Caneuon Tynged

Nos Wener 20/6/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Johannes Brahms Serenâd Rhif 2 29’

EGWYL: 20 munud

Johannes Brahms Schicksalslied 18’
Igor Stravinsky Symffoni’r Salmau 21’

Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Caiff y cyngerdd hwn ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn Radio 3 in Concert yn y dyfodol; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heno, yr olaf yn ein prif dymor. Mae ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ei ôl gyda rhaglen sy’n gosod un o gewri cerddoriaeth Ramantaidd wyneb yn wyneb ag un o feistri’r 20fed ganrif.

I ddechrau, Brahms, a’i Ail Serenâd. Am flynyddoedd roedd Brahms wedi teimlo ei fod yng nghysgod hir Beethoven a’i gampau symffonig mawreddog. Felly, yn hytrach na chystadlu gyda symffoni o’i eiddo ei hun, arbrofodd gyda ffurf y serenâd. Mae’r Ail Serenâd bwysig yn llawn sirioldeb a pherseinedd rhwydd nodweddiadol Brahms. Daw Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC i ymuno â’r gerddorfa ar y llwyfan am yr ail hanner. Rhyw ddegawd yn ddiweddarach na’r Serenâd y cyfansoddodd Brahms ei Schicksalslied, gosodiad o farddoniaeth Friedrich Hölderlin mewn gwaith sy’n llwyr adlewyrchu hwyliau amrywiol y cerddi.

I gloi, cawn Symffoni’r Salmau gan Stravinsky, un o’i enghreifftiau gwych o neo-Glasuriaeth. Ynddi, mae’n creu ymdeimlad o arwahanrwydd, nid yn unig trwy’r tri thestun salm cyferbyniol, ond mewn cerddorfa heb ffidil, fiola na chlarinét.

Mwynhewch – ac edrychaf ymlaen at eich gweld chi eto’r tymor nesaf!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Johannes Brahms (1833–1897)

Serenâd Rhif 2, Op. 16 (1859)

1 Allegro moderato
2 Scherzo: Vivace
3 Adagio non troppo
4 Quasi menuetto – Trio
5 Rondo: Allegro

Mewn ffordd, bai Beethoven oedd hi. Erbyn i’r Johannes Brahms ifanc ddechrau ei yrfa gerddorol, roedd ymdeimlad cynyddol bod angen olynydd i ymgymryd â mantell symffonig Beethoven: ac er gwell neu er gwaeth, roedd mentor Brahms, Robert Schumann, yn teimlo mai’r cyfansoddwr ifanc o Hamburg oedd y dyn ar gyfer y swydd. Ddiwedd 1853, proffwydodd Schumann ar goedd fod llwyddiannau gogoneddus i ddod i Brahms. A’r fath ganmoliaeth yn ei blesio ond eto’n ei ddychryn, treuliodd Brahms y 23 mlynedd nesaf yn ymdrechu i ysgrifennu symffoni fyddai’n ddigon da yn ei farn ef i gyfiawnhau’r broliant. Bu’n daith hir a phoenus. Ond cynhyrchodd gerddoriaeth ddiddorol a gweithiau anghyffredin ar hyd y ffordd.

Ym 1857, y flwyddyn ar ôl marwolaeth Schumann, cychwynnodd Brahms ar un o sawl ymgais i gwblhau prosiect symffonig. O fewn blwyddyn, roedd wedi dargyfeirio’i egni i gynhyrchu nid symffoni Ramantaidd, ond serenâd yn yr arddull Clasurol. Dyma ffordd dwt o ochrgamu Beethoven yn gyfan gwbl, gan neidio’n ôl i fyd o symudiadau cryno, gosgeiddig ac alawon dawns. Cwblhaodd ail waith o’r fath ym mis Tachwedd 1859. Tra bod y Serenâd Gyntaf yn cynnwys y cyfarwyddyd ‘für grosses Orchester’, sgoriwyd yr Ail Serenâd hon yn fwriadol ar gyfer offerynnau siambr yn unig – dim ond offerynnau chwyth a llinynnau.

Arweiniodd Brahms berfformiad preifat o’r gwaith ym mis Chwefror 1860 yn Hamburg, lle cafodd adolygiadau cymeradwyol gan y papurau lleol. Soniodd yr Hamburger Nachrichten am weadau cynnil yr ensemble a’r Rondo siriol fel uchafbwynt arbennig. Mae’r Serenâd mewn pum symudiad: cyfres o dair colofn (y symudiadau allanol a’r Adagio canolog) eithaf sylweddol, gyda Scherzo a ‘quasi Menuetto’ llawer byrrach rhyngddynt. Mae’n waith dibryder sy’n llawn heulwen ac alawon swynol i’r offerynnau chwyth a’r llinynnau fel ei gilydd. Ond cawn gipolwg yma ac acw ar gariad Brahms at ddrama Beethovenaidd, yn enwedig yn natblygiad dolefus yr Adagio gyda’i harmonïau annisgwyl, afrosgo ar brydiau. Mae’r symudiadau byrrach yn llawn rhythmau siglo a llinellau bas wedi’u plycio, tra bod y symudiad olaf hapus yn wrthbwys i’r agoriad Allegro moderato, sy’n delynegol ond yn strwythurol uchelgeisiol.

Ysywaeth, ni fyddai’r derbyniad cadarnhaol i’r Serenâd yn Hamburg yn cael ei ailadrodd mewn perfformiadau dilynol. Pan berfformiwyd y darn yn fuan wedyn yn Hanover, anfonwyd llythyr milain at yr arweinydd yn difrïo’r gwaith fel ‘erchyllbeth, gwawdlun, ffrîc … Anfaddeuol cynnig budreddi o’r fath i gyhoedd fu’n sychedu am gerddoriaeth dda’!

Nodyn y rhaglen © Katy Hamilton

EGWYL: 20 munud

Johannes Brahms

Schicksalslied, Op. 54 (1868–71)

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Eechreuodd Brahms ei Schicksalslied (‘Cân Tynged’) ym 1868, yn fuan ar ôl cwblhau ei Requiem Almaenig, ond er ei bod yn llawer llai (ymhell o dan 20 munud), cymerodd bron gymaint o amser i’w gorffen: ni chwblhawyd y sgôr tan 1871, dair blynedd yn ddiweddarach.

Rhan o’r broblem, i Brahms, oedd ffurf y testun, sef penillion o’r nofel Hyperion gan Friedrich Hölderlin (1770–1843), bardd meddyliol fregus a gâi weledigaethau llesmeiriol ar adegau. Roedd llawer o Ramantwyr Almaenig cenhedlaeth Hölderlin yn defnyddio ddelweddau o’r Hen Roeg i ysgogi rhyddid creadigol aruchel, y teimlid ei fod yn alaethus o absennol o’u bodolaeth gyfoes or-ddiriaethol. Ond ymddengys bod Hölderlin wedi teimlo’r gwahaniad hwn rhwng y dwyfol a’r dynol â dwyster arbennig. Roedd hyn yn amlwg wedi creu argraff ar Brahms, ond roedd gofynion ffurf gerddorol gytbwys, oedd mor bwysig i ‘Ramantydd Clasurol’ fel Brahms, yn ei ogwyddo i ffwrdd oddi wrth ddilyniant dramatig Hölderlin: dau bennill o ‘dawelwch llonydd’ cyn plymio’n sydyn a dinistriol i ryw ‘anhysbys’ tywyll. Roedd greddfau Brahms yn ei arwain at strwythur mwy cytbwys, gyda rhyw fath o gyfeiriad terfynol at yr adran agoriadol. Ond siawns na fyddai dod â’r geiriau agoriadol yn ôl, hyd yn oed ar ffurf gryno, yn gwanhau pŵer diweddglo Hölderlin?

Yr arweinydd Hermann Levi (a roddodd y perfformiad cyntaf o Schicksalslied yn ddiweddarach) a gynigiodd ateb: sef cael y gerddorfa yn unig i ddod â’r preliwd i’r adran gyntaf yn ei ôl. Mae’r corws yn cadw’n dawel, fel mai’r geiriau olaf a glywn yw geiriau Hölderlin ‘ins Ungewisse hinab’ – ‘i lawr i’r anhysbys’, ond mae gan y gerddorfa fwy i’w ddweud wrthym. Y canlyniad yw gwaith sydd, er ei fod yn cadw’n driw i weledigaeth Hölderlin, yn cyflawni ei effeithiau o fewn ei ffurf gerddorol foddhaol ei hun. Mae’r preliwd cerddorfaol hyfryd yn cyflwyno neges gymysg gynnil: chwythbrennau dyrchafol nobl a llinynnau wedi’u mudo yn cyfleu tawelwch Meysydd Elysiwm, ond oddi tanynt, cnul distaw’r timpani yn seinio rhythm angladdol digamsyniol, i’n hatgoffa o’n marwoldeb. Ar ôl i’r corws ganu am ‘awelon nefol disglair’ a ‘llygaid dedwydd’ sy’n ‘disgleirio’n dragwyddol’, wedi dau anghytgord tawel ar y chwythbrennau a’r timpani, plymiwn i mewn i Allegro ymchwyddol yn y cywair lleddf ar gyfer pennill olaf digysur Hölderlin. Wedyn, mae cynddaredd yn pylu’n anobaith tawel, cyn i’r tempo ostwng i Adagio a dychweliad y preliwd cerddorfaol gwreiddiol, ond mewn cyweirnod gwahanol i’r agoriad, gydag ychwanegiad ffigurau llinynnol araf hylifol a thrombonau dwys. Fyddai Brahms bron byth yn defnyddio’r math hwn o ‘gyweiredd ddatblygol’, a byth ar y raddfa hon. Mae’n orchestol, ac yn cryfhau’r ymdeimlad o bellter oddi wrth y weledigaeth wreiddiol. Cafwyd cipolwg ar fodolaeth nefolaidd y duwiau Olympaidd, ond yn y pen draw, yn anffodus, nid rhywbeth i ni ydyw.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Testun

Schicksalslied

Ihr wandelt droben im Licht 
Auf weichem Boden, selige Genien! 
Glänzende Götterlüfte 
Rühren euch leicht, 
Wie die Finger der Künstlerin 
Heilige Saiten. 

Schicksallos, wie der schlafende 
Säugling, athmen die Himmlischen; 
Keusch bewahrt
In bescheidener Knospe, 
Blühet ewig
Ihnen der Geist, 
Und die seligen Augen 
Blicken in stiller 
Ewiger Klarheit. 

Doch uns ist gegeben, 
Auf keiner Stätte zu ruhn, 
Es schwinden, es fallen 
Die leidenden Menschen 
Blindlings von einer
Stunde zur andern, 
Wie Wasser von Klippe
Zu Klippe geworfen, 
Jahr lang ins Ungewisse hinab. 

Friedrich Hölderlin (1770–1843)

Cyfieithiad

Rydych chi’n crwydro yn y golau fry
Ar dir meddal, ysbrydion bendigaid!
Daw duwiau disglair
i’ch cynhyrfu’n ysgafn,
fel bysedd yr artist
ar dannau sanctaidd. 

Yn ddi-dynged,
fel babanod sy’n cysgu
anadla’r rhai nefol;
wedi’u cadw’n ddi-nam
mewn blagur di-nod,
Blodeua eu hysbryd am byth,
a’u llygaid dedwydd
yn disgleirio mewn eglurder
tawel tragwyddol.

Ond ni roddir i ni
unlle i orffwys.
Dynolryw ddioddefus
sy’n baglu a chwympo
yn ddall o un awr i’r nesaf,
fel dŵr wedi’i daflu
o glogwyn i glogwyn,
flwyddyn ar ôl blwyddyn i lawr i’r anhysbys.

Cyfieithiad © Cymen

Igor Stravinsky (1882–1971)

Symffoni’r Salmau(1930)

1 Exaudi orationem meam, Domine – 
2 Expectans expectavi Dominum – 
3 Alleluia. Laudate Dominum in sanctis eius

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Ysgrifennwyd Symffoni’r Salmau yn ystod blynyddoedd mwyaf cynhyrchiol y cyfnod y cyfeirir ato’n aml fel cyfnod neo-Glasurol Stravinsky – er bod y term yn un llac yma, gan fod y cyfansoddwr wedi benthyg o ystod mor eang o arddulliau a ffurfiau hynafol, ac wedi canfod cymaint o ffyrdd dyfeisgar i’w trawsnewid. Yn wir, mae’r gyfres o weithiau o Oedipus rex (1927) i Perséphone (1933) – trwy Apollo a’r Concerto i’r Ffidil – yn cynnwys ystod anhygoel o ddulliau cyfansoddi. Daw Symffoni’r Salmau yng nghanol y dilyniant hwn ac efallai mai hi yw’r fwyaf enigmatig o ran arddull.

Roedd ieithwedd newidiol Stravinsky weithiau’n peri dryswch yn ystod y cyfnod hwn, wrth i’r beirniaid ei gyhuddo o ddibynnu gormod ar fygydau a chuddwisgoedd cerddorol. Ond ni ellir amau didwylledd y gwaith hwn, sy’n ymgais i ddatgan ei ffydd fel rhywbeth personol ac ysbrydol. Tra oedd ei ddarnau cynharach ar gyfer y Ballets Russes yn agosach at basiantri, yn gor-wneud ymadroddion Rwsiaidd ar gyfer cynulleidfaoedd Paris, erbyn Symffoni’r Salmau roedd wedi treulio dros 15 mlynedd yn gosmopolitan alltud yn Ffrainc, ac mae’n arddeliad mwy didwyll, difrifol o’i dreftadaeth Uniongred Rwsiaidd. Efallai nad dyma’r darn hwyliog yr oedd Serge Koussevitzky wedi gobeithio amdano pan gomisiynodd ef (i ddathlu hanner canmlwyddiant Cerddorfa Symffoni Boston), ond mae mawredd cadarnhaol positif yn mudferwi yn agos at yr wyneb.

Does dim lle i glarinét na’r un ffidil na fiola yn y trefniant cerddorfaol, sydd ar adegau’n creu sain aflonyddol, gwag. Mewn mannau eraill, mae Stravinsky’n defnyddio dau biano cerddorfaol fel offerynnau taro, gan roi egni i’r darnau lle mae’r llinellau lleisiol yn swnio fel llafarganu defodol.

Wrth osod salmau, yr hyn a geir yn aml yw ymarferion mewn lliwio geiriau, a hynny’n uniongyrchol, amlwg, ond mae Stravinsky’n osgoi ystrydebau o’r fath, heb geisio darlunio’r offerynnau a grybwyllir yn Salm 150 yn y trydydd symudiad. Gwelwn yn eglur yma fod mawl ac addoli, i’r cyfansoddwr hwn, yn gyflyrau tawel a myfyriol iawn. Ar ddechrau’r ail symudiad, mae Salm 40 yn cyhoeddi bod yr Arglwydd ‘[wedi rhoi] yn fy ngenau ganiad newydd’, ond mae hyn yn cael ei ganu tra bod dyfais hynafol iawn, ffiwg ddwbl syfrdanol, yn datblygu. Y symudiad cyntaf yw’r un sy’n ein hatgoffa fwyaf o ‘gyfnod Rwsiaidd’ Stravinsky, gyda’i drawsacennu a’i ailadrodd obsesiynol ar un neu ddau nodyn.

Fel y Symffonïau Offerynnau Chwyth, mae’n waith coffaol yn hytrach na symffoni yn yr ystyr draddodiadol – yn ddyfais fframio enfawr i’r synau a wneir wrth ganu’r salmau.

Nodyn y rhaglen © Tom Owen

Testun


Symffoni’r Salmau

Exaudi orationem meam, Domine 
Exaudi orationem meam, Domine, et deprecationem meam:
Auribus percipe lacrymas meas.
Ne sileas, quoniam advena ego sum apud te,
Et peregrinus, sicut omnes patres mei.
Remitte mihi, ut refrigerer
Priusquam abeam, et amplius non ero.

Salm 39: adn.12–13

Expectans expectavi Dominum 
Expectans expectavi Dominum,
Et intendit mihi et exaudivit preces meas;
Et eduxit me de lacu miseriae, et de luto faecis. 
Et statuit supra petram pedes meos; 
Et direxit gressus meos.
Et immisit in os meum canticum novum,
Carmen Deo nostro. 
Videbunt multi et timebunt; 
Et sperabunt in Domino.

Salm 40: adn.1–3

Alleluia. Laudate Dominum in sanctis eius
Alleluia. Laudate Dominum in sanctis eius:
Laudate eum in firmamento virtutis eius.
Laudate eum in virtutibus eius:
Laudate eum secundum multitudinem magnitudinis eius.
Laudate eum in sono tubae:
laudate eum in psalterio et cithara.
Laudate eum in tympano et choro:
Laudate eum in chordis et organo.
Laudate eum in cymbalis benesonantibus:
Laudate eum in cymbalis iubilationis:
Omnis spiritus laudet Dominum.

Salm 150

Cyfieithiad

Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef;
na thaw wrth fy wylofain.
Canys ymdeithydd ydwyf gyda thi,
ac alltud, fel fy holl dadau.
Paid â mi, fel y cryfhawyf
cyn fy myned, ac na byddwyf mwy. 

Disgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd:
ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain.
Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd;
ac a osododd fy nhraed ar graig,
gan hwylio fy ngherddediad.
A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd
o foliant i’n Duw ni:
llawer a welant hyn, ac a ofnant,
ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd. 

Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd:
molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
Molwch ef am ei gadernid:
molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
Molwch ef â llais utgorn:
molwch ef â nabl ac â thelyn.
Molwch ef â thympan ac â dawns:
molwch ef â thannau ac ag organ.
Molwch ef â symbalau soniarus:
molwch ef â symbalau llafar.
Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd.

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Heno rydym yn lansio ein Tymor 2025/26, felly cofiwch godi copi o’n llyfryn tymor newydd.

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heno, efallai yr hoffech ddod i’r cyngherddau canlynol gyda’r corws:

Gloria

Dydd Sadwrn 7/2/26, 3.00pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Sul 8/2/26, 3.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Cyfieithu BSL

GóreckiTri Darn yn yr Hen Arddull
Poulenc Gloria
Dvořák Symffoni Rhif 8

Michał Nesterowiczarweinydd
Sophie Bevansoprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

DRAMATIG | TRAWIADOL | LLAWN CYMERIAD

Mae’r hen yn cwrdd â’r newydd yn y Tri Darn yn yr Hen Arddull ganGórecki. Wedi’u hysbrydoli gan bapurau ar hen gerddoriaeth Gwlad Pwyl a than ddylanwad cerddoriaeth foddol yn gymysg â gwerin, mae’r darnau llinynnol hyn yn crynhoi swyn soniarus arddull Górecki.

O hyrddio egnïol a thaerineb rhythmig y symudiadau agoriadol i dangnefedd a cheinder y ‘Domine Deus’, mae Gloria chwareus a theatrig Poulenc nid yn unig yn fynegiant o’i ffydd ddofn, ond hefyd yn esiampl o’i arddull gerddorol unigryw. Mae Wythfed Symffoni Dvořák yn clecian ag alawon bachog ac egni mawr. I arwain, mae’n bleser mawr croesawu’r arweinydd byd-enwog o Wlad Pwyl, Michał Nesterowicz, i arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am y tro cyntaf.

Brahms Requiem

Nos Iau 26/3/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

MozartSymffoni Rhif 40
Brahms Ein deutsches Requiem

Thomas Zehetmair arweinydd
Elizabeth Watts soprano
Andrew Foster-Williams 
bariton
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

DIGAMSYNIOL | DYRCHAFOL | SYFRDANOL

Mae symffoni olaf-ond-un Mozart, sy’n dod â phŵer opera i’r llwyfan gyngerdd, yn ddosbarth meistr angerddol llawn tensiwn a rhyddhad. Ar ôl symudiad agoriadol tywyll, dwys daw Andante ysgafnach, mwy telynegol, a chawn wledd o arlliwiau mynegiant wrth i’r Miniwét cryno arwain at Drio lliwgar cyn i’r symudiad olaf ingol, cythryblus ddod â’r campwaith hwn i ben.

Mae Requiem telynegol dyrchafol Brahms yn ddarn personol iawn, sy’n sefyll fel un o weithiau corawl gorau’r byd. Ysgrifennwyd y Requiem ar ôl marwolaeth ei fam, gan nodi trobwynt yn ei yrfa, a does dim litwrgi’n perthyn iddo er mor sanctaidd yw’r naws. Yn hynny o beth mae’n sefyll mewn cyferbyniad clir ag enghreifftiau adnabyddus eraill sy’n seiliedig ar yr Offeren Ladin, fel rhai Verdi a Mozart. Mae tangnefedd pwerus yn ennyn gobaith a defosiwn, sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd heddiw lawn cyn gryfed â phan gafodd ei ysgrifennu.

Bywgraffiadau

Ryan Bancroftarweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt yno o dymor 2021/22 ymlaen. Ym mis Medi 2023, daeth yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.

Ar ôl dechrau ar ei gyfnod fel Prif Arweinydd yn Stockholm gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström, mae ei ail dymor yn cynnwys perfformiadau o symffonïau gan Mahler a Bruckner, ochr yn ochr â’r perfformiadau cyntaf yn y byd o weithiau gan Chrichan Larson a Zacharias Wolfe, a chydweithrediadau gydag unawdwyr enwog gan gynnwys Leif Ove Andsnes, Maxim Vengerov a Vikingur Ólafsson.

Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Radio Boston a’r Ffindir, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin yn y Berlin Philharmonie a’r WDR Symphonieorchester yn Cologne.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden.

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd. 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cynnwys dros 120 o gantorion, ac mae’n un o brif gorau symffoni cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig. Mae’r Corws – sy’n cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac sydd wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd – yn gweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ei hun.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio Stabat mater gan Poulenc a rhoi’r perfformiad cyntaf erioed o Sound of Stardust gan Alexander Campkin gyda Julieth Lozano Rolong, enillydd Gwobr y Gynulleidfa BBC Canwr y Byd Caerdydd a’r arweinydd corawl Sofi Jeannin, yn ogystal â pherfformio 13eg Symffoni Shostakovich dan arweiniad y Prif Arweinydd Ryan Bancroft, a Dewi Sant fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Karl Jenkins yn 80 oed. Mae hefyd yn ymddangos ym Mhroms y BBC bob blwyddyn, ac mae ei berfformiadau diweddar yn cynnwys Requiem Verdi, Harmonium gan John Adams gyda Ryan Bancroft, ac A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze.

Y tymor hwn bydd y corws yn perfformio Meseia gan Handel gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar John Butt, Missa solemnis grymus Beethoven yng Nghadeirlan Llandaf ac yn Abertawe gydag Andrew Manze, yn ogystal â’i gyngerdd carolau blynyddol a chyngerdd o weithiau Brahms gyda Ryan Bancroft.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth gyfoes, a’r corws a roddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf. Mae’r Corws wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr eraill hefyd, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, sef gosodiad o eiriau Malala Yousafzai o’i Haraith i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac ymddangosodd yn ddiweddar ar drac sain y rhaglen Wonders of the Celtic Deep ar BBC Cymru Wales.

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting +blaenwr cyswllt  
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Juan Gonzalez
Carmel Barber
Alejandro Trigo
Ruth Heney
Emilie Godden
Amy Fletcher

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Sheila Smith
Joseph Williams
Michael Topping
Lydia Caines
Beverley Wescott
Ilze Abola
Katherine Miller
Vickie Ringguth
Elizabeth Whittam
Gary George-Veale

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Lowri Taffinder
Lydia Abell

Soddgrythau
Thomas Isaac ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham
Tabitha Selley

Basau Dwbl
David Stark *
Christopher Wescott
Emma Prince
Mike Chaffin
Callum Duggan
Clare Larkman

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Liz May
Carys Gittins
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Alec Harmon
Flic Cowell
Richard Lines-Davies

Cor anglais
Amy McKean

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Bruce Parris
Jo Shewan 

Isfasŵn
David Buckland † 

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Eleanor Blakeney
Tom Taffinder
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Rob Johnston
William Morley

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Richard Evans

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Harry Lovell-Jones

Y Delyn
Elen Hydref

Pianos
Catherine Roe Williams
Chris Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Cyfarwyddwr Artistig Adrian Partington
Cyfeilydd Chris Williams
Hyfforddwr Llais Gail Pearson

Soprano 1
Asia Bonuccelli
Amelia Brown
Eleanor Cantrill
Eve Carey
Iustina Chirila
Charlotte Crane
Katelyn Da Costa
Rebekah Edwards
Ella Edwards Beavington
Bethan M. Evans
Rebecca Gilling
Sally Glanfield
Sarah Jane Griffiths
Darcie Hamilton
Kylie Hansen
Claire Hardy
Rebecca Jolliffe
Vanessa John-Hall
Lucie Jones
Rachael Leary
Katherine Meredith
Leora Molnar
Bethan Nicholas-Thomas
Joanna Osborn
Angharad Phillips
Elizabeth Phillips
Zoha Sohail
Ellen Steward
Helen Thomas
Hannah Willman
Qin Yan 

Soprano 2
Megan Allen
Kate Bidwell
Angie Contestabile
Denise Cooke
Isabel D'Avanzo
Esme Daniell-Greenhalgh
Cerys Herbert-Stott
Pippa Johnson
Margaret Lake
Carolyn Lee
Amelia Mack
Lucy Paterson
Kensey Petschow
Samar Small
Melanie Taylor
Caroline Thomas
Florence Waddington
Hannah Williams
Katherine Woolley 

Alto 1
Catherine Bradfield
Alison Davies
Catherine Duffy
Anna Eldred
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Hitchings
Rhian-Carys Jones
Lisa May
Sara Peacock
Lily Pearson
Bethany Piper
Avery Rabbitt
Kate Reynolds
Amy Roberts
Zozi Sookanadenchetty
Cerys Thomas
Vicki Westwell
Jessica Williams 

Alto 2
Jennie Beard
Darcy Cole
Heledd Evans
Yvonne Higginbottom
Cerian Rolls
Sian Schutz
Julie Wilcox
Sarah Willmott

Tenor 1
Oli Bourne
Meilyr Dafydd
Keith Davies
Roland George
Philip Holtam
Tom Lazell
Andrew Lunn
Andrew Morris
Brendan Roberts
Carwyn Whomsley
Nicholas Willmott 

Tenor 2
Rhys Archer
Tony Breese
Orin Daniel
Jonathan Dobie
Michael Ennis
Peter Holmes
Rory McIvre
Owen Parsons
Sam Proll
Richard Shearman
Thomas Wilde
Michael Willmott 

Bas 1
Noah Boneham-Hill
Leo Collins
Peter Cooke
David Davies
John Davies
Claurindo Diakiesse
James Downs
Jack Irwin
Emyr Wynne Jones
John Rhys Liddington
Lucas Maunder
Neil Schofield
Miles Smith
Alun Williams
Daniel Williams

Bas 2
Jeffrey Davies
Samuel Davies
Oliver Hodgson
Stuart Hogg
Luke Monkhouse
Gareth Nixon
Mike Osborn
David Rodgers

Roedd y rhestr o gantorion yn gywir adeg cyhoeddi’r rhaglen

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Daniel Williams
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications