchings
Sara Peacock
Kate Reynolds
Zozi Sookanadenchetty
Julie Ellen Thornton
Vicki Westwell

Alto 2
Alex Butler
Darcy Cole
Yvonne Higginbottom
Max Keith
Sian Schutz
Julie Wilcox

Tenor 1
Oli Bourne
Roland George
Tom Lazell
Nick Willmott

Tenor 2
Mike Ennis
Peter Holmes
Rory McIver
Owen Parsons
Richard Wilcox

Bas 1
Peter Cooke
John Davies
Rafael Grigoletto
David Hopkins
Jack Irwin
Geraint Jones
Emyr Wynne Jones
Jez Piper
Neil Schofield
Miles Smith

Bas 2
Jeff Davies
Lyndon Davies
Joshua Eatough
Oliver Hodgson
Stuart Hogg
David Hutchings
Joseff Morris

Roedd y rhestr o gantorion yn gywir wrth fynd i’r wasg

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications