Ymdeithio ac Ymhyfrydu

Nos Iau 25/9/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Robert Schumann, trefn. Donal Bannister
Pedair Ymdeithgan 18’

Gerald Finzi Concerto i’r Clarinét yn C leiaf 30’

EGWYL: 20 munud

César Franck
Symffoni yn D leiaf 37’

Gergely Madaras arweinydd
Nicholas Carpenter clarinét

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar 25 Tachwedd ar In Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso i’n cyngerdd heno, y cyntaf o’r tymor newydd yn Neuadd Hoddinott y BBC. I arwain, mae’n bleser croesawu Gergely Madaras yn ôl gyda rhaglen sy’n dathlu dawn hynod ein cerddorion ni’n hunain yng Ngherddorfa Genedlaethol y BBC mewn cerddoriaeth o’r 19eg a’r 20fed ganrif.

Cawn ryfeddu at ddawn trefnu Donal Bannister, Prif Drombonydd y Gerddorfa, yn ei drefniant cyffrous i ensemble pres o Bedair Ymdeithgan Robert Schumann, darnau a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer y piano.

Mae Nicholas Carpenter yn Brif Glarinetydd Cerddorfa’r BBC ers 2024 ac yma bydd ei ddawn yn disgleirio yng Nghoncerto hyfryd Finzi i’r Clarinét, gwaith sy’n gyfuniad o delynegiaeth ac elfennau garwach.

I orffen, un o’r symffonïau Ffrengig mwyaf erioed, sef gwaith César Franck, a ddarganfu ysbrydoliaeth yng ngherddoriaeth Richard Wagner a’i throi’n gampwaith sain.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Robert Schumann (1810–56) , trefn. Donal Bannister

Pedair Ymdeithgan, Op. 76(1849)

1 Mit grosser Energie
2 Sehr kräftig
3 Sehr mässig, ‘Golygfa mewn Gwersyll’
4 Mit kraft und feuer

Mae Pedair Ymdeithgan Schumann, Op. 76, yn dyddio o 1849, ac yn ymateb uniongyrchol i’r cythrwfl gwleidyddol a welodd yn Dresden y flwyddyn honno: ‘Wyddwn i ddim am ffordd well i wyntyllu fy nheimladau – fe ysgrifennais nhw dan deimlad’. Maen nhw’n ddarnau hynod emosiynol a cythryblus felly, yn cynnwys cyfarwyddiadau fel ‘Yn Llawn Egni’ a ‘Llawn Pŵer a Thân’, a dim ond y trydydd darn, ‘Golygfa mewn Gwersyll’, sy’n cynnig hoe o’r ddrama. Camarweiniol mewn gwirionedd yw eu galw’n Ymdeithganau; maen nhw’n llawer mwy cynnil na hynny, ac â dweud y gwir byddai’n amhosib gorymdeithio iddyn nhw. Mae’n debyg fod Schumann, fel ymateb personol i ddigwyddiad dramatig, wedi teimlo’r angen i’w hysgrifennu iddo ef ei hun eu chwarae.

Bûm yn trefnu cerddoriaeth i ensembles pres ers fy nyddiau coleg, ac rydw i wastad wedi bod wrth fy modd gyda’r broses o ail-ddychmygu darn mewn fformat newydd. Y trefniadau mwyaf llwyddiannus yn aml yw’r rhai sy’n neidio allan atoch chi’n syth yn eu ffurf newydd. Yn nodiant Schumann o’i ddarnau piano gwreiddiol mae bron fel petai’n cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i’w trosglwyddo i ensemble offerynnol; y cwbl oedd raid i mi ei wneud oedd dilyn ei gyfarwyddiadau ac wele nhw yn eu ffurf newydd. Fel cyfansoddwr cerddorfaol, roedd Schumann yn flaengar yn ei ysgrifennu ar gyfer offerynnau pres, gan fynd ati’n frwd i gofleidio technoleg newydd offerynnau falf, felly rwy’n gobeithio y byddai wedi cymeradwyo’r ailddychmygiad hwn.

Nodyn y rhaglen © Donal Bannister

Gerald Finzi (1901–56)

Concerto i’r Clarinét yn C leiaf, Op. 31 (1948–9)

1  Allegro vigoroso
2  Adagio, ma senza rigore
3  Rondo: Allegro giocoso

Nicholas Carpenter clarinét

Mewn crynodeb hwylus o goncerti i’r clarinét a gyhoeddwyd ym 1962, nododd Burnet C. Tuthill mai Concerto Finzi i’r Clarinét oedd ‘un o’r gweithiau newydd gorau’, gan ychwanegu ei fod yn ‘gyfoes ond nid yn anghyseiniol aflafar’. Mae’n bosibl bod y diffyg anghyseinedd honedig hwn (er bod elfennau anghyseiniol yn bresennol, mae’n wir) yn gyfrifol am y croeso gwresog a gafodd y concerto yn ei berfformiad cyntaf yn 1949; ‘dirodres a deniadol drwyddi draw’ oedd geiriau brwd ‘F.H.’ yn y Musical Times. Mae’n hawdd deall pam fod hwn yn ddarn poblogaidd gyda chenedlaethau o glarinetwyr byth ers hynny – er na chafodd ei recordio tan y 1970au – ac mae’n dal ymhlith y mwyaf poblogaidd o weithiau cerddorfaol Finzi ymysg perfformwyr.

O ystyried y sylwadau uchod am y darn, efallai y bydd y nodau cerddorfaol agoriadol yn syndod: mae’n tanio’n rymus a garw, gan neidio’n aflonydd i fyny ac i lawr yr wythfed i greu awyrgylch cyffredinol ddrwg-argoelus. Daw’r unawdydd i mewn fel petai’n dod o fydysawd cerddorol arall, gan esmwytho ymylon gerwin y gerddorfa â datganiad telynegol tawel. Serch hynny, caiff y clarinét ei dynnu i mewn yn ysbeidiol i naws fwy pigog y llinynnau. Er mai mwy o frathiadau gan y gerddorfa oedd diweddglo gwreiddiol y symudiad cyntaf, ychwanegodd Finzi gadenza byr i’r unawdydd (a awgrymwyd gan Vaughan Williams ar ôl y perfformiad cyntaf) ynghyd â’i neidiau wythfed sgyrnygus ei hun.

Mae’r Adagio swynol, ma senza rigore – y symudiad hiraf – yn delynegol a melancolaidd. Y sgwrs agoriadol rhwng y ffidil gyntaf a’r ail ffidil yw prif ddeunydd y symudiad gan gynnwys cadenzas agoriadol synfyfyriol y clarinét. Caiff y deunydd ei drosglwyddo’n ôl a blaen rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa, weithiau wedi’i addurno, weithiau ynghudd mewn gwead dwys. Daw’r Adagio i ben gyda datganiad syml, myfyriol cyn pylu’n ddim.

Clywn ddychweliad y ddeinameg rhwng y llinynnau a’r unawdydd o’r Allegro vigoroso, i ryw raddau, yn y symudiad olaf, ac anghyseinedd garw’r tannau’n ildio i awyrgylch mwy chwareus diolch i alawon hwyliog y clarinét. Tua diwedd y symudiad, fel pe bai i bwysleisio goruchafiaeth delynegol y clarinét ymhellach, mae’r llinynnau’n tawelu i roi lle i adleisiau o alaw’r symudiad cyntaf. Serch hynny, mae’r darn yn gorffen gyda sioe olaf syfrdanol: triliau ac addurniadau blodeuog gan yr unawdydd, rhaeadr pefriog gan y llinynnau, a phawb yn rhuthro tuag at un cord pendant yn y cywair mwyaf.

Nodyn y rhaglen © Lucy Walker

EGWYL: 20 munud

César Franck (1822–90)

Symffoni yn D leiaf(1887–8)

1 Lento – Allegro ma non troppo
2 Allegretto
3 Allegro non troppo

Cwblhawyd y Symffoni yn D leiaf ym mis Awst 1888, ac mae’n perthyn i flynyddoedd olaf Franck pan flodeuodd ei waith cyfansoddi, cyfnod pan oedd wedi’i drochi ddyfnaf yng ngherddoriaeth Wagner. Mae’r gromatyddiaeth gyfoethog yn dangos dyled i Tristan und Isolde a agorodd y drws i ddwyster mynegiant newydd. Wrth ddiosg hualau ei arddull gynharach, dawelach, cafodd Franck fodd i gyfuno’r aruthrol a’r stormus â synwyrusrwydd angerddol gan ennyn edmygedd ac anogaeth ei ddisgyblion yn y ‘bande à Franck’ – d’Indy, Chausson, Holmès a Duparc – cyfansoddwyr a ffurfiodd, gyda Franck, gnewyllyn Wagnérisme yn Ffrainc ar ddiwedd y 19eg ganrif, mudiadyr oedd y Debussy ifanc hefyd yn rhan ohono.

Pan ddechreuodd Franck fraslunio ei symffoni ym 1887, roedd ysgrifennu gwaith o’r fath yn beth gweddol newydd yn ei famwlad: roedd cyfansoddwyr Ffrainc ers tro byd wedi ffafrio opera fel y genre o fri rhyngwladol. Ond, wedi dioddef crasfa gan Brwsia yn Rhyfel 1870-71, daeth newid meddwl: gyda’r galwadau am adnewyddiad gwleidyddol a diwylliannol yn Ffrainc cododd brwdfrydedd gwladgarol newydd a arweiniodd Franck a Saint-Saëns i sefydlu’r Société Nationale de Musique gyda’r bwriad penodol o annog eu cyd-Ffrancwyr i ddymchwel goruchafiaeth draddodiadol cyfansoddwyr Awstria a’r Almaen yn y ffurfiau symffonig.

Wedi’i ysbrydoli gan lwyddiant Symffoni ‘Organ’ Saint-Saëns (1886), penderfynodd Franck roi cynnig ar symffoni yn yr un naws, yn trawsnewid o’r cywair lleiaf i ddatganiad disglair a buddugoliaethus y cywair mwyaf, ond wedi’i saernïo’n gynllun tri symudiad yn hytrach na’r pedwar mwy clasurol. Fel Saint-Saëns, tynnodd Franck hefyd yn sylweddol ar wersi ei ragflaenwyr Almaenaidd, ond mewn ffordd wahanol. Er iddo ddathlu dulliau arloesol Wagner yn ddi-eithriad, roedd obsesiwn Franck gyda’r ffurf gylchol (lle mae themâu unigol yn cysylltu nid yn unig bob symudiad, ond y gwaith cyfan yn aml) yn ddyledus i raddau helaeth i’w fyfyrdodau ar waith diweddar Beethoven, Ffantasi’r Crwydryn gan Schubert a thrawsnewid thematig Liszt. Yn wir, mae’r thema dywyll sy’n agor y symffoni, ac sy’n sail i gymaint o’r gwaith, yn gyfeiriad at y cymal holgar ‘Muss es sein’ o ddiweddglo enigmatig Pedwarawd Llinynnol olaf Beethoven, Op. 135.

Er mai derbyniad cymysg gafodd y symffoni hon yn ei pherfformiad cyntaf ar 17 Chwefror 1889 – a beirniadaeth annheg am gymhlethdod ei syniadau, ei threfniant afrosgo, gor-drymder y pres a’r hyn a ystyrid gan rai yn ddatblygiad newydd anghyffredin, sef unawd cor anglais yn yr ail symudiad, syniad oedd wedi’i arddel cyn hynny gan Rossini, Berlioz a Wagner – buan iawn yr enillodd lwyddiant rhyngwladol eang. Roedd Debussy yn llawn canmoliaeth i’r darn, gan ei ddisgrifio fel ‘gwaith prydferth o ryfeddodau di-rif’.

Nodyn y rhaglen © Caroline Rae

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Dathlu Shostakovich

Nos Wener 03/10/25, 7:30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Shostakovich Concerto Rhif 1 i’r Ffidil
Shostakovich Symffoni Rhif 7, ‘Leningrad’

Ryan Bancroft arweinydd
Clara-Jumi Kangffidil

GRYMUS | ARWROL | MEISTROLGAR

Hanner can mlynedd ar ôl ei farwolaeth, cawn ddathlu meistrolaeth Shostakovich mewn cyngerdd sy’n cynnwys ei Goncerto i’r Ffidil a’i Seithfed Symffoni nerthol dan faton ein Prif Arweinydd poblogaidd, Ryan Bancroft.

Mae’r concerto yn arddangosiad artistig ar raddfa aruthrol, o’i Nocturne agoriadol tywyll, trist, i Scherzo sydd bron yn ddieflig gyda’i ddawns yn arddull y Klezmer Iddewig ar gyfer y clarinét; ac o’r Passacaglia mawreddog i’r Bwrlésg arbennig o feistrolgar. Mae ei Symffoni ‘Leningrad’ yr un mor bwerus; dyma waith grymus a phwysfawr sy’n troedio’r llinell rhwng disgwyliadau Stalin-aidd a mynegiant personol am ryfel.

Thema ac Amrywiadau

Nos Iau 16/10/25, 7:30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Shostakovich Thema ac Amrywiadau
Shostakovich Concerto Rhif 2 i’r Piano
Haydn Symffoni Rhif 6, ‘Le Matin’
Brahms Amrywiadau ar Thema gan Joseph Haydn

Jaime Martín arweinydd
Alim Beisembayevpiano

DYFEISGAR | DYMUNOL | NODEDIG

Mewn ail gydnabyddiaeth i Shostakovich yn hanner canmlwyddiant ei farwolaeth, mae Jaime Martín, Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn cyflwyno rhaglen sy’n cynnwys ei Thema ac Amrywiadau a’i Ail Goncerto i’r Piano.

Yn ei arddegau yr ysgrifennodd y Thema ac Amrywiadau, sy’n datgelu llais ffres a hyderus, tra bo’r concerto hwyrach – a gyfansoddodd fel anrheg pen-blwydd chwareus i’w fab, Maxim – yn gorlifo â’i ffraethineb, ei liw, a’i delynegiaeth.

Gan archwilio rhagor o setiau o themâu ac amrywiadau, mae Amrywiadau ar Thema Haydn gan Brahms yn dangos ei chwilfrydedd â llinach gerddorol, tra bo Chweched Symffoni Haydn ei hun, ‘Le Matin’, yn agor y rhaglen gyda sioncrwydd a swyn.

Bywgraffiadau

Gergely Madaras arweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Enwyd yr arweinydd o Hwngari Gergely Madaras yn Arweinydd y Flwyddyn 2025 yng Ngwobrau Radio Bartók. Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Liège rhwng 2019 a 2025 lle nodwyd ei gyfnod llwyddiannus yn ddiweddar wrth iddo gael ei enwi’n Ddinesydd Anrhydeddus y Ddinas.

Y tymor hwn bydd yn perfformio am y tro cyntaf mewn digwyddiadau proffil uchel gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Dresden, Hong Kong a Tampere, NDR Elbphilharmonie, Staatskapelle Dresden, Palau de la Música, cerddorfeydd Symffoni Valencia, Mulhouse a Trondheim, yn ogystal ag Opera Cenedlaethol Cymru (Tosca). Mae’n dychwelyd i gerddorfeydd Symffoni Bournemouth ac NHK, cerddorfeydd Ffilharmonig Lwcsembwrg, Oslo, Turku a Warsaw, yn ogystal ag Opera Gwladol Hwngari a phrosiect arbennig gyda cherddorfa Symffoni Radio Hwngari i ddathlu pen-blwydd György Kurtág yn 100 oed yn 2026.

Ymhlith ei uchafbwyntiau symffonig diweddar mae perfformiadau gyda cherddorfeydd Ffilharmonig y BBC, Llundain, Monte-Carlo, Oslo a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Gŵyl Budapest, Cerddorfeydd Symffoni y BBC, Dinas Birmingham a São Paulo, Cerddorfa Hallé, Cerddorfa’r Byd Iddewig, Orchestre Philharmonique de Radio France, Cerddorfa Capitole Toulouse, Sinfonica Nazionale della RAI a thaith gyda Il Pomo d’Oro a Joyce DiDonato.

Gergely Madaras oedd y cyntaf i’w urddo’n Gymrawd Syr Charles Mackerras yn Opera Cenedlaethol Lloegr. Yn ystod y tymhorau diwethaf mae wedi arwain cynyrchiadau llwyddiannus yn Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd, Grand Théâtre Genefa a La Monnaie, Brwsel, ac Opera Gwladol Hwngari.

Nicholas Carpenterclarinét

Astudiodd Nicholas Carpenter y clarinét yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Thea King a John McCaw. Yn syth ar ôl gadael, ymunodd â’r Bournemouth Sinfonietta yn Brif Glarinét a daliodd y swydd honno am 10 mlynedd.

Ym 1995 fe’i gwahoddwyd i ymuno â Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, lle’r arhosodd am y 18 mlynedd nesaf yn chwarae’r Prif Glarinét, yr y Clarinét E feddalnod a'r Is-brif Glarinét. Tra oedd yno fe ymddangosodd hefyd fel prif glarinét gwadd gyda bron bob cerddorfa broffesiynol yn Lloegr.

Mae cerddoriaeth siambr wedi bod yn rhan annatod o’i yrfa hefyd, yn enwedig gydag aelodau o Gerddorfa Ffilharmonig Llundain ac Academi St Martin in the Fields. Mae wedi ymddangos sawl gwaith yn Neuadd Wigmore yn ogystal â lleoliadau ledled Prydain a’r byd, a dewiswyd ei recordiad o Bumawd Clarinét Mozart fel y Recordiad Gorau yn rhaglen BBC Radio 3, Building a Library.

Mae galw mawr amdano fel athro a hyfforddwr chwythbrennau ac mae wedi rhoi dosbarthiadau meistr yn rheolaidd ledled y wlad a thramor. Bu’n dysgu yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall (2006–17), bu’n Bennaeth Chwythbrennau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (2017–20) ac mae bellach yn dysgu’r clarinét yn y Coleg Cerdd a Drama a Choleg y Drindod, Llundain.

Mae wedi ymddangos yn ddiweddar fel prif glarinét gwadd gyda’r Opera Brenhinol, Covent Garden, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, a Philharmonia. Mae’n ymddangos hefyd ar nifer o draciau sain cyfoes, fel y ffilmiau Fantastic Beasts and Where to Find Them ac Avengers: Endgame.

Yn 2021 cafodd ei benodi’n Brif Glarinét gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC a’r llynedd fe’i penodwyd yn Brif Glarinét gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Emily Davis blaenwr gwadd
Martin Gwilym-Jones sub-leader
Terry Porteus 
Suzanne Casey 
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Emilie Godden 
Ruth Heney **
Kerry Gordon-Smith 
Anna Cleworth 
Carmel Barber 
Gary George-Veale 
Rebecca Totterdell
Zhivko Georgiev

Ail Ffidlau
Emily Davis ‡ 
Ros Butler
Sheila Smith
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Michael Topping
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Lydia Caines **
Beverley Wescott
Laurence Kempton
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike # 
Tetsuumi Nagata
Catherine Palmer
Lydia Abell
Laura Sinnerton 
Lowri Taffinder 
Robert Gibbons
Lucy Theo
Sharada Mack

Soddgrythau
Morwenna Del Mar 
Raphael Lang 
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Emma Prince
Christopher Wescott
Aisling May Reilly
Phoebe Clarke
Imogen Fernando

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †

Oboau
Polly Bartlett ‡
Amy McKean †
Peter Facer

Cor anglais
Peter Facer

Clarinetau
William White †
Jennie Joy Porton

Clarinét Bas
Lenny Sayers †+**

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Dominic Tyler

Cyrn
John Davy
Meilyr Hughes
Dave Ransom
Flora Bain
Tom Taffinder

Utgyrn
Philippe Schartz *
Will Morley
Corey Morris †

Cornedau
Corey Morris 
Carys Wood

Trombonau
Donal Bannister *
Simon Wills

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Adrian Miotti

Timpani
Steve Barnard *

Y Delyn
Deian Rowlands

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Daniel Williams
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications