

Dawnsiau a Duwiau
Nos Iau 21/11/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Respighi
La boutique fantasque – cyfres21’
EGWYL: 20 munud
Rossini
Stabat mater 60’
Nil Vendittiarweinydd
Olivia Boen soprano
Teresa Iervolino mezzo-soprano
Levy Sekgapanetenor
Ashley Riches bariton-bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Julie DoyleCyfieithydd BSL
Mae’r cyngerdd yn cael ei darlledu’n fyw gan BBC Radio 3 ar BBC Radio 3 in Concert, ac yn cael ei ffilmio i’w ryddhau yn y dyfodol fel rhan o gyfres Cyngherddau Digidol BBC NOW. Bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Ar gyfer y cyngerdd heno, rydyn ni’n falch iawn o groesawu Nil Venditti yn ôl atom, ar ôl iddi greu cymaint o argraff yn gynharach y tymor hwn. Mae hi’n dathlu ei gwreiddiau Eidalaidd gyda darnau gan Respighi a Rossini, a’r ail o’r cyfansoddwyr hyn yw’r llinyn drwy’r rhaglen.
Roedd Respighi yn un o fenthycwyr mawr y byd cerddoriaeth, ac fe gyfansoddwyd ei ddarn La boutique fantasque yn wreiddiol fel bale un act sy’n seiliedig ar ddetholiad o sgoriau poced a gyfansoddwyd gan Rossini ar ôl iddo ymddeol o fyd y llwyfan. O’r bale hwnnw y daw’r gyfres a glywn heno. Mae Respighi yn sicr yn llwyddo i ychwanegu ymdeimlad o liw cerddorfaol at y darnau gwreiddiol syml hyn, gan amlygu cymeriad pob un ohonynt mewn ffordd ddengar dros ben.
Mae Stabat mater gan Rossini yn waith sy’n cyfuno ei brofiad yn y tŷ opera – ei ddrama bur a’i ysgrifennu meistrolgar ar gyfer lleisiau – gyda cherddorfa fawr sydd wedi’i llunio i fanteisio ar naws ddramatig y testun, lle portreadir Mair fam Iesu yn wylo wrth y groes. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu pedwar unawdydd i berfformio’r darn hwn heno, ynghyd âgrymoedd cyfun Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Ottorino Respighi(1879–1936)
La boutique fantasque (1918) – cyfres

1 Overture
2 Tarantella
3 Mazurka
4 Danse cosaque [Dawns y Cosaciaid]
5 Can-can
6 Valse lente [Walts Araf]
7 Nocturne
8 Galop
‘Rhuddygl’; ‘Ffigys Sychion’; ‘Menyn’; ‘Olew Castor’: nid bwydlen hynod o annymunol yw hon, ond rhywfaint o’r teitlau rhyfeddol a roddodd Rossini i’r ‘manion bethau’ sy’n rhan o’i gasgliad o ddifyrion cerddorol, Pechodau Henaint. Cerddoriaeth salon yw'r 150 o weithiau byr hyn (a gyfansoddwyd rhwng 1857 a 1868) ac maent wedi’u sgorio’n bennaf ar gyfer y piano, neu lais a phiano. Dyma dameidiau sydd bob amser yn gain, yn aml wedi’u hysgrifennu â’r tafod yn y foch, ac yn llawn pleser cerddorol pur.
Roeddent hefyd yn dir ffrwythlon lle'r âi Ottorino Respighi i bori am syniadau. Ac yntau wedi cael y dasg o ysgrifennu sgôr ar gyfer Diaghilev a’r Ballets Russes – ar gyfer bale un act o’r enw La boutique fantasque (‘Y Siop Deganau Hud’) – aeth y cyfansoddwr ati i fanteisio ar lwyddiant ei ddarn diweddar Ceinciau a Dawnsiau Hynafol (1917) drwy fynd i dyrchu ym ‘mocs gwisg ffansi’ cerddorol y gorffennol. Gan ddwyn ysbrydoliaeth gan sgoriau poced bywiog a llawn cymeriad Rossini, aeth ati’n gyflym i’w hail-ddylunio ar ffurf siapiau ac arddulliau’r 20fed ganrif, gyda chymorth adran offerynnau taro helaeth y gerddorfa, sy’n cynnwys drymiau bas ac ochr, seiloffon a selesta.
Ffantasi hudolus yw plot Massine. Mewn siop deganau Ffrengig (sydd wedi'i dodrefnu yn arddull y 1860au, gyda dylanwad Toulouse-Lautrec yn amlwg) mae gwneuthurwr teganau dangos ei ddoliau enwog sy’n dawnsio. Mae’r pâr o ddawnswyr can-can yn dal llygad pawb: caiff un ei werthu i deulu Americanaidd, ar llall i Rwsiaid. Ond mae’r doliau mewn cariad, ac i osgoi cael eu gwahanu, maen nhw’n meddwl am gynllun i ddianc ...
Mae llinynnau pizzicato ac offerynnau taro yn gosod yr olygfa hudolus mewn drama agoriadol, cyn i’r gyfres o ddawnsiau ddechrau. Tarantella wyllt a gawn ni gyntaf, lle mae'r chwythbrennau a'r offerynnau pres yn taflu'r alaw'n ôl ac ymlaen rhyngddynt, i gyfeiliant hollbresennol y tambwrîn. Mae pedair dol sydd wedi gwisgo fel cardiau chwarae yn dawnsio Mazurka bonheddig; cyflwynir arddull rodresgar yn Nawns y Cosaciaid; ac fe geir walts ganolog osgeiddig. Yna ceir y can-can chwyrlïol, anorchfygol – sef y darn gosod sy’n ganolbwynt i’r gwaith – cyn i'r siop gau am y diwrnod.
Ond mae’r gweithgarwch yn parhau ar ôl amser cau. Wrth i’r cloc daro deg, mae’r doliau’n galaru, gyda Walts Araf i ddechrau, yna gyda Hwyrgan delynegol. Daw’r gyfres i ben gyda Galop fywiog wrth i ni wylio’r doliau’n dianc i’w rhyddid.
Nodyn y rhaglen © Alexandra Coghlan
EGWYL: 20 munud
Gioachino Rossini(1792–1868)
Stabat mater(1832–41)

1 Stabat mater dolorosa
2 Cujus animam
3 Quis est homo
4 Pro peccatis
5 Eja, Mater
6 Sancta Mater
7 Fac, ut portem
8 Inflammatus
9 Quando corpus morietur
10 In sempiterna saecula. Amen
Olivia Boen soprano
Teresa Iervolino mezzo-soprano
Levy Sekgapanetenor
Ashley Riches bariton-bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
‘Ydw i wedi ysgrifennu cerddoriaeth wirioneddol gysegredig, neu ddim ond cerddoriaeth wael? Yr opera buffa yw fy arbenigedd, fel y gwyddoch…’ gwyddai Gioachino Rossini beth oedd ei gryfderau. Yn ystod ei yrfa fer ond hynod doreithiog, roedd y cyfansoddwr o’r Eidal wedi gwneud argraff ar dai opera Ewrop, gyda phob un yn ysu am ei frand o gomedi ysgafn a hynod feistrolgar, ac yn ddiweddarach am ei Operâu Mawreddog. Ond yn 1830, ac yntau ond yn 37 oed, gwnaeth benderfyniad annisgwyl i ymddeol o’r llwyfan, ar ôl ysgrifennu tua 40 opera mewn dim ond 20 mlynedd.
P’un ai salwch neu’r ffaith ei fod yn gyfforddus o ganlyniad i’w lwyddiant a lywiodd y penderfyniad hwn, ni roddodd Rossini’r gorau iddi’n llwyr. Yn ystod ei ddau ddegawd olaf, aeth ar drywydd tra gwahanol yn ei repertoire: gweithiau siambr (Pechodau Henaint yn bennaf), yn ogystal â changen newydd o gerddoriaeth grefyddol.
Er mai Petite messe solennelle (1863) yw’r darn mwyaf adnabyddus a gyfansoddodd Rossini yn ystod y cyfnod diweddarach hwn o greadigrwydd, mae ei Stabat mater cynharach yn rhannu’r un naws theatrig a dramatig sy’n ddigywilydd o operatig (does dim ond angen i chi wrando ar y cordiau taranllyd, a’r tawelwch trawiadol sy’n dilyn, wrth gyhoeddi diweddglo epig yr Amen). A pham lai? Mae’r testun – sef emyn o’r 13eg ganrif i’r Forwyn Fair, yn disgrifio trallod Mair wrth y groes – yn anghyfforddus o ran pa mor uniongyrchol ydyw yn gorfforol ac emosiynol. Mae’n gwrthod edrych draw wrth i Iesu gael ei chwipio a’i fflangellu, ac mae’n ein gorfodi i deimlo ei boen pan gaiff ei drywanu â chleddyf yn ei ystlys, ac i wylio dagrau a phoen ei fam wrth iddi syllu ar ei mab yn marw.
Roedd mynd ati i ddechrau’r gwaith yn gam anodd. Comisiynwyd y darn yn 1831, a dechreuodd Rossini ar y Stabat mater y flwyddyn ganlynol, gan gwblhau’r symudiad cyntaf a symudiadau 5 i 9. Ond, wedi’i arafu gan salwch – a diffyg awydd o bosibl – gofynnodd y cyfansoddwr i Giovanni Tadolini gwblhau’r gerddoriaeth a oedd yn weddill mewn pryd ar gyfer y perfformiad cyntaf o’r gwaith yn ystod yr Wythnos Fawr ym Madrid. Dyma’r unig berfformiad a gafwyd o’r gwaith hwn yn y ffurf yma, a ystyriwyd yn anorffenedig gan Rossini – penderfynodd ddychwelyd ato’n ddiweddarach, gan lenwi’r symudiadau ‘coll’.
Nid cymhellion artistig yn unig a sbardunodd y penderfyniad hwn. Roedd hawliau cyhoeddi a ffioedd yn fusnes mawr – yn enwedig i gyfansoddwr a oedd wedi ymddeol. Cafwyd ail ‘première’, a oedd yn gyfle i gymryd meddiant ariannol llawn o’r gwaith, ac fe arweiniodd hyn at gyfres gymhleth o achosion cyfreithiol. Rossini a enillodd yn y pen draw, ac fe gafodd y Stabat mater ar ei ffurf derfynol ei berfformio am y tro cyntaf yn y Theatre Italien ym Mharis ym 1842, dan arweiniad neb llai na Gaetano Donizetti.
Mae’r darn wedi'i sgorio ar gyfer grymoedd cerddorfa a chorws mawr, gan gynnwys dwbl y chwythbrennau, pedwar corn, tri thrombôn, timpani a phedwarawd o unawdwyr lleisiol, nad ydynt ond yn dod i’r amlwg yn raddol. Mae fel pe baem yn nesáu o bellter at yr olygfa – mam â’i phen yn ei phlu ar waelod y groes. Mae’r symudiad agoriadol yn dechrau’n dawel yn y gerddorfa, gyda chyfres o frawddegau esgynnol yn galw arnom i ddod yn nes, cyn datgelu’r olygfa erchyll gyda’r offerynau pres yn diasbedain yn aflafar. Ymuna’r corws a’r unawdwyr yn dawel, gan adlewyrchu’r newid o sibrwd ansicr i drallod croch.
Yn y tri symudiad nesaf – a ychwanegwyd yn ddiweddarach – rhoddir lle blaenllaw i’r unawdwyr. Mae’r tenor yn galarnadu am ystlys glwyfedig Crist yn y ‘Cujus animam’ arwrol – un o ariâu mawr Rossini, sy’n ffefryn i’w berfformio ymysg datgeiniaid. Daw’r soprano a’r mezzo at ei gilydd yn ‘Quis est homo’, gan wylo gyda Mair mewn deuawd helaeth, cyn i’r trais ddychwelyd yn ‘Pro peccatis’ stormus y baswr, lle mae’r unawdydd yn ceisio tawelu cerddorfa ansefydlog dro ar ôl tro.
‘Eja mater’ yw’r symudiad cyntaf o ddau symudiad digyfeiliant (‘Quando corpus’ yw’r ail) – dyma wead trawiadol gan y cyfansoddwr opera, sy’n dangos dealltwriaeth Rossini o repertoire corawl cynnar, a lle’i gwelir yn arbrofi gydag effeithiau gwahanol: unawdydd gyda grymoedd cyfun y gerddorfa a’r corws, pedwarawd unawdol, polyffoni efelychol.
Y cyrn a’r clarinét sy’n cyflwyno ‘Fac, ut portem’ telynegol y mezzo, cyn i’r fflamau ddechrau crynu, a’r cymylau dywyllu yn yr ‘Inflammatus’ dan arweiniad y soprano. Mae Rossini’n cadw ei coup de grace ar gyfer yr ‘Amen’ prudd olaf: ffiwg ddwbl ysblennydd, sy’n brawf (os oes angen prawf o gwbl) nad oedd brenin yr opera buffa yn llaesu dwylo pan oedd yn dod i ysgrifennu gwrthbwynt hen ffasiwn, a allai wasanaethu Duw a’r theatr mewn un ystum cerddorol.
Nodyn y rhaglen © Alexandra Coghlan
Testun
Stabat mater
1 Y Corws a’r Unawdwyr
Stabat mater dolorosa
Juxta crucem lacrymosa,
Dum pendebat Filius
2 Y Tenor
Cujus animam gementem,
Contristatam et dolentem,
Pertransivit gladius.
O quam tristis et afflicta
Fuit illa benedicta
Mater Unigeniti!
Quae moerebat et dolebat
Et tremebat, cum videbat
Nati poenas inclyti.
3 Y Soprano a’r Mezzo-soprano
Quis est homo qui non fleret
Christi Matrem si videret
In tanto supplicio?
Quis non posset contristari
Piam Matrem contemplari
Dolentem cum Filio?
4 Y Bariton-bas
Pro peccatis suae gentis
Vidit Jesum in tormentis
Et flagellis subditum.
Vidit suum dulcem natum
Morientem desolatum
Dum emisit spiritum.
5 Y Bariton-bas a’r Corws
Eja, Mater, fons amoris,
Me sentire vim doloris
Fac ut tecum lugeam.
Fac ut ardeat cor meum
In amando Christum Deum
Ut sibi complaceam.
6 Yr Unawdwyr
Sancta Mater, istud agas,
Crucifixi fige plagas,
Cordi meo valide.
Tui nati vulnerati,
Tam dignati pro me pati,
Poenas mecum divide.
Fac me vere tecum flere,
Crucifixo condolere,
Donec ego vixero.
Juxta crucem tecum stare,
Te libenter sociare,
In planctu desidero.
Virgo virginum praeclara,
Mihi jam non sis amara,
Fac me tecum plangere.
7 Y Mezzo-soprano
Fac, ut portem Christi mortem,
Passionis fac consortem,
Et plagas recolere.
Fac me plagis vulnerari,
Cruce hac inebriari,
Ob amorem Filii.
8 Y Soprano a’r Corws
Inflammatus et accensus
Per te, Virgo, sim defensus,
In die judicii.
Fac me cruce custodiri
Morte Christi praemuniri
Confoveri gratia.
9 Y Corws a’r Unawdwyr
Quando corpus morietur,
Fac ut animae donetur
Paradisi gloria.
10 Y Corws
In sempiterna saecula.
Amen.
Cyfieithiad
Safai’i fam ef yn wylofus
wrth y groesbren yn alarus
wrth i fywyd Iesu ddarfod.
Fe ddaeth cleddyf a’i thrywanu
drwy ei chalon, mae’n galaru,
ei boenau erchyll mae’n eu rhannu.
O, mor drist a gwael ei henaid
ydoedd hi, y fam fendigaid
i’r unig-anedig Un!
Crist mewn artaith ar y Groes,
hithau isod deimla’i loes
wrth i'w mab godidog farw.
Pwy yn wir na fyddai’n wylo
wrth weled ei fam annwyl yno
yn nyfnderoedd mawr ei thrallod?
A oes calon a all beidio
â theimlo brath y boen ddi-ildio
a brofodd y fam annwyl honno?
Gwelodd ef yn hongian yno
dros ei bobl wedi’i arteithio,
a’i fflangellu yn ddiflino.
Ar ei hannwyl fab yn syllu,
gwrthodedig, a than warth
wrth i’w ysbryd dwyfol ballu.
Ti, y Fam, ffynhonnell cariad,
cyffwrdd f’ysbryd oddi uchod,
boed i’m calon fod mewn undod.
Gwna i mi deimlo fel y teimlaist ti;
gwna i’m henaid wir lewyrchu
gyda chariad Crist ein Hiôr.
O Fam sanctaidd, gwella di
glwyfau dwfn fy nghalon i,
o groeshoelio fy ngwaredwr.
Gad i mi rannu ei boen â thi,
yr hwn a ddioddefodd drosof i,
yr hwn a fu farw drosof i.
Gad i mi wylo gyda thi,
dros un a alarodd drosof fi,
drwy holl ddyddiau ’mywyd i.
Wrth y groes, gad i mi yno
aros i wylo a gweddïo,
hyn a ofynnaf gennyt ti.
Wyryf y gwyryfon,
gwrando nawr ar gais fy nghalon:
gad i mi rannu d’alar dwyfol.
Gad i mi hyd fy anadl olaf
ddioddef poen y diwedd hwnnw,
dy fab annwyl di yn marw.
Clwyfa fi â’i holl glwyfau,
trocha fi yn ei waed
fel arwydd o’m cariad.
Bydd wrth f’ochr, Wyryf deg
rhag im losgi yn y fflamau
pan ddaw dydd ei farn ofnadwy.
Grist, pan elwi arnaf draw,
boed i’th fam roi im ei llaw,
dy groes fo imi’n fuddugoliaeth.
Tra bo ’nghorff i yma’n pydru,
boed i’m henaid dy foliannu,
ym Mharadwys gyda thi.
Yn oes oesoedd.
Amen.
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
La voix humaine
Nos Iau 30/01/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Ravel Ma mère l’Oye
Poulenc La voix humaine
Jaime Martín arweinydd
Danielle de Niese soprano
THEATRIG | BYWIOG | SYFRDANOL
Mae’r Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín, yn ein harwain mewn rhaglen o berlau Ffrengig, gan ddechrau gyda dathliad o 150 mlynedd ers geni Ravel. Mae ei sgôr hudolus, synhwyrus, cyfareddol a chwareus i’r bale Ma mère l’Oye yn seiliedig ar straeon tylwyth teg clasurol, o’r Dywysoges Hir ei Chwsg a Hyll Bach i Twm Bawd a Belle a’r Bwystfil.
Ar ôl yr egwyl, bydd y seren opera, Danielle de Niese, yn perfformio am y tro cyntaf gyda BBC NOW mewn perfformiad wedi’i lwyfannu’n rhannol fel Elle yn opera un-act bwerus Poulenc, La voix humaine. Yn ystod galwad ffôn gan ei chariad, mae galar a gwadu yn arwain at ddicter ac anobaith wrth iddo ddwyn eu perthynas i ben – thema dragwyddol o gariad unochrog yn dod yn fyw o flaen ein llygaid.
Missa solemnis
Nos Iau 10/4/25, 7.30pm
Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd
Nos Wener 11/4/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Beethoven Missa solemnis
Andrew Manzearweinydd
Carolyn Sampson soprano
Sophie Harmsen mezzo-soprano
Ed Lyon tenor
Darren Jeffery bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
MAWREDDOG | CLODFORUS | O’R RADD FLAENAF
Mae Missa solemnis gan Beethoven, a saif fel cofeb ymysg gweithiau corawl cysegredig, yn osodiad o’r offeren sy’n aruthrol o ran ei rym a’i raddfa. Ynddo mae mawredd aruchel a serenedd nefolaidd yn dawnsio gyda ffigurau onglog sy’n neidio; mae cyferbyniadau deinamig ffyrnig yn plethu drwy’r rhannau wedi’u trefnu’n ofalus i rymoedd cyfun y gerddorfa a’r corws; ac yn ffrwtian yn gyson dan yr wyneb, ceir naws chwilgar sy’n adlewyrchu ffydd y cyfansoddwr ei hun – sef edrych y tu hwnt i’n dealltwriaeth ni at Dduw dwyfol.
Roedd Beethoven o’r farn mai’r Missa solemnis oedd ei waith gorau, ac mae’n sicr yn ddarn sydd ar restr ddymuniadau pob un sy’n caru cerddoriaeth. Gydag unawdwyr nodedig yn camu i’r llwyfan, ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, mae hwn yn argoeli i fod yn berfformiad rhy dda i’w golli.
Bywgraffiadau
Nil Vendittiarweinydd
Alessandro Bertani
Alessandro Bertani
Mae’r arweinydd Eidalaidd-Twrcaidd Nil Venditti yn prysur ddatblygu perthnasoedd gyda cherddorfeydd ac ensembles pwysig ym mhedwar ban byd, gan gynnwys y Royal Northern Sinfonia, lle daeth yn Brif Arweinydd Gwadd y tymor hwn.
Yn ystod tymor 2024/25, bydd yn arwain am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC, yr Arctig a Borusan Istanbul, yn ogystal â cherddorfeydd yn Aalborg, Tenerife, Baleares, Wuppertal a Bochum. Bydd yn perfformio ddwywaith gyda’r Royal Northern Sinfonia ac yn dychwelyd i Gerddorfa Siambr Stuttgart ar gyfer cyngherddau yn y Musikverein yn Fienna ac yn Bregenz, yn ogystal â’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfeydd Symffoni’r BBC, Hamburg a Helsingborg, Deutsche Kammerphilharmonie Bremen, a Real Filharmonía de Galicia.
Y tymor diwethaf, fe arweiniodd am y tro cyntaf gyda’r Konzerthausorchester Berlin, Cerddorfeydd Symffoni’r BBC, Hiroshima a Lahti, Cerddorfeydd Ffilharmonig Nagoya, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol ac Opera Brenhinol Sweden (ar gyfer cynhyrchiad newydd o Don Giovanni), ymhlith eraill. Ymddangosodd ym Mhroms y BBC a Gŵyl Schleswig-Holstein am y tro cynaf a dychwelodd i Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, y Royal Northern Sinfonia ac Opera Stuttgart.
Mae hi’n cyfuno ei chysylltiad cryf â’r repertoire Glasurol a Rhamantaidd cynnar â’i diddordeb arbennig mewn cyfansoddwyr Twrcaidd ac Eidalaidd. Mae’n parhau i ennill ei phlwyf mewn tai opera, ar ôl arwain operâu sy’n amrywio o Così fan tutte gan Mozart i The Lighthouse gan Peter Maxwell Davies.
Astudiodd Nil Venditti arwain yn y Zürcher Hochschule der Künste o dan arweiniad Johannes Schlaefli, ac yn Academi Arwain Gŵyl Pärnu dan Paavo Järvi, Neeme Järvi a Leonid Grin. Yn yr Eidal, astudiodd y soddgrwth gyda Francesco Pepicelli.
Teresa Iervolinomezzo-soprano
Michele Monasta
Michele Monasta
Mae galw mawr am Teresa Iervolino ym meysydd bel canto a cherddoriaeth Baróc. Mae hi wedi ennill sawl gwobr ac yn 2012, fe lansiodd ei gyrfa ryngwladol pan ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ravenna fel Isabella (L’italiana in Algeri), rhan a berfformiodd hefyd yn Palermo, yn Nancy ac yng Ngŵyl Beaune.
Mae’n cydweithio’n rheolaidd ag arweinwyr blaenllaw, gan gynnwys Riccardo Chailly, Syr Antonio Pappano, Daniel Harding, Fabio Luisi, Roberto Abbado, Alberto Zedda, Christophe Rousset, Jean-Christophe Spinosi, Ivor Bolton, Donato Renzetti, Carlo Rizzi, Marc Minkowski, Stefano Montanari, Andrea Marcon, Ottavio Dantone, Alessandro De Marchi, Gabriele Ferro, Antonino Fogliani, Marco Armiliato, Daniel Oren, Daniele Rustioni a Riccardo Frizza.
Mae ei llwyddiannau diweddar yn cynnwys chwarae’r brif ran yn Tancredi yng Ngŵyl Beaune; Mistress Quickly (Falstaff) gydag Orchestre de Paris ac yn y Teatro Real ym Madrid; Adalgisa (Norma) yn Salerno, Madrid a Seoul; Arsace (Semiramide gan Rossini) a’r brif ran yn Rinaldo yn La Fenice yn Fenis; y brif ran yn Orlando furioso yn y Teatro Filarmonico yn Verona; a rhan Ernestina(L’equivoco stravagante) yng Ngŵyl Opera Rossini yn Pesaro, yn ogystal â pherfformio Meseia yn Athen, 9fed Symffoni Beethoven yng Ngŵyl MITO yn Torino, a Petite messe solennelle gan Rossini yng Ngenefa.
Mae ganddi gatalog helaeth o recordiadau sy’n amrywio o weithiau gan Handel a Leo i ddarnau gan Mercadante a Rossini.
Ymysg yr ymrwymiadau sydd ganddi ar y gweill mae Madama Butterfly a Giulio Cesare yn y Liceu yn Barcelona; Lucrezia Borgia yn Opera Rhufain; Madama Butterfly gyda’r Berliner Philharmoniker dan arweiniad Kirill Petrenko yn Baden-Baden a Berlin; Alcina yn Versailles; a Stabat mater Rossini gydag Accademia Nazionale di Santa Cecilia dan arweiniad Myung-Whun Chung yn Rhufain ac yn y Konzerthaus yn Fienna.
Levy Sekgapane tenor
Ganed Levy Sekgapane yn Kroonstad, De Affrica ac astudiodd o dan Kamal Khan a Hanna van Niekerk yng Ngholeg Cerddoriaeth De Affrica ym Mhrifysgol Cape Town. Yn 2015, treuliodd flwyddyn fel aelod o’r Ensemble Ieuenctid yn y Dresden Semperoper. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi datblygu dwy ran arbennig: yr Iarll (Il barbiere di Siviglia), rhan y mae wedi'i chanu yn Glyndebourne, Opéra national de Paris, Opera Talaith Fienna, Deutsche Oper Berlin ac Opéra national de Bordeaux; a Don Ramiro (La Cenerentola), rhan y mae wedi'i pherfformio gydag Opera Talaith Munich, Opera Talaith Hamburg, Opera Los Angeles ac Opera Zurich.
Mae ei uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys dychwelyd i La Monnaie ym Mrwsel i chwarae rhan Jonah (The Time of Our Singing); perfformio Meseia gan Handel ym Madrid; Requiem Mozart yn y Liceu, Barcelona; a’r brif ran ym Mitridate yn ei berfformiad cyntaf erioed gydag Opéra Montpellier. Yn Opéra national de Paris, bydd yn dychwelyd i chwarae rhan yr Iarll a bydd yn canu rhan Lindoro (L’italiana in Algeri) yn y Théâtre des Champs-Élysées.
Yn ystod tymhorau diweddar, mae wedi canu yn I puritani yn y Théâtre des Champs-Élysées, Otello gan Rossini yn Opera Frankfurt, La sonnambula ym Munich a Les pêcheurs de perles yn Opera Cape Town.
Mae uchafbwyntiau eraill ei yrfa hyd yma yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf yn yr Hamburg Elbphilharmonie yn y cyngerdd gala Nos Galan cyntaf erioed i gael ei gynnal yno, a hynny dan arweiniad James Conlon; yn ogystal â pherfformio rhannau Adina yng Ngŵyl Opera Rossini yn Pesaro, Enrico di Borgogna yng Ngŵyl Donizetti yn Bergamo, Idomeneo yng Ngŵyl Salzburg, a L’elisir d’amore yn Theatr Talaith Wiesbaden.
Mae Levy Sekgapane wedi ennill y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Belvedere a Chystadleuaeth Monserrat Caballé (ill dwy yn 2015) ac Operalia (2017). Yn 2019, rhyddhaodd albwm o ariâu Rossini.
Ashley Riches bariton-bas
Astudiodd y bariton-bas Ashley Riches yn King’s College, Caergrawnt, ac yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall. Bu’n Artist Ifanc Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol ac yn un o Artistiaid Cenhedlaeth Radio 3 Newydd y BBC.
Mae’n adnabyddus am ei hyblygrwydd ac mae ei ymrwymiadau’r tymor hwn yn cynnwys L’enfance du Christ gan Berlioz gyda Cherddorfa Ffilharmonig Wrocław a Paul McCreesh, Dioddefaint Sant Ioan gan Bach gyda The English Concert a Harry Bicket, a La Rondine gan Puccini gyda Cherddorfa Symffoni Llundain a Syr Antonio Pappano.
Y tymor diwethaf, dychwelodd i’r Tŷ Opera Brenhinol fel Roucher (Andrea Chénier); canodd ran yr Afon-Frenin (Lurline gan Wallace) gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol RTÉ a Péter Halász; Missa solemnis gan Beethoven gyda David Afkham ym Madrid; Requiem Verdi gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham a Kazuki Yamada; Meseia Handel mewn cyngerdd yn Glyndebourne ac ym Mhroms y BBC; a Brenin Arthur gyda McCreesh yn Lyon a Lausanne.
Mae Ashley Riches yn ddatgeiniad profiadol ac mae wedi cydweithio â’r pianyddion Graham Johnson, Iain Burnside, Julius Drake, Joseph Middleton, Anna Tilbrook, James Baillieu, Simon Lepper, Gary Matthewman a Sholto Kynoch. Rhyddhaodd ei ddisg gyntaf o ddatganiadau fel unawdydd, A Musical Zoo, yn 2021. Mae ei recordiadau fel arall yn cynnwys Y Brenin Arthur gyda’r Gabrieli Consort & Players dan arweiniad McCreesh (a enillodd wobr Recordiad y Flwyddyn BBC Music Magazine yn 2020), Wonderful Town gyda Cherddorfa Symffoni Llundain o dan arweiniad Syr Simon Rattle ac, yn fwyaf diweddar, La resurrezione gan Handel gyda’r English Concert dan arweiniad Bicket.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.
Yn eu cartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting blaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Alejandro Trigo
Juan Gonzalez
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Carmel Barber
Emilie Godden
Gary George-Veale
Emma Menzies
Caroline Heard
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Sheila Smith
Katherine Miller
Beverley Wescott
Michael Topping
Vickie Ringguth
Lydia Caines
Joseph Williams
Roussanka Karatchivieva
Elizabeth Whittam
Catherine Fox
Grace Shepherd
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Lowri Taffinder
Lydia Abell
Soddgrythau
Rosie Biss
Michael Atkinson
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Basau Dwbl
Alexander Jones #
Elen Roberts
Christopher Wescott
Evangeline Tang
Richard Gibbons
Callum Duggan
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *
Alec Harman
Amy McKean †
Cor anglais
Amy McKean
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Ruby Collins
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Neil Shewan †
Meilyr Hughes
John Davy
James Mildred
Michael Gibbs
Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
Martin McHale
Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Phil Girling
Phil Hughes
Andrea Porter
Sam Jowett
Harry Lovell-Jones
Y Delyn
Elen Hydref
Selesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlleduswydd wag
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cynnwys dros 120 o gantorion, ac mae’n un o brif gorau symffoni cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig. Mae’r Corws – sy’n cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac sydd wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd – yn gweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ei hun.
Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio Stabat mater gan Poulenc a rhoi’r perfformiad cyntaf erioed o Sound of Stardust gan Alexander Campkin gyda Julieth Lozano Rolong, enillydd Gwobr y Gynulleidfa BBC Canwr y Byd Caerdydd a’r arweinydd corawl Sofi Jeannin, yn ogystal â pherfformio 13eg Symffoni Shostakovich dan arweiniad y Prif Arweinydd Ryan Bancroft, a Dewi Sant fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Karl Jenkins yn 80 oed. Mae hefyd yn ymddangos ym Mhroms y BBC bob blwyddyn, ac mae ei berfformiadau diweddar yn cynnwys Requiem Verdi, Harmonium gan John Adams gyda Ryan Bancroft, ac A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze.
Y tymor hwn bydd y corws yn perfformio Meseia gan Handel gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar John Butt, Missa solemnis grymus Beethoven yng Nghadeirlan Llandaf ac yn Abertawe gydag Andrew Manze, yn ogystal â’i gyngerdd carolau blynyddol a chyngerdd o weithiau Brahms gyda Ryan Bancroft.
Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth gyfoes, a’r corws a roddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf. Mae’r Corws wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr eraill hefyd, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, sef gosodiad o eiriau Malala Yousafzai o’i Haraith i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.
Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac ymddangosodd yn ddiweddar ar drac sain y rhaglen Wonders of the Celtic Deep ar BBC Cymru Wales.
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Cyfarwyddwr Artistig Adrian Partington
Cyfeilydd Chris Williams
Hyfforddwr LlaisGail Pearson
Soprano 1
Elizabeth Aitken
Beth Bradfield
Eve Carey
Logan Clark
Charlotte Crane
Bethan M. Evans
Sally Glanfield
Darcie Hamilton
Kylie Hansen
Claire Hardy
Megan Hastings
Francesca Ingall
Vanessa John-Hall
Rebecca Jolliffe
Lucie Jones
Rachael Leary
Leora Molnar
Joanna Osborn
Elizabeth Phillips
Ellen Steward
Helen Thomas
Hannah Willman
Soprano 2
Megan Allen
Kate Bidwell
Sarah Clinch
Denise Cooke
Isabel D’Avanzo
Esme Daniell-Greenhalgh
Cerys Herbert-Stott
Isabel Jackson
Margaret Lake
Carolyn Lee
Lucy Paterson
Kensey Petschow
Chloe Riordan
Imogen Rowe
Melanie Taylor
Florence Waddington
Hannah Williams
Alto 1
Grace Barrett
Catherine Bradfield
Catherine Duffy
Anna Eldred
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Hitchings
Rhian-Carys Jones
Shanta Miller
Lily Pearson
Bethany Piper
Heather Price
Avery Rabbitt
Amy Roberts
Sarah Roberts
Zozi Sookanadenchetty
Cerys Thomas
Vicki Westwell
Jessica Williams
Alto 2
Yasmin Browne
Alex Butler
Charley Davies
Heledd Evans
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Cerian Rolls
Sian Schutz
Julie Wilcox
Tenor 1
Oli Bourne
Roland George
Andrew Lunn
Andrew Morris
Carwyn Whomsley
Nicholas Willmott
Tenor 2
Rhys Archer
Orin Daniel
Joshua Dicken
Michael Enis
Rory McIver
Owen Parsons
Sam Proll
Deryck Webb
Richard Wilcox
Michael Willmott
Bas 1
Noah Boneham-Hill
Peter Cooke
David Davies
John Davies
Rafael Grigoletto
Emyr Wynne Jones
Geraint Jones
Morgan Jones
Benjamin Pinnow
Jez Piper
Joseph Pitkethly
Neil Schofield
David Stephens
Andrew Watt
Alun Williams
Daniel Williams
Bas 2
Jeffrey Davies
Lyndon Davies
Stuart Hogg
David McLain
Joseff Morris
Mike Osborn
David Rodgers
Roedd y rhestr o gantorion yn gywir adeg cyhoeddi'r rhaglen.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications





